Hawl Dioddefwyr i Adolygiad
Mae’r cynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad (HDA) yn rhoi hawl i dioddefwyr ofyn am adolygiad o unrhyw benderfyniad i beidio ag erlyn y troseddau a gyflawnwyd yn eu herbyn.
Mae gennych hawl, fel dioddefwr o drosedd, i ofyn am adolygiad os ydych yn teimlo ein bod ni wedi ymdrin gyda eich achos yn amhriodol. Mae cynllun Cyfoeth Naturiol Cymru yn berthnasol i bob achos cymwys o 1 Tachwedd 2017 ymlaen.
Nid yw'r cynllun yn ôl-weithredol wrth ei roi ar waith, er y rhoddir ystyriaeth i'w egwyddorion wrth benderfynu sut i ymateb i unrhyw geisiadau a dderbynnir o ran y penderfyniadau a wnaed cyn y dyddiad hwn.
Pwy all wneud cais o dan y cynllun yma?
Mae gan unrhyw dioddefwr hawl i ofyn am adolygiad o'r penderfyniad o dan y cynllun mewn unrhyw achos lle y gwnaed penderfyniad cymhwysol.
Diffiniad o dioddefwr:
'person sydd wedi cael niwed, gan gynnwys niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol neu golled economaidd a achoswyd gan drosedd uniongyrchol'
Mae hyn yn cynnwys aelodau teulu person a bu farw achos o drosedd ac sydd wedi dioddef niwed oherwydd marwolaeth y person hwnnw. Ni cyfrir personau cyfreithiol eraill (e.e. busnesau) yn y diffiniad o ddioddefwr.
Ym mha amgylchiadau mae adolygiad yn digwydd?
Mae hawl dioddefwr i ofyn am adolygiad yn codi pan fyddwn yn penderfynu nid i ddwyn achos mewn achosion lle mae gennym awdurdod. Mae'r hawl i ofyn am adolygiad yn codi mewn perthynas â penderfyniadau cymwys a wnaed ar ôl 1 Tachwedd 2017 yn unig. Gall dioddefwyr ofyn am adolygiad o'r penderfyniadau i beidio ag erlyn, i derfynu neu fel arall i derfynu yr holl drafodion.
Mae'r hawl i wneud cais am adolygiad yn codi mewn perthynas â phenderfyniadau cymwys a wnaed ar ôl 1 Tachwedd 2017 yn unig. Penderfyniadau cymwys yw'r rhai:
Nid yw'r achosion canlynol o fewn cwmpas y cynllun:
- Achosion lle y gwnaed y penderfyniad cymwys cyn 1 Tachwedd 2017;
- Achosion lle y caiff cyhuddiadau eu cyflwyno mewn perthynas â rhai (ond nid y cyfan) honiadau a wnaed yn erbyn rhai (ond nid y cyfan) o’r rhai a ddrwgdybir;
- Achosion lle y caiff cyhuddiad unigol neu gyhuddiadau eu terfynu, ond bod cyhuddiad arall neu gyhuddiadau perthnasol yn parhau;
- Achosion lle mae achos yn erbyn un diffynnydd (neu fwy) yn cael ei derfynu, ond mae achosion yn erbyn diffynyddion eraill yn parhau;
- Achosion lle y caiff cyhuddiad unigol neu gyhuddiadau eu newid yn sylweddol ond mae'r achosion yn parhau;
- Achosion lle y gofynnir i gofnod o rai cyhuddiadau gael ei gadw;
- Achosion y deuir â nhw i ben trwy warediad y tu allan i’r llys (defnyddir y term " gwarediad y tu allan i’r llys " i ddisgrifio dewisiadau amgen i erlyn megis rhybuddion, ymgymeriadau gorfodi a sancsiynau sifil (e.e. ymgymeriadau gorfodi) sydd ar gyfer delio â throseddau lefel isel, yn aml troseddu am y tro cyntaf, lle na fyddai erlyn er budd y cyhoedd);
- Achosion lle mae'r dioddefwr yn gwneud cais i roi terfyn ar yr achosion, neu dynnu cefnogaeth i'r achos, ac felly caiff penderfyniad ei wneud i beidio ag erlyn/i ddod â'r achos i ben
Pan roddir gwybod i chi fod un o'r tri phenderfyniad a restrir uchod wedi'i wneud, fe'ch hysbysir am y canlynol:
- natur y penderfyniad – h.y. i beidio ag erlyn, i beidio â pharhau â’r achos, i beidio â chynnig tystiolaeth neu i ofyn i gofnod o’r cyhuddiadau gael ei gadw ar ffeil;
- p'un a oedd y penderfyniad ar sail tystiolaeth neu fudd y cyhoedd;
- sut y gallwch gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r penderfyniad pe baech yn dymuno gwneud hynny;
- yr hawl i geisio adolygiad o'r penderfyniad a sut i wneud hynny
Sut all dioddefwyr gwneud defnydd o’r hawl o dan y cynllun?
Mae gan dioddefwr yr hawl i gysylltu â ni naill ai yn ysgrifenedig, dros y ffôn neu drwy e-bost yn syth ar ol cael ei hysbysu o ein penderfyniad i beidio ag erlyn y drosedd.
Sut i godi cais i adolygu eich achos
Gwneud y cais
Os ydych yn ddioddefwr, a hoffech i ni adolygu penderfyniad cymwys, cysylltwch â ni yn y Ganolfan Gofal Cwsmeriaid.
Byddai'n well gennym pe baech yn cysylltu drwy e-bost, ond rydym hefyd yn hapus i chi gysylltu â ni dros y ffôn neu ysgrifennu llythyr.
Dylech (fel arfer) gyflwyno eich cais o fewn pum diwrnod gwaith i'r dyddiad y cafodd y penderfyniad ei gyfathrebu er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal adolygiad yn brydlon.
Drwy wneud cais cynnar, mae'n ein galluogi i gynnal adolygiad prydlon a, lle bo'n berthnasol, i ddechrau (ailddechrau) achosion mor gyflym â phosibl. I'r gwrthwyneb, gall cais sydd wedi'i oedi gynyddu'r tebygolrwydd y bydd y Llys yn dod o hyd i anhawster gydag unrhyw benderfyniad i (ail) gychwyn achos yn dilyn yr adolygiad. Mewn rhai amgylchiadau, ni fydd yn bosibl cychwyn (ailgychwyn) achosion os oes oedi o ran y cais am yr arolygiad.
Fodd bynnag, hoffem achub y cyfle hwn i roi sicrwydd, lle bo'r gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny, y byddwn yn ystyried ceisiadau am adolygiad hyd at dri mis ar ôl i'r penderfyniad cymwys gael ei gyfathrebu.
Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol, ar ôl ystyried ffeithiau'r achos unigol, y caniateir unrhyw oedi y tu hwnt i'r tri mis.
Cam 1
Pan fyddwn yn derbyn eich cais am adolygiad, bydd cyfreithiwr nad ydyw wedi bod yn rhan o'r achos yn flaenorol yn gwirio’r penderfyniad, a byddwn yn sicrhau ein bod wedi rhoi esboniad eglur a manwl o'r penderfyniad i chi.
Mae tri chanlyniad posibl i weithgarwch cam 1:
- Mae’n bosibl y byddwn yn penderfynu bod y penderfyniad (i beidio ag erlyn, peidio â pharhau neu beidio â chynnig tystiolaeth) yn anghywir. Lle bo'n bosibl, byddwn yn cychwyn (ailgychwyn) achosion mewn amgylchiadau o'r fath. Os nad oes modd i ni (ail) gychwyn achosion, byddwn yn esbonio'r rheswm dros hyn ac yn ymddiheuro
- Mae’n bosibl y byddwn yn penderfynu bod y penderfyniad yn gywir, ond bod angen i ni roi rhagor o wybodaeth i chi ynghylch y penderfyniad. Yn yr achos hwn, byddwn yn gofyn i chi gadarnhau a hoffech i ni barhau i'r cam terfynol i wneud adolygiad pellach. Byddwn yn rhoi manylion o'r swyddfa mae angen i chi gysylltu â hi, ac yn gofyn i chi wneud hynny o fewn deg diwrnod gwaith
- Mae’n bosibl y byddwn yn penderfynu bod y penderfyniad yn gywir ac nad oes angen rhoi unrhyw wybodaeth bellach. Mewn amgylchiadau o'r fath, byddwn yn parhau'n syth at y cam terfynol
Caiff gweithgarwch cam 1 fel arfer ei gwblhau o fewn deg diwrnod gwaith i dderbyn y cais am adolygiad.
Cam Terfynol
Lle nad ydym wedi llwyddo i ddatrys y mater i'ch boddhad chi yn ystod cam 1, bydd y penderfyniad yn cael ei adolygu'n annibynnol.
Bydd yr adolygiad yn cynnwys ailystyried y dystiolaeth a budd y cyhoedd, h.y. bydd erlynydd adolygu, yn annibynnol o'r penderfyniad gwreiddiol, yn trin yr achos o'r newydd er mwyn penderfynu a oedd y penderfyniad gwreiddiol yn gywir neu'n anghywir.
Byddwn yn cysylltu â chi gyda chanlyniad yr adolygiad.
Os ydych yn gymwys ar gyfer cymorth ychwanegol o dan y Cod i Ddioddefwyr, cynigir cyfarfod i chi er mwyn trafod y canlyniad.
Terfynau Amser
Caiff penderfyniad cymwys ei gyfathrebu i chi'n brydlon yn unol â'r terfynau amser a nodir yn y Cod i Ddioddefwyr.
Dylech (fel arfer) gysylltu â ni o fewn pump (5) diwrnod gwaith i'r dyddiad y cafodd y penderfyniad ei gyfathrebu, er mwyn ein hysbysu yr hoffech i ni adolygu'r penderfyniad. Fodd bynnag, gellir defnyddio'r cynllun hawl dioddefwyr i adolygiad (VRR) hyd at dri mis ar ôl i'r penderfyniad gael ei gyfathrebu.
Bydd unrhyw gamau a gymerir i roi datrysiad lleol yn cael eu cwblhau o fewn deg diwrnod gwaith. Os ydym wedi cynnig esboniad pellach o'r penderfyniad, yna bydd gennych ddeg diwrnod gwaith i roi gwybod i ni a ydych yn fodlon ar yr esboniad a roddwyd, neu a hoffech barhau i gael adolygiad annibynnol o'r achos.
Byddwn, lle bo'n bosibl, yn cwblhau'r adolygiad annibynnol ac yn eich hysbysu am y canlyniad o fewn amserlen o 30 diwrnod gwaith (h.y. chwe wythnos).
Lle bo’r achos yn arbennig o gymhleth neu'n sensitif, mae'n debygol na fydd yn bosibl i ni roi'r canlyniad i chi o fewn y terfynau amser arferol. Os yw hynny'n digwydd, byddwn yn dweud wrthych ac yn anfon diweddariadau rheolaidd (ond nid yn fwy aml na phob 20 diwrnod gwaith) nes bod y canlyniad wedi cael ei benderfynu.