Cynllun Adnoddau Coedwig Gogledd Dyffryn Gwy - Cymeradwywyd 29 Gorffennaf 2024

Lleoliad a safle

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Gogledd Dyffryn Gwy yn cynnwys 13 coetir yn Sir Fynwy sy'n cynnwys tua 1,946 hectar. Glaswelltir amaethyddol wedi’i wella, coetiroedd llydanddail brodorol a chanolfannau trefol yn bennaf yw cefndir y rhan fwyaf o’r coetiroedd. Mae’r rhan fwyaf o’r coetiroedd yn Blanhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS) neu Goetiroedd Lled-naturiol Hynafol (ASNW), ac mae Dyffryn Gwy yn un o’r ardaloedd pwysicaf yng Nghymru ar gyfer Coetir Hynafol. Mae’r coed hefyd yn cael defnydd da gan y gymuned leol ar gyfer hamdden anffurfiol.

Map lleoliad

Amcanion Gogledd Dyffryn Gwy

Bydd y rhain yn pennu’r amcanion rheoli ar gyfer y cynllun adnoddau coedwig a gweithgareddau ehangach ar gyfer CNC er mwyn cynnal a gwella cydnerthedd ecosystemau, a’r buddion y maent yn eu darparu:

  • Mae adfer y coetir hynafol yn yr ardal Cynllun Adnoddau Coedwig yn brif amcan yn unol â Datganiad Ardal y De Ddwyrain, Strategaeth Coetir Llywodraeth Cymru, a Chynllun Gweithredu AHNE Dyffryn Gwy, gyda’r gwaith o gael gwared ar goed conwydd presennol yn digwydd yn raddol dros amser trwy LISS gan ganiatáu aildyfiant naturiol o goed llydanddail ac amrywiaeth o rywogaethau.
  • Cynnal cynhyrchu pren lle bo’n briodol, gan gynnwys coed llydanddail cynhyrchiol. Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd i amrywio rhywogaethau a strwythur y coetiroedd, a fydd yn gwella cynaliadwyedd a gwytnwch y coedwigoedd, yn ogystal â darparu buddion economaidd.
  • Amrywio cyfansoddiad rhywogaethau'r goedwig i gynyddu eu gallu i wrthsefyll plâu a chlefydau ac ar yr un pryd creu coedwig gref ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Cael gwared ar y clystyrau o larwydd sy'n weddill, rheoli coed ynn, a rheoli rhywogaethau estron goresgynnol yn briodol, gan gynnwys llawr-geirios.
  • Buddsoddi mewn seilwaith coedwig (uwchraddio llwybrau cludo pren, ffyrdd coedwig, peirianneg rheoli dŵr megis draeniau a chwlfertau) i ddarparu gwell mynediad; caniatáu amodau rheoli mwy amrywiol o fewn y coetiroedd; teneuo'n rheolaidd lle bo modd; i gael gwared ar y clystyrau llarwydd sy'n weddill ac i gyflawni amcanion cadwraeth.
  • Gweithio gyda phartneriaid a thimau eraill CNC i nodi a darparu cyfleoedd i gysylltu a gwella cynefinoedd â blaenoriaeth, ardaloedd gwarchodedig o fewn a gerllaw coetiroedd Cynllun Adnoddau Coedwig, a rhywogaethau â blaenoriaeth a rhai a warchodir, i wella gwydnwch a chysylltedd ac atal effeithiau negyddol gweithgareddau rheoli. Megis cysylltu ac adfer coetiroedd hynafol a brodorol, prysgoedio, cysylltu cynefinoedd a rhodfeydd agored, ystyried yr amrywiol rywogaethau o ystlumod sy’n bresennol yn yr ardal yn ystod unrhyw weithgareddau rheoli, adfer ac ehangu ardaloedd o weundir agored lle bo’n briodol a chreu cynefinoedd ymylol amrywiol lle maen nhw’n ffinio â chynefinoedd nad ydynt yn goetiroedd, ar draws ardal Cynllun Adnoddau Coedwig.
  • Gweithio gyda phartneriaid i annog a chynyddu defnydd cyfrifol a hamdden effaith isel ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru i sicrhau manteision llesiant i gymunedau lleol, grwpiau defnyddwyr ac ymwelwyr, ac i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys cerbydau oddi ar y ffordd, a thipio anghyfreithlon.
  • Ni ddylai rheoli coedwigaeth gyfrannu at y lefel bresennol o berygl llifogydd o fewn y coetiroedd ac yn unrhyw le oddi ar y safle a lle bo modd, dylid rhoi mesurau ar waith i leihau unrhyw berygl llifogydd posibl; y bwriad yw cyflawni’r ddau drwy arfer coedwigaeth da yn unol â Safon Goedwigaeth ddiweddaraf y DU a chanllawiau coedwigaeth perthnasol; a thrwy ymgynghori ac ymgysylltu â'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol perthnasol wrth gynllunio gweithrediadau cwympo. Wrth ystyried mesurau i leihau maint y llif sy'n gadael blociau coedwig o ganlyniad i waith cwympo, dylid cynnwys Rheoli Llifogydd yn Naturiol.
  • Ni ddylai rheoli coedwigaeth achosi unrhyw ostyngiad yn ansawdd y dŵr o fewn nodweddion dŵr ar y safle a chyrsiau dŵr sy'n draenio oddi ar y safle trwy arfer coedwigaeth da yn unol â Safon Coedwigaeth ddiweddaraf y DU a chanllawiau coedwigaeth perthnasol a rhoi sylw i Gynllun Rheoli Basn Afon Hafren (2021-2027).
  • Gweithio gyda’n partneriaid a’n cymunedau i nodi sut a ble y gall Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ddarparu atebion seiliedig ar natur ar gyfer iechyd a lles a darparu cyfleoedd i gysylltu pobl â byd natur, a lle gallwn gynnwys cymunedau yn y gwaith o’i reoli.
  • Bod yn gymdogion da - Ymgynghori ac ymgysylltu â chymdogion, cymunedau a rhanddeiliaid eraill ynghylch rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a gweithrediadau sydd ar ddod i wella perthnasoedd a gwybodaeth am sut a pham y caiff yr ystad ei rheoli, lleihau gwrthdaro, ac annog cysylltiadau gwaith agosach.
  • Gweithio gyda chymdogion a rhanddeiliaid eraill gyda golwg ar reoli ceirw, gwiwerod llwyd a baeddod gwyllt ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ac ardaloedd cyfagos i leihau effeithiau negyddol. Rheoli mannau agored ar ystad goetir Llywodraeth Cymru i hwyluso rheoli bywyd gwyllt.
  • Monitro, cynnal a gwella'r ddarpariaeth llwybrau troed o fewn Coetiroedd Dyffryn Gwy i sicrhau bod mynediad cyhoeddus diogel a chyfrifol yn parhau i fod yn bosibl.

Mapiau

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Diweddarwyd ddiwethaf