Bywyd Swyddog Ailgylchu yn y Gweithle CNC

Ni yw’r Tîm Ailgylchu yn y Gweithle, tîm Cymru-gyfan a sefydlwyd ym mis Medi 2023 i reoleiddio’r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle. Daeth y gyfraith hon i rym ar 6 Ebrill 2024 gyda’r nod o wella faint o ailgylchu a wneir yng Nghymru - a gwella safon yr ailgylchu hwnnw. Mae’n cefnogi ymrwymiadau ein gwlad i gyrraedd lefel ‘dim gwastraff’ a lleihau ein hallyriadau carbon erbyn 2050. Cymru yw’r wlad orau-ond-un yn y byd am ailgylchu, felly roedd enw da ein cenedl yn y fantol!

Rydym wedi cael chwe mis cyntaf prysur - rydym wedi canolbwyntio ar weithio gyda busnesau, a hynny yn y sectorau llety a bwyd yn bennaf. Ein nod cyffredinol oedd sicrhau bod busnesau a chasglwyr gwastraff yn ymwybodol o’r gofynion o ran gwahanu gwastraff, a sut mae hynny’n berthnasol iddyn nhw - gan roi cymorth i fusnesau ar sut i gydymffurfio lle bo angen. 

Rydym wedi gwneud llawer i godi ymwybyddiaeth ar draws y gwahanol ddiwydiannau yng Nghymru; pethau megis cyflwyniadau, gollwng taflenni, a bod allan yn y gymuned. Rydym hefyd wedi gwneud yn siŵr ein bod mewn cysylltiad â'n rhanddeiliaid amrywiol a’n cysylltiadau yn y diwydiant i wneud yn siŵr eu bod yn gwbl ymwybodol o'r newidiadau cyn i ni gynnal ein hasesiadau cydymffurfio.

Mae ein hwythnos arferol yn cynnwys ateb unrhyw ymholiadau rydym wedi'u derbyn yn ein blwch post pwrpasol, gan gynnwys casglu gwybodaeth am unrhyw ddigwyddiadau y mae'r cyhoedd yn rhoi gwybod i ni amdanynt. Rydyn ni wedyn naill ai'n cynnal ymweliadau safle a drefnir ymlaen llaw, neu'n targedu ardal ddaearyddol i asesu pa mor dda y mae sefydliadau yn addasu i'r newidiadau.

Yn ystod ymweliadau safle, rydym yn edrych ar bob safle neu gasglwr gwastraff yn unigol ac yn ceisio deall eu ffyrdd o weithio o ran ailgylchu a chasglu gwastraff, a hefyd ystyried unrhyw rwystrau sydd ganddynt o ran cydymffurfio.

Mae'r dull hwn yn ein helpu i nodi cyfleoedd i gynyddu ailgylchu a lleihau diffyg cydymffurfio. Mae gweithio gyda busnesau yn helpu i lywio ein hymagwedd yn well a gall arwain at fewnwelediad ymddygiadol y gallwn ei adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru i helpu i lywio strategaethau yn y dyfodol.

Yn ystod y chwe mis cyntaf, rydym wedi cynnal 220 o asesiadau cydymffurfio ledled Cymru. Mae 72% o’r busnesau hyn wedi cymryd camau i wella eu hailgylchu ac maent bellach yn cydymffurfio â’r gyfraith newydd - ac rydym yn parhau i gynnig cymorth ac arweiniad gyda’r 28% o fusnesau sy’n weddill. 

Un o’r rhwystrau cyffredin i gydymffurfio rydym yn ei weld ledled Cymru yw dryswch ynghylch y math o wastraff sydd ym mhob ffrwd ailgylchu. Yn benodol, mae plastigau meddal yn aml yn ymddangos yn y ffrwd plastigau, metelau a chartonau - gan lygru’r ffrwd.

Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer y rheoliadau hyn yn nodi y dylai plastigion meddal - megis deunydd lapio plastig a phecynnau creision - fynd gyda gwastraff cyffredinol. Fodd bynnag, byddem yn eich annog yn y lle cyntaf i ddilyn yr hierarchaeth wastraff ac i weld a allwch leihau faint o'r deunydd hwn rydych yn ei gynhyrchu - neu’n trefnu casgliad ar wahân ar ei gyfer gyda chasglwr gwastraff cofrestredig.

Peth arall sy’n dueddol o lygru ffrwd ailgylchu yw cwpanau papur - sy’n gallu bod yn wastraff heriol i'w reoli. Y cyngor gorau y gallwn ei gynnig yw dilyn y Cod Ymarfer a sgwrsio â'ch casglwr gwastraff am y ffordd orau ichi gael gwared ar gwpanau papur.

Er bod rhai heriau o hyd, rydym wedi gweld enghreifftiau gwych o fusnesau yn mynd amdani ac yn gwahanu eu hailgylchu yn dda, gan gynnwys:

  • Sicrhau bod biniau ailgylchu a gwastraff cyffredinol mewn ardaloedd dan do ac awyr agored yn cael eu grwpio gyda'i gilydd - gan leihau dryswch, a galluogi gwell ailgylchu gan leihau camgymeriadau. Rydym wedi gweld y bydd y cyhoedd yn defnyddio cyfleusterau ailgylchu yn gywir os bydd y cyfleoedd cywir ar gael iddynt.
  • Mae darparu arwyddion clir gydag enghreifftiau gweledol o'r deunyddiau gwastraff ar y safle sy’n gallu ac yn methu mynd i bob bin gwastraff wedi bod yn ddefnyddiol o ran lleihau camgymeriadau a chynyddu gwahanu cywir.
  • Mae rheolwyr ymroddedig sy'n hyrwyddo ailgylchu ac yn cyfathrebu'n rheolaidd â staff yn aml yn gallu ysgogi gwell cydymffurfio yn gyffredinol.
  • Ystyried y gofynion gwahanu mewn gweithgareddau codi sbwriel. Rydym wedi gweld mai’r dull mwyaf llwyddiannus mewn busnesau sy’n cydymffurfio yw cael bag ar wahân ar gyfer gwastraff cyffredinol a bag arall ar gyfer ailgylchu cymysg sydd wedyn yn cael ei ddidoli i’r ffrydiau ailgylchu cywir yn y man casglu.

Mae’r enghreifftiau hyn o arfer gorau yn dangos sut mae’r rhan fwyaf o fusnesau yng Nghymru wedi croesawu’r gyfraith newydd. Os ydych yn fusnes sydd angen rhywfaint o gymorth gydag ailgylchu yn y gweithle, rydym yn argymell darllen Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru sy'n rhoi canllawiau ymarferol ar sut i gydymffurfio.

Gallech hefyd ymweld â gwefan WRAP, sef gwefan Busnes Ailgylchu Cymru sy'n cynnig manylion defnyddiol am y camau y gallai busnesau eu cymryd, gan gynnwys canllawiau sector-benodol ac adnoddau rhad ac am ddim i'w lawrlwytho, megis arwyddion.

Os ydych wedi ymweld â’r adnoddau hyn ac angen cymorth pellach ar sut i gydymffurfio, cysylltwch â’n tîm yn WorkplaceRecycling@NaturalResourcesWales.gov.uk

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru