Llun gan Peter Lewis

Ers cyhoeddi’r Datganiadau Ardal ym mis Mawrth 2020 maen nhw’n naturiol wedi esblygu i adlewyrchu blaenoriaethau ar ôl y pandemig ar gyfer ein hamgylchedd ar draws Canolbarth Cymru.

 

Cafwyd ffocws ar alluogi a grymuso cymunedau i ddatblygu eu gwytnwch eu hunain, gyda chymorth, i helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur ar raddfa leol.

Pam y thema hon?


Mae’n ffaith hysbys bod coetiroedd a choed yn darparu nifer o fuddiannau i gymdeithas. Maent yn helpu i reoleiddio ein hinsawdd, darparu incwm a swyddi o bren a gweithgareddau eraill, storio carbon, lleihau’r risg o lifogydd, diogelu priddoedd, gwella ansawdd aer, lleihau sŵn a hyd yn oed rheoleiddio plâu a chlefydau. Maent yn chwarae rhan bwysig o ran peillio, ailgylchu maethynnau, ffurfio priddoedd, ailgylchu dŵr, storio carbon a chynhyrchu ocsigen, pob un ohonynt yn hollbwysig er mwyn cefnogi ecosystemau a bywyd dynol. Cydnabyddir yn eang erbyn hyn fod cysylltiadau cadarnhaol sylweddol rhwng lles meddyliol a chorfforol a choed a mannau gwyrdd mewn ardaloedd trefol.

Tirlun o goetir collddail ddechrau’r hydref yn Nyfnant.Llun gan Carol Owen

Yma yng Nghanolbarth Cymru, mae gennym gymysgedd amrywiol o adnoddau coetir a choedwigoedd gan gynnwys coedwigoedd conwydd ucheldir ar raddfa fawr, coetiroedd a lleiniau cysgodi brodorol, bach, gwasgaredig, coetiroedd ystadau, porfa coetir a chynefinoedd parcdir. Mae Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ymestyn dros 50,000 hectar o dir sy’n berchen i’r cyhoedd (mae 85% ohono wedi’i ddynodi fel tir mynediad agored), gan wneud cyfraniad gwerthfawr i’n hamgylchedd, economi, iechyd a lles cymdeithasol. Yng Nghanolbarth Cymru mae gennym y daliad coedwig â’r cynhyrchiant uchaf yng Nghymru, sy’n darparu 350,000 o fetrau ciwbig o bren bob blwyddyn i ddiwydiant prosesu pren Cymru (gyda bron i 40% o’r pren ardystiedig yn deillio o’r Ystâd Goetir). Mae hyn yn cyfrannu’n sylweddol at yr economi wledig, gan gefnogi nifer o gwmnïau prosesu pren. Mae angen i’r coedwigoedd hyn yng Nghanolbarth Cymru dyfu'n flynyddol, gan sicrhau y bydd adnodd coedwigaeth gynaliadwy yn parhau i fod gennym yn y dyfodol.

Mae cynefinoedd wedi’u colli a choetiroedd brodorol wedi’u darnio yng Nghanolbarth Cymru ers mwy na 1,000 o flynyddoedd, yn bennaf o ganlyniad i glirio tir ar gyfer cynhyrchiant amaethyddol.  Yn ystod yr 20fed ganrif cafodd coedwigoedd eu plannu arnynt ar raddfa fawr, gyda llawer ohonynt yn cael eu plannu ar ardaloedd o fawn dwfn, gan ddifrodi cynefinoedd yr ucheldiroedd yn anfwriadol. Mae llawer o’r ardaloedd coetir hyn yn dal i fod dan berchnogaeth breifat, ond mae xx% o’r coetir yn rhan o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru. Y rhywogaethau mwyaf niferus yng nghoedwigoedd yr Ystâd Goed yw pinwydd Sitka, ffynidwydden Douglas, y llarwydden a’r binwydden, yn ogystal â nifer gynyddol o goedwigoedd llydanddail a chymysg brodorol ar dir is.

Er gwaethaf yr adnodd coedwigaeth cyfoethog yng Nghanolbarth Cymru, fel gwlad rydym yn parhau i fewnforio 63% o bren meddal a 94% o bren caled. Mae’r rhagolygon am gynhyrchu pren yng Nghymru yn y dyfodol yn dangos gostyngiad yn y lefelau presennol os na fyddwn yn defnyddio mwy o ardaloedd ac yn cynyddu ein gorchudd coetir. Yn y blynyddoedd diweddar, mae’r coed sydd wedi’u cwympo oherwydd clefydau coed wedi effeithio ar y tirlun coedwigoedd, er mewn rhai lleoliadau mae coedwigoedd conwydd wedi’u disodli gan goed llydanddail, gan wella’r amgylchedd. Yn anffodus, bydd clefydau coed megis clefyd (Chalara) coed ynn yn cael effaith arwyddocaol ar y rhywogaethau bywyd gwyllt niferus sy’n gysylltiedig â choetir coed ynn.

 

Coetir bedw gyda charped o glychau’r gog.Llun gan Ian Medcalf

Mae rheoli ardaloedd pori yn fater pwysig yn llawer o’r coetiroedd, yn benodol yn y coedwigoedd derw nodweddiadol ar yr ucheldir yng Nghanolbarth Cymru. Mae 60% o’r ardal coetiroedd brodorol yng Nghanolbarth Cymru, sy’n cael ei hystyried gan rai fel ‘fforest law Cymru’, yn cynnwys coedwigoedd derw ar yr ucheldir, sy’n cael eu cydnabod am eu bioamrywiaeth a’u gwerth diwylliannol uchel. Fodd bynnag, mae cyfuniad o ail-dyfu yn dilyn gwaith helaeth o glirio a chwympo coed mewn cyfnodau o ryfel yn yr 20fed ganrif a thoriad mewn dulliau rheoli traddodiadol, wedi golygu bod llawer o’r coetiroedd heb gael eu rheoli’n briodol ac mewn cyflwr gwael gyda diffyg amrywiaeth strwythurol, ac mae’r holl goed yn y coetir o oedran cyfartal.

Mae llygredd hefyd yn effeithio ar goetiroedd, ac un o’r ffactorau arwyddocaol yw dyddodiad nitrogen Gall hyn effeithio ar gynefinoedd naturiol o ffynonellau naturiol ac anghysbell, er enghraifft y diwydiant amaethyddiaeth (ffynhonnell leol) a diwydiant trwm (ffynhonnell anghysbell). Mae’r coedwigoedd derw ar yr ucheldir, gyda’u hamrywiaeth eang o is-blanhigion (mwsoglau, cenau a bryoffytau) yn agored iawn i effeithiau dyddodiad nitrogen.

Mae’n anochel y bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar goetiroedd Cymru yn y dyfodol, a rhagwelir y bydd cynnydd tebygol mewn plâu a chlefydau. Gallai hinsawdd fwy cynnes a sych mewn rhai ardaloedd effeithio ar rywogaethau sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys pinwydd Sitka, ond hefyd y cyfleoedd presennol i blannu rhywogaethau gyda chynhyrchiant uchel, fel ffynidwydden Douglas yn yr ucheldiroedd.

Er na ellir dadlau nad pefrwydd Sitka yw un o’r cnydau coedwigaeth pwysicaf yn economaidd yng Nghymru (ac mae’r adfywio naturiol fod o fudd i’r diwydiant coedwigaeth), gall hunan-hadu y tu hwnt i ffiniau coedwigoedd gael effaith niweidiol ar y cynefinoedd ucheldir agored a’r safleoedd gwarchodedig cyfagos.

Y prif feysydd dan sylw yn y thema hon yw:

  • Rheoli adnoddau coed mewn ffordd gynaliadwy, gan gefnogi’r diwydiant pren yr un pryd

  • Cynyddu’r gorchudd coetir gyda choed conwydd, llydanddail a choed cymysg, gan ddilyn yr egwyddor ‘y goeden gywir, y lleoliad cywir’*
  • Cefnogi cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth leol ym meysydd rheoli a sgiliau coedwigaeth

  • Gwerthfawrogi coetiroedd am eu gwerth masnachol, hamdden a bioamrywiaeth

  • Addasu i effeithiau clefydau coed a newid yn yr hinsawdd

  • Gweithio gyda llunwyr polisïau i gydbwyso’r angen i ail-blannu mewn coedwigoedd ar yr ucheldir ac osgoi difrod i gynefinoedd mewndir naturiol

  • Chwilio am gyfleoedd i ddal, gwrthbwyso a storio carbon drwy goetiroedd sy’n cael eu rheoli’n dda

(*gan sicrhau nad yw ardaloedd pwysig sydd eisoes yn storio carbon, yn cefnogi cynefinoedd a rhywogaethau blaenoriaeth a safleoedd gwarchodedig yn cael eu plannu gydag effeithiau negyddol ar y safle)

Lluniwyd y rhestr uchod i ddarparu canllawiau ac i helpu i osod blaenoriaethau ar gyfer prosiectau a chydweithio. Drwy edrych ar y meysydd ffocws hyn gyda’n gilydd, byddwn hefyd yn helpu i fynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd ar lefel leol. Nid yw’r rhestr hon o feysydd ffocws yn gynhwysfawr, ac nid ydynt yn eithrio unrhyw broblemau, syniadau nag atebion a allai godi. Rydym ni eisiau annog cymunedau i ddatblygu syniadau arloesol ar gyfer eu mentrau llesiant cymunedol eu hunain.

Beth fyddai llwyddiant yn ei olygu?

Mae coetiroedd sy’n cael eu rheoli’n dda yn cyfrannu’n sylweddol at gysylltu cynefinoedd ar draws tirlun Canolbarth Cymru. Mae'r ystâd goed a choetiroedd yn helaeth. Felly, maent yn darparu cyfleoedd delfrydol i weithio gyda thirfeddianwyr, ffermwyr, grwpiau cadwraeth a’r diwydiant coedwigaeth er mwyn gwella cynefinoedd naturiol, rheoli adnoddau pren yn gynaliadwy a hyrwyddo buddiannau iechyd a hamdden a mynediad i gymunedau.

Yn ystod y digwyddiadau ymgysylltu rydym wedi gwrando ar randdeiliaid ac wedi clywed eu straeon a'u profiad uniongyrchol o greu coedwigaeth ar raddfa fawr yn y gorffennol, sgiliau coedwigaeth sy’n rhedeg mewn teuluoedd, a bygythiadau’r presennol a’r dyfodol. Rydym hefyd wedi clywed sut y gall tirfeddianwyr, drwy weithio gyda’i gilydd, elwa ar yr angen am fwy o orchudd coed, ar yr amod bod y mater yn cael ei drin a’i drafod o ongl wahanol.

Mae'r Datganiad Ardal yn paratoi’r seiliau ar gyfer mabwysiadu’r dulliau gweithredu newydd canlynol:

  • Plannu coetiroedd conwydd a chymysg er mwyn darparu cyswllt ar gyfer bioamrywiaeth a chymunedau ar hyd a lled Canolbarth Cymru (mae’n bosibl ymgorffori cyfran sylweddol o goed newydd i dir sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio, er enghraifft drwy blannu mewn corneli caeau, pentiroedd a gwrychoedd)

  • Gweithlu medrus sy'n ymwybodol o'r amgylchedd ac sy'n rheoli gweithrediadau coedwigaeth yn gynaliadwy

  • Hyrwyddo’r defnydd helaeth o bren o Gymru yn y diwydiant adeiladu

  • Adeiladu cydnerthedd yn erbyn achosion o afiechydon coed

  • Cymunedau’n ymgysylltu’n rhagweithiol gyda’u coetir lleol a’r dulliau o’i reoli

  • Lleihau allyriadau carbon o’r diwydiant coedwigaeth a chynyddu’r cyfleoedd i ddal a storio carbon

Drwy’r Datganiad Ardal, rydym ni eisiau gweithio gyda pherchnogion tir a’u cynorthwyo i addasu i gynigion y cynllun ffermio cynaliadwy newydd i sicrhau buddion i bobl, cymunedau ac amgylchedd Canolbarth Cymru.

Gyda phwy rydym ni wedi gweithio hyd yn hyn?

Wrth ddatblygu’r Datganiad Ardal, defnyddiodd CNC ystod o adnoddau yn seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR), a Blaenoriaethau Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru. Fe wnaethom hefyd gymryd gwybodaeth o Gynlluniau Lles Powys a Cheredigion a’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i gyd-fynd â’u blaenoriaethau a’u Nodau Llesiant, yn seiliedig ar anghenion lleol.

Er bod llawer o sectorau yn cael eu cynrychioli, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymwybodol bod angen i ni barhau i ehangu apêl y Datganiadau Ardal y tu hwnt i’r cyfranogwyr arferol. Mae’n rhaid cynnwys cymunedau a’r sectorau y tu hwnt i’r sector amgylcheddol. Rydym bob amser wedi cydnabod pwysigrwydd ymgysylltu â chymunedau, ac rydym wrthi’n ystyried y ffordd orau i wneud hynny er mwyn manteisio r y cyfleoedd sydd wedi’u trafod hyd yma. Rydym ni’n gweithio i annog a chefnogi’r cymunedau hyn i ddod at ei gilydd i helpu i lunio a chyflawni’r Datganiad Ardal, a hynny er budd i bawb.

Mae’n amlwg iawn, wrth ystyried ein hymgysylltiad hyd yma a’r adborth rydym wedi’i dderbyn, bod y Datganiad Ardal yn cynrychioli newid diwylliant. Mae pawb, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, yn mynd i orfod addasu i’r ffordd newydd hon o weithio. Mae’n her, ond yn un y mae angen i bob un ohonom ei mabwysiadu er mwyn sicrhau bod ein hadnoddau naturiol yn cael eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy yn y dyfodol.

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid, yn eu helpu i ddeall pam eu bod wedi’u gwahodd i fod yn rhan o’r broses Datganiad Ardal, yn ogystal â’r hyn mae’n ei olygu iddynt hwy.

Mae CNC yn gweithio fel rhan o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a Phowys i gyflawni’r amcanion llesiant ar lefel gymunedol.

Mae’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cynnal Asesiad Llesiant i ddeall y problemau a’r blaenoriaethau penodol mewn cymunedau lleol. Cynhyrchwyd Cynllun Llesiant gydag Amcanion Llesiant penodol, er mwyn gwella llesiant cymunedau. Mae’r cynlluniau a’r amcanion llesiant presennol yn weithredol rhwng 2018-2023.

Mae rhagor o fanylion ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys ar gael yma.

Nod adolygiad 2022 o Ddatganiad Ardal Canolbarth Cymru yw diweddaru’r testun craidd hwn i adlewyrchu datblygiad naturiol y Datganiad Ardal dros y ddwy flynedd gyntaf. Mae’r newidiadau ers ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn dangos sut mae’r broses o greu datganiad wedi esblygu’n naturiol, yn seiliedig ar dystiolaeth o waith CNC a mewnbwn rhanddeiliaid. Bydd ein hymgysylltiad yn parhau wrth i’r Datganiad Ardal aeddfedu, datblygu ac esblygu.

Beth yw’r camau nesaf?

Mae angen dathlu arfer da a dysgu ohono. Gellir gweld hyn eisoes ar draws Canolbarth Cymru yn y gwaith sy’n cael ei arwain gan randdeiliaid. Wrth symud ymlaen, mae’r Datganiad Ardal yn gofyn i ni barhau i rannu gwybodaeth a dealltwriaeth, a gyda’n gilydd, i geisio canfod ffyrdd arloesol i fynd i’r afael â heriau. Mae CNC eisoes wedi dechrau nodi rhwydweithiau lle gall prosiectau sy’n dilyn llwybrau tebyg uno a chydweithio. Rydym eisiau annog rhanddeiliaid nad ydynt o bosibl wedi gweithio ochr yn ochr â’i gilydd yn draddodiadol, i ddod at ei gilydd ac archwilio’r posibiliadau i gyflawni canlyniadau gwell drwy gydweithio. Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Powys a Cheredigion wedi mabwysiadu’r dull hwn wrth gyflawni eu gwaith; yng Ngheredigion, maent wedi datblygu nifer o ‘is-grwpiau’ i fynd i’r afael â materion amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd ar lefel lle.

Dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, hoffem weld prosiectau a chyfleoedd yn datblygu er mwyn:

  • Gweithio gyda chyrff masnachol, rhanddeiliaid ac addysgwyr i ddatblygu cymwysterau achrededig yn y gweithle ym maes coedwigaeth amgylcheddol a chynaliadwy

  • Chwilio am atebion gyda llunwyr polisi i’r gofynion ail-blannu presennol sy’n effeithio ar fewndiroedd a chynefinoedd sensitif eraill

  • Cefnogi cynigion Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru i helpu i fynd i’r afael â’r angen am fwy o orchudd coetir

  • Archwilio ardaloedd ar gyfer creu coetiroedd a phlannu cydbwyso, mewn cydweithrediad â rhaglen Goedwig Genedlaethol Llywodraeth Cymru

  • Ystyried polisïau sy’n hyrwyddo’r defnydd o bren Cymru gan y diwydiant adeiladu

  • Archwilio cyfleoedd i ddal a storio carbon drwy goetiroedd cynnyrch cymysg wedi’u rheoli

  • Archwilio cyfleoedd i hyrwyddo’r defnydd o felinau llifio lleol

  • Cydweithio i ddatblygu dull mwy cyfannol ar gyfer rheoli coetiroedd a gwella bioamrywiaeth

  • Gwella cysylltiadau rhwng cymunedau a’u coetiroedd lleol

  • Cynhyrchu data a thystiolaeth ar effaith clefydau coed a newid yn yr hinsawdd, a gweithredu mesurau lliniaru ymarferol

Bydd cyfleoedd ar gyfer cymorth ariannol i ddarparu prosiectau a syniadau trwy system gyllid grant Cyfoeth Naturiol Cymru. Cysylltwch â ni am fanylion pellach am y grantiau sydd ar gael, neu ewch i dudalen grantiau CNC.

Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?

Mae’r Datganiad Ardal yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae angen i ni barhau i ddatblygu ein sylfaen dystiolaeth ar gyfer Canolbarth Cymru, i’n galluogi i wneud gwell penderfyniadau ar gyfer y dyfodol.  Mae’n bosibl adolygu bylchau yn y dystiolaeth ac ychwanegu ati drwy gydweithio a defnyddio’r holl ddata sydd ar gael i ddatblygu amcan pob thema.


Drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid, rydym wedi gallu gweithio gyda’n gilydd i nodi’r themâu ar gyfer Canolbarth Cymru.  Mae sgyrsiau a thrafodaethau wedi rhoi dealltwriaeth i ni o’r materion a’r pwysau y mae gwahanol rhanddeiliaid, sectorau a chymunedau yn eu hwynebu. Rydym yn gobeithio y bydd y dull gweithredu hwn yn cynrychioli ffordd newydd o weithio i Cyfoeth Naturiol Cymru, gan symud oddi wrth ymgynghoriad a thuag at gydweithrediad. Gall fod yn daith anghyfarwydd i rai, yn arbennig ar y dechrau, ond o gofio’r hyn sydd yn y fantol, mae’n daith angenrheidiol.

Sut all pobl gymryd rhan?

Mae grŵp Facebook Canolbarth Cymru yn un ffordd i chi gael y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf am Ddatganiad Ardal Canolbarth Cymru. Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau pellach ac yn datblygu grwpiau a sgyrsiau penodol am bob un o themâu Canolbarth Cymru. Os ydych eisoes ar ein rhestr bostio, byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â’r rhain.  Os hoffech gael eich ychwanegu i’r rhestr, anfonwch e-bost i mid.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Mae angen i ni barhau i ddatblygu’r Datganiad Ardal gyda’n gilydd, i fynd i’r afael â’r argyfwng natur yng Nghanolbarth Cymru. Mae’r Datganiad Ardal yn berchen i bob un ohonom – pawb sydd eisiau cymryd rhan – a byddem yn annog cymaint o bobl â phosibl i ymuno â ni ar unrhyw adeg i helpu i ddatblygu’r Datganiad Ardal fel proses sy’n esblygu’n barhaus. Os hoffech fod yn rhan o’r broses hon, cysylltwch â ni.

Mapiau o’r ardal

Sylwch nad yw ein mapiau’n hygyrch i bobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol o fathau eraill. Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat hygyrch, cysylltwch â ni.

Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol – Canolbarth Cymru (PDF)

  • mae’n dangos ardaloedd o goedwig ac Ystad Goetir Llywodraeth Cymru

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf