Cyflwyniad 

Mae ein cynllun corfforaethol, Byd Natur a Phobl yn Ffynnu Gyda’n Gilydd, yn nodi ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a’n hamcanion llesiant hyd at 2030 a thu hwnt. Mae’r cynllun busnes hwn yn nodi’r hyn y byddwn yn ei wneud yn benodol yn 2024-25 i gyflenwi yn erbyn yr amcanion llesiant hynny a gwireddu ein gweledigaeth. Mae'r cynllun wedi'i baratoi yn unol â dogfen fframwaith Llywodraeth Cymru a’r llythyr cylch gwaith ar gyfer tymor y llywodraeth.

Mae dyraniad blynyddol Gweinidogion Cymru o’r gyllideb, a nodir yn y datganiad o ddarpariaeth gyllidebol, wedi pennu’r adnoddau ariannol sydd ar gael inni drwy gymorth grant uniongyrchol gan y llywodraeth. Mae hyn yn debygol o ddod i gyfanswm o £123.7 miliwn yn 2024-25 ac mae’n cymharu â’r £120.9 miliwn a ddyrannwyd i ni’n wreiddiol ar ddechrau 2023/24. Fel gweddill y sector cyhoeddus yng Nghymru, mae chwyddiant wedi cynyddu ein costau, sy’n golygu na fydd ein cyllid yn mynd mor bell yn 2024-25 â blynyddoedd blaenorol.

Yn y cyd-destun hwn, bu’n rhaid i ni fod yn realistig wrth baratoi’r cynllun busnes hwn, gan gymryd yr hyn yr ydym wedi’i ddysgu drwy ein hymarfer blaenoriaethu ar draws y sefydliad i sicrhau bod yr adnoddau sydd gennym yn cyd-fynd â gweithgareddau sy’n cael yr effaith fwyaf ar gyflawni dros fyd natur a’r hinsawdd a lleihau llygredd.

Sefydliad sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau

Mae dechrau'r cylch cynllun corfforaethol newydd wedi ein galluogi i adolygu ein hymagwedd at gynllunio a pherfformiad. Bydd ein fframwaith rheoli perfformiad diwygiedig yn sicrhau llinell olwg glir o'r raddfa strategol i'r raddfa weithredol a thîm.

Rydym wedi cynllunio dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau i fesur ein cynnydd tuag at amcanion llesiant y cynllun corfforaethol. Mae tair lefel:

  • strategol a thymor hir – gydag effeithiau a dangosyddion strategol wedi’u diffinio ar gyfer 2030
  • gweithredol a thymor canolig – cynllunio aml-flwyddyn i gyrraedd uchelgais y camau i’w cymryd ac amcanion llesiant gyda metrigau tueddiadau yn adrodd ar y statws “iechyd” dros amser
  • gweithredol a thymor byr – ymrwymiadau blynyddol a chanlyniadau allweddol i ddangos cynnydd yn ystod y flwyddyn

Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn darparu persbectif integredig, gan ein galluogi i fyfyrio ar gynnydd tuag at ein canlyniadau, nodi beth sy’n llywio’r gwaith o gyflawni, beth sy’n rhwystro cynnydd, a lle mae angen i bethau newid. Byddwn yn defnyddio’r mewnwelediadau hyn, ynghyd â gwybodaeth sy’n ymwneud â'r parodrwydd i dderbyn risg, lefelau goddefgarwch a phroffil risg, i lywio blaenoriaethu a dyrannu adnoddau ar sail flynyddol.

Drwy gydol 2023/24, buom yn gweithio ar y cyd ar draws y sefydliad i ddatblygu effeithiau a dangosyddion strategol. Byddwn yn profi’r rhain yn 2024-25, gan eu defnyddio i fframio sesiynau archwiliad dwfn strategol bwrdd CNC, wrth ymgysylltu hefyd â phartneriaid i rannu mewnwelediad a nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithredu. Byddwn yn cwblhau’r effeithiau a dangosyddion hyn yn hydref 2024 ac yn ceisio eu rhoi ar waith rhwng 2025-26 a 2030.

Yn 2024-25, byddwn yn canolbwyntio ar y tymor gweithredol a'r tymor canolig trwy ddatblygu'r dull o gynllunio aml-flwyddyn a metrigau tueddiadau. Bydd y cynllunio aml-flwyddyn yn canolbwyntio ar y camau amcan llesiant i'w cymryd, gan ddiffinio metrigau sy’n gosod y targedau er mwyn sicrhau ein bod ar y llwybr i gyflawni’r uchelgais ar gyfer 2030. Bydd olrhain y metrigau hyn yn rhoi mewnwelediad pwerus a dysg ar y cynnydd tuag at, neu'r bwlch rhwng, cyflawni'r effeithiau strategol hirdymor a'r dangosyddion strategol a throi pethau o gwmpas. Bydd yn tynnu sylw at y pethau hynny y mae angen eu newid, nid yn unig o fewn rheolaeth uniongyrchol CNC ond hefyd y tu hwnt, yng ngwaith y llywodraeth, partneriaid a chyrff cyhoeddus eraill.

Wrth ddylunio ein hymagwedd at gynllunio aml-flwyddyn, byddwn yn amlygu’r cysylltiad rhwng y camau i’w cymryd i sicrhau ein bod yn amlygu’r cysylltiad â chyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol, yn ogystal â gwneud yn siŵr bod y rhagdybiaethau a’r risgiau’n cael eu hystyried yn gyson. Byddwn yn ystyried gyda Llywodraeth Cymru sut mae'r ymarfer cynllunio aml-flwyddyn hwn yn adeiladu ar y gwersi o'r ymarfer llinell sylfaen a chytundebau lefel gwasanaeth. Wrth gynllunio ein dull gweithredu, byddwn yn myfyrio ar y newidiadau a gyflwynwyd yn Neddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 ac yn ystyried gyda’r undebau llafur y ffordd orau o’u cynnwys.

Bydd y metrigau cynllunio aml-flwyddyn gweithredol yn diffinio'r targedau y bydd y cynllun busnes blynyddol tymor byr yn eu cynnwys. Bydd y cynllun busnes blynyddol yn nodi’r pethau hynny y mae angen iddynt ddigwydd mewn blwyddyn i ysgogi’r newid yr ydym am ei weld – er enghraifft, profi dulliau gweithredu newydd neu symleiddio prosesau. Mae'r dull hwn yn ein gosod ar lwybr i fod yn sefydliad gwahanol, gan fesur y pethau hynny sy'n cael yr effaith fwyaf a defnyddio hyn i lywio ein penderfyniadau ar flaenoriaethau.

Dyma ein cyfeiriad clir, ond, heb y cynllunio aml-flwyddyn, cam yn unig i’n dull gweithredu newydd yw ein cynllun busnes blynyddol ar gyfer 2024-25 ac nid yw’n adlewyrchu ein huchelgais llawn. Mae cynllun busnes 2024-25 yn dynodi gwahaniaeth mewn naws a dull gweithredu, gyda’r ymrwymiadau blynyddol yn cyd-fynd yn glir â’r amcanion llesiant a’r camau i’w cymryd. Eleni rydym wedi datblygu, fel mesur interim, mesurau allweddol i’w cyflenwi, nid canlyniadau allweddol, nad ydynt mor heriol nac mor SMART ag yr hoffem iddynt fod, ond rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu’r rhain ar gyfer 2025-26. Rydym yn cydnabod bod y newid pwyslais hwn yn sylweddol a bydd angen i ni feithrin ymddiriedaeth a hyder cydweithwyr yn y dull gweithredu dros amser. Heb os, bydd y metrigau yn esblygu, gan ddod yn fwy cadarn wrth i bobl feithrin gallu a datblygu dealltwriaeth o sut y byddwn yn eu defnyddio i lywio penderfyniadau.

Blaenoriaethu

Er mwyn ein paratoi ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd, rydym wedi ystyried yr adborth gan gydweithwyr yn arolwg cydweithwyr Ein Llais a'r pwysau parhaus ar gyllid cyhoeddus i lywio ymarfer blaenoriaethu sefydliad cyfan. Rydym wedi cymhwyso nifer o safbwyntiau: aliniad ac effaith gweithgareddau ar gyflawni ein hamcanion llesiant a’r camau i’w cymryd; ysgogwyr statudol ein gwaith; y blaenoriaethau o'r llythyr cylch gwaith ar gyfer tymor y llywodraeth; a chymhwyso'r egwyddor datblygu cynaliadwy.

Drwy integreiddio’r safbwyntiau gwahanol hyn, ein bwriad fu:

  • diogelu’r pethau hynny na all neb heblaw ni eu gwneud, o ystyried ein cyfres unigryw o ysgogiadau ac offer fel rheoleiddiwr amgylcheddol a chynghorydd statudol
  • amddiffyn ein gwaith dros natur, o ystyried mai ni yw’r unig gorff cyhoeddus yng Nghymru sydd â’r cylch gwaith hwn
  • canolbwyntio ar y gweithgareddau hynny sy'n darparu buddion lluosog ar gyfer natur, hinsawdd a lleihau llygredd
  • adeiladu ar y buddsoddiad yr ydym eisoes wedi’i wneud i wella capasiti mewn rhai meysydd

Yn haf 2024, byddwn yn dechrau proses o ymgynghori ffurfiol â’r undebau llafur ar gynigion i newid ein strwythurau drwy leihau nifer y swyddi (nid pobl), er mwyn sicrhau ein sefydlogrwydd a’n gwytnwch ariannol am y tair blynedd nesaf.

Ein pobl

Dim ond drwy gefnogi ein pobl a rhoi ein gwerthoedd wrth wraidd popeth a wnawn y bydd modd cyflawni’r weledigaeth, y genhadaeth a’r amcanion llesiant a nodir yn y cynllun corfforaethol. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar alluogi ein cydweithwyr i gael mynediad at gyfleoedd dysgu a datblygu i dyfu a bod yn ddiogel yn eu rolau. Fel rhan o hyn ac agenda ehangach CNC2030, byddwn yn cynnig profiad dysgu digidol gwell ac yn gwella ein harlwy e-ddysgu. Byddwn hefyd yn parhau i gyflawni ein Rhaglen Trawsnewid Pobl ac, yn benodol, yn parhau i ganolbwyntio ar ddatblygu ein sgiliau a chynllunio gweithlu hirdymor ar gyfer y sefydliad ac ymgorffori arferion sy’n atgyfnerthu cynhwysiant ac amrywiaeth.

Yr hyn y byddwn yn ei gyflenwi yn 2024-25

O dan bob amcan llesiant, rydym wedi nodi cyfres o gamau i’w cymryd sy’n diffinio’r canlyniadau neu’r newid rydym am eu gweld erbyn 2030.

Gwyddom na fyddwn yn gallu gwireddu canlyniadau pob amcan llesiant neu gam i’w cymryd ar unwaith. Yn y blynyddoedd cynnar hyn, mae angen inni osod y sylfeini drwy wneud y gwaith paratoadol megis archwilio’r sylfaen dystiolaeth neu ddatblygu a phrofi gwahanol offer a dulliau gweithredu a fydd yn ein galluogi i gyflymu’r gwaith cyflenwi yn y blynyddoedd i ddod. Nid yw’r holl gamau i’w cymryd wedi’u cynnwys yn y cynllun busnes hwn, ond nid yw hyn yn golygu nad ydynt yn bwysig. Bydd yr holl gamau i'w cymryd yn cael eu cynnwys yn yr ymarfer cynllunio aml-flwyddyn a chânt eu hystyried wrth flaenoriaethu yn y dyfodol.

Wrth baratoi’r cynllun, rydym wedi defnyddio’r mewnwelediad o’r ymarfer blaenoriaethu ochr yn ochr â’r llythyr cylch gwaith ar gyfer tymor y llywodraeth, llythyrau dyfarnu grant Llywodraeth Cymru, a dyraniad cyllideb Llywodraeth Cymru i nodi’r pethau hynny y byddwn yn eu gwneud yn 2024-25.

Rydym wedi nodi ymrwymiadau blynyddol a mesurau allweddol i’w cyflenwi ar gyfer cyfres o gamau i’w cymryd o dan bob amcan llesiant. Mae’r ymrwymiadau blynyddol yn gosod yr uchelgais ar gyfer yr hyn y byddwn yn ei wneud yn 2024-25 i symud ymlaen tuag at y canlyniad camau i’w cymryd ar gyfer 2030. Bydd y mesurau allweddol i’w cyflenwi yn ein galluogi i olrhain cynnydd ac asesu a yw'r ymrwymiadau'n cael eu cyflawni.

Mae Atodiad 1 yn nodi’r ymrwymiadau blynyddol a’r mesurau allweddol i’w cyflenwi ar gyfer pob amcan llesiant.

Newid ein ffyrdd o weithio

Pan wnaethom baratoi’r cynllun corfforaethol, cydnabyddom y byddai alinio adnoddau a phrosesau y tu ôl i’r tri amcan llesiant yn golygu y byddai’n rhaid inni newid ac esblygu sut rydym yn gweithio.

Rydym wedi cychwyn ar y siwrnai honno yn ystod 2023/24 ac wedi cyflwyno nifer o newidiadau. Rydym wedi mabwysiadu cofrestr risg strategol newydd sy'n canolbwyntio ar y risgiau i gyflawni gweledigaeth a chenhadaeth y cynllun corfforaethol; rydym wedi newid y cylch gorchwyl ar gyfer y bwrdd, y tîm gweithredol a grwpiau busnes i roi ffocws cliriach ar ganlyniadau; rydym wedi sefydlu'r Grŵp Cynllunio ac Adnoddau i sicrhau gwell integreiddio a blaenoriaethu; ac rydym wedi diffinio cylch gwaith rôl arwain y Cyfarwyddwr Gweithredol Llesiant. Byddwn yn parhau i gryfhau ein rheolaeth risg, sicrwydd a llywodraethu, gan wneud defnydd o’n profiad ymarferol o ddefnyddio'r offer rheoli risg newydd yn ogystal â dysgu gan ein partneriaid.

Mae ein llwyddiant wrth gyflawni'r cynllun corfforaethol yn dibynnu ar sicrhau bod gennym y model gweithredu cywir ar gyfer y sefydliad, gyda'n gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd yn ganolog i bopeth a wnawn. Gwyddom y bydd hyn yn cymryd amser ac egni, a dyna pam rydym wedi sefydlu CNC2030, ein rhaglen ar gyfer trawsnewid ein sefydliad i wneud yn siŵr ein bod mewn sefyllfa dda i fynd i’r afael â’r heriau sydd o’n blaenau. Yn y cyfnodau cynnar, bydd gan y rhaglen gyllideb fach a byddwn yn ceisio cyfleoedd ariannu buddsoddi i arbed gan Lywodraeth Cymru i gyflymu’r gwaith cyflenwi. Yn 2024-25, byddwn yn dechrau canolbwyntio ar sefydlogi ein seilwaith TGCh, gan greu dull integredig, mwy cyfeillgar i ddefnyddwyr ar gyfer cydweithwyr a rhanddeiliaid a chychwyn gwelliannau i’r broses a’r system, gan weithio gyda chydweithwyr mewn gweithgareddau wedi’u blaenoriaethu gyda data yn greiddiol iddynt. Bydd buddsoddi yn CNC2030 bellach yn ein galluogi i ryddhau arbedion effeithlonrwydd yn y tymor hwy i ailfuddsoddi mewn cyflenwi.

Ein cyllid ar gyfer 2024-25

Daw’r rhan fwyaf o’n cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy gymorth grant gyda chyfran wedi’i dyrannu i refeniw a chyfalaf. Mae gweithgareddau masnachol, gwerthu coed yn bennaf, yn cynhyrchu incwm masnachol o £52.6 miliwn, tra bod taliadau a gynhyrchir drwy weithgareddau rheoleiddiedig yn dod i £46.4 miliwn. Rydym hefyd yn derbyn grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru o £36.4 miliwn, a grantiau gan gyrff ariannu allanol megis Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chronfeydd yr UE a sicrhawyd o dan raglen LIFE, sef cyfanswm o £8.6 miliwn.

Drwy ein gwaith gyda swyddogion Llywodraeth Cymru yn 2020-2022 ar yr ymarfer llinell sylfaen a chytundebau lefel gwasanaeth, gwnaethom nodi cyfleoedd i wella’r ffordd y mae ein model ariannu ar gyfer cymorth grant ac incwm pren yn gweithredu. Yn draddodiadol, rydym wedi derbyn dyraniadau cymorth grant llifogydd a heblaw llifogydd unigol ar gyfer cyllid cyfalaf a refeniw. O 2024-25 ymlaen, bydd y dyraniad hwn o gymorth grant wedi'i glustnodi ar gyfer cyfalaf llifogydd a refeniw yn cael ei ddileu. Bydd hyn yn ein galluogi i fabwysiadu penderfyniadau buddsoddi mwy integredig ar raddfa dalgylch neu dirwedd, gan sicrhau canlyniadau lluosog ar gyfer natur, yr hinsawdd ac atal llygredd ac arwain at well gwerth am arian.

Mae incwm pren yn amrywio o fis i fis ac o flwyddyn i flwyddyn. Gyda dileu’r gallu i gario incwm pren drosodd o un flwyddyn i’r llall, nid ydym bellach wedi’n cysgodi rhag yr ansefydlogrwydd hwn. Ar gyfer 2024-25, mae gweinidogion wedi cytuno ar ddull tymor byr o osod trothwy incwm pren o £33 miliwn. Os bydd yr incwm yn disgyn o dan y trothwy hwn, byddant yn ariannu'r gwahaniaeth drwy gymorth grant. Yn ystod y flwyddyn, byddwn yn gweithio gyda swyddogion i ddatblygu model ariannu tymor hwy sy’n sicrhau buddsoddiad yn y seilwaith a’r adnoddau ar y tir yn ein gofal a thrwy hynny ein galluogi i gyflawni cynhaeaf pren cynaliadwy flwyddyn ar ôl blwyddyn sy’n adlewyrchu ein pwrpas cyffredinol, sef rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Y camau nesaf

Dylai rheoli perfformiad yn dda ryddhau a hwyluso cyflenwi, gan ddathlu llwyddiannau wrth ysgogi'r enillion mwyaf ar fuddsoddiad ar y pethau sydd bwysicaf.

Byddwn yn ategu ein proses adrodd chwarterol draddodiadol drwy ddod â’n huwch-arweinwyr ynghyd bob chwarter i rannu safbwyntiau ar berfformiad, dathlu llwyddiant, a chydweithio i ddod o hyd i atebion i unrhyw broblemau. Dylai’r dull myfyriol hwn arwain at ffordd fwy hyblyg o weithio sy’n annog cydweithredu rhwng adrannau a bydd yn llywio’r adroddiadau chwarterol i’n pwyllgor cyllid a bwrdd CNC.

Drwy gydol y flwyddyn, bydd bwrdd CNC yn cynnal tair sesiwn strategol i graffu ar gynnydd tuag at bob amcan llesiant. Bydd y sesiynau'n cael eu defnyddio i gynnal archwiliad dwfn, gan ddefnyddio'r datganiadau effaith, y dangosyddion strategol a'r cyd-destun ehangach fel sylfaen. Bydd hyn yn sicrhau bod y drafodaeth yn parhau i ganolbwyntio ar ddeall a chyflawni ein gweledigaeth a'r newid rydym am ei weld.

Bydd y craffu yn y sesiynau strategol hyn yn canolbwyntio’n bennaf ar waith cyflenwi CNC ond bydd hefyd yn myfyrio ar gyd-destun ehangach Llywodraeth Cymru, partneriaethau, ffactorau cymdeithasol, a newidiadau byd-eang sy’n dylanwadu ar y systemau ehangach yr ydym yn gweithredu oddi mewn iddynt. Bydd hyn yn galluogi sgyrsiau strategol ar yr heriau a’r cyfleoedd i’n cyflenwi, a thrafodaeth ar atebion posibl.

Bydd sesiynau bwrdd CNC, ochr yn ochr â’r asesiad chwarterol o berfformiad gan dimau arwain a gweithredol, yn dangos craffu ar berfformiad a fydd gyda’i gilydd yn llywio adroddiad blynyddol a chyfrifon CNC ar gyfer 2024-25.

ATODIAD 1: Yr hyn y byddwn yn ei gyflenwi yn 2024-25

Amcan Llesiant 1: Mae natur yn gwella

Y newid rydym am ei weld erbyn 2030: y dirywiad mewn bioamrywiaeth yn cael ei atal; rheoleiddio effeithiol, adfer cynefinoedd ac atebion ar sail natur yn cyfrannu at ecosystemau cynyddol wydn, gan alluogi addasu i newid a bod o fudd i lesiant pobl (Datganiad Effaith 1).

Bydd 2024-25 yn flwyddyn garreg filltir ar gyfer adferiad byd natur yng Nghymru gyda Llywodraeth Cymru yn pennu’r cyfeiriad strategol ar gyfer y degawd nesaf neu fwy drwy ddau ddarn mawr o waith: y Papur Gwyn sy’n diffinio’r dull o ymdrin ag egwyddorion amgylcheddol, llywodraethu a thargedau bioamrywiaeth; a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sy’n nodi sut y bydd rheolwyr tir yn cael eu gwobrwyo am reoli tir mewn modd natur-bositif.

Mae’r ymrwymiadau blynyddol yn adlewyrchu ein cyfraniad at y darnau hollbwysig hyn o waith, yn ogystal â chyflenwi’r Rhaglen Rhwydweithiau Natur a’r broses ar gyfer dynodi parc cenedlaethol newydd. Mae’r rhain yn gosod y sylfeini ar gyfer cyrraedd targedau byd-eang 2030 ar gyfer byd natur ar y tir, yn y môr ac mewn dyfroedd croyw. Nid ydym wedi cynnwys yr holl gamau i’w cymryd yng nghynllun busnes eleni na’r gwaith sylfaenol hanfodol yr ydym yn ei wneud i ddiogelu byd natur. Byddwn yn parhau, er enghraifft, i wneud gwaith monitro ac adrodd amgylcheddol, ymateb i geisiadau cynllunio, rhoi trwyddedau, cynnal ymweliadau cydymffurfio, a, lle bo angen, cymryd camau gorfodi.

Maes ffocws: Natur yn cael ei diogelu

Cam i'w gymryd: Gwella cyflwr nodweddion ar safleoedd daearol, morol a dŵr croyw gwarchodedig trwy ddefnyddio ein hofferynnau cynghori a rheoleiddio a chymhellion ariannol, a chynnal gwaith monitro i werthuso effeithiolrwydd

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Gwerthuso Rhaglen Rhwydweithiau Natur CNC i lywio buddsoddiad yn y dyfodol ar gyfer safleoedd gwarchodedig

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Gwell dealltwriaeth o effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gweithgarwch a ddarperir ar draws rhaglen Rhwydweithiau Natur CNC trwy werthuso 70% o weithgarwch presennol a blaenorol erbyn diwedd Ch2 i sefydlu’r llinell sylfaen
  • Gweithgarwch Rhwydweithiau Natur CNC sy’n fwy effeithiol yn y dyfodol drwy nodi blaenoriaethau a datblygu dulliau cyflenwi erbyn diwedd Ch3 (yn seiliedig ar ganlyniadau Mesur Allweddol i’w Gyflenwi 1).

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Blaenoriaethu camau gweithredu sy'n cael yr effaith fwyaf ar gyflwr nodweddion SoDdGA.

Maes ffocws: Natur yn cael ei diogelu

Cam i'w gymryd: Ymestyn y gwaith o warchod a rheoli o leiaf 30 y cant o dir, dŵr croyw a môr ar gyfer natur trwy nodi cyfleoedd i ehangu a chysylltu’r gyfres o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn well

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Cyfuno tystiolaeth i nodi blaenoriaethau ar gyfer hysbysu ac ailhysbysu safleoedd sy'n cyfrannu at y targed 30:30

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Gwella dealltwriaeth o faint a chysylltedd y rhwydwaith SoDdGA presennol trwy gwblhau asesiad o bob safle erbyn diwedd Ch3
  • Mwy o gyngor i gyflymu hysbysu ac ailhysbysu trwy gyhoeddi'r Llawlyfr Hysbysu SoDdGA
  • Cynyddu effeithiolrwydd y dyraniad o fuddsoddiad ar gyfer cyflwyno rhaglen hysbysu well trwy gyflwyno rhaglen wedi'i chostio yn seiliedig ar dystiolaeth o Fesurau Allweddol i'w Cyflenwi 1 a 2

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Blaenoriaethu cyfleoedd i hysbysu SoDdGAau a defnyddio mesurau eraill y tu allan i'r gyfres SoDdGA.

Maes ffocws: Natur yn cael ei diogelu

Cam i'w gymryd: Diogelu rhywogaethau sy’n wynebu’r perygl mwyaf o ddiflannu drwy ddefnyddio ein hofferynnau cynghori a rheoleiddio, gweithio mewn partneriaeth, a monitro i werthuso effeithiolrwydd

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Datblygu dealltwriaeth o effaith ymyrraeth 11 o brosiectau seiliedig ar leoliad y rhaglen bartneriaeth Natur am Byth i fireinio cyflenwi cadwraeth

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Gwell dealltwriaeth o effeithiolrwydd yr 11 prosiect seiliedig ar leoliad Natur am Byth trwy brofi’r fframwaith mesur effaith a mireinio’r cynnyrch
  • Cynyddu sgiliau holl staff perthnasol y rhaglen trwy ddarparu hyfforddiant Asesu Adfer Rhywogaethau (i baratoi ar gyfer adolygiad llawn o dargedau adfer rhywogaethau yn 25/26) (cwblhawyd erbyn Ch2)
  • Gwell dealltwriaeth o’r 67 o rywogaethau targed Natur am Byth trwy gwblhau adolygiad o'r holl gynlluniau monitro ecolegol

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: O fewn y rhaglen bartneriaeth Natur am Byth, mireinio’r ymyriadau cadwraeth sy'n cael yr effaith fwyaf ar y 67 o rywogaethau targed.

Maes ffocws: Natur yn cael ei hadfer

Cam i'w gymryd: Cyflymu gwelliannau i gyflwr y Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig trwy waith monitro ac ymchwiliadau cadarn, tystiolaeth, cyngor, a gweithio gydag eraill ar gyflenwi prosiectau

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Cryfhau dealltwriaeth o gyflwr nodweddion ACAau ac AGAau morol sydd yng Nghymru yn unig er mwyn llywio blaenoriaethu

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Mwy o gyngor i gefnogi gwella rheolaeth ACAau ac AGAau morol trwy ddiweddaru 12 allan o 19 pecyn cyngor cadwraeth
  • Gwell dealltwriaeth o ddirywiad mewn rhywogaethau a chynefinoedd penodol trwy gynnal ymchwiliadau o dan y rhaglen Rhwydweithiau Natur Morol, gan nodi canfyddiadau ac argymhellion mewn cyfres o adroddiadau

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Blaenoriaethu camau gweithredu o fewn ACAau ac AGAau morol sydd yng Nghymru yn unig, gan dargedu’r rhai sydd â’r potensial i gael yr effaith fwyaf ar gyflwr nodweddion.

Maes ffocws: Natur yn cael ei hadfer

Cam i'w gymryd: Cyflymu gweithredu i adfer byd natur ar raddfa tirwedd drwy rannu ein tystiolaeth a’n harbenigedd gyda Pharciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a phartneriaid eraill

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Integreiddio tystiolaeth adfer natur i’r broses Parc Cenedlaethol newydd arfaethedig a rheolaeth yr AHNEau a’r Parciau Cenedlaethol presennol i wella’r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer natur

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Cynyddu ein cyngor ar gamau adfer natur trwy ddynodi Parc Cenedlaethol newydd drwy’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y ffin arfaethedig a’r argymhellion dynodi terfynol
  • Cynyddu’r cyngor ar gyfleoedd i integreiddio camau gweithredu i fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd i gynlluniau rheoli Parciau Cenedlaethol ac AHNEau drwy adnewyddu’r canllawiau ar gyfer y Cynllun Rheoli Tirweddau Dynodedig
  • Mwy o wybodaeth am effeithiolrwydd camau gweithredu wedi’u blaenoriaethu drwy gefnogi’r gwaith o gyflawni argymhellion cychwynnol Grŵp Arbenigol Tirweddau Dynodedig Cymru 30:30

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Darparu argymhellion i’r llywodraeth ar ddynodi Parc Cenedlaethol newydd, gan gynnwys sut y gall Parc Cenedlaethol gyflenwi’n well ar gyfer adferiad natur yn yr ardal, a sefydlu prosesau i olrhain gwelliannau.

Maes ffocws: Mae natur yn cael ei pharchu a'i gwerthfawrogi wrth wneud penderfyniadau

Cam i'w gymryd: Sicrhau manteision a chyfleoedd lluosog i natur, pobl a’r economi wledig drwy gefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu a gweithredu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan ddarparu tystiolaeth ac arbenigedd

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Darparu tystiolaeth ac arbenigedd i lywio datblygiad Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a nodi gyda Llywodraeth Cymru pa wasanaethau cymorth y gallai fod eu hangen

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Yn dilyn cyhoeddiadau LlC ar 14 Mai ar oedi cyn dechrau’r cynllun, byddwn yn cadarnhau’r hyn y gellir ei gyflawni yn chwarter un

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Datblygu’r model cyflenwi ar gyfer CNC i gefnogi’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Maes ffocws: CNC fel sefydliad natur-bositif enghreifftiol

Cam i'w gymryd: Sicrhau bod amddiffyniad ac adferiad byd natur yn cael ei integreiddio ym mhenderfyniadau ariannol a busnes CNC trwy gymhwyso’r gwersi a ddysgwyd gan eraill ar offer a fframweithiau effeithiol

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Rhoi Mai Di-dor ar waith, treialu dulliau newydd o weithio gyda byd natur ar y tir a’r asedau rydym yn eu rheoli, a nodi argymhellion wedi’u blaenoriaethu

Mesur allweddol i’w gyflenwi:

  • Lleihau torri gwair ar asedau rheoli perygl llifogydd CNC drwy
    (a) adael 70% o asedau heb eu torri yn ystod Mai Di-dor a
    (b) nodi dulliau amgen o leihau torri gwair a gweithio gyda byd natur, gan gychwyn cynlluniau peilot ar asedau rheoli perygl llifogydd allweddol (nifer i’w pennu)

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Gweithredu rhaglen ddiwygiedig.

Amcan Llesiant 2: Mae cymunedau'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd

Y newid rydym am ei weld erbyn 2030: mae gweithredu parhaus ar achosion, risgiau ac effeithiau newid yn yr hinsawdd yn golygu bod natur a phobl yn cael eu galluogi a’u grymuso i addasu, gan liniaru’r effeithiau ar lesiant pobl (Datganiad Effaith 2).

Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu’r cyfeiriad strategol ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd yn Sero Net Cymru, lle mae disgwyl i bob rhan o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector chwarae eu rhan i ysgogi gweithredu. Drwy Diwydiant Sero Net Cymru a’r clystyrau diwydiant, mae ffocws cynyddol ar ddatgarboneiddio prosesau diwydiannol a datblygu ffynonellau ynni carbon isel amgen. Mae datblygwyr ynni adnewyddadwy ar y tir ac ar y môr yn parhau i archwilio a datblygu cynlluniau newydd, gan gynnwys ar Ystad Coetir Llywodraeth Cymru. Gyda buddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, bydd y Rhaglen Genedlaethol ar Fawndiroedd yn cael ei huwchraddio i gyflawni’r uchelgais o adfer 1,800 hectar y flwyddyn erbyn 2030/31.

Mae ein hymrwymiadau blynyddol ar gyfer 2024-25 yn adlewyrchu ein cyfraniad at y darnau hanfodol hyn o waith yn ogystal â chyflawni camau blaenoriaeth yn ein cynllun sero net, yn enwedig drwy ein gwasanaeth caffael a rheoli contractau. Eleni byddwn yn cyflwyno'r system rhybuddion llifogydd newydd ar gyfer cymunedau ledled Cymru ac yn cwblhau cynllun amddiffyn rhag llifogydd Casnewydd, gan ddiogelu 814 eiddo. Nid ydym wedi cynnwys yr holl gamau i’w cymryd yng nghynllun busnes eleni. Byddwn yn parhau i reoli’r tir yn ein gofal, gan gynhyrchu pren a chreu coetiroedd newydd ar Ystad Coetir Llywodraeth Cymru, adfer mawndiroedd, ac addasu i newid yn yr hinsawdd ar draws ein holl safleoedd. Bydd ein rhaglen Adfywio yn parhau i ganolbwyntio ar leihau ein defnydd o garbon yn y fflyd ac mewn cyfleusterau, a byddwn yn parhau i gyflwyno hyfforddiant llythrennedd carbon ar draws y sefydliad.

Maes ffocws: Bod atebion ar sail natur yn cael eu mabwysiadu'n eang

Cam i'w gymryd: Ar y cyd â phartneriaid cyflenwi, adfer mawndiroedd drwy’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, gan gynnwys ar y tir yn ein gofal, gan ddefnyddio ystod o offerynnau cynghori a rheoleiddio a chymhellion ariannol, a gwneud gwaith monitro i werthuso effeithiolrwydd

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Buddsoddi mewn meithrin gallu er mwyn galluogi cyflenwi yn 2024-25 ac ehangu’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn y dyfodol

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Cynyddu arwynebedd y mawndir a ddifrodwyd sy’n cael ei adfer ledled Cymru 15% (o linell sylfaen o 600 hectar i tua 700 hectar)
  • Cynyddu effeithiolrwydd ein mewnbwn i’r system cynllunio defnydd tir, er mwyn lleihau effaith negyddol datblygiad ar fawndir trwy gynhyrchu safbwynt polisi CNC ar Bolisi Cynllunio Cymru Argraffiad 12 (i achosi newid yn 2025-26)
  • Cynyddu datblygiad prosiectau adfer mawndir parod-i-raw drwy gynyddu’r cyllid sydd ar gael drwy ein grant datblygu cystadleuol 100%

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Ehangu arwynebedd adfer mawndiroedd a blaenoriaethau galluogi eraill yn y Rhaglen Genedlaethol ar Fawndiroedd.

Maes ffocws: Bod atebion ar sail natur yn cael eu mabwysiadu'n eang

Cam i'w gymryd: Ysgogi’r gwaith o adfer cynefinoedd morol ac arfordirol fel morfa heli, twyni tywod, morwellt a riffau wystrys brodorol drwy weithio gyda phartneriaid cyflenwi, defnyddio ystod o offerynnau cynghori a rheoleiddio a chymhellion ariannol, a gwneud gwaith monitro i werthuso effeithiolrwydd

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Cryfhau gallu a thystiolaeth i lywio blaenoriaethu gofodol er mwyn galluogi adferiad effeithiol yn y dyfodol o fewn cynefinoedd morol ac arfordirol

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Cynyddu’r cyngor a roddir i bartneriaid allanol drwy ymgynghori ar ganllawiau ar brosiectau adfer morol ac arfordirol a’u cyhoeddi (erbyn diwedd Ch1)
  • Cynyddu’r sylfaen dystiolaeth i gefnogi gwneud penderfyniadau ar leoliadau prosiectau adfer trwy fireinio mapiau cyfleoedd ar gyfer morwellt ac wystrys brodorol (erbyn diwedd Ch4)

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Gweithio gydag eraill i alluogi adferiad effeithiol yn y lleoliadau cynefin morol ac arfordirol mwyaf addas.

Maes ffocws: Rheoli ac addasu i risgiau’r newid yn yr hinsawdd

Cam i'w gymryd: Lleihau’r perygl i fywyd o lifogydd i bobl a chymunedau o brif afonydd, cronfeydd dŵr a’r môr, trwy gyflwyno cynlluniau lliniaru llifogydd

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Cyflenwi prosiectau cyfalaf a chynnal lefelau amddiffyn eiddo i leihau perygl llifogydd

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Lleihau’r perygl llifogydd i 814 eiddo yng Nghasnewydd, drwy gwblhau’r gwaith ar Gynllun Lliniaru Llifogydd Stryd Stephenson
  • Diogelu 800 eiddo rhag llifogydd yn barhaus trwy gynnal a chadw cyfalaf anarferol ar asedau/amddiffynfeydd presennol

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Cyflenwi gwaith cyfalaf â blaenoriaeth i leihau perygl llifogydd yn unol â blaenoriaethau’r rhaglen.

Maes ffocws: Rheoli ac addasu i risgiau’r newid yn yr hinsawdd

Cam i'w gymryd: Lleihau’r perygl i fywyd o lifogydd drwy gyhoeddi rhybuddion llifogydd sy’n diwallu anghenion newidiol cymunedau a chynnal a gwella’r gwasanaeth rhybuddion llifogydd 24/7

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Gwella'r gwasanaeth rhybuddion llifogydd a'r system telemetreg i sicrhau arbedion effeithlonrwydd a chynnal parhad gwasanaeth i gwsmeriaid

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Cynnal y gwasanaeth rhybuddion llifogydd gweithredol a gynigiwyd i 139,000 eiddo trwy gyflenwi’r system rhybuddion llifogydd newydd (erbyn diwedd Ch2) (gan dynnu’n ôl o’r gwasanaeth a reolir gan Asiantaeth yr Amgylchedd)
  • Darparu data telemetreg yn barhaus i bob cwsmer trwy symud i'r porth data newydd (erbyn diwedd Ch3)

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Esblygu'r gwasanaeth rhybuddion llifogydd, gan ddarparu gwelliannau, gan gynnwys i gwsmeriaid, a mwy o effeithlonrwydd.

Maes ffocws: Rheoli ac addasu i risgiau’r newid yn yr hinsawdd

Cam i'w gymryd: Lleihau’r perygl o lifogydd i fywyd drwy reoli ein hasedau llifogydd a’n seilwaith ar gyfer perygl llifogydd yn awr ac yn y dyfodol a chynllunio ar gyfer newid drwy gynnal ac addasu’r asedau llifogydd a’r seilwaith yr ydym yn atebol amdanynt

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Adolygu’r dull blaenoriaethu ar gyfer cynnal a rheoli asedau llifogydd i sicrhau bod ein buddsoddiad yn seiliedig ar risg

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Cynyddu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y dyraniad o refeniw cynnal a chadw llifogydd arferol trwy weithredu'r Model Dyrannu Refeniw Seiliedig ar Risg newydd
  • Cynyddu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y dyraniad o fuddsoddiad asedau llifogydd trwy gyflenwi’r Prosiect Asedau sy’n Wynebu Newid

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Datblygu'r strategaethau a'r offer sydd eu hangen i lywio'r ymateb hirdymor i'r angen i addasu asedau llifogydd.

Maes ffocws: Bod allyriadau carbon yn cael eu lleihau

Cam i'w gymryd: Ysgogi mabwysiadu technolegau dal carbon isel a charbon amgen mewn diwydiant drwy ddarparu cyngor ac arweiniad arbenigol i lywio ceisiadau am ganiatâd cynllunio a/neu drwyddedau

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Datblygu dealltwriaeth, gan ddefnyddio mewnwelediad i wella prosesau cyn ymgeisio sy'n ymwneud â chynllunio statudol a cheisiadau trwyddedu i hwyluso datgarboneiddio diwydiannol a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr tirlenwi

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Gwell dealltwriaeth o’r cyfyngiadau ar ddatgarboneiddio drwy ymgysylltu â’r holl ddiwydiannau carbon uchaf yng Nghymru i lywio cyngor a chamau gweithredu
  • Lleihau’r gyfran o geisiadau carbon isel a dal carbon sy’n cael eu gwrthod, trwy ddarparu cyngor cyn ymgeisio arbenigol i o leiaf deg prosiect (gan ragweld chwe chyflwyniad yn 2024-25)
  • Gostwng y swm o nwy tirlenwi a ryddheir yn uniongyrchol o safleoedd tirlenwi trwy gyflawni blaenoriaethau allweddol y prosiect Lleihau Allyriadau Tirlenwi

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Gweithredu newidiadau i brosesau cynllunio a thrwyddedu mewn perthynas â thechnolegau dal carbon isel a charbon amgen.

Maes ffocws: Bod allyriadau carbon yn cael eu lleihau

Cam i'w gymryd: Cefnogi datblygiad ynni adnewyddadwy cynaliadwy ar y môr ac ar y tir drwy ein tystiolaeth, ein cyngor a’n rheoliadau, gan feithrin dealltwriaeth gyffredin o’r safonau sy’n ofynnol yn y prosesau cynllunio a thrwyddedu statudol

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Gwella tystiolaeth, canllawiau a chyngor cyn ymgeisio i wella ansawdd cyflwyniadau ar gyfer caniatâd cynllunio a cheisiadau am drwyddedau

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Cynyddu cynhyrchiant canllawiau ynni adnewyddadwy morol a chynhyrchion tystiolaeth 40% i ddechrau
  • Cwblhau mwy o gamau gweithredu (75%) o'r adolygiad o drwyddedau morol er mwyn gwella profiad defnyddwyr gwasanaeth
  • Cynnal lefelau gwasanaeth ar 95% ar gyfer penderfynu ar geisiadau am drwyddedau ynni adnewyddadwy morol

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Gweithredu gwelliannau i'r gwasanaeth trwyddedau, cyngor a gwaith rheoleiddio morol, gan barhau i gyflenwi tystiolaeth flaenoriaeth ac anghenion canllawiau.

Maes ffocws: CNC yn sefydliad enghreifftiol ar gyfer sector cyhoeddus carbon bositif

Cam i'w gymryd: Cryfhau ein hymagwedd strategol at ddatgarboneiddio drwy ddatblygu a chyflawni cynllun sero net ar gyfer y sefydliad cyfan, gan adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd gan bartneriaid

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Blaenoriaethu camau gweithredu sydd â’r budd cost mwyaf ar gyfer carbon deuocsid a’i gyfatebol (CO2e) / nwyon tŷ gwydr i gyflawni ein blaenoriaethu blynyddol o fewn y Cynllun Sero Net

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Gwell dealltwriaeth o amcangyfrifon carbon oes gyfan ar gam opsiwn a dyluniad pob prosiect adeiladu cyfalaf trwy gymhwyso Offeryn Modelu Carbon ERIC Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Gwell dealltwriaeth o ôl troed carbon yr holl brosiectau adeiladu cyfalaf dros £1 miliwn yn ystod y cam adeiladu, drwy ddefnyddio cyfrifiannell carbon ERIC Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Cynnydd yn nifer y staff sy’n cyflawni achrediad llythrennedd hinsawdd o 30% i 50% o holl staff CNC, drwy ddarparu’r Rhaglen Hyfforddiant Llythrennedd Hinsawdd

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Ehangu ar gyflenwi camau blaenoriaeth o fewn y Cynllun Sero Net.

Maes ffocws: CNC yn sefydliad enghreifftiol ar gyfer sector cyhoeddus carbon bositif

Cam i'w gymryd: Sicrhau bod camau gweithredu ar gyfer yr hinsawdd yn cael eu gweithredu ym mhob rhan o’n cadwyni cyflenwi, ein rhaglenni grant a’n cytundebau rheoli tir drwy eu cynnwys yn ein fframweithiau caffael a chyllid

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Gwreiddio'r defnydd o offer a chynlluniau lleihau carbon mewn contractau a fframweithiau gwerth uchel er mwyn gwella ansawdd cyflwyniadau

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Canran uwch o gytundebau prynu a ddyfarnwyd lle mae lleihau carbon wedi’i gynnig fel budd ‘effaith llesiant’
  • Cynyddu’r defnydd o gyfrifianellau carbon ar bob cytundeb fframwaith perthnasol sy’n adnewyddu o Chwefror 2024 50% (o 0). Camau wedi'u datblygu i lywio manylebau'r dyfodol i leihau allyriadau carbon yn y blynyddoedd i ddod
  • Wedi cynyddu’r ganran o’r canlynol:
    (a) Cynlluniau lleihau carbon cydymffurfiedig a dderbyniwyd ar gyfer contractau caffael CNC a fframweithiau dros £5 miliwn o ganlyniad i gymorth arbenigol CNC a ddarparwyd
    (b) Cynlluniau lleihau carbon a dderbyniwyd ar gyfer contractau caffael CNC a fframweithiau dros £5 miliwn

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Adolygu'r potensial i ehangu'r defnydd o offer a chynlluniau lleihau carbon i fframweithiau ariannu eraill.

Amcan Llesiant 3: Llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf

Y newid rydym am ei weld erbyn 2030: llygredd yn cael ei leihau drwy reoleiddio effeithiol a diwygio deddfwriaethol, gan leihau niwed i fioamrywiaeth a llesiant pobl, a hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy a defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol (Datganiad Effaith 3).

Yn 2024-25, bydd camau gweithredu o strategaeth Mwy nag Ailgylchu Llywodraeth Cymru yn parhau i gael eu cyflenwi, gan gynnwys gweithredu’r ddeddfwriaeth ailgylchu yn y gweithle newydd. Bydd lleihau llygredd afonydd a moroedd yn ffocws parhaus gydag Adolygiad Prisiau Cyfnodol 24 yn pennu cyflymder a graddfa’r gwelliant gan Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy o ran gwella eu hasedau i leihau llygredd a chynnal sicrwydd cyflenwad dŵr. Bydd y cyfle i leihau llygredd o amaethyddiaeth yn cael ei siapio'n sylweddol gan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sy'n nodi sut y bydd rheolwyr tir yn cael eu gwobrwyo am reoli tir mewn ffordd natur-bositif.

Mae ein hymrwymiadau blynyddol ar gyfer 2024-25 yn adlewyrchu ein cyfraniad at y darnau hanfodol hyn o waith yn ogystal â’n ffocws parhaus ar wella ansawdd dŵr drwy, er enghraifft, adolygu trwyddedau ar gyfer gweithfeydd trin dŵr gwastraff mwy ac archwiliadau fferm wedi’u cynllunio yn unol â’r Rheoliadau Llygredd Amaethyddol. Rydym yn bwriadu adolygu ein dull o reoli digwyddiadau, gan ddefnyddio tystiolaeth, i'n galluogi i integreiddio camau ataliol i'r ymateb i ddigwyddiadau. Ochr yn ochr â’r dulliau rheoleiddio traddodiadol hyn, byddwn yn parhau i gyflawni camau gweithredu wedi’u blaenoriaethu ar raddfa’r dalgylch ac archwilio cyfleoedd i arloesi a chydweithio â phartneriaid, drwy, er enghraifft, Brosiect Arddangos Afon Teifi. Nid ydym wedi cynnwys yr holl gamau i’w cymryd yng nghynllun busnes eleni. Er enghraifft, byddwn yn parhau i roi trwyddedau, cynnal ymweliadau cydymffurfio, ymateb i ddigwyddiadau, a, lle bo angen, cymryd camau gorfodi.

Maes ffocws: Defnydd effeithiol o offer a dulliau rheoleiddio

Cam i'w gymryd: Sicrhau bod y sectorau rydym yn eu rheoleiddio, gan gynnwys gweithgareddau anghyfreithlon nas caniateir, yn cymryd camau effeithiol i reoli a lleihau llygredd a chynyddu effeithlonrwydd adnoddau drwy ddarparu cyngor a chanllawiau sy’n nodi’n effeithiol y safonau y mae eu hangen i sicrhau cydymffurfedd

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Cynnal archwiliadau fferm o dan y Rheoliadau Llygredd Amaethyddol, yn unol â'r polisi cosbau gorfodi, i leihau llygredd

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Cynnal lefel y gwasanaeth ar gyfer nifer yr archwiliadau cydymffurfio o dan y Rheoliadau Llygredd Amaethyddol trwy gwblhau 80% o’r 821 a drefnwyd (safleoedd a nodir fel rhai â gweithgareddau risg uwch)
  • Gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd arolygiadau cydymffurfio trwy gynnal adolygiad blynyddol

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd arolygiadau cydymffurfio o dan y Rheoliadau Llygredd Amaethyddol.

Maes ffocws: Defnydd effeithiol o offer a dulliau rheoleiddio

Cam i'w gymryd: Sicrhau bod y sectorau rydym yn eu rheoleiddio, gan gynnwys gweithgareddau anghyfreithlon nas caniateir, yn cymryd camau effeithiol i reoli a lleihau llygredd a chynyddu effeithlonrwydd adnoddau drwy ddarparu cyngor a chanllawiau sy’n nodi’n effeithiol y safonau y mae eu hangen i sicrhau cydymffurfedd

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Cynnal ymweliadau cydymffurfio â safleoedd a reoleiddir â blaenoriaeth i leihau llygredd

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Cynnal lefel y gwasanaeth ar gyfer toriadau cydymffurfio Categori 1 a Chategori 2 ar 95%, yn amodol ar ymdrech gydymffurfio bellach (cam gweithredu neu adolygiad) o fewn chwe mis
  • Gwell effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd ymweliadau cydymffurfio trwy gynnal adolygiad blynyddol

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ymweliadau cydymffurfio.

Maes ffocws: Defnydd effeithiol o offer a dulliau rheoleiddio

Cam i'w gymryd: Lleihau llygredd a gwastraff trwy weithio ar y cyd â diwydiant ac eraill i nodi sut mae angen i ddeddfwriaeth a pholisi Llywodraeth Cymru newid

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Darparu cymorth a chyngor ar y Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle newydd, gan dargedu sectorau gweithle allweddol a darparwyr gwasanaethau gwastraff i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth rhanddeiliaid

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Cynnal effeithlonrwydd ein cymorth a’n cyngor ar y Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle drwy (a) ymateb i ymholiadau o fewn deg diwrnod (canran a gyrhaeddwyd) a (b) gwerthuso’r ymholiadau a dderbyniwyd ac addasu cymorth a chyngor
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o’r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle o fewn ein sectorau blaenoriaeth drwy ddarparu gwybodaeth a chanllawiau sector-benodol i 20% o’r gweithleoedd a digwyddiadau (5,400 o’r 27,000)
  • Sefydlu canran y gweithleoedd a digwyddiadau yn ein sectorau blaenoriaeth y canfyddir eu bod yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle yn asesiad cydymffurfedd CNC

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Gwella prosesau sy'n ymwneud â'r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle, gan gymryd adborth gan gwsmeriaid a rhanddeiliaid.

Maes ffocws: Defnydd effeithiol o offer a dulliau rheoleiddio

Cam i'w gymryd: Gwarchod yr amgylchedd a gwella perfformiad amgylcheddol cwmnïau dŵr trwy herio eu rhaglenni buddsoddi yn effeithiol i sicrhau camau i wella

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Darparu her a chyngor i gwmnïau dŵr i sicrhau bod eu rhaglenni buddsoddi yn lleihau risgiau ac effeithiau eu gweithrediadau ar yr amgylchedd

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Dylanwadu ar gynnydd mewn buddsoddiad gan gwmnïau dŵr mewn gwelliannau ansawdd dŵr trwy gefnogi Ofwat i graffu ar gynlluniau busnes cwmnïau dŵr
  • Cynyddu effeithiolrwydd cynlluniau sychder y tri chwmni dŵr drwy wneud y canlynol:
    (a) cyhoeddi canllawiau cynllun sychder erbyn diwedd Ch2 a
    (b) gwneud argymhellion ar eu cynlluniau sychder drafft drwy'r ymgynghoriad cyhoeddus (defnyddio cyhoeddi cynlluniau sychder terfynol fel mesur effeithiolrwydd yn 2025-26)
  • Gwella perfformiad cwmnïau dŵr trwy gyflenwi archwiliad monitro gweithredwyr ar gyfer Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy a chwblhau archwiliadau safle o weithfeydd trin carthion yn seiliedig ar risg amgylcheddol

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Olrhain a monitro perfformiad cwmnïau dŵr i leihau risgiau ac effeithiau eu gweithrediadau ar yr amgylchedd a sicrhau cydymffurfedd.

Maes ffocws: Defnydd effeithiol o offer a dulliau rheoleiddio

Cam i'w gymryd: Lleihau llygredd mewn dyfroedd gwarchodedig iawn a dynodedig trwy nodi'r camau gweithredu sy'n ofynnol gan ystod o sectorau

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Gosod yr uchelgais ar gyfer gwella ansawdd dŵr ar raddfa dalgylch er mwyn meithrin cydweithrediad a chyflenwi camau gweithredu â blaenoriaeth

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Lleihau’r llwyth o ffosfforws i safleoedd afonydd gwarchodedig iawn yn unol â disgwyliadau wedi’u modelu drwy gwblhau’r adolygiad o’r holl drwyddedau cwmni dŵr, sef 171 trwydded
  • Cynyddu ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o achosion methiant cyrff dŵr mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) trwy gwblhau 30% o ymchwiliadau sydd heb eu cwblhau
  • Cynyddu ansawdd dŵr mewn dyfroedd gwarchodedig iawn a dynodedig trwy gwblhau camau gweithredu yr ymrwymwyd iddynt fel rhan o brosiectau partneriaeth CNC (rhaglen LIFE, Cronfeydd Argyfwng Natur a Hinsawdd (NaCE)), gydag o leiaf 30 o gamau gweithredu ar draws deg dalgylch cyfle mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Cyflenwi gweithredu cydweithredol â blaenoriaeth ar raddfa dalgylch.

Maes ffocws: Ymateb i ddigwyddiadau sy'n seiliedig ar risg

Cam i'w gymryd: Lleihau niwed o ddigwyddiadau llygredd amgylcheddol trwy baratoi ar gyfer ac ymateb i ddigwyddiadau blaenoriaeth fel ymatebwr Categori 1

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Ymateb i ddigwyddiadau llygredd â blaenoriaeth i leihau niwed amgylcheddol

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Cynnal lefel y gwasanaeth ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau a gategoreiddiwyd yn wreiddiol fel ‘Uchel’ o fewn pedair awr ar 95%
  • Gwell effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwasanaeth trwy gynnal adolygiad blynyddol

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Gweithredu gwelliannau i'r gwasanaeth.

Maes ffocws: Ymateb i ddigwyddiadau sy'n seiliedig ar risg

Cam i'w gymryd: Lleihau’r niwed o sectorau penodol ac o fewn ardaloedd daearyddol penodol trwy ddefnyddio tystiolaeth i gymryd camau i wella cydymffurfedd

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Gwella ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n sbarduno digwyddiadau llygredd ledled Cymru er mwyn llywio’r gwaith o integreiddio camau ataliol i ymateb i ddigwyddiadau

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Cynyddu ein gwybodaeth a nodi cyfleoedd i wella prosesau, galluoedd a chymwyseddau trwy adolygu dulliau ac offer cyfredol ar draws 15 o feysydd llygredd
  • Cynyddu ein gwybodaeth am achosion o lygredd (niferoedd digwyddiadau, mathau, lleoliadau, effeithiau a dyrannu adnoddau) drwy gynhyrchu adroddiad dadansoddi manwl (erbyn diwedd Ch2) a llywio meysydd ffocws, strategaethau a chamau gweithredu erbyn diwedd Ch4
  • Mwy o gyfleoedd i integreiddio camau ataliol i’r strategaeth rheoli digwyddiadau drwy
    (a) datblygu papur opsiynau a (b) gwneud penderfyniadau yng ngrwpiau busnes CNC ar flaenoriaethau

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Cytuno ar y strategaeth rheoli digwyddiadau newydd a'i rhoi ar waith.

Maes ffocws: Ymateb i ddigwyddiadau sy'n seiliedig ar risg

Cam i'w gymryd: Lleihau'r niwed o droseddau amgylcheddol difrifol trwy ymchwilio i ddigwyddiadau a chymryd camau cryf a phendant

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Cynnal ymchwiliadau a chamau gorfodi i leihau niwed amgylcheddol

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Cynnal lefel y gwasanaeth ar y penderfyniad ar ymateb gorfodi priodol o fewn tri mis ar 95%
  • Gwell effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwasanaeth trwy gyflwyno'r Adroddiad Rheoleiddio Blynyddol ac adroddiad chwarterol Mynd i'r Afael â Throseddau Gwastraff

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Gweithredu gwelliannau i'r gwasanaeth.

Maes ffocws: Ymateb i ddigwyddiadau sy'n seiliedig ar risg

Cam i'w gymryd: Lleihau’r niwed o wastraff anghyfreithlon drwy gymryd camau gydag awdurdodau lleol a phartneriaid trydydd sector i atal tipio anghyfreithlon

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Cryfhau ffyrdd o weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid trydydd sector i wneud y mwyaf o weithredu ar y cyd ar dipio anghyfreithlon

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Gwell ffyrdd o weithio ar dipio anghyfreithlon rhwng CNC ac asiantaethau partner drwy gyhoeddi protocol tipio anghyfreithlon wedi’i ddiweddaru (erbyn diwedd Ch1) a threialu un cytundeb lleol (erbyn diwedd Ch3)
  • Cynyddu’r defnydd o offer gwyliadwriaeth Taclo Tipio Cymru (o bedwar i bum awdurdod lleol) a gwasanaeth Mallard gan awdurdodau lleol (o wyth i ddeg), i annog mwy o ganlyniadau gorfodi

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Gwella prosesau, offer a chamau gweithredu i atal tipio anghyfreithlon.

Trawsbynciol

Cam i'w gymryd:

  • Nodi cyfleoedd i wneud y gorau o weithredu ac effaith gyfunol y sector cyhoeddus drwy ddefnyddio’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a Datganiadau Ardal i weithio gyda’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, awdurdodau iechyd y cyhoedd ac awdurdodau lleol.
  • Cynnwys gwahanol gymunedau a sectorau yn ein gwaith, trwy gymhwyso mewnwelediadau ymddygiadol i lywio ein dulliau gweithredu.
  • Sicrhau bod ystod amrywiol o bobl yn gweithredu dros fyd natur drwy rannu gweledigaeth a chanlyniadau Natur a Ni i ehangu ein rhwydweithiau a chynyddu cyfranogiad

Ymrwymiad ar gyfer 2024-25: Datblygu dealltwriaeth o anghenion defnyddwyr, profiad, a chyfleoedd ar gyfer negeseuon cyffredin a phrif ffrydio tystiolaeth i wneud penderfyniadau er mwyn llywio’r adroddiad interim ar gyfer Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025

Mesurau allweddol i’w cyflenwi:

  • Cynyddu’r wybodaeth ymhlith cyrff sector a rhanddeiliaid ehangach ynghylch sut i wneud y gorau o weithredu ar y cyd ar natur, hinsawdd a llygredd drwy gyhoeddi’r adroddiad interim ar gyfer Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 (erbyn diwedd Ch3)
  • Cynyddu ein gwybodaeth am ryngweithio defnyddwyr â’r adroddiad interim ar gyfer Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 drwy sefydlu offeryn monitro ar-lein a chynnal dadansoddiad
  • Gwella ein dealltwriaeth o anghenion defnyddwyr a gofynion cymorth ar gyfer Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 drwy gynnal cyfweliadau â deg corff sector cyhoeddus a rhanddeiliaid ehangach

Cam nesaf ar gyfer 2025-26: Integreiddio dysgu yn adroddiad terfynol Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 i wella profiad defnyddwyr, defnydd ac effaith.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf