Mamaliaid Hudolus: Ymdrech ar y cyd i warchod bywyd gwyllt brodorol gogledd Cymru

Mae’r wiwer goch yn un o’n rhywogaethau mwyaf eiconig a charismatig, ond mae’r creaduriaid del hyn wedi bod mewn trafferth ers tro byd.

Maen nhw wedi bod yn diflannu’n raddol ers degawdau, gyda’r cynnydd yn niferoedd y wiwer lwyd yn bygwth eu bodolaeth. Fodd bynnag, mae ymdrech benderfynol ar droed i newid hynny yng ngogledd Cymru.

Mae prosiect Mamaliaid Hudolus, menter gadwraeth ar y cyd, yn gweithio i adfer cydbwysedd byd natur drwy hybu poblogaeth y wiwer goch yn ogystal â niferoedd rhywogaeth frodorol brin arall – y bele.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn falch o fod yn un o bartneriaid a chefnogwyr allweddol y prosiect, gan helpu i droi’r llanw o blaid y rhywogaethau brodorol hyn.

Her y wiwer goch

Yn ddi-os, mae’r wiwer goch yn rhyfeddol o dlws, yn ei chot ruddiog, y blew yn big ar flaenau ei chlustiau, a’i brws o gynffon flewog. Fodd bynnag, mae’r boblogaeth yng ngogledd Cymru wedi bod ar drai ers degawdau, yn bennaf yn sgil lledaeniad y wiwer lwyd o ogledd America.

Mae’r wiwer lwyd yn fwy na’r wiwer goch, ac yn fwy llwyddiannus wrth hela am fwyd ac adnoddau, ond mae hi hefyd yn cario brech y wiwer, firws sy’n lladd y wiwer goch. Dros amser, mae hyn wedi arwain at gwymp sydyn ym mhoblogaethau’r wiwer goch ar draws ardaloedd fel Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych.

Er bod y wiwer goch i’w cael dros rannau helaeth o Ewrop a rhai mannau yn Asia a Siberia, mae’r sefyllfa yng Nghymru yn heriol. Yng ngogledd Cymru, dim ond ar Ynys Môn ac mewn ambell safle ynysig ar y tir mawr y mae’r wiwer goch i’w gweld ar y cyfan.

Sut mae Mamaliaid Hudolus yn gwneud gwahaniaeth

Mae prosiect Mamaliaid Hudolus wedi camu i’r adwy i roi hwb i adferiad y wiwer goch. Mae gwiwerod coch wedi’u magu mewn caethiwed yn cael eu rhyddhau i Goedwig Clocaenog, er mwyn rhoi hwb i’r boblogaeth fechan bresennol a rhoi’r cyfle gorau i’r rhywogaeth oroesi.

Bob tro caiff gwiwer ei rhyddhau i’r gwyllt, caiff y broses ei chynllunio’n ofalus, gan ddewis y lleoliadau gorau i sicrhau bod ffynonellau da o fwyd naturiol ac i osgoi unrhyw aflonyddwch yn sgil gweithrediadau coedwig. Yng ngogledd-orllewin Cymru, mae’r bele’n cael ei ailgyflwyno i ardaloedd o gynefin coetir addas.

Cafodd prosiect Mamaliaid Hudolus £500k o gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mae CNC hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn yr ymdrechion hyn drwy ariannu gwaith yng nghoedwig Clocaenog a chefnogaeth ehangach.

Mae ein swyddogion wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddatblygu cynigion i atgyfnerthu’r boblogaeth ymhellach yng Nghlocaenog, gan sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ofalus ac yn gywir. Mae ein swyddogion hefyd yn cydgysylltu â bridwyr gwiwerod caeth i sicrhau bod gwiwerod yn cael eu trosglwyddo’n ddidrafferth i’w cartrefi newydd yn y gwyllt, gan sicrhau bod y profion angenrheidiol o ran clefydau yn cael eu gwneud gan Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Fodd bynnag, mae prosiect Mamaliaid Hudolus â’i olygon ar fwy na logisteg yn unig – mae’n rhoi lle canolog i gymuned.

Mae’r prosiect hefyd yn rhoi cyfleoedd i bobl leol gymryd rhan mewn gwaith cadwraeth hanfodol gyda’r nod o’u grymuso â sgiliau a hyder i drawsnewid perthynas eu cymuned â byd natur.

Mae gwirfoddolwyr lleol a grwpiau gwiwerod coch, er enghraifft Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog ac Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru, yn gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr cadwraeth, i greu a gosod blychau nythu, adeiladu ardaloedd wedi’u hamgáu mewn coedwigoedd i gadw anifeiliaid cyn eu rhyddhau, a darparu bwyd ychwanegol i roi’r cychwyn gorau posib i wiwerod coch a beleod yn eu hamgylchedd newydd. Mae’r ymdrech tîm hon yn hanfodol, gan mai’r nod yw sefydlu poblogaethau hunangynhaliol nad oes angen help gan bobl arnynt i oroesi.

Cynhaliwyd gweithdai yn ddiweddar hefyd i greu mwy o flychau nythu i wiwerod coch, a fydd yn cael eu gosod mewn lleoliadau strategol er mwyn sicrhau bod gan wiwerod coch lefydd diogel i adeiladu eu nythod. Mae’r pethau bychain hyn gyda’i gilydd yn creu darlun cyflawn o obaith ac adferiad i’r rhywogaeth.

Edrych i’r dyfodol

Mae dyfodol y wiwer goch yng ngogledd Cymru yn edrych rhywfaint yn fwy disglair, ond mae llawer o waith i’w wneud o hyd.

Mae’r prosiect Mamaliaid Hudolus ond yn un rhan o ymdrech ehangach i adfer y rhywogaethau hyn, a chyda’r bwriad i ryddhau rhagor o anifeiliaid wedi’u magu mewn caethiwed a gwaith yn mynd rhagddo i reoli niferoedd y wiwer lwyd, rydyn ni’n obeithiol y gall poblogaeth y wiwer goch ddal ati i dyfu.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru