Pwyllgor Cynghori Rhanbarthol ar Goedwigaeth

Diben

O dan Ddeddf Coedwigaeth 1967, mae'n ofynnol i ni gynnal pwyllgor cynghori rhanbarthol.

Mae'r pwyllgor yn bodoli i'n cynghori ar y canlynol:

  • defnyddio ein pwerau sy'n ymwneud â:
    • gwrthod neu roi trwyddedau cwympo coed gydag amodau
    • hysbysiadau ailstocio
    • rhoi cyfarwyddiadau cwympo coed
    • gorfodi amodau trwyddedau cwympo a chyfarwyddiadau cwympo yn unol â Safon Coedwigaeth y DU (UKFS)
  • y ddyletswydd gyffredinol i hyrwyddo gwaith i sefydlu a chynnal coed sy'n tyfu
  • swyddogaethau eraill y gallwn eu penderfynu o bryd i'w gilydd

Dim ond ni all alw ar y Pwyllgor Cynghori Rhanbarthol ar Goedwigaeth am gyngor. Nid yw rhanddeiliaid allanol yn gallu gofyn am gyngor ganddo.

Mae cynnal Pwyllgor Cynghori Rhanbarthol ar Goedwigaeth yn gyfle cadarnhaol i ni geisio cyngor arbenigol, proffesiynol i helpu i lywio ein penderfyniadau.

 

Aelodaeth

Mae wyth aelod o'r Pwyllgor Cynghori Rhanbarthol ar Goedwigaeth yn cynrychioli buddiannau perchnogion coetiroedd a masnachwyr pren, a sefydliadau sy'n ymwneud ag astudio a hyrwyddo coedwigaeth. 

Mae'r pwyllgor yn is-grŵp o Fforwm Rheoli Tir Cymru.

 

Cyfarfodydd

Cynhaliwyd cyfarfodydd rhagarweiniol y Pwyllgor Cynghori Rhanbarthol ar Goedwigaeth ym mis Medi 2023 a mis Ionawr 2024 i egluro ei rôl a'i swyddogaeth i'r aelodau. 

Cynhelir cyfarfodydd o leiaf unwaith y flwyddyn, ond fel arall byddant yn cael eu galw yn dibynnu ar ein hangen am gyngor.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf