Parc Coedwig Coed y Brenin - Pandy, ger Dolgellau

Beth sydd yma

Croeso

Dewch i weld coed o bob rhan o'r byd a darganfod ffeithiau diddorol amdanynt yn yr ardd goedwig.

Mae llwybr cerdded cylchol yn cychwyn o faes parcio Pandy.

Mae llwybr hygyrch byrrach trwy ran isaf yr ardd goedwig yn cychwyn o faes parcio Gardd y Goedwig.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Darganfod Gardd y Goedwig

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: ½ milltir 0.6 cilomeder
  • Gwybodaeth am y llwybr: Croesir yr ardd blith draphlith â chyfres o lwybrau ffurfiol ac anffurfiol 1m o led, rhai’n serth ac anwastad. Nid oes dim grisiau na chamfeydd.

Dilynwch yr arwyddbyst gwyrdd o faes parcio Pandy i’r bont dros Afon Babi.

Ymwelwch â’r olygfan ac yna ewch ling-di-long ar hyd cyfres o lwybrau anffurfiol

Cadw llygad am y pyst gwybodaeth am y coed a’r offer weindio gyda straeon sain chwedloniaeth.

Darganfod Parc Coedwig Coed y Brenin

Mae maes parcio Pandy a gardd y goedwig o fewn Parc Coedwig Coed y Brenin.

Mae Parc Coed y Brenin yn cynnig profiad coetir cyflawn i ymwelwyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Ceir amrywiaeth o lwybrau ag arwyddbyst sydd at ddant pawb ac yn addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd ym mharc y goedwig. Yn eu plith mae llwybrau beicio mynydd, llwybrau i'r teulu, llwybrau rhedeg a llwybrau geogelcio a chyfeiriadu o'r radd flaenaf.

Yn ogystal â'r llwybrau cerdded sy'n dechrau o faes parcio Pandy, dyma feysydd parcio gyda chyfleusterau ar gyfer ymwelwyr ym Mharc Coed y Brenin:

  • Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin - y porth i barc y goedwig a'r man cychwyn ar gyfer amrywiaeth o lwybrau cerdded, rhedeg a beicio mynydd. Hefyd ceir caffi a siop feiciau
  • Pont Cae’n-y-coed – dechrau'r Llwybr Llosfygynydd garw
  • Tyddyn Gwladys – safle picnic wrth afon droellog Mawddach a phorth i'r llwybr Rhaeadrau a Gwaith Aur
  • Glasdir  - safle picnic gyda llwybr cerdded drwy’r hen gloddfa gopr a llwybr hygyrch i olygfan uwchben y gweithfeydd
  • Pont Ty'n-y-groes– ardal bicnic glan-yr-afon a'r porth i lwybr glan-yr-afon hygyrch a llwybr mynydd garw â golygfeydd gwych dros Eryri
  • Pont Llam yr Ewig - maes parcio ar gyfer ymwelwyr anabl yn unig gyda llwybr hygyrch i olygfan uwchben hen fwynglawdd copr
  • Gardd y Goedwig - llwybr cerdded drwy goed o bob cwr o'r byd

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Parc Coedwig Coed y Brenin yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae yna hefyd lwybr hygyrch byrrach trwy ran isaf yr ardd goedwig.

Mae llwybr hygyrch yn cychwyn o faes parcio Gardd y Goedwig (mae'r maes parcio bach hwn at ddefnydd deiliaid Bathodynnau Glas yn unig).

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Trefnu digwyddiad ar ein tir

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Sut i gyrraedd yma

Mae maes parcio Pandy 6½ milltir i’r gogledd o Ddolgellau.

Cod post

Y cod post yw LL40 2NL.

Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.

Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch yr A470 i'r gogledd o Ddolgellau tuag at Borthmadog.

Tua 200 metr ar ôl mynd heibio i Westy Tŷ'n y Groes, trowch i'r dde gan ddilyn yr arwyddion twristiaeth brown i Dŷ'n y Groes.

Dilynwch y ffordd darmac heibio i safle picnic Tŷ'n y Groes am ychydig dros gilomedr.

Wrth groesffordd ychydig ar ôl maes parcio Glasdir trowch i'r chwith i fyny'r rhiw.

Trowch i'r dde wrth y groesffordd nesaf, croeswch bont fechan ac ewch heibio maes parcio Pont Llam yr Ewig.

Parhewch heibio maes parcio Gardd Goedwig (ar gyfer deiliaid Bathodynnau Glas yn unig) ac mae maes parcio Pandy tua 150 metr i fyny’r rhiw, ar y chwith.

What3Words

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Arolwg Ordnans

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SH 744 224 (Explorer Map OL 18).

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsafoedd rheilffordd agosaf yw y Bermo (llinell Arfordir Cambria) a Blaenau Ffestiniog (llinell Blaenau Ffestiniog-Llandudno).

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin

01341 440747

coedybrenin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf