Tyfu a meithrin 'Dyfodol' cynaliadwy yn Ysgol Gyfun Brynteg, Pen-y-bont ar Ogwr
Er mwyn cydnabod anghenion amrywiol ei disgyblion, mae Ysgol Gyfun Brynteg, Pen-y-bont ar Ogwr wedi sefydlu darpariaeth ar gyfer dysgwyr blynyddoedd 7-9 o'r enw Dyfodol. Mae’r ddarpariaeth hon yn cefnogi dysgwyr sydd efallai'n gweld amserlen arferol ysgol gyfun yn heriol. Buom yn siarad gyda Lauren Feeley, Cydlynydd Dysgu Darpariaeth Dyfodol i weld sut mae'r ddarpariaeth Dyfodol yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd dysgu yn yr amgylchedd naturiol, am yr amgylchedd naturiol ac ar ei gyfer.
““Ar hyn o bryd mae gennym ddosbarth Blwyddyn 7, 8, a 9 gyda dosbarth Blwyddyn 10 ychwanegol ym mis Medi. Mae darpariaeth Dyfodol Ysgol Brynteg yn cynnig darpariaeth amser llawn i ddisgyblion gyda mynediad at brofiadau dysgu uwchradd gyda'r nod o ddarparu cwricwlwm wedi'i deilwra ar gyfer pob disgybl unigol er mwyn pontio'r bwlch rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd yn effeithiol. Mae pynciau llythrennedd, rhifedd a dyniaethau yn cael eu dysgu i ddisgyblion o fewn y ddarpariaeth, ac maent yn cael mynediad at y pynciau ymarferol canlynol yn y lleoliad uwchradd; Celf, Dylunio a Thechnoleg, Tecstilau, Bwyd, Gwyddoniaeth ac Addysg Gorfforol, yn ogystal ag unrhyw bynciau eraill y bydd disgyblion yn mynegi diddordeb ynddynt. O fewn y ddarpariaeth Dyfodol, mae cwricwlwm disgybl yn cael ei adeiladu o ddifrif o amgylch ei anghenion a'i ddiddordebau personol. Mae'n hyrwyddo meddylfryd o dwf ac yn canolbwyntio ar les cymdeithasol ac emosiynol. Nod Dyfodol yw darparu'r adnoddau i ddisgyblion i’w helpu i ymdopi â dosbarthiadau uwchradd. Mae'n creu amgylchedd tawel, croesawgar lle mae’r disgyblion yn teimlo’n gyfforddus ac yn fodlon i siarad a gofyn cwestiynau. Bydd disgyblion yn cael eu hannog i fynegi eu barn, gweithio tuag at annibyniaeth, a meithrin hunan-barch.”
“Ar ôl gweithio mewn ysgolion cynradd drwy fy holl yrfa, symudais i'r uwchradd ym mis Medi 2021 pan grëwyd darpariaeth Dyfodol. Oherwydd natur dosbarthiadau Dyfodol, roedd yn gwneud synnwyr perffaith i hyrwyddo'r defnydd o addysgeg dysgu yn yr awyr agored drwy gydol y ddarpariaeth. Gan fy mod wrth fy modd erioed yn yr awyr agored, dechreuais weithio tuag at fy nghymhwyster Arweinydd Ysgol Goedwig y llynedd. Gyda chymorth disgyblion a fy ngrŵp cyfoethogi natur, rydym wedi sefydlu ardal Ysgol Goedwig yn yr ysgol iau. Rydym hefyd wedi bod yn ffodus iawn i weithio gyda Cadwch Gymru'n Daclus ar brosiect sy'n datblygu ardal awyr agored yn yr ysgol. Treuliodd y disgyblion sawl wythnos yn plannu bylbiau, gosod tyweirch blodau gwyllt, plannu gwrychoedd a choed ffrwythau, adeiladu sied, llenwi a phlannu phlanhigion a pherlysiau mewn blychau plannu newydd, codi twnnel polythen, a chloddio ardal ar gyfer pwll newydd (cyffrous iawn!!). Rydym yn gobeithio gweithio gyda busnesau a sefydliadau eraill yn y dyfodol i gefnogi, ehangu a datblygu ein hardal naturiol.”
“Mae disgyblion o bob un o'r gwahanol grwpiau blwyddyn sy'n cael cymorth gyda’r cwricwlwm yn cymryd rhan yn yr Ysgol Goedwig gyda fy nghydweithiwr Miss Lewis, yn ogystal â disgyblion Dyfodol sydd â mynediad i Ysgol Goedwig a'n hardal awyr agored newydd. Fel darpariaeth, rydym yn ffodus iawn ein bod yn gallu bod yn hyblyg gyda'r amserlenni. Mae’r disgyblion yn treulio’r rhan fwyaf o'r diwrnod gyda ni - ac mae hynny'n ein galluogi i dreulio amser y tu allan pryd bynnag y bo'n addas. Ein cynllun yn gryno yw cael y disgyblion allan gymaint ag sydd bosibl! Mae'r dosbarthiadau wedi mynegi diddordeb mewn 'tyfu pethau eu hunain' a gweld rhywbeth yn datblygu o hedyn i’r plât. Byddent wrth eu bodd yn tyfu llysiau i'w defnyddio mewn ryseitiau tân gwersyll yn ein sesiynau Ysgol Goedwig. Mae disgyblion hefyd wedi crybwyll cael ardal i fod yn llonydd a mwynhau natur gan eu bod yn gweld hynny’n ffordd o ymlacio. Gallai'r ardal hon fod yn fwy o ardal amlsynhwyraidd y gallai pawb ei defnyddio. Byddai'n rhagorol cael y rhieni, y gofalwyr a'r gymuned leol i gymryd rhan yn ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”
Mae'r manteision enfawr o gael disgyblion allan wedi dod yn fwy amlwg i mi wrth i mi weithio drwy fy hyfforddiant Ysgol Goedwig. Cafwyd effaith eithriadol o gadarnhaol ar les disgyblion a staff yn ystod, ac ar ôl, treulio amser yn yr awyr agored, hyd yn oed ar ôl inni dreulio amser yn y glaw! Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ddisgyblion a staff weld ei gilydd o bosibl mewn sefyllfa anghyfarwydd a dysgu gyda'i gilydd. Mae'n ardderchog gweld disgyblion sydd weithiau'n cael trafferth neu sy’n gallu bod yn dawel mewn ystafell ddosbarth, yn newid yn llwyr pan fyddant allan yn yr amgylchedd naturiol. P'un a yw hynny'n golygu llunio cysylltiadau newydd â chyfoedion, cwblhau tasgau hyd eithaf eu gallu, ymgymryd â rôl arwain, neu fagu hyder. Mae cynnydd mewn ymgysylltu, yn enwedig yn achos bechgyn, pan fyddant yn cymryd rhan mewn tasgau y tu allan. Dywedodd un disgybl ar ôl sesiwn ddiweddar ei fod wedi canolbwyntio cymaint nes bod yn rhaid i ddisgyblion eraill wirio a oedd yn dal yn effro gan nad oeddent wedi clywed ganddo ers tro! Mae hefyd wedi bod yn amlwg, ar ôl treulio amser y tu allan, bod y gwaith a gynhyrchir yn yr ystafell ddosbarth o ansawdd uwch ac mae disgyblion yn tueddu i fod yn hapusach ynddynt eu hunain yn ystod gweddill y dydd. Rydym yn rhannu ac yn dathlu ein hanturiaethau dysgu awyr agored gyda rhieni a'r byd ehangach drwy ein cyfrif Twitter @DyfodolBrynteg1.
“Yn ddiweddar buom yn astudio Hatchet a gofynnwyd i'r disgyblion greu ffeithlun 'Sut i oroesi yn y gwyllt' ac yna diwrnod llawn yn yr awyr agored lle roeddent yn defnyddio eu sgiliau. Heriwyd y disgyblion i weithio fel tîm i greu lloches addas i wrthsefyll yr elfennau tra bod y tîm arall yn defnyddio eu sgiliau coginio awyr agored. Roedd y diwrnod yn cyfuno sawl agwedd ar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a phopeth yn digwydd ochr yn ochr â mwynhau'r awyr agored a hyrwyddo lles disgyblion. Rwyf wrth fy modd bod y Cwricwlwm newydd i Gymru yn gwerthfawrogi pwysigrwydd mynd â'r disgyblion allan i'r awyr agored, mae'n golygu ein bod yn gallu mynd i'r afael â'r pedwar diben craidd mewn cyd-destun creadigol, go iawn a dilys. Er enghraifft, cymryd cysyniad mathemateg ystafell ddosbarth y mae'r disgyblion yn methu gweld pwrpas iddo ac sy’n gwneud iddynt ofyn “pryd ydyn ni yn mynd i ddefnyddio hwn?”. Mae mynd â hwn allan i’r awyr agored yn rhoi cyd-destun bywyd go iawn iddo, sydd yn ei dro yn eu helpu i'w gysylltu â'u bywydau eu hunain. Mae caniatáu i ddisgyblion osod eu haddysg mewn cyd-destun yn creu'r dysgwyr uchelgeisiol a medrus yr ydym yn ymdrechu i’w cael.”