Crynodeb gweithredol

Croeso i Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg ar gyfer 2023–2024. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar sut rydym wedi gweithredu ein polisi Safonau’r Gymraeg a’r gwaith rydym wedi’i wneud i wella ein gwasanaethau Cymraeg yn ystod y cyfnod adrodd hwn.

Mae sgiliau Cymraeg ein gweithlu yn parhau i gynyddu’n raddol, gyda 24% (580) yn siaradwyr Cymraeg rhugl. Mae’r cynnydd mwyaf eleni ar Lefel 3 i 8% (204), lle gall cydweithwyr drafod materion yn Gymraeg, sy’n golygu bod 32% (784) o’n cydweithwyr yn gallu siarad Cymraeg. Mae hyn yn rhoi sicrwydd i ni yn ein gallu i ddarparu gwasanaethau Cymraeg ar draws y sefydliad.

Rydym yn falch bod y niferoedd sy’n cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg wedi cynyddu i 259 eleni. Mae ein dysgwyr wedi’u lleoli ar draws Cymru gyfan gyda’r mwyafrif wedi’u lleoli o amgylch Caerdydd a Bangor.

Dyma rai o uchafbwyntiau’r flwyddyn:-

  • Creu ein Canllawiau Brand rhyngweithiol newydd gyda’r Gymraeg yn cael eu prif ffrydio drwyddi draw. Bydd hyn yn helpu cydweithwyr i ymgysylltu â’r iaith yn eu gwaith o ddydd i ddydd a’u helpu i’w defnyddio.
  • Rydym yn ymwneud â 4 prosiect gyda sefydliadau eraill yng Nghymru, mae hyn yn cynnwys 2 gyda Chomisiynydd y Gymraeg. Mae’r prosiectau hyn yn rhoi cyfleoedd i ni rannu adnoddau, gwybodaeth, profiad, sgiliau, trafod syniadau, materion ac atebion sydd o fudd i bob sefydliad a fydd yn gwella gwasanaethau Cymraeg.
  • Cyfrannodd ein Tîm Digidol a’r Tîm Cyfieithu at fideo yn egluro manteision “Ysgrifennu Triawd” a rhannu arfer da fel rhan o sioe deithiol o ddigwyddiadau a drefnwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg a’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
  • Mae tudalen newydd wedi’i chreu ar ein Porth TGCh – Hornbill sy’n rhestru’r systemau Cymraeg a’r offer cymorth sydd ar gael i gydweithwyr eu defnyddio yn Gymraeg.
  • Ar Ddydd Gŵyl Dewi, cafwyd cyflwyniad yn Gymraeg gan Dr Lana St Leger, ar ganfyddiadau prosiect ymchwil o’r enw “Pan Fydd y Styd yn Siarad – When the Street Talks” yn ymchwilio i effaith newid hinsawdd ar yr iaith Gymraeg a’i diwylliant, a threftadaeth.
  • Ym mis Mawrth 2024, fe wnaethom ni lwyddo i ddargyfeirio galwadau Cymraeg o Floodline i'n Canolfan Cyfathrebu Digwyddiadau. Mae hyn bellach yn darparu gwasanaeth Cymraeg di-dor i siaradwyr Cymraeg sy'n ffonio Floodline sy'n cyfateb i’r gwasanaeth Saesneg.
  • Caffael System Rheoli Dysgu dwyieithog a datblygu cyrsiau hyfforddi cyfrwng Cymraeg i gydweithwyr.
  • Trafodaethau cychwynnol ar ddatblygu ein gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg a chynyddu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol.

Rydym wedi derbyn cwynion yn ystod y flwyddyn gydag un yn cael ei hymchwilio gan Gomisiynydd y Gymraeg a arweiniodd at ddatblygu cyrsiau hyfforddiant newydd ar gyfer Ymwybyddiaeth Iaith Gymraeg a’r Safonau. Bydd yr hyfforddiant hwn yn helpu cydweithwyr i gael gwell dealltwriaeth o rôl bwysig yr iaith yn ein gwaith wrth rannu negeseuon pwysig gyda’n cwsmeriaid, partneriaid, a rhanddeiliaid wrth i ni fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur gyda’n gilydd, gan ein helpu i gyflawni ein diben o sicrhau bod natur a phobl yn ffynnu gyda'i gilydd.

Cyflwyniad

Daeth Safonau’r Gymraeg i rym ar gyfer CNC ar 25 Ionawr 2017, o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac maent yn cael eu rheoleiddio gan Gomisiynydd y Gymraeg o dan Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016.

Nod y Safonau yw:

  • Darparu gwasanaeth Cymraeg gwell a mwy cyson i siaradwyr Cymraeg.
  • Egluro'n glir i siaradwyr Cymraeg pa wasanaethau y gallant ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg.
  • Egluro'n glir i sefydliadau cyhoeddus beth yw eu dyletswyddau mewn perthynas â'r Gymraeg.
  • Sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Mae'r adroddiad hwn yn dangos sut rydym wedi gweithredu'r safonau a'r gwaith rydym wedi'i wneud i wella ein gwasanaethau Cymraeg yn ystod blwyddyn adrodd 2023/24.

Safonau’r Gymraeg

Mae'r safonau sy'n ofynnol inni gydymffurfio â nhw mewn pedwar categori:

  • Safonau Gwasanaeth – y gwasanaethau Cymraeg rydym yn eu darparu ar gyfer y cyhoedd.
  • Safonau Polisi – sicrhau bod y Gymraeg yn rhan o'r prosesau gwneud penderfyniadau trwy gynnal asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb er mwyn sicrhau bod penderfyniadau yn cael effaith gadarnhaol yn hytrach nag effaith niweidiol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg neu eu bod yn cynyddu'r cyfleoedd i’w defnyddio.
  • Safonau Gweithredol – hyrwyddo a hwyluso'r Gymraeg yn ein prosesau gweinyddol mewnol.
  • Safonau Cadw Cofnodion – cadw cofnodion er mwyn cydymffurfio â gofynion y safonau mewn meysydd megis sgiliau Cymraeg y staff, hyfforddiant, cwynion a recriwtio.

Llywodraethu a monitro ein Safonau

Cynghorydd Arbenigol Polisi'r Gymraeg sy'n monitro cydymffurfiaeth â'n Safonau. Mae unrhyw risgiau’n cael eu hamlygu i'n Tîm Gweithredol i'w trafod â'r rheolwyr ac maent yn cael eu hegluro yng nghyfarfodydd y Grŵp Pencampwyr.

Pennaeth Datblygu Pobl a Llesiant sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am bolisi Safonau’r Gymraeg, gyda’r Uwch Gynghorydd Arbenigol Ymgysylltu â Staff yn goruchwylio gweithrediad y polisi ar draws y sefydliad.

Bydd aelodau Grŵp Pencampwyr yn codi unrhyw faterion o ddiffyg cydymffurfio gyda’r Cynghorydd Arbenigol Polisi Iaith Gymraeg ym mhob cyfarfod.

Mae sut rydym yn hyrwyddo, hwyluso a goruchwylio cydymffurfiaeth â'n Safonau yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan.

Grŵp Pencampwyr

Mae ein Grŵp Pencampwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o’n Cyfarwyddiaethau. Rôl y Pencampwyr yw bod yn bwynt cyswllt i bob Cyfarwyddiaeth a chwilio am gyfleoedd i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn ein gwaith o ddydd i ddydd o fewn y sefydliad.

Mae’r Pencampwyr hefyd yn codi unrhyw faterion yr hoffent eu trafod ac yn amlygu meysydd sydd angen gwaith pellach i sicrhau cydymffurfiaeth.

Dros y cyfnod adrodd hwn mae’r Pencampwyr wedi cyfarfod 4 gwaith ac wedi codi ymwybyddiaeth o’r canlynol:-

  • Cyrsiau Hyfforddiant Iaith Gymraeg
  • Clwb Clonc – Cynllun Mentora
  • Hyfforddiant Recriwtio i reolwyr
  • Digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi
  • Porth TGCh – Hornbill - rhestru systemau ac offer cymorth sydd ar gael yn Gymraeg
  • Cyhoeddiadau misol i Reolwyr

Gweithio mewn partneriaeth ar brosiectau

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda sefydliadau eraill ar 4 prosiect. Mae’r prosiectau hyn yn rhoi cyfleoedd inni rannu adnoddau, gwybodaeth, profiad, sgiliau, trafod syniadau, materion ac atebion sydd o fudd i bob sefydliad yn ogystal â gwella gwasanaethau Cymraeg.

Mae’r prosiectau rydym yn ymwneud â nhw fel a ganlyn: -

  • Rydym wedi cael ein gwahodd gan Gomisiynydd y Gymraeg i gymryd rhan mewn prosiect dwy flynedd a ddechreuodd ym mis Medi 2023 yn edrych ar ffyrdd o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn fewnol mewn sefydliadau cyhoeddus. Mae'r prosiect yn cynnwys cydweithio a rhannu arfer da a dysgu oddi wrth sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus. Bydd y prosiect hwn yn ein helpu i ddatblygu model mewnol i gyd-fynd â’n gweledigaeth wrth ddatblygu ein hunain yn sefydliad dwyieithog a byw ein gwerthoedd.
  • Gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg a’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i wella’r prosiect ‘Dylunio a hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg’. Nod y prosiect yw annog sefydliadau i wella sut y maent yn dylunio a hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg er mwyn cynyddu eu defnydd. Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys ein Tîm Digidol a’r Tîm Cyfieithu yn cyfrannu at fideo yn egluro manteision “Ysgrifennu Triawd” a rhannu arfer da fel rhan o’r prosiect. Fel rhan o'r prosiect hwn, mae angen i ni nodi dau wasanaeth a hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg yn weithredol a mesur y cynnydd mewn defnydd dros amser. Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gweithio gyda ni i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn cael eu hyrwyddo’n eang gan ddefnyddio eu rhwydweithiau a’u cyfryngau cymdeithasol eu hunain.
  • Nododd Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Cymru fod cynllunio gweithlu dwyieithog ar gyfer y dyfodol yn her a bod yr angen am sgiliau iaith i ddarparu gwasanaethau i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn bwysig iawn. Sicrhawyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r prosiect i gefnogi’r gwaith o gyflawni ein cynlluniau llesiant ar draws cymunedau ac i adeiladu ein capasiti strategol ar draws y rhanbarth. Bydd y prosiect hwn yn ein helpu i ddeall y materion allweddol sy’n ymwneud â recriwtio siaradwyr Cymraeg drwy: -

    Ymchwilio i heriau a llwyddiannau dylunio a recriwtio gweithlu dwyieithog mewn sefydliadau cyhoeddus sy’n aelodau o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws Gogledd Cymru. Bydd yr adroddiad a luniwyd o’r ymchwil yn cyflwyno tystiolaeth ar gyfer datblygu gwell dealltwriaeth o’r heriau ac arferion da wrth ddylunio gweithlu dwyieithog, ac argymhellion ar gamau ymarferol i fynd i’r afael â gwahanol agweddau o’r broses.
  • Mae ein Tîm Cyfieithu a’r Tîm Addysg ac Iechyd yn gweithio ar brosiect newydd “Gwreiddiau Gwyllt” gyda’r Mentrau Iaith a sefydliadau amgylcheddol eraill yng Nghymru. Nod y prosiect yw “Safoni termau Cymraeg ar fywyd gwyllt a hybu eu defnydd”, a fydd yn fuddiol i’n sefydliad ac yn dod â chysondeb yn y defnydd o derminoleg natur Gymraeg o fewn y sector.

Datblygu gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg yn CNC

Er bod gennym hunaniaeth gorfforaethol ddwyieithog ac yn darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yn y ddwy iaith, mae gennym dipyn o ffordd i fynd cyn y gallwn roi’r un cyfle i gydweithwyr a darparu cyfleoedd i weithio a chyfrannu yn eu dewis iaith o fewn y sefydliad. Mae llawer o dimau ac unigolion yn gweithio'n naturiol trwy gyfrwng y Gymraeg, ac rydym wedi cynyddu'r wybodaeth sydd ar gael. Dim ond trwy gyfrwng y Saesneg y gall mwyafrif y sefydliad weithio, sy'n golygu mai hon yw iaith weinyddol ddiofyn y sefydliad.

Mae gweithio hybrid wedi dod â heriau ar adegau mewn perthynas â’r Gymraeg, gyda rhai cydweithwyr heb yr un ymwybyddiaeth o glywed yr iaith yn cael ei siarad na’i gweld ar arwyddion mewn amgylchedd swyddfa. Mae’r sgyrsiau anffurfiol hynny a’r cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn y swyddfa rhwng siaradwyr Cymraeg a dysgwyr wedi’u colli.

Gyda nifer ein siaradwyr Cymraeg ar gynnydd, yn ogystal â'r rhai sy'n datblygu eu sgiliau iaith, mae'n bwysig ein bod yn darparu mwy o gyfleoedd i staff weithio drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws y sefydliad ac ymrwymiad amserol yn ein Cynllun Corfforaethol. Mae sut rydym yn gweithio'n fewnol yn adlewyrchu ein gwaith yn allanol, a bydd hyn yn helpu i adeiladu'r perthnasoedd dibynadwy hynny.

Ym mis Medi 2023 aeth papur trafod i’n Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid (PCC) i geisio barn gychwynnol ar ein huchelgais a’n gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg yn y sefydliad. Cafodd y papur ei groesawu a chefnogwyd gan y PCC a chytunwyd i ffurfio grŵp i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn wrth ddatblygu’r weledigaeth honno.

Bydd y gwaith hwn yn cael ei symud ymlaen gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen. Bydd y grŵp yn cael y dasg o ddatblygu uchelgais a gweledigaeth CNC ei hun ar gyfer yr iaith a’i defnydd yn fewnol, yn ychwanegol at gyflawni ein hymrwymiadau statudol mewn perthynas â Safonau’r Gymraeg. Bydd y grŵp yn edrych ar arfer gorau sydd eisoes wedi’i sefydlu gan sefydliadau eraill i gynyddu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr allu defnyddio’r iaith yn fewnol yn eu gwaith o ddydd i ddydd a rhoi dewis i gydweithwyr o weithio drwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg, gan brif ffrydio defnydd o’r Gymraeg fel ffordd naturiol o weithio yn ein holl weithleoedd.

Bydd y weledigaeth pan gaiff ei drafftio yn cael ei chyflwyno i'n Tîm Gweithredol a PCC i'w thrafod a'i chymeradwyo.

Gweithredu a gwella ein Safonau’r Iaith Gymraeg

Canolfan cwsmeriaid

Mae’r Ganolfan Cwsmeriaid yn delio â’r holl alwadau ffôn a ddaw i'n sefydliad. Yn ystod y flwyddyn adrodd hon, deliodd y Ganolfan â chyfanswm o 16438 o alwadau, gyda 6.1% ohonynt (1002) yn alwadau cyfrwng Cymraeg. Mae nifer y galwadau sy’n cael eu trin yn Gymraeg wedi cynyddu 1.42% (+123 o alwadau) o’i gymharu â’r llynedd, er bod cyfanswm ein galwadau wedi gostwng 12%. Rydym yn ystyried y cynnydd hwn mewn galwadau Cymraeg yn gadarnhaol, ac yn arwydd bod cwsmeriaid yn gwybod na fydd dewis yr opsiwn Cymraeg yn arwain at oedi wrth ymateb i'w hymholiad. Mae ein negeseuon ffôn yn darparu'r Gymraeg fel y dewis cyntaf i gwsmeriaid ac mae ein hatebwyr galwadau craidd yn siaradwyr Cymraeg rhugl.

Er gwaethaf cynnig rhagweithiol o ran iaith, mae nifer o siaradwyr Cymraeg yn parhau i ddewis ein gwasanaeth Saesneg i ddechrau, ond bydd yr alwad yn aml yn newid i'r Gymraeg pan ddeellir bod yr asiant sy’n ateb yr ymholiadau yn siarad Cymraeg. Fodd bynnag, oherwydd bod y cwsmer wedi dewis y gwasanaeth Saesneg i ddechrau, bydd y galwadau hyn yn cael eu cofrestru fel galwadau cyfrwng Saesneg ar ein system, er eu bod yn cael eu trin yn Gymraeg yn y pen draw.

Tîm cyfieithu

Mae aelodau’r tîm yn cefnogi ein sefydliad gyda gofynion iaith Gymraeg o ddydd i ddydd gan ganiatáu ar gyfer cydweithio ar sawl prosiect sy’n helpu i wneud yr iaith yn rhan bwysig o waith CNC.

Datblygiad mwyaf y tîm eleni oedd ymgyfarwyddo â defnyddio ein meddalwedd cyfieithu newydd, Phrase Translate. Wrth fabwysiadu meddalwedd o'r fath, mae'n bwysig rhoi amser i'w weithredu'n llawn, i wireddu ei wir fanteision posibl. Gydag arweiniad gan ein Uwch Gyfieithydd, mae'r tîm i gyd wedi ymgyfarwyddo'n dda â defnyddio'r meddalwedd. Mae’r 1.5 miliwn o eiriau sydd eisoes yn y cof yn brawf o hynny.

Enghraifft o’r tîm yn sefydlu ei hun ac yn cefnogi eraill yw eu cyfraniad i’r broses o enwi llwybrau a safleoedd, ac yn rhan annatod o’r broses o brawf ddarllen a chymeradwyo arwyddion safle. Trwy drafod gyda chwsmeriaid a bod yn ddolen gyswllt i gyngor arbenigol gan Banel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg, a thrwy weithio ar lwyfannau digidol amrywiol, mae hynny’n golygu nad oes rhaid i gwsmeriaid gyflwyno eu gwaith i gael ei wirio ar bob achlysur. Mae'r tîm yn cadw llygad ac yn cymeradwyo neu wirio yn ddiofyn yn hawdd ar y platfform a ddefnyddir gan y tîm dan sylw.

Mae’r tîm yn manteisio ar bob cyfle i weithio gyda thimau gwahanol i greu testun Cymraeg gwreiddiol, yn hytrach na chyfieithu ar ddiwedd y broses yn unig. Mae'r tîm hefyd yn cynghori cydweithwyr ar y posibiliadau a'r dewisiadau amgen ar gyfer cynnwys Cymraeg fel rhan annatod o brosiectau. Mae hyn wedi arwain at gyfweliadau radio diddorol, podlediadau a fideos ar gyfer sawl prosiect, megis ymgyrch Tipio Anghyfreithlon ac amrywiaeth o ddeunyddiau ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru.

Mae’r tîm yn awyddus i fanteisio ar gyfleoedd i gyfieithydd fod yn rhan o’r broses creu cynnwys, ac yn aml i gyfrannu drwy ysgrifennu fel pâr neu driawd – yn enwedig wrth greu cynnwys digidol. Mae trwyddedau pysgota a gwaith ar wasanaethau rhybuddion llifogydd wedi manteisio ar y dull cydweithredol hwn. Mae’r tîm wedi bod yn rhan o sioe deithiol prosiect Comisiynydd y Gymraeg a’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol fel enghraifft o sefydliad sy’n gweithio fel hyn.

Mae'r tîm wedi parhau i ddarparu gwasanaethau i sefydliadau allanol eleni pan fydd hyn o fudd i ni. Er enghraifft, rydym wedi gweithio ar brosiectau penodol gyda'r Bwrdd Glo, Asiantaeth yr Amgylchedd, a Defra.

Derbyniodd y tîm wobrau am eu cyfraniad i’n sefydliad yng Ngwobrau CNC ar ddiwedd 2023, ac roedd cydweithwyr yn hael iawn gyda’u clod am y gwaith cyflym a’r gwasanaethau hyblyg a ddarparwyd. Bydd y tîm yn parhau i chwilio am gyfleoedd i weithio mewn ffyrdd arloesol, ac i weithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad, gan sicrhau bod y Gymraeg wrth galon popeth a wnawn fel sefydliad.

Gwasanaeth rhybuddion llifogydd

Floodline

Mae Floodline yn wasanaeth ledled y DU ar 0345 988 1188 – gwasanaeth galwadau cyfradd leol lle gall y sawl sy’n ffonio wrando ar yr wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd, gwrando ar gyngor sydd wedi'i recordio ymlaen llaw, a siarad ag asiant hyfforddedig ar y ffôn i roi gwybod am lifogydd neu gofrestru ar gyfer y gwasanaeth rhybuddion llifogydd.

Ym mis Mawrth 2024, bu i ni roi prosiect ar waith yn llwyddiannus i wella’r gwasanaeth Cymraeg a gynigir drwy ddargyfeirio galwadau Cymraeg i’n Canolfan Cyfathrebu Digwyddiad o Floodline.

Roedd y gwasanaeth hwn wedi'i amlygu mewn Adroddiadau Blynyddol blaenorol fel risg o ddiffyg cydymffurfio. Yn y gorffennol, roedd siaradwyr Cymraeg yn aml yn cael eu trosglwyddo i'r rhai oedd yn delio â galwadau Saesneg gan na allai'r gwasanaeth warantu siaradwr Cymraeg penodedig i ddelio â galwadau cyfrwng Cymraeg. Gall y sawl sy’n ffonio drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd ddewis terfynu'r alwad a chael galwad yn ôl gan asiant sy’n siarad Cymraeg pan fydd un ar gael.

Mae’r llwybr galwadau Cymraeg newydd yn golygu bod siaradwyr Cymraeg sy’n ffonio Floodline yn cael gwasanaeth Cymraeg di-dor drwy Ganolfan Cyfathrebu Digwyddiadau CNC. Mae hyn yn cyfateb â’r gwasanaeth a dderbynnir yn Saesneg, ac mae gennym reolaeth dros y gwasanaeth Cymraeg yn ogystal â gallu hyrwyddo’r gwasanaeth yn ehangach yma yng Nghymru. Mae gweithredu’r gwasanaeth Floodline Cymraeg newydd hwn yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â safonau Cyflenwi Gwasanaethau 9 a 10.

Mae darparu gwasanaeth Cymraeg ar linellau cymorth yn un o ofynion Safonau 9 a 10.

Gwefan CNC – Rhybuddion Llifogydd a Gwasanaethau Perygl Llifogydd

Ym mis Hydref 2020, fe wnaethom ni adfywio dyluniad ein gwefan i'w gwneud hi’n haws ac yn gynt i'w defnyddio, gan sicrhau bod y dyluniad yn hollol gydnaws â'r Gymraeg.

Gofynnir i ymwelwyr â’n gwefan ddewis iaith. O’i gymharu â'r flwyddyn ariannol ddiwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr â'r dudalen ‘Rhybuddion’ a ‘Rhybuddion Byddwch yn Barod’ Cymraeg (8,859 o ymweliadau), a gostyngiad yn nifer yr ymweliadau â'r dudalen ar gyfer perygl llifogydd 5 diwrnod.

Cynnwys negeseuon Rhybuddion Llifogydd

Elfen allweddol o'n gwasanaeth yw darparu gwybodaeth amser real i helpu pobl i ddeall eu perygl llifogydd uniongyrchol. Mae cyfieithu gwybodaeth yn gywir yn Gymraeg yn gwbl ofynnol. Rydym yn bwriadu archwilio opsiynau ar gyfer datblygu'r gallu hwn i gyfieithu fel y gallwn ddarparu gwybodaeth fwy defnyddiol ac o ansawdd gwell - gan nodi nad oes lle i gamgymeriadau cyfieithu mewn gwasanaeth a allai achub bywyd. Rydym yn bwriadu cynnal gweithgareddau i hyrwyddo ein harlwy Cymraeg.

Tra bod ein gwasanaethau Rhybuddion Llifogydd yn cael eu darparu yn Gymraeg mae'r niferoedd sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn parhau i fod yn isel. Mae'r gwasanaethau hyn wedi eu hadnabod fel un o'r gwasanaethau yr ydym yn eu hyrwyddo fel rhan o'r prosiect 'Dylunio a hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg' i godi ymwybyddiaeth o'u hargaeledd yn Gymraeg gyda'r nod o gynyddu eu defnydd.

Mae rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau ac ystadegau llifogydd i’w gweld yn Atodiad 1 yr adroddiad hwn.

Canllawiau brand

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi creu ein Canllawiau Brand newydd. Yn ystod y broses ddatblygu roedd yn bwysig ein bod yn deall arwyddocâd trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal, ac ymdrechwyd i fynd y tu hwnt i gyfieithu’n unig.

Sicrhawyd bod y Gymraeg yn chwarae rhan ganolog wrth lunio gwedd a naws ein canllaw a bod yr iaith yn cael ei phrif ffrydio drwyddi draw, nid dim ond ar un dudalen unigol. Bydd hyn yn helpu ein cydweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Mae ein canllaw yn amlygu ystyriaethau allweddol ar gyfer ein gwaith a’n prosiectau, o arwyddion, enwi lleoedd, i’r ffordd y mae’n rhaid i ni gyfathrebu’n ddwyieithog gyda chwsmeriaid a gofyn am eu dewis iaith ar gyfer cyswllt yn y dyfodol, er mwyn sicrhau cyfathrebu effeithiol yn yr iaith y mae cwsmeriaid yn teimlo fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio. Mae hyn yn helpu i greu perthnasoedd cryfach a mwy ystyrlon gyda chwsmeriaid. Rydym hefyd wedi cyfeirio at gymorth ac arweiniad mewnol ac allanol i'n cydweithwyr i'w helpu.

Datblygwyd y canllaw gyda mewnbwn gan ein Timau Cyfieithu a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a’r Gymraeg i ddatblygu canllaw dwyieithog sy’n dathlu’r ddwy iaith yn gyfartal gan hefyd gydnabod eu nodweddion a’u gwahaniaethau unigryw. Pan fydd cydweithwyr neu bartneriaid yn defnyddio ein canllaw, byddant yn dod o hyd i adrannau wedi'u teilwra yn y ddwy iaith.

Dyma ein canllawiau cwbl ryngweithiol cyntaf. Yn ystod cyfnod datblygu’r canllawiau, cymerwyd amser i edrych ar ffyrdd newydd o weithio. Arweiniodd hyn at greu ein canllaw brand cwbl ryngweithiol cyntaf, sy’n caniatáu i’r defnyddiwr newid rhwng y Gymraeg a’r Saesneg ar bob tudalen heb effeithio ar y naill iaith na’r llall na’r dyluniad. Rydym yn falch o'r datrysiad arloesol hwn, sy'n dangos enghraifft o ddylunio dwyieithog gwych ac a fydd yn cael ei ddefnyddio mewn sawl prosiect o hyn ymlaen. Bydd hefyd yn helpu ein cydweithwyr i groesawu’r defnydd o’r Gymraeg ac yn arbennig yn helpu’r rhai sy’n dysgu Cymraeg gyda ni.

Bydd y canllaw yn ein helpu i siarad â llais cyson a deniadol a bydd yn ein helpu i gysylltu â'n cwsmeriaid a'n cydweithwyr mewn modd mwy ystyrlon drwy feithrin ymddiriedaeth a chreu cyswllt emosiynol ar hyd y ffordd.

Digwyddiadau hyfforddi’r Tîm Addysg

Yn ystod y flwyddyn cynhaliodd ein Tîm Addysg ac Iechyd gyfanswm o 38 o gyrsiau hyfforddi.

  • Cyfanswm o 21 gweminar, 9 ohonynt trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Mynychodd 84 (17%) y gweminarau Cymraeg gyda 412 (83%) yn mynychu’r gweminarau Saesneg.
  • Cynhaliwyd 17 o gyrsiau wyneb yn wyneb, gyda 4 yn cael eu cynnal yn Gymraeg a 2 yn ddwyieithog.

Mae'r rhai sy'n cymryd rhan ar bob cwrs hyfforddi yn derbyn holl ddeunyddiau'r cwrs yn Gymraeg a Saesneg.

Yn ogystal â chyrsiau hyfforddi mae'r tîm wedi: -

  • Cynnal 2 ymgyrch genedlaethol – Miri Mes ac Wythnos Dysgu Awyr Agored Cymru yn Gymraeg a Saesneg.
  • Anfonwyd 7957 o gylchlythyrau drwy e-bost sy’n cynnwys straeon â chysylltiad uniongyrchol â Chymru/Cymreictod/yr iaith Gymraeg, ac agorwyd 2379 (29.9%) ohonynt yn Gymraeg.
  • Creu 22 blog ac eitemau newyddion yn ddwyieithog.
  • Creu 3339 o negeseuon Facebook dwyieithog.
  • Creu 4121 post X dwyieithog.
  • Anfonwyd 6197 o e-byst dwyieithog i dynnu sylw at newyddion iechyd, addysg a dysgu.

Mae nifer y sesiynau a gynhaliwyd drwy gyfrwng y Gymraeg yn dal i fod yn isel ar gyfer 2023-2024. Cafodd nifer o sesiynau wyneb yn wyneb eu canslo, a chynhaliwyd gweminarau heb fynychwyr neu gyda nifer fach o fynychwyr ar alwad lle cafodd y cynnwys ei recordio a’i rannu gyda’r rhai a oedd wedi dangos diddordeb.

Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r mater hwn, rydym wedi cysylltu â Swyddogion Polisi Iaith Cyngor Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy i helpu i hyrwyddo'r cyrsiau hyn trwy eu cysylltiadau addysgol eu hunain, i'n helpu i hyrwyddo'r cyrsiau hyn. Byddwn yn parhau i fonitro presenoldeb ac edrych ar ffyrdd eraill o godi ymwybyddiaeth o'r cyrsiau hyn.

Er bod ein cyrsiau hyfforddi yn cael eu darparu yn Gymraeg a’u hyrwyddo’n eang trwy amrywiol sianeli fel yr eglurwyd uchod, mae’r niferoedd sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn Gymraeg yn parhau i fod yn isel iawn. Mae'r gwasanaeth hwn wedi ei adnabod fel yr ail wasanaeth rydym yn ei hyrwyddo fel rhan o'r prosiect 'Dylunio a hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg' i wneud mwy i godi ymwybyddiaeth o'u hargaeledd yn Gymraeg gyda'r nod o gynyddu'r niferoedd sy'n mynychu'r cyrsiau cyfrwng Cymraeg.

Mae'n ofynnol i ni gynnig unrhyw gyrsiau addysg yn y Gymraeg, sy'n un o ofynion Safon 80.

Trefnwyd 27 o brentisiaethau a lleoliadau addysg uwch â thâl gan y tîm, ac o’r lleoliadau hynny roedd 11 (41%) yn siarad Cymraeg yn rhugl ac 1 yn gallu sgwrsio’n hyderus.

Mae mwy o wybodaeth yn Atodiad 2 yr adroddiad hwn ar yr adnoddau mae'r tîm wedi'u cynhyrchu ar gyfer addysgwyr ac athrawon, eu gwaith partneriaeth ag eraill ac ymgyrchoedd a digwyddiadau cenedlaethol dros y cyfnod adrodd hwn.

Gwasanaethau digidol a’r wefan

Parhaodd y Tîm Gwasanaethau Digidol i weithio'n agos gyda phartneriaid i ddatblygu, rhannu a dysgu o arferion gorau wrth ddylunio ac adeiladu gwasanaethau sy'n hyrwyddo ac yn hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Dylunwyr a Chyfieithwyr Cynnwys Digidol yn cydweithio i ysgrifennu, golygu ac adolygu cynnwys ar gyfer gwasanaethau uchel eu proffil.
  • Cyfrannu a rhannu ein profiad mewn llyfr newydd a chanllawiau ar gyfer defnyddio’r dull “ysgrifennu triawd” o ddylunio gwasanaethau dwyieithog: Sut i ysgrifennu triawd | Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (llyw.cymru)
  • Parhau i gynnal ac annog cyfweliadau defnyddwyr yn Gymraeg, a gwneud yn siŵr bod yr holl wybodaeth recriwtio, ffurflenni ac e-byst yn mynd allan yn ddwyieithog.
  • Cymryd rhan mewn cyfweliadau ymchwil defnyddwyr y Gymraeg ar gyfer cyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys y Weinyddiaeth Gyfiawnder, i roi adborth, a dysgu sut mae eraill yn mynd ati i gynnal ymchwil defnyddwyr yn Gymraeg.
  • Derbyn ac ymateb i geisiadau ac adborth defnyddwyr y wefan yn Gymraeg.
  • Gwahoddiad gan gyrff sector cyhoeddus eraill i rannu ein dull gweithredu gydag ymchwil defnyddwyr a gwerth ysgrifennu triawd er mwyn datblygu gwell cynnwys dwyieithog.
  • Gwahoddiad i siarad yn nigwyddiadau'r CDPS ac Iaith ar Daith Comisiynydd y Gymraeg ac mewn fideo am ysgrifennu triawd Ysgrifennu Triawd - YouTube

Oherwydd newid mewn adrodd ar ystadegau gwefan ym mis Awst 2023, nid ydym yn gallu rhannu ystadegau fel rhan o adroddiad eleni gan na fyddent yn adlewyrchu'r gwir ymweliadau â phob un o'n tudalennau.

Byddem yn argymell bod angen rhoi mwy o ystyriaeth i’r Gymraeg yn y camau cynllunio cychwynnol, yn hytrach nag ar ddiwedd y broses, er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’n Safonau Cyflenwi Gwasanaethau.

Er enghraifft, pan fyddwn yn prynu systemau a meddalwedd newydd i mewn yn hytrach na'u datblygu ein hunain, gall fod yn her i ni ar adegau. Pan fydd y systemau'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd ar ein gwefan nid yw bob amser yn bosibl i'r system gael ei darparu'n gwbl ddwyieithog. Mae hyn hefyd yn cynnwys data a ddarparwn i’r cyhoedd, a all fod o natur dechnegol ar adegau ac sydd ond ar gael o’n systemau mewnol yn Saesneg.

Canllawiau a chefnogaeth newydd a diwygiedig i staff

Yn dilyn derbyn dogfen cod ymarfer drafft ar gyfer ein safonau gan Gomisiynydd y Gymraeg, a gwaith prosiect gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Cymru y flwyddyn adrodd ddiwethaf, rydym wedi cyflwyno rhai canllawiau newydd, ac wedi diweddaru eraill. Rydym wedi cynnwys enghreifftiau y gall ein cydweithwyr uniaethu â nhw’n haws na chyfarwyddiadau’n unig. Bydd hyn yn helpu i wella dealltwriaeth o’r hyn y mae gweithio’n ddwyieithog yn ei olygu, a chynnig dewis gwirioneddol o ran iaith i gwsmeriaid a chydweithwyr. Bydd y gwaith hwn yn parhau yn ystod y flwyddyn hon.

Y canllawiau newydd a lansiwyd yn ystod y flwyddyn adrodd hon oedd: -

  • Creu cynnwys fideo a gweledol at ddefnydd mewnol ac allanol.
  • Ystyriaethau iaith Gymraeg yn y broses Gaffael.
  • Canllawiau Gofal Cwsmer yn y Dderbynfa.
  • Delio â Chwynion - i helpu staff i ddeall y broses i'w dilyn ar ôl derbyn cwyn yn ymwneud â'r Gymraeg. Mae’r canllawiau hefyd yn cynnwys y broses y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn ei dilyn ar ôl derbyn cwyn.
  • Pecyn Cymorth i Reolwyr – cyfrifoldebau iaith Gymraeg fel rheolwr.

Y canllawiau a ddiweddarwyd yn ystod y flwyddyn adrodd hon oedd: -

  • Cyfarfodydd a Digwyddiadau – geiriau ac ymadroddion ar gyfer Cadeirio cyfarfodydd dwyieithog.
  • Canllawiau recriwtio – wedi’u diweddaru gyda ffigurau Cyfrifiad 2021 ar gyfer pob Awdurdod Lleol.
  • Canllawiau cyfathrebu dros y ffôn – adfywiad llwyr gydag ymadroddion defnyddiol.
  • Canllawiau gohebiaeth i gynnwys datganiad bod angen i gydweithwyr gynnwys defnydd croesawgar o’r Gymraeg i fodloni gofynion safon 7 yn llawn.

Mae'r uchod i gyd wedi cael eu hyrwyddo yn ein bwletin Misol i Reolwyr, gan ofyn i reolwyr godi ymwybyddiaeth a thrafod gydag aelodau eu tîm.

Codi ymwybyddiaeth o'r Safonau

Mae pob Rheolwr yn y sefydliad yn derbyn bwletin misol i rannu gwybodaeth gorfforaethol gyda'u timau. Mae hyn yn helpu cydweithwyr i ddeall yr hyn y mae gofyn inni ei wneud,

a'n ffyrdd dwyieithog o weithio.

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi codi ymwybyddiaeth o’r polisi Iaith Gymraeg ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall i reolwyr drafod a hysbysu eu staff fel a ganlyn:-

  • Ble i gael gwybodaeth am ein polisi a chanllawiau Safonau’r Gymraeg ar y fewnrwyd.
  • Yn dilyn lansio ein brand newydd, atgoffwyd Rheolwyr i sicrhau bod gan eu holl dimau deitl swydd cwbl ddwyieithog a diweddaru eu llofnod e-bost sy'n cynnwys gofynion ein Safonau.
  • Lansio templedi llythyrau Microsoft newydd, lle i ddod o hyd iddynt, a nodyn i atgoffa y dylid eu defnyddio bob amser wrth anfon gohebiaeth. Mae’r templedi ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ac yn cynnwys datganiad fel y nodir yn Safon 7 yn croesawu gohebiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Nodyn i’ch atgoffa o’r pwysigrwydd wrth gychwyn gohebiaeth â’r cwsmeriaid, partneriaid, neu randdeiliaid, bod llythyrau neu e-byst yn cael eu hanfon yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn gofyn pa iaith fyddai’n well gan y person ohebu â ni, ac yn cofnodi’r dewis iaith ar ôl ei gadarnhau.
  • Adolygu’r holl dempledi llythyrau sydd yn eu lle yn barod i’w defnyddio, a sicrhau eu bod ar gael yn Gymraeg a Saesneg yn gofyn am ddewis iaith y derbynnydd wrth ddelio â ni.
  • Nodyn i’ch atgoffa y dylai pob neges allan o’r swyddfa neu unrhyw neges e-bost awtomatig arall fod yn gwbl ddwyieithog, gyda’r testun Cymraeg uwchben neu i’r chwith o’r testun Saesneg a lle mae enghreifftiau o negeseuon i’w gweld yn ein Canllawiau Gohebu ar y fewnrwyd. Gyda nodyn atgoffa y gall ein Tîm Cyfieithu helpu gyda negeseuon mwy pwrpasol.
  • Atgoffa cydweithwyr bod gennym bolisi iaith mewnol a’i ofynion.
  • Canllawiau newydd wedi'u datblygu i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried fel rhan o'r broses Gaffael.

Derbyniodd pob dechreuwr newydd gyda’r sefydliad e-bost croeso gyda gwybodaeth am ein rhaglen Safonau’r Gymraeg a Hyfforddiant Iaith Gymraeg. Darperir dolen i’r tudalennau Cymraeg pwrpasol ar y fewnrwyd, yn gofyn iddynt asesu eu sgiliau Cymraeg a’u cofnodi yn MyNRW.

Gweithredu ein Safonau Llunio Polisi

Dros y flwyddyn adrodd ddiwethaf mae 43 o Asesiadau Effaith Cydraddoldeb wedi cael eu hadolygu o safbwynt ystyriaethau iaith Gymraeg gan y Cynghorydd Arbenigol Polisi Iaith Gymraeg.

Darparwyd cyngor ar y ffordd orau o estyn allan i sicrhau ein bod yn cael adborth gan siaradwyr Cymraeg ar ein cynigion. Mae hyn yn golygu edrych ar ba grwpiau o fewn y gymuned leol sy'n debygol o gael eu heffeithio e.e. Ffermwyr Ifanc, Ti a Fi, Clybiau Rygbi a Phêl-droed Lleol, Merched y Wawr a Chlybiau Gwawr. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod ein cyrhaeddiad yn ehangach o ran oedran a nodweddion gwarchodedig, grwpiau o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol a siaradwyr Cymraeg.

Pan gaiff Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb eu hadolygu, rhoddir cyngor ar beth yw gofynion y safonau a’r wybodaeth o’r cod ymarfer drafft mewn perthynas â’r cynnig sy’n cael ei asesu fel rhan o’r broses adolygu. Mae darparu enghreifftiau o’r cod ymarfer yn helpu cydweithwyr i ddeall y gofynion a’r ystyriaethau fel rhan o’n gwaith o ddydd i ddydd. Mae hyn yn helpu i brif ffrydio’r iaith yn fwyfwy i’n ffyrdd o weithio.

Dogfennau ymgynghori

Yn dilyn Tribiwnlys y Gymraeg yn 2023 a benderfynodd y gwir ddehongliad o “benderfyniadau polisi” o fewn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, rydym wedi cael gwybod bod angen asesu’r holl gynigion yr ymgynghorir arnynt i weld a yw’r cynnig yn debygol o effeithio ar y defnydd o’r Gymraeg a thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Mae angen inni ystyried yr effaith y gallai ein penderfyniadau ei chael ar y canlynol:

  • Arfer ein swyddogaethau
  • Cynnal ein busnes

Nid yw hyn yn gyfyngedig i ddogfennau polisi ysgrifenedig yn unig.

Yn ystod y cyfnod ymgynghori pan asesir effaith mae angen:

  • Cynnwys o fewn y dogfennau ymgynghori yr effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol y gallai’r penderfyniad ei gael ar y defnydd o’r Gymraeg.
  • Ceisio barn rhanddeiliaid.
  • Ystyried yr effeithiau hynny fel rhan o’r broses benderfynu.

Mae hyn yn debyg i sut mae angen i ni nodi a chynnwys effeithiau amgylcheddol mewn dogfennau ymgynghori.

Y cyngor gan Gomisiynydd y Gymraeg yw na ddylai’r iaith bellach fod yn rhan o Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac y dylai gael ei hasesiad ei hun. Mae canllawiau drafft newydd ac Asesiad drafft o’r Effaith ar y Gymraeg yn cael eu datblygu ar gyfer y gofyniad hwn sydd wedi’u hadolygu gan Gomisiynydd y Gymraeg gyda sylwadau a chyngor pellach.

Bydd angen gwreiddio'r asesiad hwn yn ein prosesau a bydd angen gwaith i godi ymwybyddiaeth o'r gofyniad hwn. Bydd angen cymorth ar gydweithwyr yn y lle cyntaf i gyflawni’r broses hon, a bydd angen i ni hefyd fonitro ein hymgynghoriadau i sicrhau y rhoddir ystyriaeth ddyledus i’r iaith.

Gweithredu ein Safonau Gweithredol

Porth TGCh - Hornbill

Mae tudalen newydd wedi’i chreu ar ein Porth TGCh – Hornbill sy’n rhestru’r systemau Cymraeg a’r offer cymorth sydd ar gael i gydweithwyr eu defnyddio yn Gymraeg. Mae porth TGCh – Hornbill hefyd ar gael i gydweithwyr ei ddefnyddio yn Gymraeg.

Y systemau a'r offer cymorth a restrir yw: -

  • Hornbill
  • MyNRW
  • MS Office
  • MS Outlook
  • MS Windows
  • MS Teams
  • Mewnrwyd
  • Cysgliad: Cysill a Cysgeir
  • To Bach

Mae'r dudalen hefyd yn darparu dolen uniongyrchol i'r tudalennau Cymraeg ar ein mewnrwyd ac yn cynnwys dolen i'r canllawiau ar gofnodi negeseuon peiriant ateb ffôn. Mae’r systemau hyn yn helpu i gefnogi ein gweledigaeth o ran darparu mwy o gyfleoedd i weithio’n fewnol yn Gymraeg. Dros y flwyddyn i ddod byddwn yn gwneud mwy i hyrwyddo'r systemau hyn er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth ac annog mwy i ddefnyddio'r systemau yn Gymraeg.

Asesiad offer sgrin arddangos

Mae Offer Sgrin Arddangos yn cynnwys cyfrifiaduron bwrdd gwaith, gliniaduron, tabledi, a ffonau clyfar a’r holl offer sy’n gysylltiedig â defnyddio’r uchod.

Er mwyn sicrhau bod pob cydweithiwr wedi eu hyfforddi i ddefnyddio Offer Sgrin Arddangos, a chwblhau asesiad Offer Sgrin Arddangos, mae gennym becyn hyfforddi ac asesu ar-lein o’r enw WorkRite.

Mae'r hyfforddiant a'r asesiad ar-lein yn gwbl ddwyieithog lle gall y defnyddiwr newid rhwng y ddwy iaith. Mae hyn yn helpu’r rhai sy’n llai hyderus wrth ddefnyddio adnoddau ar-lein yn Gymraeg yn ogystal â’r rhai sy’n datblygu eu sgiliau iaith i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gwaith.

Canolfan e-Gynefino newydd

Mae 'canolfan' ar gyfer dechreuwyr newydd a'u rheolwyr llinell wedi'i greu yn ystod y flwyddyn hon. Mae hon yn edrych, ac yn gweithredu, fel gwefan sy'n caniatáu i ystod eang o wybodaeth ddefnyddiol gael ei rhannu, gan wneud y ddarpariaeth yn fwy effeithlon ac yn darparu profiad llawer gwell i’r rhai sy’n cymryd rhan yn y broses gynefino.

Defnyddir y ganolfan i archebu cyrsiau hyfforddi amrywiol sy'n rhan o'n rhaglen e-gynefino ac mae'n ein helpu i gadw cofnod o bwy sydd wedi mynychu a chwblhau pob cwrs yn ôl yr angen o fewn y cyfnod prawf o 9 mis.

Mae’r ganolfan ar gael yn Gymraeg a thros y flwyddyn nesaf byddwn yn parhau â’r gwaith o sicrhau bod yr holl wybodaeth sydd arno ar gael yn y ddwy iaith.

Hyfforddiant Iaith Gymraeg

Dros y cyfnod adrodd hwn, cefnogwyd 259 o’n cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ar lefelau amrywiol. Mae hyn yn gynnydd o 86% ers y llynedd:

  • Mae 51% (132) o ddysgwyr ar lefel Mynediad 1 neu 2.
  • Mae 25% (65) o ddysgwyr ar lefel Sylfaen 1 neu 2.
  • Mae 9% (22) o ddysgwyr ar lefel Ganolradd 1 neu 2.
  • Mae 13% (34) o ddysgwyr ar lefel Uwch 1 neu 2.
  • Mynychodd 2% (6) o ddysgwyr gwrs Gloywi.
  • Mae 13% (34) o'n dysgwyr yn siaradwyr Cymraeg rhugl neu bron iawn â bod yn rhugl.
  • Os yw'r 9% (22) sy'n dysgu ar hyn o bryd ar lefel Ganolradd yn parhau i ddysgu Cymraeg, byddant yn siaradwyr Cymraeg rhugl ymhen tair neu bedair blynedd.

Mae ein dysgwyr wedi’u lleoli ar draws Cymru gyfan gyda’r mwyafrif dros y flwyddyn adrodd hon wedi’u lleoli o amgylch ardaloedd Caerdydd a Bangor.

Er bod niferoedd y dysgwyr yn cynyddu a llawer o ddiddordeb i’w weld mewn datblygu sgiliau iaith sy'n wirioneddol galonogol, gall fod yn heriol i gydweithwyr gydbwyso gofynion y cwrs a'u hymrwymiadau gwaith o ddydd i ddydd. Oherwydd hyn, nid yw rhai cydweithwyr yn gallu mynychu'r cwrs yn rheolaidd sy'n golygu bod yn rhaid iddynt roi'r gorau i fynychu. Dros y flwyddyn adrodd hon mae 27 wedi ein hysbysu eu bod wedi tynnu'n ôl o fynychu'r cyrsiau hyn.

Mae dysgu iaith yn ymrwymiad hirdymor ac mae angen i Reolwyr ystyried hyn wrth gymeradwyo hyfforddiant er mwyn sicrhau bod digon o amser ac ystyriaeth yn cael ei neilltuo fel yr holl hyfforddiant arall a ddarparwn. Gan ein bod yn talu ymlaen llaw am bob cwrs, gyda chyllidebau cyfyngedig mae hyn yn gostus i ni fel sefydliad, ac yn cyfyngu ar gyfleoedd i eraill ddatblygu eu sgiliau iaith.

Dros y flwyddyn i ddod, gyda'n System Rheoli Dysgu yn dod yn weithredol, rydym yn bwriadu defnyddio'r cyfleuster hwn i ddarparu mwy o gymorth i'n dysgwyr trwy ddatblygu fideos hyfforddiant byr i gefnogi cydweithwyr i ddatblygu sgiliau Cymraeg ar bob lefel.

Mae darparu hyfforddiant iaith Gymraeg yn un o ofynion Safon 126, 127 a 128.

Clwb Clonc (Cynllun mentora)

Ym mis Ebrill 2023 cafodd ein Cynllun Mentora Iaith Gymraeg ei ail-frandio i Glwb Clonc (clwb sgwrsio) a’i ail-lansio. Mae 10 o’n dysgwyr yn cyfarfod yn rheolaidd gyda siaradwr Cymraeg rhugl i gael sgwrs anffurfiol sy’n helpu i fagu hyder i siarad Cymraeg.

Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn hyrwyddo Clwb Clonc drwy rannu arferion da a straeon personol ar sut mae cael mentor ochr yn ochr â chyrsiau hyfforddi rheolaidd yn helpu i atgyfnerthu’r hyn a ddysgwyd yn y wers a defnyddio sgiliau Cymraeg.

Hyrwyddo ein rhaglen hyfforddiant iaith Gymraeg

Mae’r gweithgareddau sydd wedi digwydd i hybu ein hyfforddiant iaith Gymraeg fel a ganlyn:-

  • Trwy gydol mis Gorffennaf a mis Awst hyrwyddwyd ein rhaglen Hyfforddiant Iaith Gymraeg ar ein mewnrwyd i annog cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith a chofrestru ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ym mis Medi bob blwyddyn.
  • Fel rhan o'n hyfforddiant e-gynefino ar gyfer dechreuwyr newydd, mae ein Cydlynydd Hyfforddiant Iaith Gymraeg yn rhoi cyflwyniad ar ein rhaglen Hyfforddiant Iaith Gymraeg i gefnogi'r rhai sy'n dymuno datblygu eu sgiliau iaith ar bob lefel. Dros y flwyddyn, mae 224 o ddechreuwyr newydd wedi derbyn y wybodaeth hon fel rhan o'u cyfnod sefydlu.
  • Mae pob dechreuwr newydd yn derbyn e-bost gyda gwybodaeth am ein rhaglen Hyfforddiant Iaith Gymraeg a sut i archebu lle ar gwrs.
  • Fel rhan o’n dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, bu cydweithiwr yn ffilmio dyddiadur fideo o’i brofiad yn mynychu cwrs preswyl yn Nant Gwrtheyrn. Rhannwyd hwn yn fewnol ar ein mewnrwyd ac yn allanol ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Cafodd y neges ei weld nifer o weithiau, a chafodd ei rhannu ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Nant Gwrtheyrn a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Dyma ddolen i'r fideo https://youtu.be/DnH1OzU8eLo

Hyrwyddo diwylliant Cymru a'r Gymraeg

  • Mehefin – Urdd Gobaith Cymru.
  • Wedi hyrwyddo neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru ar gyfer 2023 ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
  • Gorffennaf – Tafwyl – Gŵyl Gymraeg Caerdydd.
  • Awst – Eisteddfod Genedlaethol.
  • Medi – Diwrnod Owain Glyndŵr.
  • Hydref - Diwrnod Shwmae / Sumai.
  • 27 Tachwedd – Rhagfyr – Defnyddiwch eich Cymraeg, ymgyrch Comisiynydd y Gymraeg.
  • Ionawr – Diwrnod Santes Dwynwen.
  • Mawrth – Dydd Gŵyl Dewi.

Cyflwyniad Dydd Gŵyl Dewi yn Gymraeg

Fel rhan o’n dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, cafwyd cyflwyniad yn Gymraeg gan Dr Lana St Leger, ar ganfyddiadau prosiect ymchwil o’r enw “Pan Fydd y Styd yn Siarad – When the Street Talks”, sy’n ymchwilio i effaith newid hinsawdd ar yr iaith Gymraeg a’i diwylliant, a threftadaeth. Roedd y gwaith ymchwil yn cynnwys siarad â phobl ledled Cymru ac roedd y cyflwyniad yn egluro canfyddiadau'r gwaith hwn. Daeth y gwaith ymchwil i’r casgliad bod ystyried y Gymraeg wrth wneud penderfyniadau polisi yn bwysig er mwyn gwarchod ein hiaith, ein diwylliant a’n hanes ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Recordiwyd y sesiwn a'i uwchlwytho i'r fewnrwyd fel rhan o'n hadnodd Gweminarau i staff.

Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol

Mae gennym ddyletswydd statudol i ymgynghori ac ychwanegu at y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol ac mae gennym nodyn cyfarwyddyd gweithredol 124 – Enwi safleoedd a lleoedd: ymgynghori â’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol, sydd ar gael i helpu cydweithwyr i ddeall y gofyniad hwn a’r hyn yr ydym yn ei wneud.

Yn ystod y flwyddyn adrodd hon rydym wedi datblygu log i gofnodi gweithgaredd yn ymwneud â’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol ar gyfer y cyfnod Ebrill 2023 i Fawrth 2024 sy’n cofnodi gweithgareddau enwi ar gyfer: -

  • gweithgareddau enwi e.e. coetiroedd, safleoedd dynodedig, enwau lleoedd ardaloedd, ardaloedd cymeriad.
  • ymgynghori â’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol er gwybodaeth neu gyfeirio
  • dod o hyd i enwau lleoedd nad ydynt o reidrwydd ar y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol, e.e. prynu tir newydd gydag enwau caeau hanesyddol.

Ym mis Medi 2023 sefydlwyd Gwasanaeth Mapio Gwe i’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol i gysylltu gyda’n system GIS mewnol. Mae hyn yn ychwanegol i’r adnodd ar-lein.

Mae ein datganiad blynyddol ar ddefnyddio’r Rhestr yn cynnwys y canlynol yr ydym hefyd wedi gofyn am gyngor gan Banel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg yn ei gylch er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio’r enw Cymraeg hanesyddol cywir: -

  • Coed Abermarlais neu Goed Brownhill
  • Coed Tynymynydd
  • Coed Bryn Crugog
  • Chwarel Maelwg
  • Ynys Sgomer
  • Enwau Sgomer (Enwau Lleoedd ar Ynys Sgomer)
  • Coedwig Penlle’r-gaer
  • Coed Pantperthog
  • Coed Cwm Cadian
  • Pont Ty'n-y-groes
  • Pont Cae'n-y-Coed

Safle a brynwyd yng Nghwmbiga, Penfforddlas, ger Llanidloes yn 2020 ynghyd â map yn dangos enwau caeau hanesyddol, cafodd y rhain eu gwirio yn erbyn y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol.

Nid oedd gennym unrhyw gofnodion newydd i’w hychwanegu at y rhestr o adroddiad Enwau Lleoedd Hanesyddol ar gyfer y flwyddyn adrodd hon.

Cyrsiau hyfforddi

Cyrsiau hyfforddi a ddarperir yn Gymraeg

Cyflwynwyd dau gwrs yn y Gymraeg yn ystod y flwyddyn fel a ganlyn:-

  • Hyfforddiant Cadernid Personol – cymerodd 8 ran yn yr hyfforddiant.
  • Hyfforddiant Sgyrsiau Gonest – cymerodd 9 ran yn yr hyfforddiant.

Dros y flwyddyn i ddod rydym yn bwriadu trefnu hyfforddiant i gefnogi mwy o ddefnydd o’r iaith yn fewnol gan gefnogi’r ymrwymiad yn ein Cynllun Corfforaethol a’n gweledigaeth ar gyfer yr iaith.

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg

Dros y flwyddyn adrodd hon mae hyfforddiant ar yr iaith, ei hanes a’i rôl yn niwylliant Cymru, sut mae’r iaith yn cael ei defnyddio yn ein gweithle a’r gefnogaeth sydd yn ei lle i helpu pawb i weithio’n ddwyieithog wedi cael ei ddarparu dros Microsoft Teams i 298 o gydweithwyr ac ma 31 wedi derbyn yr hyfforddiant wyneb i wyneb.

Mae pob un o’r sesiynau ymwybyddiaeth o’r Gymraeg fel rhan o’r hyfforddiant e-gynefino yn ystod y flwyddyn adrodd wedi’u cynnal dros Microsoft Teams ac wedi’u cynnig yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae 3 wedi cymryd rhan yn y sesiynau Cymraeg. Anfonir gwahoddiadau i'r ddwy sesiwn ar yr un pryd ac mae sesiynau trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu hyrwyddo. Dros y flwyddyn i ddod byddwn yn edrych am ffyrdd eraill o annog mwy o'n dechreuwyr Cymraeg newydd i ymuno â'r sesiynau Cymraeg.

Mae'r sesiynau hyn wedi rhoi cyfle i ddechreuwyr newydd ofyn cwestiynau ar y diwedd sydd wedi bod yn boblogaidd ac yn ddiddorol. Mae'r holl ddeunydd ysgrifenedig ar gyfer yr hyfforddiant ar gael yn Gymraeg.

Mynychodd 1.5% (3) y sesiwn Gymraeg.

Hyfforddiant e-gynefino

Ein rhaglen e-gynefino yw ein rhaglen gynefino corfforaethol sy’n sicrhau bod cydweithwyr newydd a’r rhai sy’n dychwelyd yn derbyn y wybodaeth angenrheidiol i gyflawni eu rôl, helpu i adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau ac egluro ein diwylliant a’n gwerthoedd.

Mae’n gymysgedd o gynnwys byw ac wedi’i recordio sy’n digwydd dros y cyfnod prawf o 9 mis ac yn cynnwys croeso gan ein Prif Weithredwr ac aelod o’n Bwrdd.

Dros y flwyddyn adrodd hon mae 224 o ddechreuwyr newydd wedi cwblhau'r rhaglen e-gynefino.

Mae'r sesiynau hyn yn rhoi cyfle i ddechreuwyr newydd ofyn cwestiynau ar y diwedd sydd wedi bod yn boblogaidd ac yn ddifyr. Mae'r holl ddeunydd ysgrifenedig ar gyfer yr hyfforddiant ar gael yn Gymraeg ac mae cyflwyniadau Power Point yn ddwyieithog. Dros y flwyddyn i ddod byddwn yn parhau â’n gwaith i ddatblygu ein rhaglen hyfforddiant Sefydlu cyfrwng Cymraeg i gydymffurfio’n llawn â Safon 124.

Hyfforddiant Cymorth Cyntaf

Gall ein darparwr Hyfforddiant Cymorth Cyntaf newydd gynnig y cwrs wyneb-yn-wyneb hwn yn Gymraeg. Hyd yn hyn nid oes neb wedi manteisio ar y cynnig hwn, dros y flwyddyn nesaf byddwn yn gwneud mwy o waith i hyrwyddo ac annog ein siaradwyr a'n dysgwyr Cymraeg i fynychu'r hyfforddiant cyfrwng Cymraeg hwn.

System Rheoli Dysgu Newydd

Mae System Rheoli Dysgu (llwyfan e-ddysgu) wedi’i chaffael yn ddiweddar a fydd yn dechrau dod yn weithredol ym mis Gorffennaf 2024. Bydd y platfform yn cael ei gyflwyno fesul cam, e-ddysgu yn gyntaf, ac yna archebu cyrsiau a’r modiwl rheoli perfformiad yn gynnar yn 2025. Mae'r system newydd hon yn galluogi ein pobl i gael mynediad hyblyg at ddysgu digidol, pryd a ble bynnag sy’n gyfleus trwy amrywiaeth o sianeli fel bwrdd gwaith, gliniadur, ffôn symudol neu dabled.

Mae’r modiwlau e-ddysgu ar y llwyfan ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan ddarparu dewis iaith wrth gwblhau’r hyfforddiant. Fel rhan o’n gwaith hyrwyddo, codi ymwybyddiaeth ac unrhyw sesiynau hyfforddi ar y platfform, bydd cydweithwyr yn cael gwybod am yr opsiwn i gwblhau’r modiwlau hyfforddi yn Gymraeg a sut i ddewis yr opsiwn Cymraeg yn y system.

Bydd y System Rheoli Dysgu newydd hon yn rhoi data i ni ar bwy sydd wedi mynychu pa gyrsiau, a’r nifer sydd wedi cwblhau’r cyrsiau yn Gymraeg. Nid yw hyn ar gael ar hyn o bryd.

Hyfforddiant recriwtio newydd

Yn 2024 datblygodd ein Harweinydd Tîm Recriwtio ein cwrs hyfforddi ein hunain ar brosesau Recriwtio a Chyfweld. Mae gofynion ein Safonau Iaith Gymraeg a’r ystyriaethau y dylid eu rhoi i’r iaith wedi’u cynnwys yn yr hyfforddiant. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Oherwydd y saib recriwtio, nid yw’r hyfforddiant hwn wedi cael ei gynnal. Mae’r sesiwn hyfforddi gyntaf yn debygol o gael ei chynnal yn ystod haf 2024.

Mae darparu hyfforddiant ar Recriwtio a Chyfweld yn Gymraeg os caiff ei ddarparu yn Saesneg yn ofyniad dan Safon 124.

Hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith Gymraeg newydd

Mae dwy sesiwn hyfforddiant Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg newydd wedi’u datblygu fel a ganlyn: -

  1. Ymwybyddiaeth o'r iaith Gymraeg, ei hanes a'i rôl yn niwylliant Cymru. Bydd hyn yn orfodol i bawb i ddechrau, yna ar gyfer pob gweithiwr newydd yn y sefydliad.
  2. Safonau’r Gymraeg a sut y gall yr iaith ein helpu i gyflawni ein diben. Bydd hyn yn orfodol i bawb i ddechrau ac i bob dechreuwr newydd, yna fel sesiwn loywi i bawb bob 2-3 blynedd.

Bydd y ddau gwrs sy'n cael eu hegluro'n fanylach ar dudalen 27 o'r adroddiad hwn yn helpu pob cydweithiwr i ddod i ddeall pwysigrwydd yr iaith yn ein gwaith o ddydd i ddydd. Fel sefydliad mae angen i ni weithio gyda ffermwyr, coedwigwyr, pysgodfeydd, a diwydiant i fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur gyda’n gilydd. Mae canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn dangos bod 43% o’r rhai sy’n gweithio yn y sector amaeth yng Nghymru yn siarad Cymraeg yn rhugl. Mae gennym negeseuon pwysig i'w rhannu ac mae angen i ni ddylanwadu a gweithio gyda'r sector hwn i gyflawni ein pwrpas, er mwyn gwneud hynny'n effeithiol mae'n rhaid i ni ei wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Bydd y ddau gwrs yn cael eu cynnal ar ein System Rheoli Dysgu newydd a bydd yn rhoi cofnod diweddar i ni o bwy sydd wedi cwblhau'r hyfforddiant a phryd.

Darparu hyfforddiant ar yr iaith, ei hanes a’i rôl yn niwylliant Cymru; Mae deall y ddyletswydd sydd gennym i weithredu yn unol â’r safonau yn un o ofynion Safon 128.

Safonau Cadw Cofnodion

Mae ein Safonau yn mynnu ein bod yn cadw cofnodion fel a ganlyn:

Nifer y gweithwyr sydd â sgiliau Cymraeg ar ddiwedd y flwyddyn dan sylw ar sail y cofnodion a gedwir yn unol â Safon 145.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae nifer ein staff wedi cynyddu gan 102 ac rydym wedi gweld cynnydd graddol yn sgiliau ieithyddol ein staff ar y rhan fwyaf o lefelau. Mae’r ganran uchaf o’n siaradwyr Cymraeg sy’n rhugl yn y Gymraeg yn ysgrifenedig ac ar lafar ar Lefel 5 (15%). Mae'r rhan fwyaf o'n siaradwyr Cymraeg rhugl (324) yn ein Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau. Yn gyffredinol, mae 784 (32%) o’n staff yn gallu trafod materion yn Gymraeg ar Lefelau, 3, 4 a 5, ac mae 94% o’n staff yn gallu dangos cwrteisi ieithyddol wrth gyfarfod a chyfarch eraill.

Mae nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl wedi codi gan 16, drwy ein proses recriwtio. Nid yw'r cynnydd canrannol o'r llynedd yn adlewyrchu hyn o ganlyniad i’r cynnydd yn niferoedd cyffredinol ein staff.

Gofynnir i staff hunanasesu eu sgiliau iaith a chofnodi yn MyNRW. Gweler sgiliau Cymraeg ein staff ym mis Mawrth 2023 isod:

  • Lefel 5 = 355 (15%)
  • Lefel 4 = 225 (9%)
  • Lefel 3 = 204 (8%)
  • Lefel 2 = 487 (20%)
  • Lefel 1 = 1034 (42%)
  • Dim sgiliau = 97 (4%)
  • Mae 46 (2%) heb hunanasesu eu sgiliau iaith hyd yma.

Anfonwyd nodyn atgoffa at y staff hynny a'u rheolwyr sydd eto i asesu eu sgiliau iaith.

Mae dadansoddiad o’n siaradwyr Cymraeg rhugl yn dangos y canlynol:

  • Mae’r mwyafrif rhwng 30-39 oed (159)
  • Mae 131 rhwng 50-59 oed
  • Mae 54 yn 60+ oed
  • Mae 316 yn ddynion a 264 yn ferched
  • Mae 90 yn gweithio'n rhan amser
  • Mae'r niferoedd uchaf ar Raddau 5 a 6 (388) ond mae'r niferoedd isaf (26) ar ein graddau uwch o 9 ac uwch.
  • Mae 33 o staff newydd yn siaradwyr Cymraeg rhugl
  • Gall 21 o ddechreuwyr newydd drafod materion yn ymwneud â gwaith yn Gymraeg
  • Mae 36 o siaradwyr Cymraeg rhugl wedi gadael yn ystod y flwyddyn adrodd hon

Atgoffwyd ein cydweithwyr sydd wedi cael cymorth i ddatblygu eu sgiliau iaith ac wedi llwyddo i godi lefel iaith yn ystod y flwyddyn adrodd i ddiweddaru eu cofnod sgiliau Cymraeg yn MyNRW. Mae hyn yn ein helpu i ddarparu ffigurau mwy cywir ar lefelau ieithyddol y sefydliad wrth adrodd.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am sgiliau Cymraeg y staff yn Atodiad 3 yr adroddiad hwn.

Nifer y staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a gynigiwyd drwy'r Gymraeg yn ystod y flwyddyn, ar sail y cofnodion a gadwyd, yn unol â Safon 146. Os cynigiwyd fersiwn Gymraeg o gwrs yn ystod y flwyddyn, canran o gyfanswm y staff a fynychodd y cwrs a fynychodd y fersiwn Gymraeg, ar sail y cofnodion a gadwyd, yn unol â Safon 124.

Yn ystod y cyfnod adrodd hwn ni chynigiwyd yr un o’r cyrsiau a restrir isod yn Gymraeg yn unol â Safon 146:

  • recriwtio a chyfweld – ni chynhaliwyd unrhyw gyrsiau
  • rheoli perfformiad – ni chynhaliwyd unrhyw gyrsiau
  • gweithdrefnau cwyno a disgyblu – ni chynhaliwyd unrhyw gyrsiau
  • rhaglen sefydlu – ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams
  • delio â'r cyhoedd – ni chynhaliwyd unrhyw gyrsiau
  • iechyd a diogelwch – hyfforddiant technegol wyneb yn wyneb

Mae'r rhan fwyaf o'n cyrsiau wedi parhau ar-lein yn ystod y cyfnod hwn, ar wahân i rai cyrsiau iechyd a diogelwch technegol.

Nifer y swyddi newydd a gwag a hysbysebwyd yn ystod y flwyddyn a gawsant eu categoreiddio fel rhai lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol, yn ddymunol, lle mae angen eu dysgu ar ôl cael eich penodi i'r swydd, neu lle nad oeddent yn angenrheidiol, ar sail y cofnodion a gadwyd ac yn unol â Safon 148.

Mae rhai swyddi gwag yn cael eu hysbysebu'n fewnol ac yn allanol ar yr un pryd. Penodwyd 314 o ymgeiswyr mewnol, 235 o ymgeiswyr allanol ac 1 secondai o gyrff cyhoeddus eraill, cyfanswm o 550.

Hysbysebir pob swydd yn gofyn am sgiliau Cymraeg Lefel 1 fel yr isafswm iaith, rhoddir hyfforddiant i staff sydd angen cyrraedd y lefel hon o ddealltwriaeth i ddangos cwrteisi ieithyddol.

Roedd nifer y swyddi a hysbysebwyd yn ystod y cyfnod adrodd hwn fel a ganlyn:

Lefel Iaith Hanfodol Dymunol Angen dysgu Cymraeg
Lefel 5 – Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig 1 0 0
Lefel 4 – Rhugl yn y Gymraeg ar lafar 19 8 0
Lefel 3 – Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg â hyder mewn rhai sefyllfaoedd gwaith 34 42 4
Lefel 1 – Y gallu i ynganu enwau, ymadroddion a chyfarchion Cymraeg sylfaenol 442 0 0

 

Mae dadansoddiad o’r ystadegau uchod a galluoedd ieithyddol staff a gafodd swyddi drwy ein proses recriwtio, yn fewnol ac yn allanol yn ystod y cyfnod adrodd hwn fel a ganlyn:

  • 82 yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 5
  • 43 yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 4
  • 56 yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 3
  • 99 yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 2
  • 242 yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 1
  • Nid oedd gan 28 unrhyw sgiliau Cymraeg

Disgwylir i’r 28 nad ydynt yn bodloni’r isafswm lefel iaith Lefel 1 sy’n ofynnol gwblhau’r cwrs 10 awr ar-lein a ddarperir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Bydd angen cwblhau'r cwrs hwn o fewn y cyfnod prawf i helpu i gyflawni'r lefel hon.

Nifer y cwynion a ddaeth i law yn ystod y flwyddyn a oedd mewn perthynas â chydymffurfio â safonau 152, 156, 162 a 164, sef safonau y mae gennym ddyletswydd i gydymffurfio â nhw.

Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, cawsom 5 cwyn, ymdriniwyd â 3 yn uniongyrchol a chwynodd 2 i Gomisiynydd y Gymraeg.

Arweiniodd 1 gŵyn o’r cyfnod adrodd diwethaf at ymchwiliad yn cael ei gynnal gan Gomisiynydd y Gymraeg yn ystod y cyfnod adrodd hwn.

Cwynion

Cwyn 1

Derbyniodd aelod o’r cyhoedd ohebiaeth uniaith Saesneg gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn hysbysu am y newid yn y modd y caiff trwyddedau pysgota eu cyhoeddi o fis Mai 2024. Aeth yr achwynydd yn uniongyrchol at Gomisiynydd y Gymraeg a holodd am y mater hwn.

Trwy drafodaethau gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, cadarnhawyd nad oeddent wedi anfon y llythyrau ar ein rhan, y penderfyniad a wnaed ganddynt oedd sicrhau bod holl ddeiliaid trwydded yn ymwybodol o'r newid hwn. Fe wnaethom egluro i staff Asiantaeth yr Amgylchedd dan sylw y dylai unrhyw ymgysylltiad yng Nghymru fod yn ddwyieithog oni bai bod dewis iaith y derbynnydd yn hysbys. Gan nad oedd yr ohebiaeth wedi cael ei hanfon gennym ni, ac o ystyried y camau a gymerwyd gennym, ni chymerodd y Comisiynydd unrhyw gamau pellach ynglŷn â’r mater hwn.

Cwyn 2

Cwynodd aelod o’r cyhoedd yn uniongyrchol i Gomisiynydd y Gymraeg yn dilyn derbyn neges destun dwyieithog ym mis Ionawr 2024 yn annog pobl i gofrestru ar gyfer ein Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd. Roedd yr achwynydd yn anhapus gyda threfn iaith y neges a dderbyniwyd a bod cyfeiriad y wefan yn uniaith Saesneg.

Fe wnaethom gydnabod yr angen i wella cynnwys y neges ym mis Rhagfyr, ond ni fu modd gweithredu'r newidiadau ar gyfer negeseuon mis Ionawr oherwydd amserlenni oedd yn gysylltiedig â gallu contractwr Asiantaeth yr Amgylchedd i'w gweithredu.

Cyflwynwyd y cais am newid i'r contractwr fel y bydd negeseuon croeso yn y dyfodol a anfonir ar gyfer y gwasanaeth hwn yn cael eu hanfon fel dwy neges ar wahân, un yn Gymraeg, ac un yn Saesneg. Bydd y System Rhybuddion Llifogydd yn anfon y neges Gymraeg yn gyntaf, ac yna'n anfon y neges Saesneg. Oherwydd ffactorau allanol y tu hwnt i'n rheolaeth, nid oes sicrwydd y bydd y neges Gymraeg yn cyrraedd ffôn cwsmeriaid cyn y neges Saesneg.

Penderfynodd Comisiynydd y Gymraeg beidio ag ymchwilio i’r mater hwn ymhellach oherwydd y camau a gymerwyd i anfon dwy neges ar wahân yn Gymraeg a Saesneg yn y dyfodol, a fyddai’n cael eu hanfon ar yr un pryd, gyda’r neges Gymraeg yn cynnwys cyfeiriad gwefan Gymraeg.

Cwyn 3

Cysylltodd aelod o’r cyhoedd â ni ar ôl gweld erthygl newyddion ar S4C mewn perthynas â rheoli traffig ym mhentref Niwbwrch ar gyfer parcio yn y goedwig. Roedd arwydd a welwyd yn y ffilm fideo yn nodi bod maes parcio traeth Niwbwrch yn llawn. Tynnodd y person ein sylw bod yr arwydd yn ffeithiol anghywir gan nad dyma'r enw cywir ar y traeth. Mae’r gwaith rheoli traffig yn yr ardal yn cael ei wneud gan drydydd parti ar ein rhan ac ar ôl edrych ar y contract nid oedd unrhyw amod wedi’i nodi mewn perthynas â’r enwau lleoedd a ddefnyddir ar yr arwyddion heblaw bod angen iddynt sicrhau bod arwyddion dwyieithog yn eu lle.

Yn dilyn cyngor gan Gomisiynydd y Gymraeg ar ddefnyddio gwirio a defnyddio enwau lleoedd hanesyddol cywir, nodwyd bod y traeth y cyfeirir ato mewn gwirionedd yn 3 thraeth ar wahân a enwir, sef Penrhos, Ro Fawr a Ro Fach. Mae'r ddau olaf wedi dod i gael eu hadnabod fel Traeth Llanddwyn, er nad ydynt ar Ynys Llanddwyn. Gan fod y maes parcio dan sylw ar gyfer y 3 thraeth, penderfynwyd sicrhau bod arwyddion dwyieithog yn y dyfodol yn datgan “mae maes parcio’r traeth yn llawn”, gan y byddai defnyddio “traeth Llanddwyn” yn unol â chais yr achwynydd hefyd yn anghywir. Bydd y gofyniad hwn yn cael ei ddatgan mewn contractau rheoli traffig yn y dyfodol.

Cwyn 4

Trwy ein ffurflen ymholiadau cawsom gŵyn ynglŷn â phanel dehongli yn ein Gwarchodfa Natur yn Abergwyngregyn lle mae’r panel yn egluro bod Afon Rhaeadr Fawr yn un o’r rhai mwyaf serth yng Nghymru a Lloegr. Roedd yr achwynydd yn anhapus â'r cyfeiriad ac yn ei weld fel ffordd o wanhau hunaniaeth Cymru a theimlai fod y gymhariaeth â Lloegr yn ddiangen.

Fe wnaethom ni ymateb i ddweud bod afonydd yn cael eu crybwyll yn aml yng nghyd-destun Cymru a Lloegr. Felly, nid yw gwneud datganiad o arwyddocâd, bod Afon Rhaeadr Fawr yn un o’r rhai mwyaf serth yng Nghymru a Lloegr, yn afresymol – mae’n rhoi syniad bod hon yn afon arbennig gyda rhinweddau unigryw. Mae dehongli treftadaeth yn ceisio datgelu ffeithiau arwyddocaol o ddiddordeb i'r darllenydd/gwyliwr, a dyma enghraifft.

Ni dderbyniwyd unrhyw ohebiaeth bellach, ac ni chymerwyd camau.

Cwyn 5 – Cwyn fewnol gan gydweithiwr

Cofnododd un o’n cydweithwyr sawl maes a rhoddodd enghreifftiau lle nad oedd gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig na’u derbyn yn rhagweithiol yn ôl y disgwyl i gydymffurfio â’n Safonau Gweithredol.

Gyda chymorth yr unigolyn, buom yn gweithio gyda meysydd o’r sefydliad i godi ymwybyddiaeth a mynd i’r afael â meysydd o ddiffyg cydymffurfio â’n Safonau Gweithredol a rhoi mesurau a phrosesau ar waith i helpu i sicrhau bod cynnig Cymraeg rhagweithiol yn cael ei gynnig ac ar gael i’n cydweithwyr.

Dros y flwyddyn nesaf fel rhan o'n gwaith i greu mwy o gyfleoedd i gydweithwyr weithio drwy gyfrwng y Gymraeg, byddwn yn cynnal proses fonitro ac yn mynd i'r afael â meysydd lle mae materion yn codi yn ystod yr ymarfer monitro.

Ymchwiliad gan Gomisiynydd y Gymraeg

Ym mis Chwefror 2023 derbyniodd aelod o’r cyhoedd ohebiaeth yn Saesneg a chwynodd yn uniongyrchol i ni. Siaradodd y Tîm dan sylw yn uniongyrchol â'r achwynydd gan sicrhau bod llythyr Cymraeg yn cael ei anfon gydag ymddiheuriad. Penderfynodd yr achwynydd gwyno i Gomisiynydd y Gymraeg a benderfynodd gynnal ymchwiliad i’r mater hwn.

Hysbysiad o Benderfyniad

Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad ein bod wedi methu â chydymffurfio â Safonau 5 a 7 mewn perthynas â'r ohebiaeth a anfonwyd. Oherwydd y camau yr oeddem eisoes wedi eu cymryd yn dilyn y gŵyn, rhoddodd y Comisiynydd gyngor ar y camau pellach y dylem eu cymryd. Fe wnaethom ni gymryd y camau canlynol fel y cynghorwyd:-

  • Cyhoeddwyd nodyn yn ein Canllaw Misol i Reolwyr i atgoffa cydweithwyr i ddefnyddio ein templedi llythyrau corfforaethol sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ac sy’n cynnwys y datganiad a nodir yn Safon 7 yn croesawu defnyddio’r Gyrmaeg wrth anfon llythyrau.
  • Nodyn i’ch atgoffa o’r pwysigrwydd wrth gychwyn gohebiaeth â’r cwsmeriaid, partneriaid, neu randdeiliaid, bod llythyrau neu e-byst yn cael eu hanfon yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn gofyn pa iaith fyddai’n well gan y person ohebu â ni, ac yn cofnodi’r dewis iaith ar ôl ei gadarnhau.
  • Gofynnwyd i reolwyr wirio bod yr holl dempledi y mae eu timau'n eu defnyddio ar y templedi corfforaethol diwygiedig a’u bod ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Cynhaliwyd archwiliad o dempledi sydd ar waith a chanfuwyd bod nifer o hen dempledi yn dal i gael eu defnyddio gan rai o'n timau.
  • Cyhoeddwyd ail erthygl yn ein Canllaw Misol i Reolwyr yn gofyn i dimau adolygu templedi tîm, sicrhau eu bod ar gael yn Gymraeg a Saesneg gan gynnwys cwestiwn yn gofyn i'r derbynnydd gadarnhau ei ddewis iaith wrth ohebu â ni.
  • Daeth asesiad dilynol o sampl o dempledi i’r casgliad bod nifer wedi’u diweddaru, gyda rhai timau’n dal i fynd drwy’r broses o ddiweddaru eu templedi a’u prosesau i sicrhau cydymffurfiaeth â’n Safonau.

Yn yr Hysbysiad o Benderfyniad daeth y Comisiynydd hefyd i’r casgliad ein bod wedi methu â chydymffurfio â Safon 128 o ran sicrhau bod yr holl weithwyr yn mynychu cwrs hyfforddi i ddatblygu eu hymwybyddiaeth o’r Gymraeg, ei hanes a’i rôl yn niwylliant Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Rhaid cadw cofnod o nifer a chanran y cydweithwyr sydd wedi mynychu'r cwrs. Mae'n ofynnol i ni ddarparu digon o dystiolaeth ysgrifenedig i fodloni'r Comisiynydd ein bod wedi cwblhau'r cam hwn erbyn 27 Mai 2024.

Mae’r camau a gymerwyd hyd yma fel a ganlyn:-

  • Dros y flwyddyn adrodd hon, mae 329 wedi derbyn hyfforddiant ar iaith, hanes a rôl y Gymraeg yn niwylliant Cymru a ddealltwriaeth o sut y gellir defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.
  • Mae dau gwrs Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg newydd wedi'u datblygu fel y nodir ar dudalen 21 yr adroddiad hwn. Bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei gynnal ar ein platfform System Rheoli Dysgu newydd a fydd yn weithredol ym mis Gorffennaf 2024, gyda’r hyfforddiant ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r ddwy sesiwn fel a ganlyn:-
    1. Bydd yr hyfforddiant ar yr iaith Gymraeg, ei hanes a’i rôl yn niwylliant Cymru yn orfodol i bawb yn y lle cyntaf, ac yn orfodol ar gyfer ein dechreuwyr newydd fel rhan o’r rhaglen e-gynefino yn ystod eu cyfnod prawf.
    2. Bydd Safonau’r Gymraeg a sut y gellir defnyddio’r iaith yn y gweithle yn orfodol i bawb yn y lle cyntaf, ac fel cwrs gloywi ar ôl cyfnod penodol yn dilyn asesiad os oes angen.

Bydd ein System Rheoli Dysgu yn rhoi cofnod i ni o bwy sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant sicrwydd bod ein holl weithwyr wedi cwblhau’r hyfforddiant hwn. Nid ydym yn galli gwneud hyn ar hyn o bryd.

Perygl diffyg cydymffurfio

Gwasanaeth Trwyddedau Pysgota ar .Gov

Rydym yn parhau â'n trafodaethau gydag Asiantaeth yr Amgylchedd ar y gwaith pellach sydd ei angen i sicrhau bod y tudalennau glanio ar gael yn Gymraeg. Mae'r gwaith hwn yn rhan o ddarn ehangach o waith y mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi'i wneud ar gyfer camau nesaf y gwasanaeth i’w cyhoeddi. Mae diweddaru'r tudalennau yn dibynnu ar ymgysylltiad rhwng Asiantaeth yr Amgylchedd a .Gov, eu prosesau, a'u hamserlenni. Cyhoeddir neges ar y dudalen lanio i hysbysu defnyddwyr y gwasanaeth y gallant brynu eu Trwydded Bysgota yn Gymraeg.

Cafwyd cadarnhad gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn ddiweddar bod y tudalennau glanio yn dal i fod yn rhan o’u cynllun gwaith, ond nid oeddent yn gallu darparu amserlen ar gyfer y gwaith. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn ymwybodol o’r mater hwn ac yn ein cefnogi gyda’r gwaith hwn.

Unwaith y bydd y gwaith uchod wedi'i wneud, bydd y gwasanaeth Prynu Trwyddedau Pysgota cyfan ar gael yn Gymraeg ac yn cydymffurfio â'n Safonau.

Hyfforddiant

Mae'r contract presennol ar gyfer ein cyrsiau diogelwch ar-lein wedi bod ar waith ers 2013 ac ar gael yn Saesneg yn unig. Yn ddiweddar, rydym wedi caffael System Rheoli Dysgu newydd a fydd yn dechrau bod yn weithredol erbyn Gorffennaf 2024. Mae'r system yn cynnwys deunydd dwyieithog a fydd yn galluogi cydweithwyr i gwblhau cyrsiau ar-lein yn Gymraeg.

Bellach mae gennym gyflenwr sy'n gallu darparu cyrsiau Cymorth Cyntaf drwy gyfrwng y Gymraeg a fydd yn cael eu hyrwyddo dros y flwyddyn i ddod.

Unwaith y bydd ein System Rheoli Dysgu yn weithredol, byddwn bron â chydymffurfio’n llawn â Safon 124. Er mwyn cydymffurfio'n llawn, mae angen i ni barhau â'n gwaith o ddatblygu ein darpariaeth Gymraeg yn ein cwrs e-gynefino i gydymffurfio'n llawn â'r Safon hon.

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg

Yn dilyn ymchwiliad a gynhaliwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg yn ystod y flwyddyn adrodd hon, lle canfuwyd na allem roi sicrwydd i’r Comisiynydd ein bod yn cydymffurfio’n llawn â Safon 128.

I fynd i'r afael â hyn, rydym wedi datblygu dau gwrs newydd fel yr eglurir ar dudalen 21 o'r adroddiad hwn a fydd yn cael eu cynnal ar ein System Rheoli Dysgu ac a fydd yn darparu adroddiadau cywir ar niferoedd a chanran y cydweithwyr sydd wedi cwblhau'r hyfforddiant. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd i’r Comisiynydd ein bod yn cydymffurfio â Safon 128.

Proses ymgynghori

Yn dilyn Tribiwnlys y Gymraeg yn 2023 a oedd yn pennu’r gwir ddehongliad o “benderfyniadau polisi” fel yr eglurir ar dudalen 14 yr adroddiad hwn. Er bod y Gymraeg yn rhan o'n Hasesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb, nid yw'r effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol wedi'u cynnwys ar hyn o bryd yn ein dogfennau ymgynghori yn ôl yr angen.

Bydd y broses yr ydym wedi’i datblygu yn dilyn cyngor gan Gomisiynydd y Gymraeg wrth asesu’r effeithiau y gallai ein darpariaeth ymgynghori ei chael ar y defnydd o’r iaith yn mynd i’r afael â’r mater hwn yn ystod y flwyddyn i ddod er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’n Safonau Llunio Polisi.

Sut rydym yn cefnogi Cymraeg 2050

Drwy ein gwaith yn gweithredu a gwella ein gwasanaethau Cymraeg, dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cyfrannu at Gynllun Gweithredu Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24 drwy wneud y canlynol:

  • Cefnogi 259 o gydweithwyr drwy ein rhaglen hyfforddiant iaith Gymraeg, i ddatblygu eu sgiliau iaith at ddibenion gwaith.
  • Mynd ati i annog y defnydd o’r Gymraeg yn fewnol.
  • Tîm Addysg ac Iechyd CNC yn darparu cyrsiau ac adnoddau addysgol trwy gyfrwng y Gymraeg, gan sicrhau defnydd o derminoleg Gymraeg safonol gyson mewn addysg amgylcheddol.
  • Trwy ein hasesiad o sgiliau Cymraeg ar gyfer swyddi gwag, sicrhau bod gennym ganran uwch o siaradwyr Cymraeg yn y rolau a’r lleoliadau cywir yn ein cadarnleoedd Cymraeg eu hiaith sy’n gallu defnyddio eu sgiliau iaith a sgwrsio’n naturiol yn Gymraeg â’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu yn yr ardaloedd hynny .
  • Trwy ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol dwyieithog, hyrwyddo ein hiaith a’n diwylliant i gynulleidfa yn y DU a thu hwnt.
  • Datblygu ein gwasanaethau digidol yn ddwyieithog o’r cychwyn cyntaf a mynd ati’n rhagweithiol i gynnig dewis iaith.
  • Sicrhau bod Enwau Lleoedd Hanesyddol yn parhau i gael eu defnyddio ar lafar ac ar gofnod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol fel rhan o’n gwaith.

Sut rydym yn cefnogi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ARWAP), gyda gweledigaeth 'Cymru sy'n wrth-hiliol erbyn 2030’.

Y Gymraeg ac Addysg: Gwneir mwy i hyrwyddo mynediad at y Gymraeg gan gymunedau ethnig lleiafrifol ym meysydd addysg, dysgu iaith, y gweithle a gweithgareddau cymunedol. Rydym yn cefnogi'r camau hyn yn y cynllun drwy:

  • Gefnogi cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg; er nad ydynt yn targedu pobl o gefndir ethnig leiafrifol yn benodol, mae'r cyrsiau ar gael i helpu'r holl staff i ddatblygu eu sgiliau iaith yn ystod amser gwaith ledled Cymru.

Cynllun Gweithredu'r Gymraeg 2023-24

Roedd y cynllun gweithredu ar gyfer 2023-24 yn cynnwys 43 o gamau gweithredu i gyd, cafodd 24 eu cwblhau, 15 ar y gweill a 4 heb eu cychwyn. Nid yw rhai o'r camau sy'n mynd rhagddynt wedi'u cwblhau oherwydd blaenoriaethau gwaith eraill. Bydd y camau gweithredu sy'n mynd rhagddynt a'r rhai nas dechreuwyd yn rhan o'r cynllun gweithredu ar gyfer 2024-25.

Cynllun Gweithredu'r Gymraeg 2024-25

Dyma’r blaenoriaethau yn ein cynllun gweithredu ar gyfer 2024-25:

  • Datblygu gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg yn ein sefydliad.
  • Gweithredu, codi ymwybyddiaeth a chefnogi cydweithwyr yn ein prosesau ymgynghori.
  • Gweithio gyda'n Tîm Dysgu a Datblygu i gynnal ein dau gwrs Hyfforddiant Iaith Gymraeg newydd ar ein System Rheoli Dysgu.
  • Adolygu cynllun polisi Safonau’r Gymraeg a pharhau i adolygu’r canllawiau i gefnogi a hysbysu cydweithwyr yn well o’r hyn y mae angen i ni ei wneud a sut.
  • Datblygu fideos hyfforddiant byr i gefnogi cydweithwyr i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg ar bob lefel a chynnal ein System Rheoli Dysgu newydd.
  • Parhau i weithio ar y 4 prosiect gyda sefydliadau cyhoeddus eraill gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg
  • Parhau i ddatblygu ein rhaglen hyfforddiant e-gynefino cyfrwng Cymraeg.
  • Parhau i weithio gyda thimau i hunan-fonitro ein cydymffurfiad â'n Safonau.

Casgliad

Rydym yn falch o’r cynnydd rydym yn parhau i’w wneud wrth weithredu ein Safonau Iaith Gymraeg, yn enwedig yn ein gwaith i gynyddu cyfleoedd i gydweithwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol. Gyda 32% o’n gweithlu’n gallu siarad Cymraeg ar Lefel 3, 4 a 5 a 10% yn datblygu eu sgiliau iaith, rydym yn deall pwysigrwydd sicrhau bod cydweithwyr yn gallu defnyddio eu sgiliau iaith yn eu gwaith o ddydd i ddydd a’r manteision daw hyn i'r sefydliad.

Mae yna rai Safonau nad ydym yn cydymffurfio'n llawn â nhw o hyd, a byddwn yn parhau i weithio i fynd i'r afael â'r meysydd hyn. Rydym yn falch ein bod yn ystod y flwyddyn hon wedi gallu mynd i'r afael â meysydd lle nad ydym wedi bod yn cydymffurfio dros y blynyddoedd.

Rydym yn parhau i dderbyn cwynion pan nad yw cwsmeriaid a chydweithwyr yn derbyn gwasanaethau yn Gymraeg gennym fel y byddent yn ei ddisgwyl. Mae hyn yn ein helpu i fynd i’r afael â meysydd problemus a rhoi mesurau ar waith i ddarparu gwell gwasanaethau ar gyfer y dyfodol ac i gydymffurfio gyda’n Safonau.

Dros y flwyddyn i ddod byddwn yn parhau â’n gwaith o wella ein gwasanaethau Cymraeg ac yn chwilio am ffyrdd o gynyddu eu defnydd trwy gydweithio ar ein prosiect gyda Chomisiynydd y Gymraeg a’r Ganolfan Gwasanaethau Digidol Cyhoeddus, sy’n canolbwyntio ar y maes hwn.

Er ein bod yn darparu arlwy ddwyieithog i’n cwsmeriaid, mae gennym dipyn o ffordd i fynd cyn ein bod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog yn ein ffyrdd o weithio’n fewnol. Mae rhan bwysig o weledigaeth Cymraeg 2050 yn ymwneud ag adnewyddu’r cysylltiad rhwng yr iaith a’r gweithle. Mae’r Gymraeg yn cael ei siarad am resymau diwylliannol, masnachol, cymdeithasol, ac emosiynol, mae hefyd yn sgil galwedigaethol hanfodol ar gyfer rhai o’n rolau ac mae angen ei hystyried fel un.

Rydym am i bawb sy’n gweithio gyda ni gael yr ymdeimlad “o berthyn” – sydd mor bwysig os ydym am gadw ein cydweithwyr sy’n siarad Cymraeg. Bydd ein gwaith i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg ar gyfer ein sefydliad yn cefnogi ein gwerthoedd a'r ymrwymiad yn ein Cynllun Corfforaethol i gynyddu cyfleoedd i gydweithwyr weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Atodiad 1 - Ystadegau Gwasanaethau Rhybuddio a Hysbysu ynghylch Llifogydd

Floodline

Mae'r tabl isod yn dangos bod canrannau bach o gwsmeriaid Cymraeg o hyd.

Floodline

The tables below shows overall there are still small percentages of Welsh Language customers.

2019-2020

Galwyr Floodline Cymraeg Saesneg
Dewis iaith 307 (3.1%) 9,652
Gwybodaeth fyw am rybuddion wedi'i recordio ymlaen llaw 95 (1.3%) 7,456
Galwadau i asiantau 25 (2%) 1,256

 

Mae data 2019-2020 o fis Gorffennaf 2019 yn unig.

2020-2021

Galwyr Floodline Cymraeg Saesneg
Dewis iaith 244 (4.1%) 5,713
Gwybodaeth fyw am rybuddion wedi'i recordio ymlaen llaw 94 (2.4%) 3,789
Galwadau i asiantau 61 (5.3%) 1,067

 

2021-2022

Galwyr Floodline Cymraeg Saesneg
Dewis iaith 176 (3.2%) 5,334
Gwybodaeth fyw am rybuddion wedi'i recordio ymlaen llaw 59 (1.6%) 3,567
Galwadau i asiantau 58 (7.4%) 729

 

2022-2023

Galwyr Floodline Cymraeg Saesneg
Dewis iaith 114 (4.4%) 2,473
Gwybodaeth fyw am rybuddion wedi'i recordio ymlaen llaw 46 (2.9%) 1,533
Galwadau i asiantau 25 (5.3%) 443

 

2023-2024

Galwyr Floodline Cymraeg Saesneg
Dewis iaith 190 (4.1%) 4673
Gwybodaeth fyw am rybuddion wedi'i recordio ymlaen llaw 37(1.5%) 2476
Galwadau i asiantau 55 (6.0%) 924

Rhybuddion Llifogydd a Gwasanaethau Perygl Llifogydd

2019-2020

Tudalen we Cymraeg Saesneg
Ymweliadau â thudalen we Rhybuddion Llifogydd 10,257 (0.95%) 1,067,767
Ymweliadau â thudalen we Perygl llifogydd pum diwrnod ar gyfer Cymru 489 (0.73%) 66,570

 

2020-2021

Tudalen we Cymraeg Saesneg
Ymweliadau â thudalen we Rhybuddion Llifogydd 6,771 (0.8%) 856,914
Ymweliadau â thudalen we Perygl llifogydd pum diwrnod ar gyfer Cymru 570 (0.3%) 174,150

 

2021-2022

Tudalen we Cymraeg Saesneg
Ymweliadau â thudalen we Rhybuddion Llifogydd 4,843 (0.5%) 1,024,179
Ymweliadau â thudalen we Perygl llifogydd pum diwrnod ar gyfer Cymru 346 (0.1%) 336,933

 

2022-2023

Tudalen we Cymraeg Saesneg
Ymweliadau â thudalen we Rhybuddion Llifogydd 2,971 (0.3%) 901,042
Ymweliadau â thudalen we Perygl llifogydd pum diwrnod ar gyfer Cymru 655 (0.2%) 335,049

 

2023-2024

Tudalen we Cymraeg Saesneg
Ymweliadau â thudalen we Rhybuddion Llifogydd

8,859 (0.7%)

1,287,764
Ymweliadau â thudalen we Perygl llifogydd pum diwrnod ar gyfer Cymru 356 (0.1%) 347,726

Atodiad 2 - Tîm Iechyd, Addysg ac Adnoddau Naturiol Ebrill 2023 – Mawrth 2024

Cylchlythyr

Mae cylchlythyr Iechyd, Addysg a Dysgu yn cael ei ddosbarthu ar wahân yn Gymraeg a Saesneg bob mis. Rhennir y newyddion diweddaraf, gwybodaeth am gyllid ac adnoddau, ynghyd ag enghreifftiau o arfer da gan grwpiau addysg ac addysgwyr o bob rhan o Gymru.

Cylchlythyr Iechyd, Addysg a Dysgu

Cyfanswm y tanysgrifwyr

Dyddiad Tanysgrifwyr
Mawrth 2023 6,842
Mawrth 2024 7,957 (+16.4%)

 

Cyfanswm nifer cyfartalog yn agor y cylchlythyr

Ystod dyddiadau Fersiwn Saesneg Fersiwn Gymraeg
18.04.23 – 18.03.24 35% 29.9%

 

Dyma rai o’r straeon gyda chysylltiad â Chymru/Cymreictod/yr iaith Gymraeg sydd wedi cael eu cynnwys dros y flwyddyn ddiwethaf:

  • Cronfeydd data rhywogaethau Cymreig chwiliadwy. Mawrth 24
  • 'Dathlwch chwedl Santes Dwynwen ym myd natur.' Ionawr 24
  • 'Traddodiadau Nadoligaidd yng Nghymru' – hefyd wedi ymddangos fel blog. Rhagfyr 23
  • 'Ydych chi'n chwilio am adnoddau addysg drwy gyfrwng y Gymraeg?' Rhagfyr 23
  • ‘Cystadleuaeth yn gwahodd disgyblion i ddathlu cynefin Cymru’ Rhagfyr 23
  • 'Chwilio drwy lyfrgell ffotograffiaeth o ansawdd uchel Croeso Cymru am ddelweddau hyrwyddo' Tachwedd 23.
  • 'Beth yw hanes naturiol Calan Gaeaf yng Nghymru?' Hydref 2023
  • 'Ysgolion Sir y Fflint yn archwilio byd natur trwy'r iaith Gymraeg' – hefyd wedi ymddangos fel blog. Mehefin 2023
  • Cadw a Chynefin. Mehefin 2023
  • Ysgol Penrhyn Dewi - gofalu’n ffyddlon am eu Cynefin - hefyd wedi ymddangos fel blog. Mai 2023
  • Dysgwyr yn cysylltu â'u cynefin – hefyd wedi ymddangos fel blog. Ebrill 2023

Blogiau ac erthyglau newyddion

Cynhyrchwyd 22 o flogiau ac eitemau newyddion yn ddwyieithog gan y tîm:

Cyfryngau cymdeithasol

Ysgrifennwyd a rhannwyd yr holl negeseuon cynlluniedig o gyfrifon X a Facebook 'Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru' yn ddwyieithog.

Dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol

Llwyfan cyfryngau cymdeithasol 13 Mawrth 2023 18 Mawrth 2024
Facebook (Grŵp Caeedig) 3,081 3,339 (+8.4)
X 3,844 4,121 (+7.2%)

 

Ebost uniongyrchol

Anfonir e-byst dwyieithog chwarterol at 6,197 o gysylltiadau (cynnydd o 3.3% ers mis Mawrth 2023) gan ddefnyddio cronfa ddata rheoli cwsmeriaid y tîm i dynnu sylw at newyddion iechyd, addysg a dysgu.

Sianeli eraill

Ysgrifennwyd erthyglau dwyieithog yn canolbwyntio ar hawliau plant i fyw mewn amgylchedd iach

gan y tîm a’u cynnwys yn y rhaglen Plant yng Nghymru: e-gylchgronau'r hydref a'r gwanwyn.

Ymgyrchoedd a digwyddiadau cenedlaethol

  • Cynhaliwyd dwy ymgyrch genedlaethol ddwyieithog yn 2023/24 – Miri Mes ac Wythnos Dysgu Awyr Agored Cymru (sy'n cael ei threfnu gennym mewn partneriaeth â Chyngor Dysgu Awyr Agored Cymru). Darparwyd hashnodau Cymraeg pwrpasol i grwpiau allu ymgysylltu drwy gyfrwng y Gymraeg pe dymunent.
  • #MiriMes
  • #WythnosDysguAwyrAgored

     Gall addysgwyr archebu lle i gymryd rhan yn y ddwy ymgyrch trwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg fel y mynnant.

Mae’r tîm ar y bwrdd cynllunio ar gyfer y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod –

Bu siaradwyr Cymraeg o'r tîm yn staffio'r ddau ddigwyddiad yn 23/24.

Cefnogi Safonau’r Gymraeg

Mae'r tîm wedi bod yn cysylltu â'n Cynghorydd Arbenigol Tîm Polisi Iaith Gymraeg, y Tîm Cyfieithu a’r Tîm Cyfathrebu i helpu i ysgrifennu canllawiau mewnol ar sut y dylid cynhyrchu fideos.

Mae aelod o’r tîm wedi gwirfoddoli i eistedd ar y grŵp llywio y mae Data Cymru yn arwain at ail-lansio Tocyn Cymru, a fydd yn darparu system archebu digwyddiadau cwbl ddwyieithog.

Mae’r tîm yn parhau i weithio’n agos gyda’r Tîm Cyfieithu ac yn gwerthfawrogi’n fawr eu cymorth a’u cefnogaeth sy’n sicrhau bod eu gwaith o safon uchel ac yn hawdd ei ddefnyddio yn y Gymraeg.

Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Adnoddau i addysgwyr ac athrawon

Mae'r holl adnoddau addysg yn gysylltiedig â'r Cwricwlwm i Gymru ac ar gael yn ddwyieithog ar y dudalen we.  Mae'r adnoddau newydd a lanlwythwyd yn ystod y flwyddyn ariannol hon wedi cynnwys:

Datblygiad proffesiynol parhaus i addysgwyr

Mae'r cysyniad o 'gynefin' yn rhedeg drwy'r Cwricwlwm i Gymru – mae pob sesiwn DPP, naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein, yn cynnwys gwybodaeth am sut mae tirwedd a daearyddiaeth Cymru wedi dylanwadu ar ei diwylliant a’i hanes. Manteisir ar gyfleoedd i hybu ac annog defnydd o'r Gymraeg ee awgrymu i addysgwyr ofyn i'w dysgwyr ymchwilio i gefndir enwau lleoedd a chefndir caneuon Cymraeg sy'n ymwneud â'r dirwedd (webinar Llwybr Arfordir Cymru).

Mae cyfranogwyr ar weminarau a chyrsiau DPP wyneb yn wyneb yn derbyn deunyddiau dwyieithog yn dilyn eu hyfforddiant gyda dolenni i fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r adnoddau a rennir.

Gweminarau

Mae fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân o weminarau yn cael eu hysgrifennu a'u datblygu. Mae'r ddau yn cael eu hyrwyddo'n gyfartal trwy sianeli marchnata a gall mynychwyr archebu lle i wrando yn eu dewis iaith. Lle bo niferoedd annigonol wedi'u harchebu i warantu cynnal gweminar, cafodd y sesiwn ei chanslo neu ei recordio heb gynulleidfa ac anfonwyd copi at yr addysgwr â diddordeb.

Defnyddiwyd Tocyn Cymru i reoli archebion gweminar yn llawn yn ddwyieithog nes iddo gau ym mis Tachwedd 2023. Mae Ticketsource, sy'n cynnig system archebu ddwyieithog gyfyngedig yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd hyd nes y bydd fersiwn newydd o Tocyn Cymru ar gael.

Ystadegau gweminar:

  • Nifer y gweminarau a hysbysebwyd i'w cyflwyno yn Gymraeg: 12
  • Nifer y gweminarau a gynhaliwyd yn Saesneg: 12
  • Nifer y gweminarau a ganslwyd neu a recordiwyd heb gynulleidfa oherwydd diffyg archebion - Cymraeg: 3
  • Nifer y gweminarau a ganslwyd neu a recordiwyd heb gynulleidfa oherwydd diffyg archebion - Saesneg: 0
  • Cyfanswm y sesiynau a archebwyd – gweminarau Cymraeg: 84
  • Cyfanswm y sesiynau a archebwyd – gweminarau Saesneg: 412

Hyfforddiant wyneb yn wyneb

  • Mae’r mwyafrif helaeth o gyrsiau DPP wyneb yn wyneb CNC yn cael eu darparu fel cyrsiau iaith Saesneg a Chymraeg ar wahân, felly gall addysgwyr archebu lle i fynychu cwrs yn eu dewis iaith.
  • Mae £165 ar gael ar gyfer cyrsiau sydd wedi'u cynnal a'u trefnu mewn partneriaeth â Techniquest/STEM Learning er mwyn i addysgwyr sy'n mynychu wneud cais amdanynt, sy'n helpu i dalu costau staff cyflenwi. Mae archebion ar gyfer y cyrsiau hyn yn cael eu gweinyddu trwy wefan STEM Learning – mae CNC yn ysgrifennu ac yn rhannu gwybodaeth ddwyieithog am gyrsiau a sut i archebu.
  • O bryd i'w gilydd cynigir cyrsiau Saesneg yn unig os yw sefydliad wedi cysylltu â ni yn gofyn i ni gynnal cwrs hyfforddi Saesneg ar gyfer eu rhanddeiliaid, neu os yw cwrs newydd yn cael ei ddatblygu a'i dreialu. Mewn achosion o’r fath, fe’i gwneir yn glir i fynychwyr y bydd yr holl adnoddau ar gael yn ddwyieithog a bod croeso iddynt sgwrsio â’n tîm yn eu dewis iaith.

Ystadegau cyrsiau hyfforddi DPP wyneb yn wyneb:

  • Nifer y cyrsiau sy'n agored i bob cwrs gyda bwrsari STEM o £165 - Wedi'u hysbysebu fel cyfrwng Saesneg: 12 (Cynhaliwyd 7)
  • Nifer y cyrsiau sy'n agored i bob cwrs gyda bwrsariaeth STEM o £165 - Wedi’u hysbysebu fel cyfrwng Cymraeg: 7 (Cynhaliwyd 0)
  • Nifer y cyrsiau wyneb yn wyneb y gofynnwyd iddynt gael eu cynnal yn Saesneg ar gyfer eu rhanddeiliaid gan bartneriaid: 4
  • Nifer y cyrsiau wyneb yn wyneb y gofynnwyd iddynt gael eu cynnal yn Gymraeg neu'n ddwyieithog ar gyfer eu rhanddeiliaid gan bartneriaid: 2
  • Nifer y cyrsiau caffael cyfrwng Cymraeg a gynhaliwyd: 4

Pryderon

Fel y nodwyd yn flaenorol gyda’n Hymgynghorydd Arbenigol Polisi Iaith Gymraeg, mae’r niferoedd sy’n mynychu sesiynau DPP a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod yn isel yn ystod 2023-2024.  Cafodd nifer o sesiynau wyneb yn wyneb eu canslo, a chynhaliwyd gweminarau heb fynychwyr neu gyda nifer fach o fynychwyr ar alwad lle cafodd y cynnwys ei recordio a’i rannu gyda’r rhai a oedd wedi dangos diddordeb. 

Mae trefnu cyrsiau yn golygu amser ac adnoddau llawer o dimau sy'n ymwneud â'r broses ee, PADGOS, Tîm Cyfieithu, Tîm Cyfathrebu Digidol, a thimau prosiect fel Prosiect Pedair Afon LIFE. Mae angen canslo lleoliadau a hyfforddwyr Cymraeg eu hiaith sydd wedi cael eu cyflogi i helpu i redeg y sesiynau gan achosi colled ariannol iddynt. Rydym yn gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg a’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i ddod o hyd i ffyrdd o fynd i’r afael â’r mater hwn.

Hyfforddiant Cymraeg yn yr awyr agored

Mae tîm PADGOS wedi bod yn gweithio ochr yn ochr ag Athrawon Ymgynghorol y Gymraeg AALl Sir y Fflint ers mis Mawrth 2022 i ddatblygu cwrs DPP wyneb yn wyneb ar gyfer addysgwyr mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg. Mae'r sesiwn hyfforddi yn rhoi syniadau i fynychwyr ar sut i gyflwyno'r patrymau iaith Gymraeg y mae'n ofynnol iddynt eu haddysgu wrth ddysgu am yr amgylchedd naturiol. Cafodd yr ail ddigwyddiad ym mis Mehefin 2023 ei ddatblygu ymhellach a dangosodd gwerthusiadau iddo gael derbyniad da. 

Mae'r tîm hefyd wedi datblygu sesiwn hyfforddi 'Cymraeg yn yr awyr agored' lefel uwch ar wahân ar gyfer addysgwyr sy'n cwblhau cyrsiau sabothol Cymraeg. Yn dilyn cais gan Gydlynydd - Cymraeg Gweithle, Ceredigion, Powys a Sir Gaerfyrddin ym Mhrifysgol Aberystwyth, cynhaliwyd cwrs cychwynnol yn Llandrindod ym mis Gorffennaf 2023.  Rhoddodd y sesiwn gyfle i’r athrawon ddysgu a datblygu eu geirfa amgylcheddol cyfrwng Gymraeg wrth roi cynnig ar weithgareddau y gallent eu cynnal ar gyfer eu dysgwyr ar ôl dychwelyd i’r ysgol.  Yn dilyn llwyddiant y sesiwn arbrofol, mae dau gwrs pellach wedi eu cynnal – un yn y Drenewydd a’r llall yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Crymlyn ar gyfer athrawon ar gwrs sabothol Cymraeg gydaPhrifysgol Cymru,Y DrindodDewi Sant.

Prentisiaethau, gwirfoddoli, profiad gwaith a lleoliadau eraill

Mae holl gyfleoedd lleoliad CNC yn cael eu hysbysebu’n ddwyieithog gyda’r holl waith papur ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.

Profiad Gwaith Myfyrwyr (SWEP)

Gydag ymholiadau’n dod i mewn gan aelodau o staff sy’n dymuno croesawu eu teulu/ffrindiau a mwy o ymholiadau allanol oherwydd adfywiad cyfleoedd profiad gwaith ar ôl Covid, penderfynodd tîm Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Plant (PADGOS) gynnal peilot ar gyfer 2023. Roedd y peilot yn cynnwys dull carfan lle cafodd amrywiaeth o gyfleoedd ar draws y busnes eu hysbysebu ar gyfer Haf 2023. 

Roedd rhai cyfleoedd yn fwy heriol nag eraill i hysbysebu, efallai oherwydd eu lleoliad a chysylltiadau trafnidiaeth ee, Bwlch Nant yr Arian. Wrth e-bostio a ffonio ysgolion yr ardal, roedd gwneud hyn trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael mwy o effaith. Roedd oedrannau'r rhai ar leoliad yn amrywio o 16 - 45.

Roedd 12 o'r ymgeiswyr yn yr ysgol uwchradd, ac 11 yn fyfyrwyr prifysgol gydag un o ganolfan hyfforddi. O'r rhai a benodwyd, roedd naw mewn ysgol uwchradd a phump yn fyfyrwyr prifysgol.

Derbyniwyd ceisiadau o sawl ardal ar draws Cymru a derbyniwyd dau gais o Loegr. O'r ymgeiswyr llwyddiannus, roedd saith o Ogledd Orllewin Cymru, pedwar o'r Canolbarth, un o'r De-orllewin, un o Ganol De Cymru ac un o Loegr (yn astudio mewn Prifysgol yn Lloegr).

Cyfleoedd Profiad Gwaith i Fyfyrwyr

  • LIFE Afon Dyfrdwy - yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg ond roedd llawer o aelodau'r tîm yn siarad Cymraeg.
  • Ynyslas – Hysbysebwyd bod y lleoliad yn cael ei ddarparu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
  • Bala - Hysbysebwyd bod y lleoliad yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
  • Coed y Brenin - Hysbysebwyd bod y lleoliad yn cael ei ddarparu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Derbyniwyd un cais Cymraeg, a dwy ffurflen werthuso Gymraeg, er bod y ddwy wedi ymgeisio yn Saesneg.
  • Derbyniwyd un ffurflen werthuso staff cyfrwng Cymraeg.
  • Roedd llawer o'r lleoliad yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg ac roedd y Rheolwr Lleoliad yn siaradwr Cymraeg rhugl.
  • Nant yr Arian - Hysbysebwyd bod y lleoliad yn cael ei ddarparu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Cyngor ac arweiniad

Mae’r tîm yn parhau i gynghori Llywodraeth Cymru, gan eu cefnogi i wireddu'r Cwricwlwm i Gymru a rôl amgylchedd naturiol Cymru o fewn hynny.

Fel aelod o fwrdd Blynyddoedd Cynnar Ynys Môn, darperir cyngor ac arweiniad ar ddefnyddio’r amgylchedd naturiol gyda phlant 0-7 oed.

Gweithio gydag eraill

Mae aelodau o'r tîm wedi gweithio mewn partneriaeth â'r canlynol i hyrwyddo'r Gymraeg:

  • Mae’r tîm yn cefnogi Gwreiddiau Gwyllt, prosiect sy’n ceisio ennyn diddordeb ym myd natur trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Rhwydwaith i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y sector amgylcheddol ac amddiffyn a hyrwyddo’r defnydd o dermau Cymraeg yn y broses o gael ei sefydlu, mae tîm PADGOS wedi cytuno i fod yn rhan o’r rhwydwaith.
  • Mae adnoddau Addysg Ddwyieithog wedi'u rhannu â Staywise Cymru i'w huwchlwytho i wefan Golau Glas lle gall gweithwyr addysg proffesiynol gael mynediad at adnoddau sy'n ymwneud ag adnoddau dysgu diogelwch personol.
  • Cyflwynodd aelod o dîm PADGOS yr hyn sydd gan y tîm i’w gynnig drwy gyfrwng y Gymraeg yn nigwyddiad Un Blaned Penaethiaid Caerdydd yn ddiweddar.
  • Rydym wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Derby i gyfieithu 'The Connection to Nature Handbook' gyda rhyw fath o weithgaredd hyrwyddo mae'n debyg Mai/Mehefin.
  • Mae’r tîm yn cefnogi’r Panel Ymgynghorwyr Addysg Awyr Agored i gyfieithu eu Canllawiau Cenedlaethol – mae fersiwn Saesneg i’w gweld yma, ac maent hefyd yn cefnogi datblygiad eu tudalennau gwe Cymraeg.

Edrych ymlaen:

  • Mae’r tîm ar hyn o bryd yn gweithio ar ddatblygu’r adnoddau addysg newydd canlynol a fydd ar gael yn ddwyieithog:

    • Datblygu eich tir ar gyfer bioamrywiaeth a dysgu
    • Cod Cefn Gwlad
    • Parc Coedwig Coed y Brenin
    • Parc Coedwig Bwlch Nant yr Arian
    • Cyngor ac arweiniad ar gyfer meithrin cysylltiad â natur ymysg babanod, plant bach, a phlant.
  • Mae dau ddyddiad wedi eu rhoi yn y dyddiadur gydag Athrawon Ymgynghorol Sir y Fflint ar gyfer 2024/25 i gynnig DPP amgylcheddol pellach i addysgwyr cyfrwng Cymraeg.

Gweithio gydag Athrawon Ymgynghorol Sir y Fflint i gynnig DPP amgylcheddol pellach i addysgwyr cyfrwng Cymraeg. Maent wedi canfod mai amgylchedd awyr agored a dysgu natur yw'r cyfrwng gorau i annog dysgwyr i siarad Cymraeg. Mae addysgwyr yn awyddus i gael mwy o syniadau i ymestyn eu geirfa amgylcheddol ac ymarfer eu Cymraeg ac angen mwy o syniadau ar sut i ddefnyddio cyflwyno Cymraeg llafar achlysurol, fel ei fod yn dod yn hollgynhwysol ac nid yn wers ar yr amserlen, gyda’r nod o’i gwneud hi mor hawdd i gymaint â phosibl i athrawon fynd allan fel y gallant.

Mae cyrsiau'n cael eu trefnu i gefnogi addysgwyr i ddechrau defnyddio'r amgylchedd naturiol i annog dysgwyr i siarad a dysgu Cymraeg. Mae addysgwyr yn awyddus i gael mwy o syniadau trwy gyfrwng y Gymraeg a bydd ein tîm yn rhoi cyfle iddynt ymestyn eu geirfa amgylcheddol ac ymarfer eu Cymraeg. Os gellir mireinio'r model hwn, y gobaith yw y gellir ei gyflwyno i siroedd eraill yng Nghymru, gan helpu i gynyddu gwybodaeth am y Gymraeg amgylcheddol a'r defnydd ohoni.

Iechyd a lles

Hyfforddiant

Mae aelodau’r tîm wedi bod yn gweithio i ddatblygu adnodd hyfforddi gweledol wedi’i dargedu at feddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy’n amlygu Presgripsiynu Cymdeithasol: Ymyriadau ar sail natur. Bydd yr adnodd hwn ar gael yn ddwyieithog.

Cynhaliwyd hyfforddiant i Feddygon Teulu dan hyfforddiant ar fanteision iechyd treulio amser yn yr amgylchedd naturiol ar gyfer Sir Fynwy (Mai 22) a Rhondda Cynon Taf (Hydref 22). Mae digwyddiad arall yn cael ei drefnu ar gyfer Mai 24 – bydd y sesiwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg, ond mae’r holl adnoddau ar gael yn ddwyieithog a bydd siaradwyr Cymraeg yn helpu ar y diwrnod. Bellach mae gan y tîm fodel y gellid ei redeg trwy gyfrwng y Gymraeg pe bai ddiddordeb. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma - Cyfoeth Naturiol Cymru / Annog meddygon teulu dan hyfforddiant i ragnodi dos mwy o natur (naturalresources.wales).

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 - Rheoliadau Asesu'r Effaith ar Iechyd (HIA).

Mae'r Tîm Iechyd, Addysg ac Adnoddau Naturiol wrthi'n datblygu dull sefydliadol yn barod ar gyfer y rheoliadau drwy brosiect Datblygu Fframwaith Asesu’r Effaith ar Iechyd. Mae aelodau ar hyn o bryd yn gweithio gyda Thîm Prosiect Dynodi Parc Cenedlaethol Gogledd-ddwyrain Cymru i Asesu’r Effaith ar Iechyd fel rhan o'r broses ddynodi, gan sicrhau bod yr holl gyfathrebu, ymgysylltu, ac adnoddau yn cael eu cynnig yn ddwyieithog.

Swyddfa Rheoli Rhaglenni

Ar hyn o bryd mae'r tîm yn gweithio drwy'r Swyddfa Rheoli Rhaglenni (PMO) i ddeall ehangder gwaith CNC a sut y gall agweddau ar y fframwaith Asesu’r Effaith ar Iechyd wella'r hyn y mae CNC yn ei wneud. Er bod y ddarpariaeth hon yn cael ei chyflwyno'n bennaf trwy gyfrwng y Saesneg, mae gwasanaeth dwyieithog ar gael.

Atodiad 3 - Hunanasesiad staff o sgiliau Cymraeg ym mis Mawrth 2024

Dyddiad Heb gwblhau datganiad Dim sgiliau iaith Gallu ynganu ymadroddion a chyfarchion sylfaenol Gallu llunio brawddegau sylfaenol Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus Siaradwr Cymraeg rhugl Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig
Mawrth 2024 46 (2%) 97 (4%) 1034 (42%) 487 (20%) 204 (8%) 225 (9%) 355 (15%)
Mawrth 2023 49 (2.1%) 98 (4.2%) 980 (41.8%) 469 (20%) 179 (7.6%) 223 (9.5%) 348 (14.8%)
Mawrth 2022 43 (2%) 88 (3.9%) 942 (41.7%) 456 (20%) 175 (7.8%) 221 (9.8%) 334 (14.8%)
Chwefror 2021 109 (4.9%) 87(3.9%) 915 (40.9%) 438 (19.6%) 153 (6.8%) 225 (10%) 310 (13.9%)
Mawrth 2020 134 (6.5%) 63 (3.1%) 820 (40.0%) 412 (20.1%) 136 (6.6%) 211 (10.3%) 275 (13.4%)

 

Niferoedd ym mis Mawrth 2024 = 2448 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg ym mis Mawrth 2024 = 580 (24%)

Niferoedd ym mis Mawrth 2023 = 2346 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg ym mis Mawrth 2023 = 571 (24.3%)

Niferoedd ym mis Mawrth 2022 = 2259 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg ym mis Mawrth 2022 = 555 (24.6%)

Niferoedd ym mis Chwefror 2021 = 2237 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg ym mis Chwefror 2021 = 535 (24%)

Niferoedd ym mis Mawrth 2020 = 2051 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg ym mis Mawrth 2020 = 486 (23.7%)

Sgiliau Cymraeg yn ôl Cyfarwyddiaeth – Mawrth 2024

Cyfarwyddiaeth Heb gwblhau datganiad Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus Rhugl ar lafar yn y Gymraeg Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig Cyfanswm
CCC 6 5 35 24 13 16 47 146
CSD 3 3 39 32 9 12 23 121
EPP 4 23 316 158 61 47 75 684
FCS 3 15 85 34 16 15 21 189
OPS 30 51 559 239 105 135 189 1308
CYFANSWM 46 97 1034 487 204 225 355 2448

Sgiliau Cymraeg yn ôl Proffil Oedran - Mawrth 2024

Oedran Heb gwblhau datganiad Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus Rhugl ar lafar yn y Gymraeg Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig Cyfanswm
<20 0 0 0 0 1 2 0 3
22 - 29 5 8 76 23 14 12 57 195
30 - 39 11 26 212 115 47 54 108 573
40 - 49 12 24 316 171 64 78 84 749
50 - 59 12 27 319 131 57 57 74 677
60 + 6 12 111 47 21 22 32 251
Cyfanswm 46 97 1034 487 204 225 355 2448

Sgiliau Cymraeg yn ôl rhyw – Gweithwyr Llawn Amser/Rhan-Amser Mawrth 2024

Rhyw Heb gwblhau datganiad Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus Rhugl ar lafar yn y Gymraeg Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig Cyfanswm
Menywod 21 48 458 253 102 97 167 1146
Llawn amser 15 39 367 186 75 72 128 882
Rhan-amser 6 9 91 67 27 25 39 264
Dynion 25 49 576 234 102 128 188 1302
Llawn amser 21 45 532 221 96 112 178 1205
Rhan-amser 4 4 44 13 6 16 10 97
Cyfanswm 46 97 1034 487 204 225 355 2448

Sgiliau Cymraeg fesul gradd - Mawrth 2024

Gradd Heb gwblhau datganiad Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus Rhugl ar lafar yn y Gymraeg Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig Cyfanswm
G1 1 0 0 0 1 1 0 5
G2 4 9 30 10 6 8 15 82
G3 3 5 43 13 3 14 27 108
G4 11 12 154 55 18 43 68 361
G5 9 28 268 104 62 60 95 626
G6 9 22 257 159 51 50 70 618
G7 3 9 150 91 41 30 38 362
G8 1 3 86 33 14 11 24 172
G9 2 2 33 17 5 6 8 73
G10 0 1 1 0 0 0 1 3
G11 1 3 10 3 1 1 7 26
SPOT 1 3 2 1 1 1 2 11
GWEITHREDOL 0 0 0 0 1 0 0 1
Cyfanswm 46 97 1034 487 204 225 355 2448

Sgiliau Cymraeg staff newydd a'r rhai sy'n gadael - Mawrth 2024

Dechreuwyr / Ymadawyr Heb gwblhau datganiad Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus Rhugl ar lafar yn y Gymraeg Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig Cyfanswm
Dechreuwyr 15 14 85 29 21 9 24 197
Ymadawyr 10 12 57 29 12 13 23 156

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf