Prosiect Asesu Gweithgareddau Dyframaethu Cymru (AGDC)

Rydym wedi asesu - ac wedi mapio ble roedd modd - sensitifrwydd biotopau a rhywogaethau morol i'r pwysau a achosir gan sawl math o weithgaredd dyframaeth morol.

Mae adroddiad terfynol Asesu Gweithgareddau Dyframaethu Cymru (AGDC) yn rhoi gwybodaeth am y prosiect a sut datblygwyd yr adnoddau, er enghraifft y dulliau a ddefnyddiwyd, y cyfyngiadau a’r rhagdybiaethau. 

Adnoddau

Mae wyth adroddiad asesu yn disgrifio gweithgaredd dyframaethu, y pwysau a allai ddigwydd yn sgil y gweithgaredd, a sensitifrwydd biotopau a rhywogaethau i’r pwysau hynny.

Mae’r adroddiadau tystiolaeth a restrir isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Dyframaeth pysgod cregyn rhynglanwol yn defnyddio trestlau neu bolion
Dyframaeth pysgod cregyn rhynglanwol a gesglir o wely’r môr
Dyframaeth rhynglanwol plannu gwymon
Dyframaeth gwymon islanwol lle defnyddir rhaffau
Dyframaeth gwymon islanwol lle defnyddir rafftiau
Dyframaeth pysgod cregyn islanwol lle defnyddir rhaffau
Dyframaeth pysgod cregyn islanwol lle defnyddir rafftiau
Dyframaeth pysgod cregyn islanwol a gesglir o wely’r môr

Mae’r effeithiau posibl yn sgil pob un o’r pwysau ar yr amgylchedd morol, a grynhoir yn yr adroddiadau asesu, yn seiliedig ar y dystiolaeth a gesglir yn y gronfa ddata o dystiolaeth (Saesneg yn unig).

Mae astudiaeth achos ym mhob adroddiad asesu yn dangos sut, drwy ddefnyddio’r offeryn mapio a’r dangosfwrdd, y gallwch nodi sensitifrwydd biotopau a rhywogaethau i bwysau mewn lleoliad gweithgaredd dyframaeth enghreifftiol (yn gweithio orau ar gyfrifiadur bwrdd gwaith).

Cyllid prosiect

Cefnogwyd prosiect Asesu Gweithgareddau Dyframaeth Cymru (AGDC) gan yr UE drwy Weinidogion Cymru ac fe’i hariannwyd yn llawn gan Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop.

Diweddarwyd ddiwethaf