Cynllun Adnoddau Presteigne - Cymeradwywyd 5 Rhagfyr 2022

Lleoliad a gosodiadau

Saif Coetiroedd Llanandras ar 443 hectar dros saith bloc o goetir arwahanol yn nalgylch afon Llugwy ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr:

  • Coed Nash, 215 hectar
  • Coedwig y Gogledd, 30 hectar
  • Coedwig Benbow, 24.9 hectar
  • Burfa Bank, 50.7 hectar
  • Coedwig Navages, 58.2 hectar
  • Coedwig Worsell, 29.4 hectar
  • Coedwig Bradnor, 35 hectar

Mae’r cynllun adnoddau coedwig yn cynrychioli llai nag 1% o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, gyda gwaith cynaeafu/cludo coed yn bennaf, a lle i deneuo cnydau i gynhyrchu cynhyrchion boncyff â gwerth uchel. Mae’r coetiroedd sy’n gyfagos i’r goedwig yn rhai cymysg, clòs o gymeriad tebyg, ar raddfa ganolig. Sefydlwyd llawer o'r goedwig ar briddoedd gwlypach ar dir uwch mewn ardaloedd lle mae’n parhau i fod yn bosibl tyfu amrediad eang o rywogaethau coed, a hynny er gwaethaf cystadleuaeth frwd gan chwyn a risg gymedrol o wyntyllu.

Mae'r cynllun adnoddau coedwig hwn yn anelu at amrywiaethu rhywogaethau coed lle bo modd, yn enwedig drwy deneuo â theneuon hadu er mwyn creu amodau golau sy'n hybu aildyfiant naturiol o amrywiaeth o rywogaethau coed. Mae'r dirwedd yn dir fferm caeedig yn bennaf, fel cefndir i dwristiaeth a menter ar gyrion trefi. Mae Phytophthora ramorum wedi osgoi’r cnydau llarwydd hyd yn hyn, ond mae’r gwaith o lwyrgwympo coed llarwydd er mwyn hybu amrywiaeth o rywogaethau wedibod yn yr arfaeth ers blynyddoedd lawer. Mae angen ymyriadau teneuo blynyddol ar bob un o'r saith coetir, gyda gwaith llwyrgwympo cyhoeddedig sydd wedi'i amseru'n.

Ceir cynhyrchiant uchel o bren ar raddfa fach i ganolig yn y coetiroedd yn y cynllun adnoddau coedwig hwn , gan ychwanegu at warchod ansawdddŵr, y dirwedd a gweithgareddau hamdden yn yr awyr agored.

Crynodeb o Amcanion

  1. Hybu cydnerthedd hirdymor mewn ecosystemau coetir yn unol â chyfarwyddyd y canlynol:

Caiff yr amcan hwn ei gyflawni drwy ysgrifennu cynllun adnoddau coedwig sy'n cydymffurfio â Safon Coedwigaeth y DU a Safon Sicrwydd Coetiroedd y DU. Cyflwynir y gweithrediadau coedwig a rhaglenni gwaith dilynol yn ddiogel heb achosi niwed i’r amgylchedd. Rhaid i adolygiad canol tymor y cynllun adnoddau coedwig cymeradwy werthuso a fu’r dull cyflenwi yn ddiogel, yn lân ac yn effeithlon, ac a yw’r map cyfleoedd wedi hybu gwaith ychwanegol yn y goedwig.

  1. Cynnal a gwella cynefinoedd â blaenoriaeth a chefnogi rhywogaethau gwarchodedig, gan ganolbwyntio ar goetiroedd lled-naturiol hynafol, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, a phathewod. Bydd cyfleoedd i ehangu cynefinoedd naturiol a chynefinoedd ar gyfer rhywogaethau gwarchodedig yn cael eu mapio ar gyfer cynllunio adnoddau yn y dyfodol. Bydd y Systemau Rheoli Coedwigoedd a'r mapiau Math o Goetir Dangosol a weithredir yn gyrru rhaglenni ar gyfer teneuo ac adfer corsydd mewn safleoedd lle gellir cyflawni'r effaith fwyaf cadarnhaol ar fioamrywiaeth. Monitro cyfansoddiad cynefinoedd a rhywogaethau o is-adran y gronfa ddata am bum mlynedd, cwblhau cofnodion teneuo a llwyrgwympo gyda chymariaethau â data rhagolwg cynhyrchu. Cofnodion o waith gwella cynefinoedd ar goetir lled-naturiol hynafol gyda gwaith monitro dilynol ar y safle.

  2. Cynnal cyflenwad cynaliadwy o bren o oddeutu 2,632m3 o bren y flwyddyn am gyfnod cymeradwyo'r cynllun. Bydd y map Systemau Rheoli Coedwigoedd a weithredir yn gyrru rhaglenni ar gyfer seilwaith coedwigoedd, teneuo am y tro cyntaf, teneuo er bioamrywiaeth, newid tirwedd, ac amrywiaeth rhywogaethau a strwythur coetiroedd, ynghyd â chysylltedd bioamrywiaeth. Monitro cyfansoddiad cynefinoedd a rhywogaethau o is-adran y gronfa ddata am bum mlynedd, cwblhau cofnodion teneuo a llwyrgwympo gyda chymariaethau â data rhagolwg cynhyrchu.

  3. Esblygu strwythur y goedwig i glustogi rhag materion diogelwch, llygredd ac iechyd coed posibl fel coed peryglus, difrod gan geirw a chlustogfeydd glannau afon. Bydd y map Math o Goetir Dangosol yn hybu amrywiaeth rhywogaethau pan fydd ailstocio’n digwydd, a bydd y map Systemau Rheoli Coedwigoedd a weithredir yn gyrru rhaglenni ar gyfer gwella amodau golau mewn clustogfeydd glannau afon a chael gwared ar broblemau fel coed llarwydd sydd wedi'u heintio â Phytophthora ramorum a choed peryglus ger cyfleusterau hamdden. Monitro cyfansoddiad cynefinoedd a rhywogaethau o is-adran y gronfa ddata am bum mlynedd.

  4. Rheoli llystyfiant a mannau agored i hybu amrywiaeth strwythurol mewn rhodfeydd ac ar ochrau ffyrdd, a rheoli rhywogaethau goresgynnol a gor-bori er mwyn ffafrio adfywiad coed yn y lleoliadau cywir. Bydd y map Systemau Rheoli Coedwigoedd a weithredir, rhodfeydd, ffyrdd a mannau agored parhaol yn gyrru rhaglenni ar gyfer rheoli bywyd gwyllt a llystyfiant a fydd, lle bo hynny'n bosibl, yn manteisio ar gyfleoedd masnachol, e.e. cynaeafu tocion ar ochr y ffordd. Monitro cyfansoddiadau cynefinoedd a rhywogaethau o is-adran y gronfa ddata am bum mlynedd, a chofnodion o weithrediadau rheoli llystyfiant wedi'u cwblhau.

  5. Cynnal a gwella cyfleusterau hamdden, nodweddion treftadaeth ddiwylliannol a gwerth tirwedd y goedwig drwy weithredu'r map Systemau Rheoli Coedwigoedd sydd wedi'i brofi drwy dull delweddu 3D a'i asesu gan randdeiliaid mewnol ac allanol. Monitro gwaith llwyrgwympo ac ailstocio yn is-adran y gronfa ddata am bum mlynedd yn erbyn y map Systemau Rheoli Coedwigoedd. Myfyrio ar weithrediadau i wella neu gynnal nodweddion hamdden/treftadaeth ac ar ddadansoddiad ac argymhellion o astudiaethau i wella cynnig Cyfoeth Naturiol Cymru o ran hamdden cyhoeddus, tirwedd a threftadaeth ddiwylliannol.

Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig

  • Drwy gydol cyfnod y cynllun sydd ar y gweill, bydd Coetiroedd Llanandras yn parhau i fod yn goetir cynhyrchiol pwysig, gan ddarparu cyflenwad cynaliadwy o bren i gefnogi cyflogaeth ac economi Cymru.
  • Bydd rhywogaethau ac amrywiaeth strwythurol yn cael eu gwella'n sylweddol, gan ddarparu mwy o wytnwch i blâu, clefydau a newidiadau hinsoddol.
  • Bydd ardaloedd o ‘Blanhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol’ yn cael eu trosi'n ôl yn araf ac yn bwyllog yn goetir llydanddail brodorol, gyda chysylltedd rhwng y nodweddion gweddilliol hyn yn cael ei gynnal a'i wella drwy reoli cnydau cyfagos.
  • Bydd ehangu coridorau glannau afon o goed llydanddail brodorol a choetir olynol yn gwella cysylltedd cynefinoedd ymhellach ac yn darparu dull clustogi gwell yn erbyn safleoedd dynodedig cyfagos.
  • Bydd dull ‘Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith’ graddol yn cael ei ffafrio lle bynnag y bydd hynny’n bosibl o ystyried cyfyngiadau ffisegol o ran mynediad at gnydau presennol, pa mor agored yr ydynt, a’r hanes o’u rheoli.
  • Bydd lledaeniad cyflym Phytophthora ramorum yn gofyn am symud yr holl gnydau llarwydd o'r dyffryn yn gyflym o fewn y deng mlynedd nesaf.
  • Bydd cynnal lleoliad tirwedd priodol o amgylch y gwahanol Henebion Cofrestredig sydd i'w gweld yn y cwm, nodi a diogelu nodweddion cadwraeth eraill a darparu cyfleoedd mynediad iach ar gyfer y gymuned yn parhau i fod yn amcanion pwysig.

Mapiau

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Diweddarwyd ddiwethaf