Coedwig Cwm Rhaeadr, ger Llanymddyfri

Beth sydd yma

Croeso

Mae Coedwig Cwm Rhaeadr yng nghanol llonyddwch Cwm Tywi.

Gallwch fwynhau golygfeydd o’r rhaeadr uchaf yn Sir Gaerfyrddin wrth grwydro ar hyd Llwybr y Rhaeadr.

Mae yma hefyd lwybr byr hygyrch drwy’r coetir a llwybr beicio mynydd i feicwyr profiadol.

Coetir cymysg yw hwn sy’n amrywio o gonwydd anferth i goed llydanddail brodorol a cheir carpedi o glychau'r gog yn y gwanwyn.

Mae’r safle picnic ynghanol coed conwydd uchel ger y maes parcio ac mae golygfeydd arbennig i’w cael o’r byrddau picnic.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Coetir

  • Grade: Hygyrch
  • Distance: 1 milltir/1.5 cilomedr
  • Amser: 30 muned
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr hwn yn cychwyn o’r maes parcio uchaf ac mae’n addas ar gyfer sgwteri symudol oddi ar y ffordd. Mae’r llwybr yn wastad ac mae ganddo wyneb caled o garreg. Mae’r rhan fwyaf serth yn 1/20. Ceir nifer o feinciau ar hyd y llwybr.

Mae’r llwybr hwn drwy’r coetir yn mynd heibio amrywiaeth o wahanol goed gan gynnwys ffynidwydd Douglas anferth a blannwyd yn y 40au.

Mae’n mynd heibio pwll bychan lle mae llwybr pren byr yn croesi’r dŵr – cadwch lygad yn agored am weision y neidr yn yr haf.

Llwybr y Rhaeadr

  • Grade: Anodd
  • Pellter: 2½ milltir/4.2 cilomedr
  • Amser: 2½ awr
  • Gwybodeath am y llwybr: Ceir dringfa serth o’r maes parcio lle mae’r llwybr hwn yn cychwyn. Mae wyneb y llwybr yn anwastad mewn mannau a cheir gwreiddiau a cherrig dan draed. Weithiau mae rhai rhannau yn fwdlyd yn arbennig ar ôl tywydd gwlyb.

Mae’r llwybr hwn yn cychwyn drwy’r coetir ac ar ôl ychydig yn dilyn glan yr afon.

Pan fyddwch tua hanner ffordd ar hyd y llwybr ceir golygfeydd o’r rhaeadr yn byrlymu i lawr y mynydd.

Ceir golygfeydd hefyd o’r cwm a’r bryniau o’i gwmpas o’r llwybr hwn.

Llwybr beicio mynydd

Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.

Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.

Llwybr Cwm Rhaeadr

  • Gradd: Coch (anodd)
  • Pellter: 6.7 cilomedr

Mae gan y llwybr beicio mynydd Cwm Rhaeadr arwyddbyst ac mae’n cychwyn o’r maes parcio.

Mae Llwybr Beicio Mynydd Cwm Rhaeadr yn cynnig beicio untrac gwych, gan gynnwys llwybr goriwaered dros gefnen greigiog, a golygfeydd ysblennydd dros y dyffryn a’r rhaeadr hardd.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Gwybodaeth hygyrchedd

  • llwybr hygyrchedd

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Mae Coedwig Cwm Rhaeadr 6 milltir i’r gogledd o Lanymddyfri.

Cod post

Y cod post yw SA20 0NT.

Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.

Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.

Cyfarwyddiadau

O Lanymddyfri dilynwch yr arwyddion i Gilycwm.

Yna dilynwch yr arwydd i gyfeiriad Cronfa Ddŵr Llyn Brianne am 2 filltir ac mae’r maes parcio ar y chwith.

What3Words

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Arolwg Ordnans

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SN 765 422 (Explorer Map 187).

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Cynghordy.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf