Ein cynllun corfforaethol hyd at 2030: byd natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd

Yr her

Dylai dychmygu'r weledigaeth ‘Byd natur a phobl yn ffynnu gyda'n gilydd’ ddim bod yn anodd. 

Mae'r weledigaeth fel rhywbeth o lyfr plant - tudalennau’n llawn bryniau a mynyddoedd, coed mawreddog, dolydd gyda thoreth o fywyd gwyllt, moroedd ac afonydd yn disgleirio.



Ond mae gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru erbyn 2030 – Cymru lle mae byd natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd – yn heriol ar y naw. 

Oherwydd, ar hyn o bryd, nid yw byd natur a phobl yn ffynnu gyda'i gilydd – ddim o gwbl. O lifogydd dinistriol, tanau gwyllt a sychder i ddiflaniad rhywogaethau fel y gylfinir, a chynefinoedd yn dirywio, mae effaith yr argyfyngau hinsawdd a natur ar ein cymunedau yn amlwg i bawb.  

Mae cynhesu byd-eang a llygredd cynyddol yn dinistrio natur yng Nghymru, mae tywydd eithafol ar gynnydd, ac mae’r galw am yr adnoddau naturiol sy’n cynnal pob agwedd ar ein bywydau bellach yn drech na gallu ein planed i’w hadnewyddu.

Mae digon o dystiolaeth nawr – mwy na digon – i argyhoeddi pawb fod yr argyfyngau hinsawdd a natur hyn yn argyfyngau go iawn, a bod angen gweithredu trawsnewidiol, a hynny ar frys.

 

O ystyried y cefndir sydd ohoni, o ansicrwydd economaidd a geowleidyddol, hawdd fyddai teimlo bod maint y dasg yn llethol.

Ac eto, wrth i’r argyfyngau cysylltiedig hyn ddod yn amlycach ar agendâu gwleidyddol, yn fyd-eang ac yma yng Nghymru, rydym wedi gweld mwy o lywodraethau, busnesau a chymdeithasau yn ymuno â'r alwad i weithredu ar frys i atal dirywiad byd natur a lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, ac addasu iddynt.

Mae arweinwyr y byd wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon tan iddynt gyrraedd sero net erbyn canol y ganrif hon. Yma yng Nghymru, yr uchelgais yw cyrraedd sero net yn gynt, a chreu sector cyhoeddus sy'n garbon-niwtral erbyn 2030. Mae rhoi byd natur ar y trywydd cywir tuag at adferiad erbyn 2030 wrth galon uchelgais Llywodraeth Cymru, gan ysgogi cydweithredu i ddiogelu ac adfer byd natur.

Mae angen i’r ymrwymiadau hyn sicrhau newid parhaol, ac mae pobl Cymru yn disgwyl i ni arwain y ffordd, gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a’n partneriaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Deallwn y daw’r camau y mae’n rhaid inni oll eu cymryd i daclo’r argyfyngau natur a’r hinsawdd gyda chryn heriau i’r sectorau rydym yn gweithio gyda nhw, o ffermwyr i goedwigwyr, o bysgodfeydd i ddiwydiant. Ond credwn fod cryn gyfleoedd hefyd – cyfle inni wneud pethau’n wahanol, a bod yn fwy rhagweithiol gyda’n gilydd i ddiogelu’n planed at y dyfodol.

Roedd creu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ddeng mlynedd yn ôl yn gam beiddgar, cam a oedd yn dangos ymroddiad Llywodraeth Cymru i arwain a chyflawni ym maes yr amgylchedd yng Nghymru. 

Wrth i ni gamu i’n hail ddegawd, ac wrth i ni nesáu at garreg filltir hollbwysig 2030, mae'r profiad a'r dysgu a gafwyd dros y 10 mlynedd diwethaf wedi bod yn sbardun unigryw i ni. Yn ystod oes y cynllun corfforaethol hwn, byddwn yn defnyddio’r arfau unigryw sydd ar gael inni, ochr yn ochr â’n pwerau cyfreithiol, i sicrhau bod Cymru’n cyrraedd ei thargedau ar gyfer 2030 ac y gallwn, drwy ddefnyddio dull ‘Tîm Cymru’, wneud cyfraniad pendant i'r gwaith o fynd i’r afael â’r argyfyngau byd-eang hyn.

Gwyddom mai cyrraedd targedau 2030 yw’r cam cyntaf ar y daith i atal y dirywiad, a chyflawni targedau, nodau a cherrig milltir rhyngwladol ehangach yn 2050. Gwyddom hefyd na ellir ariannu'r buddsoddiad sydd ei angen i gyrraedd y targedau hyn o bwrs y wlad yn unig.

Yn ein cynllun corfforaethol, rydym yn nodi lle y gall CNC wneud gwahaniaeth gan ddefnyddio'r adnoddau sydd gennym, ond, hefyd, lle bydd angen inni addasu, a lle bydd angen i ni arloesi a chydweithio i sicrhau newid sy’n deg ac yn gyfiawn, gan sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Oherwydd mae cyfiawnder cymdeithasol ac adferiad amgylcheddol yn anwahanadwy – yn ddwy ochr i un geiniog. Ni allwn fynd i’r afael â’r naill heb fynd i’r afael â’r llall. Ond o fynd i'r afael â nhw gyda'i gilydd, gallwn ddychmygu dyfodol lle mae byd natur a phobl wirioneddol yn ffynnu gyda'n gilydd mewn ffordd sy'n gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae llesiant y naill a’r llall yn dibynnu ar effaith hirdymor ein penderfyniadau, ein gweithredoedd, a sut byddwn yn gofalu am yr amgylchedd.

 

Dyma’r weledigaeth a fydd yn ein hysbrydoli, yn ein hysgogi ac yn ein grymuso i ddod o hyd i’r atebion cywir ar gyfer y cymunedau rydym yn byw ac yn gweithio ynddynt bob dydd, gan rannu ein hangerdd a’n harbenigedd ag eraill, a chydnabod y gwahaniaeth y mae ein cydweithwyr yn ei wneud i lewyrch Cymru at y dyfodol.

Rydym yn gwybod beth sydd angen inni ei wneud, a sut i wneud hynny. Dyma'r amser i weithredu ac i wneud y ddegawd hon yn ddegawd o gyflawni ar gyfer byd natur a phobl yng Nghymru, a ledled y byd.

Syr David Henshaw, Cadeirydd

Clare Pillman, Prif Weithredwr



Ein Cymru – Ein Cynllun

Yng Nghymru, mae ein perthynas â byd natur wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn ein hanes a’n diwylliant. O’n tirweddau a’n morluniau i’r tir cyfoethog o dan ein traed, mae natur wedi llywio ein hunaniaeth a’n hymdeimlad o gymuned ers tro byd - felly hefyd, yn hollbwysig, ein heconomi. 

Taniwyd diwydiannau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif gan gyfoeth naturiol Cymru - gan adael hanes balch o arloesi a chymunedau yn etifeddiaeth inni. 

Yn yr unfed ganrif ar hugain, gall Cymru droi at ei hadnoddau naturiol eto – yn wynt a llanw, yn briddoedd cyfoethog ac yn hinsawdd cymedrol – y tro hwn i fod ar flaen y gad wrth inni ddatgarboneiddio ein heconomi ac adfywio'n tir. 

Cafodd cyd-ddibyniaeth hirsefydlog Cymru â byd natur sylw o’r newydd yn ystod y pandemig byd-eang, wrth i bobl droi at fannau gwyrdd a glas am gysur a dod yn fwy ymwybodol o'r cysylltiad rhwng aer glân ac iechyd. O ganlyniad i hyn, mae llywodraethau, ac eraill, wedi gosod uchelgeisiau i sicrhau adferiad gwyrdd sy’n cynnwys pawb, o bob rhan o gymdeithas.
 

Mae’r dystiolaeth yn dangos pa mor frys ac angenrheidiol yw’r ymrwymiad hwn i sicrhau adferiad gwyrdd. Mae asesiadau pwysig megis ein Hadroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (2020) ac Adroddiad Cyflwr Natur 2019 yn tanlinellu’n gyson sut mae adnoddau naturiol a bioamrywiaeth yng Nghymru yn dirywio’n sylweddol.

Mae'r hefyd yn nodi 53 o risgiau allweddol sy'n effeithio ar bob agwedd o gymdeithas – o iechyd a natur i seilwaith a busnes.

Y dystiolaeth hon sy'n gyrru'r genedl fach hon i feddwl yn ddwys am y ffordd rydym am ymateb, sut rydym am addasu, a sut rydym am liniaru.

Mae'r argyfyngau hinsawdd a natur wrth wraidd Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, gyda Gweinidogion yn casglu amrywiaeth o dasgluoedd ynghyd o dan arweiniad arbenigwyr i arwain ar archwiliadau dwfn o goed a phren, ynni adnewyddadwy a bioamrywiaeth. Mae'r arfau a ddiffinnir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) hefyd yn annog pob rhan o’r sector cyhoeddus i gydweithio i fynd i’r afael â’r argyfyngau.

Ac rydym eisoes yn gweld cynnydd. Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi lleihau, ac mae Cymru wedi cyflawni ei chyllideb garbon gyntaf (2016–2020) gyda gostyngiad o 28% mewn allyriadau.

Mae ystod eang o fentrau mewn cymunedau neu ar safleoedd penodol hefyd yn agos at gael eu cyflawni.

Rydym wedi bod yn cynyddu'n hymdrechion i gloi carbon yn ein mawndiroedd, adfer a gwella cynefinoedd ar gyfer ein rhywogaethau brodorol, a’r rhywogaethau sydd o dan y bygythiad mwyaf, drwy’r cynlluniau Natur am Byth a Rhwydweithiau Natur, a mabwysiadu dull ar raddfa dalgylch i adfer ein hafonydd.

Mae pa mor llwyddiannus fyddwn ni yn y dyfodol yn dibynnu nid yn unig ar sut byddwn ni’n arwain y ffordd, ond pa mor dda fyddwn ni, a phobl Cymru, yn cydweithio i wireddu ein huchelgeisiau ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.

Bydd gweithio mewn partneriaeth nid yn unig o fudd i’n hamgylchedd, ond gallai hefyd greu swyddi a sgiliau gwyrdd, sicrhau ein cyflenwadau bwyd a dŵr, a chefnogi iechyd y cyhoedd. Gall hefyd wella llesiant a chydnerthedd cymunedau, lleihau’r risg y bydd yr anghydraddoldeb ac allgau cymdeithasol presennol yn parhau, a sbarduno economi Cymru i ddod yn economi werdd a chyfiawn. 

Er mwyn cyflawni hyn oll, mae angen inni wrando ar amrywiaeth o leisiau, gan wybod bod gwneud penderfyniadau mwy cynhwysol, sy’n cynrychioli’r cymunedau rydym yn byw ac yn gweithio ynddynt, yn arwain at ddeilliannau gwell i bawb.

Mae hyn eisoes wedi dechrau drwy ein hymgyrch Natur a Ni, wrth inni gynnwys pobl Cymru mewn sgwrs genedlaethol am ddyfodol ein hamgylchedd naturiol.

Bydd rhai o’r sgyrsiau sydd i ddod yn rhai anodd, ond y bwriad yw datblygu gweledigaeth gyffredin ar gyfer y flwyddyn 2050 ac ystyried y newidiadau y mae angen i ni eu gwneud i’n harwain at 2030 a 2050, fel unigolion ac fel gwlad, er budd cenedlaethau heddiw, a chenedlaethau’r dyfodol.

Nododd cam cyntaf y sgwrs mai newid hinsawdd, dirywiad neu ddifodiant anifeiliaid a phlanhigion, a llygredd afonydd, llynnoedd a dŵr daear oedd tri o’r pryderon mwyaf.

Mae pobl hefyd yn cydnabod bod angen newid eu ffordd o fyw er mwyn lleihau'r effeithiau ar fyd natur, ynghyd â'r angen i feithrin perthynas pobl â byd natur, gan sicrhau ein bod hefyd yn achub ar y cyfleon hyn i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau.

Mae popeth rydym wedi'i ddysgu o'r sgwrs hon wedi ein helpu i lunio ein cynllun corfforaethol ac wedi llywio sut y byddwn yn cyflawni ein gwaith dros weddill y ddegawd dyngedfennol hon.

Yr her inni nawr yw defnyddio ein grym cyfunol, a’n sgiliau arloesi, a throi hynny’n weithredu ar lawr gwlad.

Y gwahaniaeth y gallwn ei wneud

Rydym yn gweithio dros bobl Cymru, a'n dyletswydd yw rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae’r egwyddorion arweiniol hyn yn sail i bopeth a wnawn, gan gynnwys sut rydym yn defnyddio ein cysylltiadau ac yn dod â phobl ynghyd i greu a chyflawni canlyniadau ar y cyd er budd byd natur.

Ein hegwyddorion sy’n llywio sut mae ein cydweithwyr yn addasu ac yn ymateb i anghenion amrywiol ein cymunedau a’r amgylchedd, gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar leoedd, a’r egwyddor datblygu cynaliadwy, wrth i’n gwaith gyfrannu at y saith nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae cariad ac angerdd dros fyd natur, ynghyd â gwybodaeth fanwl ac arbenigedd, a balchder ac angerdd i gefnogi cymunedau ledled Cymru i weithredu, yn agweddau rydym yn eu rhannu â llawer o sefydliadau ac unigolion eraill.

Rhannwn hefyd falchder dros gefnogi’r iaith Gymraeg, gyda’r ddealltwriaeth ei bod yn ein diffinio ni fel pobl ac fel cenedl, ac yn ein cysylltu â’n hadnoddau naturiol a’n cymunedau.

Mae’r balchder hwn, a’r hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn ein gwaith, wedi bod yn bwysig wrth ddatblygu’r cynllun corfforaethol hwn – gan sicrhau bod ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a’n gwerthoedd wedi’u llunio mewn ffordd sy’n ystyrlon ac yn cael argraff yn y ddwy iaith.

Mae’r cynllun corfforaethol hwn wedi’i lunio gyda’n cydweithwyr mewn golwg, gan adeiladu ar ein profiad a’n dysgu dros y ddegawd ddiwethaf a chan nodi ein blaenoriaethau hyd at 2030.

Rydym wedi canolbwyntio ar y mannau y gallwn ni wneud gwahaniaeth ynddynt a lle rydym yn y sefyllfa orau i wneud hynny, gan ddefnyddio'n harfau, ein pwerau, a’n hadnoddau i ysgogi gweithredu i gyflawni targedau 2030, wrth weithio gydag eraill ar yr un pryd i ddefnyddio eu grymoedd nhw i wneud gwahaniaeth.

Y tu hwnt i 2030, bydd cymdeithas yn wynebu dewisiadau anoddach o ran sut y gall Cymru wireddu ymrwymiadau 2050 ar gyfer yr hinsawdd a byd natur. Rydym yn dechrau ar y gwaith hwnnw nawr – yn nodi, profi a gwneud yr achos dros newid er mwyn ein gosod ar y llwybr cywir, ar y cyd.

Mae ein hamcanion llesiant yn mynd â ni at 2030 ac yn cwmpasu’r hyn y byddwn ni’n gallu ei gyflawni ein hunain, ond hefyd sut y byddwn yn gweithio gydag eraill i sicrhau bod Cymru’n cyrraedd y targedau rhyngwladol sy’n prysur agosáu.

Ein gweledigaeth

Byd natur a phobl yn ffynnu gyda'n gilydd.

Ein cenhadaeth

Gweithredu ar y cyd, ac yn angerddol, er mwyn:

  • adfer byd natur
  • gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd
  • atal llygredd hyd yr eithaf

a hynny drwy reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Ein gwerthoedd

Mae’n fraint inni wasanaethu pobl Cymru drwy fyw ein gwerthoedd:

  • Perthyn: rydym ni’n gwerthfawrogi ein perthynas ddofn â’n cynefin, a thir a dŵr, a natur a chymunedau Cymru, ac rydym ni’n creu partneriaethau ystyrlon
  • Beiddgar: rydym ni’n hyderus o ran defnyddio ein llais, yn gweithredu i wneud gwahaniaeth, ac yn arwain drwy osod esiampl
  • Ystyriol: rydym ni’n gwrando er mwyn deall ac yn gofalu am ein gilydd, y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, a’r cynefinoedd sy’n ein cynnal
  • Dyfeisgar: rydym ni’n archwilio ffyrdd newydd o wneud pethau, yn arloesi i gyflymu newid, ac yn defnyddio ein hadnoddau'n effeithiol

Mae'r gwerthoedd hyn yn adlewyrchu'r sefyllfa bresennol, yn ogystal â'n dyheadau ar gyfer y dyfodol. Maent yn hanfodol i gyflawni ein gweledigaeth a’n cenhadaeth yn llwyddiannus. Bydd y gwerthoedd wrth wraidd popeth a wnawn i gyflawni'r cynllun corfforaethol hwn; byddant yn rhan o’n brand, yn rhan o’r ffordd y byddwn yn adrodd straeon, yn rhan o’n dysgu a'n datblygu, ein harweinyddiaeth a'n rheolaeth. Bydd ein sgyrsiau a’n hymddygiadau gwaith yn seiliedig ar y gwerthoedd hyn.

Ein hamcanion llesiant hyd at 2030

Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd:

  • byd natur wrthi’n gwella
  • cymunedau’n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd
  • llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf

Drwy ganolbwyntio ar y tri amcan llesiant gyda'i gilydd, byddwn yn diogelu a gwella llesiant cenedlaethau’r dyfodol:

  • Natur yw carreg sylfaen llesiant Cymru – mae’n cefnogi cydlyniant a chydnerthedd cymunedol, economïau lleol cryf, cyflogaeth, dysgu, ac iechyd meddwl a chorfforol.

  • Natur yw sail cymunedau gwledig sy’n ffynnu – gyda pherthynas rhwng natur ac amaethyddiaeth gynaliadwy, coetiroedd, a’r bobl sy’n rheoli’r tir. Rhaid meithrin y berthynas hon er mwyn i Gymru gynnal dŵr glân, pridd cynhyrchiol, cyflenwad bwyd a ffeibr.

  • Heb natur, nid oes gennym unrhyw amddiffyniad rhag effeithiau’r hinsawdd. Mae byd natur sy’n ffynnu yn storio carbon ac yn lleihau’r risgiau ac effeithiau a ddaw yn sgil byd sy'n cynhesu. Mae llawer o gamau gweithredu i gefnogi adferiad byd natur hefyd yn darparu atebion a fydd yn ein helpu i liniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, ac addasu iddynt.

  • Mae atal llygredd a gwastraff hyd yr eithaf o fudd uniongyrchol i iechyd a gwytnwch natur a phobl. Gall hefyd fod o fudd i ddiwydiant a busnes, gan eu helpu i ddod yn fwy cyfrifol, gwella eu heffeithlonrwydd, a helpu i leihau costau a gwarchod swyddi a bywoliaethau.

Mae’r dystiolaeth yn dweud wrthym, drwy dargedu gweithredu ar y tri amcan llesiant hyn, y daw cyfleoedd a buddion ehangach ar gyfer y canlynol:

  • llesiant meddyliol a chorfforol
  • dysgu gydol oes a chreadigrwydd
  • creu swyddi a datblygu sgiliau

Yn eu tro, bydd y rhain hefyd yn cyfrannu at y saith nod llesiant ar gyfer Cymru rydym wedi’u hamlinellu yn ein datganiad llesiant.

Mae cymdeithas iach, hapus a chyfoethog yn un sy’n fwy tebygol o ofalu am natur a chymryd camau cadarnhaol ar gyfer ei dyfodol. Credwn y bydd helpu pobl i fyw bywydau gwell hefyd yn ein helpu i fynd i’r afael â’n hamcanion llesiant.

Ond ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain.

Ar draws ein timau, byddwn yn cydweithio â chynrychiolwyr y sector a thrwy’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i wneud y gorau o’r cyfleoedd hyn, gan sefydlu partneriaethau ystyrlon i ysgogi’r newid mawr sydd ei angen.

Mae ein hamcanion llesiant a’r camau y byddwn yn eu cymryd i’w cyflawni wedi eu datblygu ar sail ein diben sylfaenol, sef rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ynghyd â’r egwyddor o ddatblygu cynaliadwy.

Ein diben fydd sail pob cam, ond byddwn hefyd yn cydnabod y gwerth, y mewnwelediad a’r mewnbwn y gall ein cymunedau a rhannau eraill o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector eu cyfrannu ar hyd y ffordd.

Yr uchelgais sy'n rhedeg drwy ein holl ymdrechion fydd sicrhau na chaiff neb ei adael ar ôl wrth i Gymru weithredu er budd natur a'r hinsawdd. Byddai gwaethygu neu ehangu anghydraddoldebau presennol yn ein cymunedau yn groes i'r ymrwymiadau a wnaed yn y Rhaglen Lywodraethu

Am oes y cynllun hwn, a thrwy weithredu i gyflawni ein diben sylfaenol, byddwn yn canolbwyntio mwy ar gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol, ac ar degwch a chynhwysiant, gan wneud yn siŵr bod cyflawni ar gyfer cymunedau gwledig a threfol ledled Cymru wrth wraidd popeth a wnawn.



Amcan Llesiant 1: Byd natur wrthi’n gwella

Mae hyn yn golygu cymryd camau brys i atal a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth, a datblygu gallu ecosystemau i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd gan ganiatáu i natur addasu i hynny, a pharhau i fod yn sail i fywyd yn gyffredinol – hynny yw, aer glân, dŵr glân, bwyd a hinsawdd sefydlog. Mae angen i Gymru weithredu nawr er mwyn osgoi methiant trychinebus o ran ein hecosystem.

Adferiad natur sydd wrth wraidd agenda polisi Llywodraeth Cymru. Rydym ni’n cytuno â Gweinidogion sy’n mynnu bod pob rhan o gymdeithas a'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yn gweithio ar y cyd i sbarduno gweithredu parhaus dros fyd natur.

Yn y cyfnod yn arwain at COP15 ym Montreal ym mis Rhagfyr 2022, cynhaliwyd ‘Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth’ dan arweiniad Llywodraeth Cymru, gan ddatblygu cyfres o gamau gweithredu ar y cyd i ddiogelu a rheoli’n effeithiol 30% o'n tir, dŵr croyw a'r môr er budd natur erbyn 2030. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo yn y tymor hwy i ddatblygu targedau statudol ar gyfer adfer natur.

Mae'r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang, a gytunwyd ym mis Rhagfyr 2022, yn nodi pedwar nod tymor hir ar gyfer 2050 a 23 o dargedau i'w cyflawni erbyn 2030 i atal a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth erbyn 2030. Rydym wedi mapio’r camau sydd i’w cymryd gennym yn erbyn yr ymrwymiadau Cymreig a byd-eang hyn.

Fel corff amgylchedd Cymru, ni yw’r un llais cyfannol, unedig ar natur ac adnoddau naturiol. Ni, felly, fydd yn arwain y gweithredu drwy rannu ein gwybodaeth a'n harbenigedd, gan fanteisio ar wybodaeth a phrofiad pobl eraill, a chan arwain drwy esiampl wrth i ni reoli'r tir sydd yn ein gofal.
 

Byddwn ni'n manteisio i’r eithaf ar rym Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a byddwn ni’n defnyddio’n gallu i ddod â gwahanol bobl a gwahanol sefydliadau ynghyd, gan nodi cyfleoedd i weithredu, a monitro ac asesu'r effaith.

Byddwn ni'n blaenoriaethu gweithredu fel y bydd sicrwydd ynghylch adferiad natur erbyn 2030, a hynny drwy sicrhau bod:

  • byd natur yn cael ei ddiogelu
  • byd natur yn cael ei adfer
  • byd natur yn cael ei barchu a'i werthfawrogi wrth wneud penderfyniadau
  • perthynas byd natur, pobl a chymunedau yn cael ei ailsefydlu
  • CNC yn sefydliad enghreifftiol o ran bod yn bositif am natur

 

Llun o adroddiad Natur Bositif 2030 a gyhoeddwyd gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, Natural England, Cyfoeth Naturiol Cymru, NatureScot ac Asiantaeth Amgylchedd Gogledd Iwerddon.

Byddwn ni'n gwarchod natur drwy:

  • wella cyflwr nodweddion ar safleoedd daearol, morol a dŵr croyw gwarchodedig drwy ddefnyddio ein dulliau cynghori a rheoleiddio, cymhellion ariannol a monitro i werthuso effeithiolrwydd;
  • ehangu’r gwaith o ddiogelu a rheoli’n gynaliadwy er budd natur o leiaf 30 y cant o dir, dŵr croyw a’r môr, a hynny drwy nodi cyfleoedd i ehangu’r gyfres o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, a’u cysylltu’n well â’i gilydd;
  • deall sut mae ecosystemau'n ymateb ac yn addasu i’r newid yn yr hinsawdd drwy ddatblygu ein tystiolaeth i lywio ein dull gweithredu a nodi diwygiadau i'n dulliau rheoleiddio, a’n dulliau cyflawni;
  • meithrin cadernid ecosystemau, a chynnwys hynny yn y system gynllunio strategol ar gyfer tir a môr, gan gynnwys Cymru yn y Dyfodol a chynlluniau datblygu eraill, Polisi Cynllunio Cymru a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru, drwy gryfhau ein darpariaeth o gyngor a chanllawiau;
  • dylanwadu ar y datblygiad cywir yn y lle cywir i sicrhau diogelwch a gwydnwch cynefinoedd a rhywogaethau blaenoriaeth ar draws tir a môr drwy gyflwyno'r achos dros newidiadau i gynlluniau datblygu ar raddfa leol a rhanbarthol a cheisiadau cynllunio unigol;
  • diogelu rhywogaethau sydd â'r risg fwyaf o ddifodiant drwy ddefnyddio ein dulliau cynghori a rheoleiddio, gweithio mewn partneriaeth, a monitro i werthuso effeithiolrwydd;
  • atal rhywogaethau anfrodorol ymledol, plâu a chlefydau rhag cael eu cyflwyno, a’u hatal rhag lledu, a hynny drwy weithredu wedi'i gydlynu â phartneriaid strategol;
  • lleihau'r risgiau i natur o ddigwyddiadau fel ffliw adar neu ddigwyddiadau sy'n effeithio ar safleoedd neu rywogaethau gwarchodedig, a hynny drwy baratoi ar eu cyfer ac ymateb iddynt fel ymatebwr Categori 1; a
  • atal llygredd aer a dŵr rhag effeithio ar safleoedd gwarchodedig drwy nodi a gwerthuso'r cyfranwyr allweddol, fel amonia, a gweithio gyda sectorau allweddol i weithredu.

 

Byddwn yn adfer natur drwy:

  • gyflymu gwelliannau i gyflwr y Rhwydwaith Ardal Forol Warchodedig drwy fonitro ac ymchwilio'n drylwyr, drwy dystiolaeth, cyngor a gweithio gydag eraill ar gyflawni prosiectau;
  • gan ddatblygu cadernid safleoedd daearol, dŵr croyw a morol a ddiogelir, a hynny gan eu trawsnewid yn rwydweithiau mwy, gwell a mwy effeithiol, drwy ddefnyddio ein dulliau cynghori a rheoleiddio, cymhellion ariannol a monitro i werthuso effeithiolrwydd;
  • cyflymu camau ar gyfer adferiad natur ar raddfa tirwedd drwy rannu ein tystiolaeth a'n harbenigedd gyda Pharciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a phartneriaid eraill;
  • gwneud mwy o atebion sy'n seiliedig ar natur mewn ardaloedd trefol a gwledig i ddatblygu cysylltedd rhwng cynefinoedd, a sicrhau manteision lluosog i fyd natur a phobl drwy weithio gyda chynllunwyr a datblygwyr i ymgorffori hyn mewn datblygiadau; a
  • gwerthuso effeithiolrwydd yr hyn a wnawn i adfer a chysylltu natur drwy fonitro a rhannu'r data gydag eraill gan sefydlu cyfres o lwyfannau arddangos.

Byddwn ni'n sicrhau bod natur yn cael ei barchu a'i werthfawrogi wrth wneud penderfyniadau, drwy:

  • wneud y mwyaf o’r cyfleoedd ar gyfer adfer natur drwy wreiddio hynny yn holl bolisïau, strategaethau, cynlluniau, rhaglenni a phrosiectau CNC;
  • diwallu anghenion cynulleidfaoedd penodol i ysgogi gweithredu dros fyd natur drwy gasglu, cyfuno a chymharu, gwerthuso a chyfathrebu ein tystiolaeth ein hunain ac eraill;
  • prif-ffrydio adferiad natur ym mhob corff cyhoeddus drwy gydweithio i ddiffinio'r canllawiau a'r cyfleoedd i sbarduno gweithredu;
  • pennu cyfleoedd i wneud y mwyaf o weithredu ar y cyd a gwneud y mwyaf o effaith y sector cyhoeddus drwy ddefnyddio’r Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol a Datganiadau Ardal i weithio gyda'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus, awdurdodau iechyd y cyhoedd ac awdurdodau lleol;
  • sicrhau manteision a chyfleoedd niferus i fyd natur, pobl a'r economi wledig drwy gefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu a gweithredu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan ddarparu tystiolaeth ac arbenigedd;
  • ysgogi gweithredu ar gyfer rheoli tir a dŵr, a chynyddu’r gwaith hwnnw’n raddol, drwy weithio ar y cyd â sectorau allweddol i ddiffinio atebion effeithiol;
  • pennu cyfleoedd am fuddsoddiad gan y cyhoedd, y sector preifat a'r trydydd sector drwy ddatblygu platfform, neu blatfformau, ar gyfer rhannu ein tystiolaeth mewn ffordd integredig ar raddfeydd gwahanol.

 

Byddwn yn ailsefydlu’r berthynas rhwng byd natur a phobl drwy:

  • ymgysylltu â phobl i weithredu, gan greu cyfleoedd i bobl fod ym myd natur, dysgu amdano, a dod yn eiriolwyr dros natur a’r hinsawdd drwy weithio gyda'r sectorau addysg, gweithgarwch corfforol ac iechyd;
  • ysbrydoli pobl i weithredu, gan rymuso a thrawsnewid eu perthynas â byd natur drwy weithio gyda’r diwydiannau creadigol a'r sector diwylliannol;
  • sicrhau bod cymunedau lleol yn elwa ar fynediad teg i fannau gwyrdd a glas a gweithredu'n gyfrifol drwy ddarparu arweiniad a chefnogaeth, gan weithio ar y cyd â phartneriaid strategol fel Croeso Cymru ac awdurdodau lleol;
  • sicrhau bod cyfiawnder, tegwch a chynhwysiant cymdeithasol ac amgylcheddol yn hysbysu ac yn ategu ein penderfyniadau ar gyfer adfer byd natur drwy adolygu mecanweithiau cyfredol a datblygu canllawiau;
  • cynnwys gwahanol gymunedau a sectorau yn ein gwaith, drwy weithredu ar fewnwelediadau o ran ymddygiad er mwyn llywio ein dulliau gweithredu;
  • creu cyfleoedd i weithredu’n unigol ac ar y cyd er budd byd natur drwy ymgyrch gyfathrebu barhaus;
  • sicrhau bod ystod amrywiol o bobl yn gweithredu dros fyd natur drwy rannu gweledigaeth a chanlyniadau Natur a Ni i ehangu ein rhwydweithiau a chynyddu cyfranogiad;
  • meithrin gallu gweithlu Cymru i gefnogi adferiad natur drwy weithio gydag eraill i hyrwyddo sgiliau a swyddi gwyrdd;
  • adfer natur ar raddfa drwy ddatblygu partneriaethau cydweithredol, gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd dysgu ym Mhrosiect Dalgylch Conwy Uchaf a Natur am Byth.



Byddwn ni'n sefydliad enghreifftiol o ran bod yn bositif am natur drwy:

  • ddatblygu gwytnwch safleoedd sydd o werth uchel o ran natur ar y tir sydd yn ein gofal, yn enwedig ein Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a safleoedd gwarchodedig eraill, a chyfrannu at y targed ‘30 erbyn 30’ drwy  reoli pridd, dŵr  llystyfiant a phethau eraill i greu prosesau ecolegol sy’n cynnal gwerth uchel safleoedd o ran natur;
  • sicrhau bod diogelu ac adfer natur wedi'i gynnwys ym mhenderfyniadau ariannol a busnes CNC drwy weithredu'r gwersi a ddysgwyd oddi wrth eraill i sicrhau dulliau a fframweithiau effeithiol;
  • sicrhau bod adferiad byd natur yn cael ei raeadru drwy ein cadwyni cyflenwi, ein rhaglenni grantiau a’n cytundebau rheoli tir drwy ei gynnwys yn ein fframweithiau caffael ac ariannu;
  • sicrhau bod partneriaid yn cyflawni’n unol â’n hymagwedd masnach strategol drwy ardystio cynhyrchion a gwasanaethau masnachol fel rhai sy’n bositif am natur;
  • buddsoddi yn sgiliau a gallu ein cydweithwyr i fod yn llysgenhadon drwy ddarparu rhaglen hyfforddi ‘llythrennedd natur a hinsawdd’.

Sut y byddwn yn adfer natur yn ein cymunedau

I gefnogi adferiad natur, byddwn ni'n adeiladu ar ein rhwydwaith o bartneriaethau ledled Cymru, gan adlewyrchu amrywiaeth cymunedau ac adnoddau naturiol Cymru.

Yn ein saith ‘lle,’ rydym wedi gwneud ymrwymiadau drwy ein hymgysylltiad gweithredol â’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wrth ddatblygu eu cynlluniau llesiant, a thrwy gynnwys cymunedau wrth ddatblygu ein Datganiadau Ardal

Dysgwch fwy am sut rydym yn teilwra ein gwaith i adfer natur yn ein lleoedd yn y gwahanol ardaloedd o Gymru.

Amcan llesiant 2: Cymunedau yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd.

Mae hyn yn golygu cymryd camau brys i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chyflymu camau i addasu i’r newid yn yr hinsawdd, gan leihau’r risgiau a’r effeithiau i bob sector o’r economi a chyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer sector cyhoeddus sy’n garbon-niwtral erbyn 2030 a Chymru sero net erbyn 2050.

Mae Llywodraeth Cymru wedi diffinio’r cyfeiriad strategol yn Cymru Sero Net hyd at 2025, gan nodi sut y byddwn yn lleihau allyriadau fel gwlad, gyda 120 o bolisïau a chynigion wedi’u nodi ar draws pob portffolio gweinidogol a phob sector.

Ym mis Rhagfyr 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y datganiad terfynol ar gyfer y gyllideb garbon gyntaf, gan gynnwys cyfres o gant o ddangosyddion sy'n benodol i Gymru ar gyfer monitro, adrodd a dilysu'r gyllideb garbon, gan gynnwys rhai sy'n ymwneud â chylch gwaith CNC. Mae cynllun addasu cenedlaethol Cymru yn nodi’r risgiau a’r camau gweithredu sydd â blaenoriaeth ar gyfer rheoli effeithiau newid yn yr hinsawdd, gyda chynllun newydd yn cynnwys dangosyddion i ddod yn 2024. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn rhoi eglurder gwirioneddol i bob rhan o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ar y camau gweithredu sydd eu hangen.

Mae natur sy'n ffynnu yn storio carbon ac yn amddiffyniad rhag effeithiau byd sy'n cynhesu. Mae gweithredu i gefnogi adferiad byd natur yn cryfhau ein hymateb ar y cyd i’r newid yn yr hinsawdd.

Byddwn yn blaenoriaethu camau gweithredu er mwyn sicrhau, erbyn 2030, bod cymunedau’n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd, a hynny fel a ganlyn:

  • mabwysiadu atebion sy'n seiliedig ar natur yn eang
  • rheoli risgiau newid hinsawdd, ac addasu iddynt
  • lleihau allyriadau
  • pobl, cymunedau a busnesau’n gweithredu’n barhaus ar y newid yn yr hinsawdd
  • CNC yn sefydliad enghreifftiol ar gyfer creu sector cyhoeddus carbon-bositif.

Byddwn yn cynyddu graddfa’r gwaith a wneir i gyflawni atebion sy’n seiliedig ar natur drwy:

  • adfer mawndiroedd drwy’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd gan weithio gyda phartneriaid cyflawni, gan gynnwys ar y tir yn ein gofal, a defnyddio ystod o ddulliau cynghori a rheoleiddio, cymhellion ariannol a chynnal gwaith monitro i werthuso effeithiolrwydd;
  • creu coetiroedd newydd ac adfer coetiroedd hynafol drwy weithio gyda phartneriaid cyflawni, defnyddio amrywiaeth o ddulliau cynghori a rheoleiddio, cymhellion ariannol a chynnal gwaith monitro i werthuso effeithiolrwydd;
  • creu coetiroedd newydd ac adfer coetiroedd hynafol ar y tir yn ein gofal, gan gaffael tir i greu coetir dim ond i wneud iawn am goetir sydd wedi’i drosi’n barhaol at ddefnydd arall; hefyd, yn raddol, newid y coed sy’n cael eu plannu ar safleoedd coetir hynafol i rywogaethau sy’n adlewyrchiad gwell o werth cadwraeth natur a gwerth diwylliant y safle;
  • ysgogi adferiad cynefinoedd morol ac arfordirol, fel morfa heli, twyni tywod, morwellt a chreigresi wystrys brodorol, a hynny drwy weithio gyda phartneriaid cyflawni, defnyddio ystod o ddulliau cynghori a rheoleiddio, cymhellion ariannol a gwneud gwaith monitro i werthuso effeithiolrwydd;
  • cynnal, gwella ac adfer cynefinoedd ar y tir a chynefinoedd dŵr croyw i ddatblygu gwytnwch ecosystemau a sicrhau buddion cymdeithasol drwy ddefnyddio ein dulliau cynghori a rheoleiddio, cymhellion ariannol a chynnal gwaith monitro i werthuso effeithiolrwydd;
  • lliniaru effeithiau llifogydd a sychder a gwella ansawdd dŵr drwy nodi cyfleoedd ar gyfer rheoli tir a dŵr yn integredig ar raddfa dalgylch;
  • gwella cydnerthedd cymunedau trefol a gwledig a’u cysylltiad â byd natur drwy gryfhau dyluniad a hygyrchedd seilwaith gwyrdd a glas trefol, gan weithio gyda chynllunwyr a datblygwyr i gynnwys hynny mewn datblygiadau.

Byddwn yn addasu i risgiau ac effeithiau’r newid yn yr hinsawdd drwy:

  • feithrin cadernid ecosystemau, a chynnwys hynny yn y system gynllunio strategol ar gyfer tir a môr, gan gynnwys Cymru yn y Dyfodol a chynlluniau datblygu eraill, Polisi Cynllunio Cymru a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru, drwy gryfhau ein darpariaeth o gyngor a chanllawiau;
  • sicrhau bod pob datblygiad yn y dyfodol yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy ddadlau o blaid newidiadau i gynlluniau datblygu lleol a rhanbarthol a chynghori ar geisiadau cynllunio;
  • lleihau’r perygl i fywyd yn sgil lifogydd drwy reoli ein hasedau llifogydd a’n seilwaith ar gyfer perygl llifogydd nawr ac yn y dyfodol, a chynllunio ar gyfer newid drwy gynnal ac addasu’r asedau a’r seilwaith llifogydd rydym yn atebol amdanynt;
  • lleihau’r perygl i bobl a chymunedau yn sgil llifogydd o’r prif afonydd, cronfeydd dŵr, a’r môr, a hynny drwy gyflwyno cynlluniau lliniaru llifogydd;
  • lleihau'r perygl i fywyd yn sgil llifogydd drwy gyhoeddi rhybuddion llifogydd sy'n diwallu anghenion newidiol cymunedau, a chynnal a gwella'r Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd 24/7;
  • lleihau'r risgiau i bobl a natur yn sgil llifogydd a sychder drwy baratoi ar gyfer digwyddiadau, ac ymateb iddynt fel ymatebwr Categori 1;
  • meithrin gallu cymunedau, awdurdodau lleol a busnesau i wrthsefyll y risg o lifogydd nawr ac yn y dyfodol drwy wella a rhannu ein tystiolaeth i ysgogi gweithredu;
  • lleihau'r risg i fywyd yn sgil methiant cronfeydd dŵr drwy reoleiddio diogelwch cronfeydd dŵr;
  • sicrhau bod cwmnïau dŵr yn cynnal diogelwch a sicrwydd cyflenwad dŵr i gwsmeriaid drwy graffu ac adrodd i Weinidogion ar eu cynlluniau rheoli adnoddau dŵr, cynlluniau sychder a chynlluniau buddsoddi mewn seilwaith;
  • lleihau’r risgiau i’r adnoddau naturiol sydd ar y tir sydd yn ein gofal yn sgil sychder, afiechyd a phlâu, tanau gwyllt a difrod stormydd drwy amrywio rhywogaethau coed, ailstrwythuro coetiroedd a chynefinoedd eraill, a mwy o deneuo coed;
  • lleihau’r risgiau i’r asedau rydym yn eu rheoli ar y tir yn ein gofal megis tomennydd gwastraff, cronfeydd dŵr, ceuffosydd mawr a phontydd drwy gynnal a chadw ac uwchraddio’r seilwaith;
  • sicrhau gwytnwch cyfleusterau a gweithgareddau a reoleiddir drwy ddarparu tystiolaeth a chyngor fel sail i asesiadau o risgiau, effeithiau a chamau addasu mewn perthynas â’r hinsawdd.

Byddwn yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon drwy:

  • ysgogi diwydiant i fabwysiadu technoleg amgen, hynny yw technoleg carbon isel a thechnoleg dal carbon, a hynny drwy ddarparu cyngor ac arweiniad arbenigol i lywio ceisiadau am ganiatâd cynllunio a/neu drwyddedau;
  • cryfhau safonau allyriadau drwy ddadlau o blaid newid a darparu tystiolaeth yn unol â hynny i Lywodraeth Cymru;
  • ysgogi datblygiad cynlluniau ynni adnewyddadwy cynaliadwy ar y tir sydd yn ein gofal drwy weithredu ein dull masnach strategol; 
  • cefnogi datblygiad ynni adnewyddadwy cynaliadwy ar y môr ac ar y tir drwy ein tystiolaeth, ein cyngor a’n rheoliadau, gan feithrin dealltwriaeth gyffredin o’r safonau sy’n ofynnol yn y prosesau cynllunio a thrwyddedu statudol;
  • sicrhau potensial cynhyrchu pren Ystad Goed Llywodraeth Cymru drwy ddarparu pren y gellir ei gynaeafu, gan fodloni safonau byd-eang o ran rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy;
  • diogelu stociau carbon a gwneud y mwyaf o gyfleoedd atafaelu carbon drwy reoli'r tir yn ein gofal yn gynaliadwy;
  • ysgogi gweithredu ar reoli tir a dŵr yn garbon-niwtral, drwy weithio ar y cyd â sectorau allweddol i ddiffinio atebion effeithiol.

 

Byddwn yn galluogi pobl, cymunedau a busnesau i weithredu’n barhaus ar y newid yn yr hinsawdd, drwy:

  • ymgysylltu â phobl i weithredu, gan greu cyfleoedd i bobl fod ym myd natur, dysgu amdano, a dod yn eiriolwyr dros natur a’r hinsawdd drwy weithio gyda'r sectorau addysg, gweithgarwch corfforol ac iechyd;
  • ysbrydoli pobl i weithredu, gan rymuso a thrawsnewid eu perthynas â byd natur drwy weithio gyda’r diwydiannau creadigol a'r sector diwylliannol;
  • pennu cyfleoedd i wneud y mwyaf o weithredu ar y cyd a gwneud y mwyaf o effaith y sector cyhoeddus drwy ddefnyddio’r Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol a Datganiadau Ardal i weithio gyda'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus, awdurdodau iechyd y cyhoedd ac awdurdodau lleol;
  • sicrhau bod cyfiawnder, tegwch a chynhwysiant cymdeithasol ac amgylcheddol yn hysbysu ac yn ategu ein penderfyniadau o ran y newid yn yr hinsawdd drwy adolygu mecanweithiau cyfredol a datblygu canllawiau;
  • cynnwys gwahanol gymunedau a sectorau yn ein gwaith, drwy weithredu ar fewnwelediadau o ran ymddygiad er mwyn llywio ein dulliau gweithredu;
  • creu cyfleoedd i weithredu’n unigol ac ar y cyd ar y newid yn yr hinsawdd drwy ymgyrch gyfathrebu barhaus;
  • sicrhau bod ystod amrywiol o bobl yn gweithredu o ran yr hinsawdd drwy rannu gweledigaeth a chanlyniadau Natur a Ni i ehangu ein rhwydweithiau a chynyddu cyfranogiad;
  • meithrin gallu gweithlu Cymru i gefnogi gweithredu o ran yr hinsawdd drwy weithio gydag eraill i hyrwyddo sgiliau a swyddi gwyrdd;
  • diwallu anghenion cynulleidfaoedd penodol i ysgogi gweithredu dros fyd natur drwy gasglu, cyfuno a chymharu, gwerthuso a chyfathrebu ein tystiolaeth ein hunain ac eraill.

Byddwn yn sefydliad enghreifftiol ar gyfer sector cyhoeddus sy’n garbon-niwtral drwy:

  • gryfhau ein hymagwedd strategol at ddatgarboneiddio drwy ddatblygu a chyflawni cynllun sero net ar gyfer y sefydliad cyfan, gan adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd gan bartneriaid;
  • newid ein ffyrdd o weithio drwy gwblhau asesiadau risg a bregusrwydd o ran y newid yn yr hinsawdd i lywio cynllun gweithredu integredig ar gyfer addasu, gan rannu ein dysgu ag eraill;
  • sicrhau bod penderfyniadau ariannol a busnes CNC yn cynnwys y newid yn yr hinsawdd drwy weithredu’r gwersi a ddysgwyd gan eraill ar lywodraethu, dulliau a fframweithiau effeithiol;
  • cynyddu effeithlonrwydd ynni a defnyddio ynni adnewyddadwy yn ein holl adeiladau ac asedau, drwy adolygu systemau cyfredol a chymryd camau;
  • lleihau ein hôl troed carbon drwy fonitro ein defnydd a chymryd camau wrth i ni drosglwyddo i fodel gweithio hybrid;
  • lleihau allyriadau cerbydau drwy ddefnyddio cerbydau sydd ag allyriadau isel iawn lle bynnag y bo modd, a defnyddio biodiesel a mesurau effeithlonrwydd tanwydd yn y cyfamser;
  • buddsoddi yn sgiliau a gallu ein cydweithwyr i fod yn llysgenhadon drwy ddarparu rhaglen hyfforddi ‘llythrennedd natur a hinsawdd’.
  • sicrhau bod adferiad byd natur yn cael ei raeadru drwy ein cadwyni cyflenwi, ein rhaglenni grantiau a’n cytundebau rheoli tir drwy ei gynnwys yn ein fframweithiau caffael ac ariannu;

Sut y byddwn yn sicrhau y gall natur a chymunedau wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd

I gefnogi gallu cymunedau i wrthsefyll effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, byddwn ni'n adeiladu ar ein rhwydwaith o bartneriaethau ledled Cymru, gan adlewyrchu  amrywiaeth cymunedau ac adnoddau naturiol Cymru.

Yn ein saith ‘lle,’ rydym wedi gwneud ymrwymiadau drwy ein hymgysylltiad gweithredol â’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wrth ddatblygu eu cynlluniau llesiant, a thrwy gynnwys cymunedau wrth ddatblygu ein Datganiadau Ardal.  

Dysgwch fwy am sut rydym yn teilwra ein gwaith i adfer natur yn ein lleoedd yn y gwahanol ardaloedd o Gymru

 

Amcan llesiant 3: Llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf

Mae hyn yn golygu cymryd camau i atal hyd yr eithaf y pethau hynny sy’n niweidio iechyd dynol a bioamrywiaeth ac sy’n cyfrannu at allyriadau nwyon tŷ gwydr – gan leihau gwastraff ar yr un pryd drwy sicrhau bod deunyddiau’n cael eu hailddefnyddio a’u hamnewid mewn sectorau allweddol o economi Cymru.

Ni yw’r prif reoleiddiwr amgylcheddol yng Nghymru. Rydym yn gyfrifol am reoli llygredd drwy roi trwyddedau a thrwy orfodi cydymffurfedd. Mae ein data yn dangos cynnydd yn nifer yr achosion o lygredd dros y pum mlynedd diwethaf ac, ar yr un pryd, mae mwy o ymwybyddiaeth a phryder ymhlith y cyhoedd am effaith llygredd ar yr amgylchedd.

Rydym yn ymdrechu’n barhaus i wella sut rydym yn gweithio gyda busnesau a sectorau i reoli ac atal llygredd a gwastraff niweidiol hyd yr eithaf, a hynny gan ddefnyddio ein pwerau a’n dyletswyddau statudol presennol.

Mae osgoi llygredd a gwastraff yn sail i gysyniad Llywodraeth Cymru o ‘economi gylchol’ a chyfraniad hynny at sicrhau ‘sero net’ – mae cyfres o 14 o ddangosyddion i olrhain cynnydd yn hyn o beth.

Mae annog busnesau i wella eu heffeithiolrwydd a’u heffeithlonrwydd, a thrwy hynny leihau eu costau, wrth wraidd strategaeth “Mwy nag Ailgylchu” Llywodraeth Cymru. Mae angen i aelodau’r cyhoedd, yn ehangach, hefyd gydnabod eu rôl fel defnyddwyr, a mynnu mwy gan y busnesau a'r cadwyni cyflenwi y maen nhw’n prynu nwyddau ganddynt - gan ddangos nad ydynt yn fodlon goddef llygredd a gwastraff.

Byddwn yn blaenoriaethu camau gweithredu fel bod byd natur a phobl yn cael eu hamddiffyn rhag effeithiau llygredd, a byddwn yn gwneud hynny fel a ganlyn:

  • defnyddio offer a dulliau rheoleiddio, a hynny’n effeithiol
  • ymateb i ddigwyddiadau, a hynny’n seiliedig ar risg
  • defnyddio adnoddau’n effeithlon, a gwneud defnyddio deunyddiau amgen yn beth cyffredin
  • pobl, cymunedau a busnesau’n gweithredu'n barhaus i atal llygredd hyd yr eithaf
  • CNC yn bod yn sefydliad enghreifftiol o ran dim llygredd a dim gwastraff

Byddwn yn defnyddio ein dulliau rheoleiddio yn effeithiol drwy:

  • sicrhau bod y sectorau rydym yn eu rheoleiddio – gan gynnwys unrhyw weithgareddau anghyfreithlon heb drwydded – yn cymryd camau effeithiol i reoli ac atal llygredd hyd yr eithaf, ac i gynyddu effeithlonrwydd adnoddau drwy ddarparu cyngor a chanllawiau sy'n nodi'n effeithiol y safonau sy'n ofynnol;
  • atal llygredd a gwastraff hyd yr eithaf drwy weithio ar y cyd â diwydiant, ac eraill, i nodi sut y mae angen i bolisi Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth newid;
  • osgoi llygredd a gwastraff drwy archwilio dulliau arloesol gan ddefnyddio ein holl ddulliau rheoleiddio, gan gynnwys pwerau arbrofol;
  • gwella amgylchedd lleol gwael drwy weithio gydag awdurdodau lleol i ddeall y problemau a datblygu cynlluniau gweithredu ar y cyd;
  • gwella perfformiad amgylcheddol y bobl rydym yn eu rheoleiddio drwy gynghori perfformwyr gwael ar fesurau atal, a nodi’r perfformwyr gorau er mwyn iddyn nhw rannu gwersi ac arferion da;
  • atal hyd yr eithaf y risg o lygredd o gemegau drwy addasu ein dulliau rheoleiddio cemegau yn yr amgylchedd;
  • atal llygredd tir a dŵr hyd yr eithaf drwy gydweithio i ysgogi camau gweithredu cadarnhaol a chreu atebion effeithiol;
  • gwarchod yr amgylchedd a gwella perfformiad amgylcheddol cwmnïau dŵr drwy herio eu rhaglenni buddsoddi yn effeithiol i sicrhau camau gwella;
  • atal llygredd hyd yr eithaf mewn dyfroedd gwarchodedig a dynodedig drwy nodi'r camau gweithredu sy'n ofynnol gan ystod o sectorau;
  • adfer ansawdd dŵr mewn dalgylchoedd yr effeithir arnynt gan etifeddiaeth hen fwyngloddiau metel drwy ddefnyddio ein tystiolaeth a chydweithio i nodi blaenoriaethau ar gyfer gweithredu;
  • gwella ansawdd aer i bobl a byd natur drwy leihau a dileu allyriadau wrth reoleiddio diwydiant.

 

Byddwn yn ymateb i ddigwyddiadau, yn seiliedig ar risg, drwy:

  • atal niwed o ddigwyddiadau llygredd amgylcheddol, hyd yr eithaf, drwy baratoi ar gyfer digwyddiadau â blaenoriaeth ac ymateb iddynt fel ymatebwr Categori 1;
  • atal hyd yr eithaf y niwed a ddaw o sectorau penodol ac sydd mewn ardaloedd daearyddol penodol drwy ddefnyddio tystiolaeth i gymryd camau i wella cydymffurfedd;
  • atal hyd yr eithaf y niwed a ddaw o droseddau amgylcheddol difrifol drwy ymchwilio i ddigwyddiadau a chymryd camau cryf a phendant;
  • atal hyd yr eithaf y niwed a ddaw o wastraff anghyfreithlon drwy gymryd camau gydag awdurdodau lleol a phartneriaid trydydd sector i atal tipio anghyfreithlon.

Byddwn yn hybu effeithlonrwydd adnoddau a defnyddio deunyddiau amgen drwy:

  • atal gwastraff hyd yr eithaf drwy weithredu gofynion rheoliadol newydd megis cyfrifoldeb estynedig i gynhyrchwyr ac ailgylchu annomestig ac yn y sector cyhoeddus;
  • sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithlon, gan fodloni safonau penodol i sectorau drwy ddarparu cyngor ac arweiniad i gwmnïau dŵr a diwydiannau eraill;
  • ysgogi cadwyni cyflenwi i ddefnyddio pren Cymreig drwy fanteisio ar y ffaith mai ni yw’r prif gyflenwr pren sydd wedi’i gynaeafu’n gynaliadwy yng Nghymru.

 

Byddwn yn galluogi pobl, cymunedau a busnesau i gymryd camau parhaus i atal llygredd hyd yr eithaf, drwy:

  • gynyddu atebion ar sail natur mewn ardaloedd trefol a gwledig i gefnogi'r gwaith o atal llygredd, a thrwy hynny sicrhau buddion niferus i fyd natur a phobl drwy weithio gyda chynllunwyr a datblygwyr i gynnwys yr atebion hynny yn eu datblygiadau;
  • creu cyfleoedd ar gyfer gweithredu unigol ac mewn sectorau penodol drwy gynnal ymgyrch gyfathrebu barhaus;
  • nodi cyfleoedd i wneud y gorau o weithredu ac effaith gyfunol y sector cyhoeddus drwy ddefnyddio’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a Datganiadau Ardal i weithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, sefydliadau iechyd cyhoeddus, ac awdurdodau lleol;
  • diwallu anghenion cynulleidfaoedd penodol i ysgogi gweithredu er budd byd natur drwy gasglu, cyfuno, gwerthuso, a rhannu ein tystiolaeth ni a thystiolaeth eraill;
  • atal gwastraff anghyfreithlon hyd yr eithaf drwy ddatblygu a gweithredu strategaeth ar y cyd ar gyfer gwarediadau tirlenwi a gwarediadau anawdurdodedig gydag Awdurdod Cyllid Cymru;
  • ymgysylltu â phobl i weithredu, gan greu cyfleoedd i fod ym myd natur, dysgu amdano, a dod yn eiriolwyr drosto, a hynny drwy weithio gyda’r sectorau addysg, gweithgarwch corfforol ac iechyd;
  • ysbrydoli pobl i weithredu, eu grymuso a thrawsnewid eu perthynas â natr drwy weithio gyda’r diwydiannau creadigol a’r sector diwylliannol;
  • sicrhau bod cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol, tegwch a chynhwysiant yn llywio a chryfhau ein penderfyniadau i atal llygredd drwy adolygu'r mecanweithiau presennol a datblygu canllawiau;
  • cynnwys cymunedau a sectorau gwahanol yn ein gwaith, drwy gymhwyso mewnwelediadau ymddygiadol i lywio ein dulliau;
  • sicrhau bod ystod amrywiol o bobl yn gweithredu i atal llygredd hyd yr eithaf drwy rannu gweledigaeth Natur a Ni, a’r hyn sy’n deillio ohono, i ehangu ein rhwydweithiau a chynyddu cyfranogiad;
  • meithrin gallu gweithlu Cymru i gefnogi'r gwaith o atal llygredd i’r eithaf drwy weithio gydag eraill i eirioli dros sgiliau a swyddi gwyrdd.

Byddwn yn sefydliad enghreifftiol ‘dim llygredd a dim gwastraff’ drwy:

  • sicrhau bod penderfyniadau ariannol a phenderfyniadau busnes CNC yn cynnwys amcanion ‘dim llygredd a dim gwastraff’ drwy fanteisio ar y gwersi a ddysgwyd gan eraill i greu dulliau a fframweithiau effeithiol;
  • ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer cymaint o ddeunyddiau â phosibl drwy fonitro a chymryd camau wrth newid neu adnewyddu eitemau allweddol megis offer TGCh a chyfarpar diogelu personol;
  • sicrhau bod camau gweithredu ar atal llygredd yn cael eu rhaeadru a’u rhannu drwy ein cadwyni cyflenwi, ein rhaglenni grant a’n cytundebau rheoli tir, a hynny drwy gynnwys y camau yn ein fframweithiau caffael a chyllid;
  • atal, hyd yr eithaf, niwed i’r amgylchedd yn sgil llygredd ar y tir dan ein gofal drwy reoli gweithredu i safon uchel a delio’n effeithiol ag unrhyw achosion sy’n digwydd;
  • buddsoddi yn sgiliau a gallu ein cydweithwyr i fod yn llysgenhadon drwy ddarparu rhaglen hyfforddi ar gyfer llythrennedd hinsawdd a natur.

 

Sut y byddwn yn gweithio i atal llygredd a'i effeithiau hyd yr eithaf yn ein cymunedau

Bydd defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar le i atal llygredd hyd yr eithaf yn amddiffyn pobl a natur rhag niwed.

Yn ein saith lle, rydym wedi gwneud ymrwymiadau drwy ein hymgysylltu gweithredol â byrddau gwasanaethau cyhoeddus wrth ddatblygu eu cynlluniau llesiant, a thrwy gynnwys cymunedau wrth ddatblygu ein Datganiadau Ardal i atal llygredd hyd yr eithaf yn ein lleoedd.

Dysgwch fwy am sut rydym yn teilwra ein gwaith i atal llygredd hyd yr eithaf yn ein lleoedd yn y gwahanol ardaloedd o Gymru.

Sut y byddwn yn cyflawni

O’r bobl yn ein cymunedau sy'n arwain yr ymateb i achosion o lygredd neu’n cynghori ar berygl llifogydd, i’r bobl sy’n darparu gwasanaethau hanfodol eraill ym maes caffael, llywodraethu, cyfathrebu a chyllid, ein hamcanion llesiant fydd ffocws popeth a wnawn.

Rydym yn cydnabod y bydd angen newid y ffordd rydym yn gweithio i gyflawni’r amcanion llesiant hyn, ac y bydd eu cynnwys ym mhob agwedd ar ein gwaith yn cymryd peth amser. Dim ond drwy herio a datblygu arferion gwaith ac achub ar bob cyfle i wella ac arloesi y gallwn lwyddo.

Mae'r ffordd rydym yn llywodraethu'r sefydliad yn allweddol i gyflawni'r cynllun corfforaethol hwn yn llwyddiannus. Rydym yn adeiladu ar ein strwythur llywodraethu presennol i gyflwyno gwelliannau a fydd yn sicrhau y byddwn oll yn mabwysiadu'r ymddygiadau a'r ffyrdd o weithio sy'n ein galluogi i fod yn fwy effeithiol. Byddwn yn parhau i rymuso, galluogi ac ymddiried yn ein cydweithwyr ar draws y sefydliad i wneud penderfyniadau gwybodus, a hynny ar y lefel fwyaf priodol o gyfrifoldeb dirprwyedig.

Ar lefelau’r Tîm Gweithredol a’r Tîm Arwain, bydd newidiadau i'r ffordd y caiff cyfarfodydd eu trefnu a'u rheoli. Byddwn ni’n sefydlu Grŵp Cynllunio ac Adnoddau newydd gyda i oruchwylio cynllunio a dyrannu adnoddau ar draws y tri amcan llesiant.

Bydd sicrwydd ynghylch cyflawni'r cynllun hwn yn rhan allweddol o rôl y Bwrdd, ei bwyllgorau, a'r Tîm Gweithredol dros y blynyddoedd nesaf. Bydd gan bob amcan llesiant Gyfarwyddwr atebol a fydd yn darparu gweledigaeth, momentwm a sicrwydd i'r Tîm Gweithredol a'r Bwrdd ehangach.  Bydd cofrestr risg strategol newydd yn cael ei datblygu i adlewyrchu'r amcanion llesiant a'r ffyrdd newydd o weithio.

Rydym yn sefydliad o 2,400 o weithwyr, ac rydym yn rheoli cyllideb flynyddol sydd rhwng £230 miliwn a £250 miliwn. Drwy ein gweithgarwch caffael, grantiau a chytundebau rheoli tir, rydym hefyd yn bwydo rhwng £90 miliwn a £100 miliwn y flwyddyn i economi Cymru.

Er y byddwn bob amser yn dadlau o blaid mwy o fuddsoddi cyhoeddus i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a’r hinsawdd, rydym yn realistig ac yn bragmatig am argaeledd cyllid cyhoeddus ychwanegol i gyflawni ein gwaith. Mae’r heriau sy’n wynebu cyllid cyhoeddus ar hyn o bryd yn sylweddol, ac mae angen gwneud dewisiadau anodd o ran gwariant i fodloni blaenoriaethau polisi cystadleuol yng Nghymru.

Ond mae'r adnoddau sydd gennym yn sylweddol. Byddwn yn gwneud gwahaniaeth drwy fod yn graff ac yn arloesol yn y ffordd rydym yn alinio’r hyn sydd gennym a’r hyn a wnawn i gyflawni ein hamcanion llesiant yn llwyddiannus. Bydd ysgogi effeithlonrwydd a sicrhau gwerth da am arian cyhoeddus yn sail i bopeth a wnawn, gan sicrhau bod ei strwythur ariannol yn briodol ar gyfer y galw sydd arnom nawr, a chyda golwg at y dyfodol.

Bydd rheoli rhaglenni a phrosiectau'n effeithiol yn allweddol i gyflawni ar lawr gwlad, gyda'r Swyddfa Rheoli Rhaglenni yn darparu sicrwydd ac yn monitro a chraffu ar gyflawniad.

Drwy wella sut rydym yn cynllunio ein gwaith, symleiddio ein prosesau, a manteisio i’r eithaf ar dechnoleg ddigidol, byddwn yn adeiladu ar y gwasanaethau rydym yn eu darparu, ac yn eu gwella, gan ysgogi effeithlonrwydd ar gyfer ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid fel ei gilydd.

Mae arloesi’n ganolog i'r gwaith o fynd i’r afael â’r heriau mwyaf y mae’r byd yn eu hwynebu, gan gynnwys yr argyfyngau hinsawdd a natur. 

Rydym wedi ymrwymo i fabwysiadu dulliau arloesol o gyflawni ein gwaith, gan wneud hynny mewn ffordd sydd wedi’i strwythuro a’i thargedu. Bydd ein pobl a’n partneriaid yn hanfodol i gyflawni'r uchelgeisiau hyn, a byddwn yn defnyddio arbenigedd o'r tu allan i'r sefydliad i'n cefnogi.

Dim ond pan fydd cyllid ychwanegol ar gael y byddwn yn cynyddu'r ddarpariaeth, a hynny mewn ffordd strwythuredig, gan edrych ar y dibyniaethau ar draws y gwahanol wasanaethau rydym yn eu darparu.

Ein pobl

Dim ond gydag angerdd, arbenigedd a chreadigrwydd ein pobl y caiff y weledigaeth, y genhadaeth a’r amcanion sydd yn y cynllun corfforaethol hwn eu gwireddu.

Byddwn yn meithrin diwylliant o gynhwysiant sy'n denu ac yn cadw talent. Byddwn yn darparu amgylchedd gwaith cynhwysol sy'n hyrwyddo amrywiaeth ein holl gydweithwyr ac yn ei gwerthfawrogi. Byddwn yn darparu cyfleoedd i’n holl gydweithwyr ddatblygu eu potensial, eu sgiliau a’u galluoedd i’w galluogi i hyrwyddo'n gweledigaeth a’n cenhadaeth yn hyderus. Byddwn hefyd yn buddsoddi i feithrin arweinwyr cydnerth a thosturiol ar bob lefel o’r sefydliad ac i arwain yn ystyrlon i gyflawni ein hamcanion llesiant.

Byddwn yn darparu amgylchedd gwaith diogel i bawb – ein cydweithwyr, y rhai sy'n gweithio gyda ni, neu sy'n ymweld â'r tir sydd yn ein gofal – gan sicrhau bod pawb yn cyrraedd adref yn ddiogel ar ddiwedd y dydd. Mae ein hymagwedd at gynnal llesiant cydweithwyr yn un cyfannol, sy'n creu amgylchedd lle gall pawb ffynnu a gweithio ar eu gorau.

Mae’n fraint inni wasanaethu pobl Cymru, a byddwn yn parhau i ddatblygu ein ffyrdd o weithio i fod yn gynhwysol, yn gynrychioliadol ac yn hygyrch. Rydym yn croesawu ein rôl yn arwain ar weithredu Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru, gan weithio'n agos ag eraill ar draws y sector cyhoeddus i wneud gwahaniaeth.

Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi uchelgais Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a’r defnydd o’r Gymraeg. Rydym wedi ymrwymo i greu cyfleoedd a magu hyder ar draws y sefydliad, gan gefnogi ymgysylltiad yn y Gymraeg rhwng cydweithwyr yn ogystal â phartneriaid a chwsmeriaid.

Newidiodd pandemig COVID-19 ein ffordd o weithio yn sylfaenol ac, ar ôl ymgynghori'n helaeth, rydym wedi cyflwyno ein polisi arddulliau gweithio hybrid a hyblyg newydd i sicrhau y gall cydweithwyr gynnal a rheoli cydbwysedd cynhyrchiol rhwng bywyd a gwaith yn effeithiol.

Mae ein rhaglen Adfywio hefyd yn ein galluogi i archwilio sut y gallwn leihau ein costau a'n hôl troed carbon drwy ad-drefnu ein portffolio o adeiladau ledled Cymru. Wrth wneud unrhyw newidiadau i ble a sut rydym yn gweithio, byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â’r undebau llafur, ac yn gwneud ein cydweithwyr yn rhan o'r drafodaeth mor fuan â phosibl.

Ni fyddwn yn aros yn yr unfan. Bydd y ffordd rydym yn gweithio yn parhau i ddod yn fwy hyblyg, i esblygu ac addasu i baratoi ar gyfer y cyfleoedd a'r heriau a ddaw yn sgil y degawd nesaf.

Defnyddio ein harfau

Nid oes amheuaeth y bydd cyrraedd targedau a cherrig milltir rhyngwladol 2030 a 2050 yn galw am weithredu brys ac arloesol ar bob lefel.

Ac eto, mae rhai o'r ysgogiadau a'r arfau deddfwriaethol sydd ar gael i ni yn dyddio'n ôl i'r 1950au a'r 1960au ac nid ydynt bellach yn addas i fynd i'r afael â'r heriau y mae Cymru yn eu hwynebu nawr. 

Yn ystod cyfnod y cynllun corfforaethol hwn, byddwn yn parhau i gyflwyno’r achos dros newid deddfwriaethol a pholisi effeithiol ar lefel Llywodraeth Cymru ac ar lefel Llywodraeth y DU, er mwyn sicrhau bod yr arfau a’r ysgogiadau sydd gennym yn gallu sicrhau’r newid trawsnewidiol sydd ei angen ar ein hamgylchedd naturiol. 

Ar yr un pryd, byddwn yn rhoi mwy o bwyslais ar yr arfau sydd gennym eisoes i achosi'r effaith fwyaf wrth gyflawni ein hamcanion llesiant, gan ein gosod ar lwybr cadarn tuag at 2050.

Byddwn yn tanategu'r gwaith o gyflawni ein hamcanion llesiant drwy ganolbwyntio ar y canlynol:

  • tystiolaeth
  • eiriolaeth
  • gweithio gyda phobl eraill
  • cyngor
  • arwain drwy esiampl

 

Tystiolaeth

Mae ein harferion gwaith sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn llywio popeth a wnawn i gynllunio a gwneud y penderfyniadau gorau ar gyfer amgylchedd naturiol Cymru. Mae’r wybodaeth rydym yn ei chasglu, ei dehongli, ei delweddu a’i rhannu yn helpu i feithrin hyder a sicrhau cysondeb wrth i ni gyflawni blaenoriaethau allweddol ar gyfer ein hamgylchedd a’n cymunedau.

Drwy ein rhaglenni monitro, rydym yn casglu llawer iawn o ddata a thystiolaeth sy'n ein helpu i greu darlun o iechyd a chyflwr adnoddau naturiol a bioamrywiaeth Cymru.  

Rydym wedi ymrwymo i rannu’r wybodaeth hon mewn ffordd agored, dryloyw a hygyrch, gan ddefnyddio dulliau blaengar i arddangos data mewn amser real a thynnu sylw at feysydd sy’n peri pryder.

Gwyddom y bydd angen datblygu tystiolaeth newydd, dulliau newydd, a chydweithio er mwyn gallu defnyddio ein gwybodaeth allweddol yn fwy effeithiol. O'r herwydd, byddwn yn arloesi'n barhaus i fanteisio i'r eithaf ar ein hadnoddau a gwella ein dealltwriaeth o gyflwr yr amgylchedd, gan wella sut rydym yn diwallu anghenion ein cwsmeriaid.

Er mwyn helpu eraill i dargedu camau gweithredu ac ysgogi newid, byddwn yn rhoi mwy o bwyslais ar ddadansoddi a dehongli data ar wahanol raddfeydd gofodol er mwyn nodi cyflwr ein hadnoddau naturiol, newidiadau presennol a newidiadau yn y dyfodol, a'r cyfleoedd ar gyfer gweithredu integredig.

Eiriolaeth

Er mwyn gallu diogelu a rheoli amgylchedd Cymru, rydym yn ddarostyngedig i ystod eang o safonau ac egwyddorion cyfreithiol a nodir yn neddfwriaeth Cymru a’r DU a deddfwriaeth ryngwladol. O ganlyniad, rydym yn gyfrifol am gwblhau tasgau penodol o fewn fframwaith cyfreithiol sydd, ar adegau, yn gallu cyfyngu ar yr hyn y gallwn ei ddweud ar lwyfan cyhoeddus.

Ac eto, bydd cynnydd gwirioneddol mewn perthynas â'r argyfyngau hinsawdd a natur yn digwydd, nid yn unig o ganlyniad i gamau gweithredu unigol a chyfunol, ond o newidiadau i bolisi ac eiriolaeth.

Nid ydym wedi ymgymryd â rôl eirioli yn draddodiadol. Ond mae maint a brys yr her gyfunol i gyrraedd targedau a cherrig milltir rhyngwladol 2030 a 2050 yn golygu ein bod yn newid ein hagwedd.

Awn ati i gynyddu ein rôl eirioli, a hynny ar sail y dystiolaeth yn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a Natur a Ni a byddwn yn targedu ein heiriolaeth at faterion systemig penodol, gan ddatblygu cynllun clir i weithio gyda sefydliadau a phartneriaid penodol ledled Cymru i nodi’r llwybrau ar gyfer newid trawsnewidiol.

Gweithio gydag eraill

Bydd ysgogi gweithredu ar y cyd dros natur, hinsawdd a llygredd yn dibynnu ar ba mor llwyddiannus y byddwn yn defnyddio cryfder ein partneriaid a’n cwsmeriaid.

Er bod y gwaith rydym yn ei wneud yn gwneud cyfraniad lleol sylweddol i'r heriau byd-eang hyn, rydym hefyd yn cydnabod nad ni yw’r unig arbenigwyr, ac nad oes gennym yr atebion i gyd – na’r adnoddau i gyd.

Bellach mae cyfleoedd gwirioneddol i godi stêm a gwneud pethau’n wahanol, gan adlewyrchu'r amrywiaeth o safbwyntiau, mewnwelediadau a phrofiadau byw sydd gennym ni ac eraill yn y ffordd rydym yn gweithio. Rhaid inni wrando’n astud ar amrywiaeth o leisiau, yn enwedig lleisiau ar y cyrion – i ddeall a dod â phobl ynghyd i adeiladu partneriaethau ystyrlon.

Rydym yn cydnabod bod dod yn economi sy’n ymateb yn effeithiol i’r argyfyngau hinsawdd a natur yn darparu cyfle ac yn fygythiad i lawer o’r sectorau rydym yn gweithio gyda nhw, o ffermwyr i goedwigwyr, i bysgodfeydd a diwydiant.

Rhaid i ni weithio ar y cyd â'r sectorau gwahanol hyn i gyfuno ein dealltwriaeth, ein gwybodaeth a'n harbenigedd i feithrin ymddiriedaeth a sicrhau newid gwirioneddol gyda'n gilydd. Bydd adeiladu a chryfhau partneriaethau yn hollbwysig, a gan fod adnoddau'n gyfyngedig, rydym yn gwybod y bydd angen i ni fod yn fwy bwriadus a thargedu ein hymagwedd os ydym am adfer a gwella'r amgylchedd naturiol rydym i gyd yn dibynnu arno.

Cyngor

Mae yna awydd cynyddol yn bodoli i fod eisiau gwybod sut i wneud ein rhan wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd a difrod amgylcheddol. 

Ac eto, mae addasu i sefyllfa lle mae gweithredu dros natur, hinsawdd a llygredd yn rhywbeth cwbl naturiol yn golygu newid sylweddol mewn diwylliant ac ymddygiad ym mhob rhan o'r gymdeithas.

Mae rhai busnesau a diwydiannau eisoes yn ymateb i ofynion newidiol defnyddwyr. Ac eto, mae eraill yn arafach i weithredu, a bydd rhai ond yn gweithredu mewn ymateb i ymyrraeth gan y llywodraeth.

I roi hwb i’r newid hwn sydd ddirfawr ei angen a’i gefnogi, byddwn yn gweithio gyda sectorau penodol, gan rannu ein tystiolaeth a’n harbenigedd ar yr hyn sydd yn dda. Byddwn yn buddsoddi amser yn datblygu ein harfau cynghori a chyfarwyddyd rheoleiddio, gan brofi ein dull gweithredu gyda busnesau a chynrychiolwyr o'r sector.

Byddwn yn parhau i addasu ein dulliau rheoleiddio, gan fyfyrio ar adborth gan gwsmeriaid a chymhwyso ein pwerau statudol yn gymesur. Byddwn hefyd yn parhau i gynghori Llywodraeth Cymru ar y cyfleoedd i foderneiddio polisi a deddfwriaeth reoleiddiol.

Rydym yn annog busnesau a datblygwyr i ymgysylltu â ni’n gynnar bob amser i sicrhau bod anghenion yr amgylchedd yn cael eu hadlewyrchu wrth ddylunio ceisiadau o’r cychwyn cyntaf. Bydd defnyddio’r dystiolaeth ac egluro'r risgiau a’r effeithiau sy’n gysylltiedig â datblygiad yn rhagweld problemau a all godi yn ddiweddarach pan fydd datblygwyr yn ceisio caniatâd cynllunio neu drwyddedau.

Byddwn yn archwilio modelau cyflwyno amgen ar gyfer darparu cyngor cyn gwneud cais, yn ogystal â gwella ein gwasanaethau digidol i’w gwneud yn haws i gwsmeriaid ddod o hyd i’r wybodaeth berthnasol a chael mynediad at ein gwasanaethau.

Arwain drwy esiampl

Ni fydd bwrw ymlaen â’n gweledigaeth a’n cenhadaeth yn hawdd, ac rydym yn realistig ynglŷn â maint yr her a’r dewisiadau anodd y byddwn yn eu hwynebu.

Ond os ydym am gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer pobl Cymru a’r amgylchedd, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn rhoi’r cwsmer wrth wraidd popeth a wnawn.

Pan fyddwn yn ystyried sut i ddylunio a darparu ein gwasanaethau, byddwn yn gwrando’n astud ar adborth gan gydweithwyr a’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau ar yr hyn sydd bwysicaf iddyn nhw, beth sy’n gweithio, a beth sydd ddim. Byddwn yn gweithredu ar yr adborth hwn, gan ddarparu gwasanaeth personol a phroffesiynol i wella gwasanaethau yn unol â'n strategaethau digidol ac ar gyfer ein cwsmeriaid.

Er mwyn sicrhau cyn lleied o darfu ar ein gwasanaethau, byddwn yn parhau i ddiweddaru ein cynlluniau parhad busnes, gan ddysgu o'n profiad o bandemig Covid-19 yn ogystal â phrofiad pobl eraill o ymosodiadau seiber.

Byddwn yn parhau i fuddsoddi i wella ein gwasanaethau digidol, yn unol â Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i ddyluniad hyblyg sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr er mwyn gwella ein gwasanaethau digidol yn barhaus.

Bydd unrhyw waith ailgynllunio a gaiff ei wneud i'n gwasanaethau yn unol ag anghenion y defnyddwyr bob amser, a fydd yn ei gwneud yn haws ac yn symlach iddynt wneud y peth iawn, heb gymryd gormod o'u hamser nhw na'n hamser ninnau.

Rydym yn cydnabod y gallwn wneud mwy hefyd i ddefnyddio ein grym prynu i gael effaith.

Rydym yn gwario rhwng £90 miliwn a £100 miliwn bob blwyddyn ar nwyddau a gwasanaethau ledled Cymru, ac mae 80% o’n hôl troed carbon sefydliadol wedi’i wreiddio yn ein cadwyn gyflenwi.

Byddwn yn mynd gam ymhellach i sicrhau bod ein fframweithiau caffael a chyllid yn ysgogi camau gweithredu cadarnhaol ar draws ein cadwyni cyflenwi i gyflawni canlyniadau nad ydynt yn niweidio’r amgylchedd naturiol.

Bydd rhan o’r broses honno’n cynnwys cyflwyno newidiadau i ymgorffori datgarboneiddio yng nghamau allweddol ein cylch prynu ac ariannu o'i ddechrau i'w ddiwedd, gan gynnwys yn ystod y broses o reoli contractau.

Nid yw'r broses o gynnwys adferiad byd natur ac atal llygredd hyd yr eithaf yn y fframweithiau ariannu mor bell ymlaen.

Serch hynny, rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad ydym yn dadleoli effeithiau bioamrywiaeth ein gweithgareddau busnes ein hunain i wledydd eraill. Ein huchelgais yw diddymu datgoedwigo o’n cadwyni cyflenwi a'u gwneud yn rhydd o blastig untro, a byddwn yn ffafrio defnyddio nwyddau a deunyddiau wedi’u hailgylchu a’u hail-bwrpasu cymaint ag sy’n ymarferol bosibl.

Fframwaith perfformiad

Mae ein hamcanion llesiant wedi’u llunio ar sail ystod o dargedau a dangosyddion rhyngwladol a phenodol i Gymru ar gyfer 2030 a 2050, fel a ganlyn:

  • dangosyddion llesiant Cymru
  • targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer sector cyhoeddus sy’n garbon-niwtral erbyn 2030 a Chymru sero net erbyn 2050
  • cyfres Llywodraeth Cymru o 100 o ddangosyddion penodol i Gymru ar gyfer monitro, gwirio, ac adrodd ar y gyllideb garbon
  • dangosyddion ‘Mwy nag ailgylchu’ Llywodraeth Cymru
  • ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiogelu a rheoli’n effeithiol 30% o’r tir, dŵr croyw a’r môr er budd byd natur erbyn 2030, gan gynnwys datblygu targedau adfer natur statudol
  • cytundeb y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang i atal colli bioamrywiaeth erbyn 2030, gyda byd natur yn ffynnu erbyn 2050
  • yr asesiad o fioamrywiaeth sydd wedi’i gynnwys yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020

Mae’r dangosyddion a’r targedau hyn yn gosod y cyd-destun ar gyfer sefyllfa Cymru ar hyn o bryd, ac yn nodi’r trywydd y bydd angen i Gymru ei ddilyn i gyrraedd y targedau byd-eang ar gyfer 2030 a 2050. Er mai Llywodraeth Cymru fydd yn atebol am gyrraedd y targedau a dangosyddion hyn, bydd angen ymdrech ar y cyd ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.

Rydym wedi nodi sut mae’r dangosyddion a’r targedau hyn yn cyd-fynd â’n hamcanion llesiant ond cydnabyddwn mai un o lawer o sefydliadau a fydd yn cyfrannu at eu cyflawni ydym ni.

Yn y cynllun corfforaethol hwn, cydnabyddwn fod angen i ni ganolbwyntio ar fesur ein perfformiad ac effaith ein hun wrth gyflawni ein hamcanion llesiant ni a’r camau i’w cymryd, fel y gallwn gael ein dwyn i gyfrif gan Weinidogion a phobl Cymru.

Credwn fod angen i’n dangosyddion adlewyrchu’r buddion ehangach niferus a gyflawnir drwy ein gwaith ar gyfer pobl, natur a’r hinsawdd ac o ran atal llygredd hyd yr eithaf.

Er enghraifft, bydd atebion sy’n seiliedig ar natur, megis adfer mawndir a chreu coetiroedd o dan yr amcan llesiant yr hinsawdd, yn dod â buddion ehangach i natur a phobl. Mae hyn yn cynnwys lleihau allyriadau carbon, sicrhau buddion o ran addasu i’r hinsawdd, yn ogystal â darparu cyfleoedd i bobl ymgysylltu â byd natur. Rhaid i’r persbectif ehangach, integredig hwn lywio ein dewis o ddangosyddion.

Sut gall atebion sy’n seiliedig ar natur ddarparu buddion ehangach ar gyfer natur, yr hinsawdd, a phobl.

Gwyddom fod angen i ni herio ein hunain i ddewis dangosyddion sy’n ysgogi’r newid rydym am ei weld yn deillio o’n hamcanion llesiant. Mae hyn yn golygu gwneud newid radical i’n dull gweithredu, gan symud i ffwrdd o feysydd lle mae data ar gael yn hawdd i ni, i adlewyrchu’r persbectif ehangach hwn. Mae perygl gwirioneddol, drwy ddefnyddio dangosyddion ar un mater penodol dim ond oherwydd bod gennym y data, y byddwn yn methu â thynnu sylw at yr hyn sydd bwysicaf, ac felly y byddwn yn tanseilio ein ffocws ar fanteisio i’r eithaf ar y buddion niferus i natur, pobl, yr hinsawdd, a sut rydym yn atal llygredd a’i effeithiau hyd yr eithaf.

Credwn y bydd y cyfuniad o ddangosyddion meintiol ac ansoddol, ynghyd â naratif ategol, yn darparu persbectif integredig o effaith ein gwaith, a’r buddion ddaw yn ei sgil.

Rhaid i ni allu tynnu sylw at y manteision niferus sy’n deillio o’r hyn a wnawn. O ganlyniad, bydd dangosyddion i fonitro cyflawniad y cynllun corfforaethol hwn yn cael eu hadrodd i Weinidogion ymhen chwe mis, gydag is-grŵp o Fwrdd CNC yn arwain y gwaith datblygu. Wedyn, byddwn yn cyhoeddi’r dangosyddion perfformiad fel atodiad i’n cynllun corfforaethol.

Dros y 12 i 18 mis nesaf, byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i lunio a llywio’r targedau a’r dangosyddion, gan gydnabod y bydd angen i’n fframwaith perfformiad ymateb i ganlyniadau’r canlynol:

  • ein hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol, a’r gwaith y byddwn yn ei wneud i ddeall effeithiau cymdeithasol ein gwaith;
  • datblygiad dangosyddion perfformiad gan Lywodraeth Cymru, yn ymwneud â phedwar nod rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, a ddisgwylir yn 2024;
  • datblygiad targedau adfer natur statudol gan Lywodraeth Cymru;
  • datblygiad dangosyddion addasu i’r hinsawdd gan Lywodraeth Cymru yn 2024;
  • cyhoeddi Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 interim ym mis Rhagfyr 2024.

Bydd ein dull rheoli perfformiad a’n dangosyddion, metrigau a cherrig milltir yn darparu llwybr clir o’r cynllun corfforaethol i’r cynllun busnes blynyddol a chytundebau lefel gwasanaeth ac adroddir amdanynt yn yr adroddiadau perfformiad chwarterol a’r adroddiad blynyddol.

Hierarchaeth y fframwaith perfformiad

  • Amcanion y cynllun corfforaethol: Tri amcan llesiant.
  • Dangosyddion strategol y cynllun corfforaethol: Rhaid i bob amcan llesiant gynnwys dangosyddion sy’n amlygu’r materion sydd bwysicaf, nid y rhai sy’n hawdd eu mesur.
  • Metrigau a cherrig milltir y cynllun busnes blynyddol (diffinio llwybrau i gyflawni’r dangosyddion strategol): Yn gysylltiedig â phob cam i’w gymryd, gan adlewyrchu cyfuniad o adrodd straeon ansoddol a meintiol.
  • Ymrwymiadau’r adroddiad blynyddol (nid oes angen iddynt fod yn fesuradwy): Yn adlewyrchu ffyrdd o weithio, gan gynnwys gweithio gydag eraill. Naratif disgrifiadol wedi’i adlewyrchu yn ein hadroddiad blynyddol.

Cynllunio blynyddol

Mae’r cynllun corfforaethol hwn yn nodi ein cyfeiriad strategol hyd at 2030 ac mae’n cyd-fynd â’r amcanion strategol a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru yn y llythyr cylch gwaith ar gyfer tymor y llywodraeth a roddwyd i ni ym mis Rhagfyr 2022.

Yn unol â Dogfen Fframwaith Llywodraeth Cymru, byddwn yn derbyn setliad cyllideb blynyddol a fydd yn llywio ein cyllideb flynyddol a’n cynllun busnes.

Er mwyn sicrhau aliniad, a thryloywder o ran cyflawni yn erbyn yr amcanion llesiant, rydym yn symleiddio ein fframwaith cynllunio a pherfformiad blynyddol.

Gan adeiladu ar ein gwaith gyda Llywodraeth Cymru drwy’r ymarfer sylfaenol, byddwn yn parhau i weithio gyda nhw i ddatblygu cytundebau lefel gwasanaeth i gwmpasu pob elfen o’n gwaith, a’u defnyddio i lywio trafodaethau ar gyllidebau.

Ar ôl i ni dderbyn cadarnhad o’r gyllideb flynyddol gan Lywodraeth Cymru, ein disgwyliad yw y byddwn yn defnyddio’r cytundebau lefel gwasanaeth i ddyrannu’r gyllideb, pennu lefel y gwasanaeth y byddwn yn ei darparu ar draws ein gwahanol wasanaethau, a llywio’r cynllun busnes blynyddol, y metrigau perfformiad a’r cerrig milltir. Byddwn yn defnyddio’r dull hwn yng nghylch cynllunio busnes blynyddol 2024/25.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf