Manteision mynd allan dros yr wythnosau nesaf i fwynhau hyfrydwch yr hydref

Wrth i fisoedd yr haf ddirwyn i ben, mae natur yn dechrau newid, gan gynnig awgrym o ysblander lliwgar tymor yr hydref. Y cyfnod byr hwn yw diweddglo mawreddog byd natur cyn y gaeaf, gydag arddangosfa wefreiddiol o liwiau euraidd. 

Wrth i'r hydref agosáu, mae oriau golau dydd yn lleihau'n raddol, ac mae'r tymheredd yn gostwng. Mae'r dyddiau'n mynd yn fyrrach a'r nosweithiau'n mynd yn hirach wrth i'r tymor symud ymlaen tuag at heuldro'r gaeaf ym mis Rhagfyr. Ceir temtasiwn i aeafgysgu yn ystod y misoedd oerach, ond mae Ruth Thomas, Cynghorydd Arbenigol Polisi Iechyd yn egluro bod gwaith ymchwil yn dangos yn gyson bod treulio mwy o amser yn yr awyr agored yn gwella ein hiechyd a’n lles meddyliol a chorfforol1, 2. 

Mae’r hydref yn cynnig rhywbeth arbennig i bob un o’n synhwyrau; mae cymaint i’w weld, ei glywed, ei arogli, ei gyffwrdd a’i flasu!  Pan fydd y dail yn dechrau cwympo, ewch am dro ymhlith y dail. Os yw’r dail yn sych, gwrandewch ar y sŵn crensian ysgafn wrth i chi gerdded, ac aroglwch y dail.  Mae cerdded yn helpu i leihau'r risg o glefyd y galon a strôc, pwysedd gwaed uchel, osteoarthritis, gordewdra, y math mwyaf cyffredin o ddiabetes, llawer o ganserau a hyd yn oed clefyd Alzheimer's3. Mae cerdded yn yr amgylchedd naturiol yn cynyddu ein lefelau fitamin D sy’n rhoi hwb i’n system imiwnedd i frwydro yn erbyn afiechyd a salwch4.

Os ydych chi’n chwilio am daith gerdded llawn lliwiau’r hydref, gweler ein rhestr o leoedd i gerdded yr hydref hwn am rywfaint o ysbrydoliaeth.

Dyma'r adeg o'r flwyddyn pan fydd llwyth o hadau coed yn aeddfedu ac yn cwympo i'r llawr ac yn swatio ymhlith y dail. O fes tew i goncyrs brown sgleiniog, mae gwaith ymchwil yn dangos bod cerdded drwy ardaloedd lliwgar llawn dail yn gallu gwella ein hwyliau a’n helpu i ail-fyw atgofion hiraethus5.

Yn ystod misoedd yr hydref, bydd y gwrychoedd yn llawn haelioni natur. Cadwch lygad am fwyar duon suddlon, ysgawen aeddfed, eirin tagu, egroes a mafon gwyllt. Mae digonedd o gyfleoedd coginio i greu gwledd hydrefol ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon ar gyfer y bywyd gwyllt lleol gan eu bod yn ffynhonnell fwyd bwysig i greaduriaid bach a mawr.

Mae amodau llaith ac oer y tymor yn creu amgylchedd perffaith i ffyngau, gan ganiatáu i lawer o rywogaethau ffynnu. Mae ffyngau yn tyfu mewn ystod o siapiau a lliwiau diddorol. Credir bod lliwiau cynnes fel coch, oren a melyn yn annog teimladau o egni, brwdfrydedd, llawenydd a hapusrwydd.

Yn ogystal â'r olygfa hyfryd sydd gan natur i'w chynnig, mae mynd allan hefyd yn eich helpu i deimlo'n agosach at bobl a'ch cymuned, sy'n dda i'ch iechyd meddwl.

Mae treulio amser mewn goleuni naturiol yn helpu i reoli cemegau yn yr ymennydd - melatonin a serotonin, sy’n hanfodol ar gyfer cylch deffro a chwsg mewnol yn y corff. Mae'r celloedd sy'n sensitif i olau yn eich llygaid yn chwarae rhan allweddol wrth gydamseru eich cloc mewnol 6.

Mae cymaint o fanteision i fod allan yn yr awyr agored. Nid oes angen i chi fynd yn bell – gall yr amser a dreulir yn eich parc lleol fod yn fodd naturiol i leddfu straen. Gorau po leiaf o sŵn trefol sydd o'ch cwmpas 7.

Os nad ydych yn siŵr ble mae eich mannau gwyrdd lleol, gallwch ddod o hyd i goetir neu Warchodfa Natur Genedlaethol yn eich ardal chi gyda'n tudalen Ar Grwydr.

Cyfeiriadau

  1. Ambient greenness, access to local green spaces, and subsequent mental health: a 10-year longitudinal dynamic panel study of 2·3 million adults in Wales - The Lancet Planetary Health
  2. Developing an indicator for the physical health benefits of recreation in woodlands (sharepoint.com)
  3. The health benefits of walking (ed.ac.uk)
  4. Vitamin D - NHS (www.nhs.uk)
  5. Seasonal Differences in Physiological Responses to Walking in Urban Parks - PMC (nih.gov)
  6. Light and Sleep: Effects on Sleep Quality | Sleep Foundation
  7. Efficacy of nature-based therapy for individuals with stress-related illnesses: randomised controlled trial | The British Journal of Psychiatry | Cambridge Core

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru