Gwaith Cwympo Coed yn Ailddechrau yn Rhyslyn, Coedwig Afan 

Parc Coedwig Afan

Bydd y gwaith cwympo coed sydd wedi’u heintio â chlefyd y llarwydd yn Rhyslyn, Coedwig Afan, yn ailddechrau’n fuan. Mae contractwr newydd wedi ymuno a disgwylir iddo ddechrau ar y gwaith yn yr wythnosau nesaf. 

Oedi a difrod 

Cafwyd cyfnodau o oedi yn sgil tywydd gwael, argaeledd contractwyr a chontractau a oedd wedi dod i ben. Rydyn ni’n deall y rhwystredigaeth y mae’r oedi hwn wedi’i achosi i’r gymuned leol, i ymwelwyr ac i fusnesau. Mae’r gwaith cwympo coed wedi difrodi ffyrdd coedwig a llwybrau, ac mae yna bryderon diogelwch gyda choed a changhennau mawr ar draws llwybrau. Bydd y llwybrau’n cael eu hadfer ar ôl gorffen y gwaith cwympo. 

Gweithgareddau Presennol 

Wrth aros am y contract newydd, rydyn ni wedi uwchraddio ffyrdd coedwig ac wedi ailagor y bont droed o Ganolfan Ymwelwyr Afan i gael mynediad i Lwybr yr Afon a’r Rheilffordd. 

Dargyfeirio a Chau Llwybrau 

Er diogelwch, rydyn ni wedi diweddaru’r llwybrau sydd wedi’u dargyfeirio neu eu cau: 

Llwybrau Cerdded o Faes Parcio Rhyslyn 

  • Llwybr Penrhys: Ar gau 
  • Llwybr Glan-yr-afon Rhyslyn: Ar gau 

Llwybrau Cerdded o Ganolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan 

  • Llwybr yr Afon a’r Rheilffordd: Ar agor 
  • Llwybr Crib Gyfylchi: Ar gau 
  • Llwybr Hen Ffordd y Plwyf: Ar agor 

Llwybrau Beicio Mynydd 

  • Ar agor: Beiciwr Newydd gwyrdd, Y Graith Las, Pen-hydd, Parc Beicio Afan, Lefel White, Llafn a Llwybr Awyrlin. 
  • Ar gau: Beiciwr Newydd glas, W2 Dolen Uchaf. 

Diweddariadau Penodol i Lwybrau 

  • Rheilffordd: Ar gau rhwng maes parcio Rhyslyn ac Abercregan. Gellir mynd ato ar hyd llwybr tarmac Sustrans. 
  • Y Wal: Dechrau a gorffen o Ganolfan Ymwelwyr Afan. Ymysg y llwybrau sydd ar gau mae: 6ft Under, Resurrection, Corker, ZigZags, a Stage 4. 
  • Lefel White, Llwybrau Pren Goodwood ac egni: Ar gau hyd nes y caiff ei ddisodli fel rhan o brosiect adnewyddu. 
  • Llwybr Awyrlin: mae dargyfeiriadau mewn lle ar gyfer y rhannau canlynol o’r llwybrau sydd ar gau: Bow, a’r Rhondda. 

Gwaith ar glefyd y llarwydd 

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith o dan Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol Llywodraeth Cymru i ni gael gwared ar goed llarwydd sydd wedi’u heintio er mwyn arafu lledaeniad clefyd y llarwydd. 

Helpwch ni i osgoi oedi 

Cofiwch gymryd sylw o’r holl ddargyfeiriad a llwybrau sydd ar gau er diogelwch ac er mwyn atal oedi cyn ailagor llwybrau. Gall anwybyddu’r rhain atal gwaith contractwyr ac achosi oedi cyn ailagor llwybrau. 

Mannau gwybodaeth 

Rydyn ni wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y llwybrau sydd ar gau neu wedi’u dargyfeirio ar hyn o bryd ar bennau’r llwybrau ac yn y meysydd parcio. 

Ôl-gynaeafu 

Ar ôl gorffen cynaeafu, caiff y llwybrau eu hadfer a bydd golygfannau newydd ac ailstocio â choed llydanddail a chonwydd cymysg yn gwella’r coetir. 

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch ymholiadau@cyfoethnaturiol.cymru neu ffoniwch 0300 065 3000

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru