Er ei bod wedi’i dosbarthu’n swyddogol fel rhywogaeth mewn perygl sydd bron â diflannu yng Nghymru, mae gobaith o hyd am ddyfodol y fisglen berlog.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’r Prosiect Pedair Afon LIFE wedi ymrwymo i ddod â’r molwsg prin hwn yn ôl o’r dibyn drwy sefydlu poblogaethau cynaliadwy yng Nghymru unwaith eto.

Yn y blog hwn, mae Swyddog Misglod Perlog Pedair Afon LIFE, Haydn Probert, a Dr John Taylor o Cyfoeth Naturiol Cymru yn amlinellu cylch bywyd cymhleth y fisglen berlog, y gwaith ailgyflwyno sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni, a’r hyn y maent wedi’i ddysgu ar yr hyn sydd nesaf ar gyfer y rhywogaeth.

Cylch bywyd hynod gymhleth

Mae misglod perlog mewn perygl difrifol, gan nad ydynt wedi bridio’n llwyddiannus yn naturiol yng Nghymru am y 40-50 mlynedd diwethaf.

Delwedd: Misglen berlog (diolch i CNC).

Mae angen cynefin ac amodau cylch bywyd unigryw ar y rhywogaeth hon. Fel molysgiaid ifanc, maent yn treulio deng mlynedd wedi'u claddu mewn graean afon a gall yr oedolion fyw am fwy na chan mlynedd, gan dyfu hyd at chwe modfedd o hyd.

Mae arnynt angen afonydd â dŵr glân, ocsigenedig a graean sefydlog i ffynnu.

Mae eu cylch bywyd cymhleth hefyd yn cynnwys cyfnod parasitig pan fo glochidia misglod perlog (larfâu microsgopig bach, tua thraean maint gronyn o halen) yn glynu wrth dagellau eog neu frithyll.

Felly, mae poblogaethau iach o eogiaid neu frithyllod yn hanfodol ar gyfer eu cyfnod cynnar o fywyd. Ond mae gostyngiad yn nifer y salmonidau ifanc, ynghyd â diraddiad cynefinoedd dros y pedwar i bum degawd diwethaf, wedi cael effaith andwyol ar gyfradd oroesi’r rhywogaeth ac mae niferoedd y boblogaeth wedi gostwng yn aruthrol.

Sut ydyn ni wedi bod yn helpu?

Dros y degawd diwethaf, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi bod yn ymwneud â magu'r fisglen berlog Margaritifera margaritifera, sydd mewn perygl difrifol.

Dr John Taylor o CNC sydd wedi bod yn arwain y gwaith hwn ac mae wedi’i leoli yn Neorfa Cynrig ger Aberhonddu. Rheolir y cyfleuster hwn gan CNC ac mae’n darparu nifer o raglenni bridio mewn caethiwed ar gyfer anifeiliaid dyfrol sydd mewn perygl difrifol. Mae'r rhain yn cynnwys torgochiaid, misglod perlog, cimychiaid afon crafanc wen a llygod y dŵr.

Mae Deorfa Cynrig yn un o ddim ond dwy ddeorfa CNC yng Nghymru (Clywedog yw’r llall) ac yn un o ddim ond pedair deorfa misglod perlog arbenigol yn y DU.

Defnyddir Clywedog hefyd ar gyfer y cyfnodau silio ac amgystio (mwy am hyn isod), ynghyd â thyfu misglod perlog ifanc yn barod i'w hailgyflwyno i'r gwyllt.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae gwaith adeiladu wedi'i wneud i uwchraddio'r cyfleuster yng Nghynrig. Ariannwyd y gwaith hwn gan y Prosiect Pedair Afon LIFE, a ariennir gan LIFE yr UE ac a gynhelir gan CNC. Rhoddwyd cymorth ariannol ychwanegol i'r prosiect hefyd gan Lywodraeth Cymru a Dŵr Cymru.

Gan weithio ochr yn ochr â Dr John Taylor, mae’r prosiect wedi gallu cynyddu capasiti’r rhaglen bridio misglod perlog yng Nghynrig, sy’n golygu y gellir magu niferoedd llawer uwch.

Nod y prosiect yw rhyddhau misglod perlog ifanc i afonydd Teifi, Tywi, Cleddau ac Wysg yn y dyfodol.

Rhaglen fridio gymhleth ac unigryw

Cam cyntaf y rhaglen fridio misglod perlog yw casglu oedolion. Gwneir hyn gan swyddogion hyfforddedig a thrwyddedig CNC wrth iddynt fynd allan i arolygu afonydd â phoblogaethau hanesyddol hysbys o fisglod perlog.

Mae'r swyddogion yn edrych am ofynion cynefin nodweddiadol yr oedolion. Unwaith y cânt eu hadnabod, mae’r misglod perlog llawndwf yn cael eu casglu a'u cludo i safle Clywedog a'u rhoi mewn tanc dal.

Yn dibynnu ar yr afon y mae'r oedolion yn cael eu canfod ynddi, byddant yn cael eu cadw yn eu tanciau system gaeedig eu hunain i gynnal cywirdeb genetig.

Yn gynnar yn yr haf, bydd misglod perlog gwrywaidd yn rhyddhau sberm i'r dŵr a bydd y benywod yn ei gymryd i mewn i’w ffrwythloni. Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, bydd benywod yn rhyddhau miliynau o larfâu bach o’r enw glochidia i’r dŵr. Yna caiff y rhain eu fflysio drwodd i danc cyfagos sy'n cynnwys y brithyllod ifanc.

Unwaith y byddant wedi’u fflysio drwodd i'r tanc sy'n dal y pysgod, bydd y glochidia'n pasio'n naturiol trwy geg y pysgod ac yn glynu wrth y tagellau trwy broses a elwir yn amgystio.

Ar yr adeg hon, bydd y pysgod lletyol ifanc yn cael eu cludo i Gynrig, lle byddant yn tyfu am rai misoedd, gan gymryd i mewn y maethynnau a'r ocsigen oddi wrth y pysgod lletyol.

Os bydd pysgodyn lletyol yn marw'n naturiol, mae'r pysgodyn ymadawedig yn cael ei gludo i'r labordy ac mae un ochr o'i fwâu tagell yn cael ei thynnu a nifer y glochidia ar bob ochr i fwa'r tagell yn cael eu cyfrif.

Delwedd: Y smotiau tywyll yw glochidia sydd ynghlwm wrth dagellau eog neu frithyll (diolch i CNC).

Yna gosodir y pysgodyn lletyol o fewn system ailgylchredeg, lle bydd y tymheredd yn cael ei gynyddu’n raddol dros yr ychydig wythnosau nesaf. Mae'r glochidia fel arfer yn gollwng oddi ar y pysgodyn ar tua 17 gradd Celsius.

Gosodir rhwydi algâu ar allfeydd dŵr pob tanc i ddal y glochidia sy'n gollwng oddi ar y pysgod a gwneir gwiriadau dyddiol i asesu’r gyfradd y mae’r glochidia yn gollwng oddi ar y pysgod ynghyd â'u haeddfedrwydd a'u cyflwr.

Yna eir â'r glochidia i'r labordy, lle mae unrhyw silt neu falurion yn cael eu tynnu ac, o dan y microsgop, mae pob misglen berlog yn cael ei chodi â llaw a'i chyfrif. Yna caiff y rhain eu rhoi mewn twb deor gyda chymysgedd o hydoddiant silt ac algâu iddynt bori arno.

Y nod yw cyrraedd tua 500 fesul twb i sicrhau nad oes gorgystadlu am y ffynhonnell fwyd. Roedd cyfanswm o tua 19,000 o fisglod perlog ifanc mewn casgliadau diweddar ym mis Mai 2024.

Mae pob twb yn cael ei lanhau o leiaf bob dau ddiwrnod i sicrhau bod ganddo gyflenwad cyson o algâu a silt newydd, ac i wirio'r gyfradd marwolaethau. Mae'r drefn lanhau hon hefyd yn helpu i atal ymlediad llyngyr lledog rheibus.

Delwedd: Tybiau magu misglod perlog ifanc yn y deorydd yn Neorfa Cynrig (diolch i CNC)

Pan fydd y rhai ifanc yn ddigon mawr, byddant yn cael eu cludo yn ôl i gyfleuster Clywedog a'u magu mewn hambyrddau yn y dyfroedd oer a gyflenwir o'r gronfa ddŵr. Mae gan y dŵr hwn hefyd gyflenwad naturiol o algâu y byddant yn bwydo ac yn tyfu arno.

Delwedd: 1,000+ o fisglod perlog ifanc. Y rhai â lliw tywodlyd golau yw’r misglod perlog, a graean neu faw yw’r darnau tywyllach (diolch i CNC).

Beth nesaf i'r rhywogaeth yng Nghymru?

Er bod poblogaethau misglod perlog mewn perygl enbyd yng Nghymru, ac yn brwydro oherwydd colli cynefinoedd a stociau pysgod yn prinhau, mae yno gobaith. 

Mae swyddogion CNC wedi bod yn chwilio am safleoedd ailgyflwyno addas dros y blynyddoedd diwethaf.

Rhaid i'r safleoedd fod yn rhydd rhag risgiau llygredd posibl neu aflonyddwch gan anifeiliaid a phobl a chynnwys graean sefydlog glân wedi'i ocsigenu'n dda.

Mae’r technegau ar gyfer rhyddhau nifer fawr o fisglod perlog ifanc yn ôl i’r gwyllt yn dal i gael eu gwerthuso, ond mae’n debygol y byddant yn cynnwys cyfuniad o ryddhad uniongyrchol o fisglod perlog hŷn wedi’u tagio (chwe blynedd a mwy) neu rai ifanc llai (dwy i bedair oed) mewn toesenni concrit wedi’u dylunio’n arbennig o’r enw seilos.

Ym mis Gorffennaf 2024, mae’r Prosiect Pedair Afon LIFE wedi bod yn arolygu safleoedd ar afon Cleddau Ddu i ailgyflwyno misglod perlog ifanc ac mae’n debygol o wneud gwaith adfer tebyg i’r gwaith sydd eisoes wedi’i wneud ar afon Cleddau Wen i sicrhau bod y cynefin yn berffaith ar gyfer y rhywogaeth.

Ym mis Hydref 2023, cyflwynwyd clogfeini mawr i ran o afon Cleddau Wen. Bydd y clogfeini'n creu mwy o amrywiaeth llif naturiol ac yn gwella'r cynefin ar gyfer eogiaid, sy'n elfen hanfodol o gam tyfu’r misglod perlog.

Cwblhaodd Prosiect Misglod Perlog CNC waith tebyg ym mis Hydref 2022 i adfer cynefin hanfodol ar gyfer misglod perlog mewn afon yng ngogledd Cymru.

Mae'r safle yng Ngwynedd yn un o gadarnleoedd olaf poblogaethau misglod perlog yn y DU. Ond mae gweithgarwch dynol yn y degawdau diwethaf, pan gafodd yr afon ei charthu a’r tir ei ddraenio, wedi diraddio nodweddion yr afon sy’n hanfodol i’r rhywogaeth fridio a goroesi.

Yn ddiweddarach eleni, mae CNC yn gobeithio cyflwyno misglod perlog sydd wedi’u magu yng Nghynrig a Chlywedog i’r safle.

Mae adfer cynefinoedd yn broses araf iawn a gall gymryd degawdau i'w gwireddu. Bydd y gwaith hwn yn rhoi hwb i’r broses adfer trwy ddefnyddio dulliau a fyddai’n digwydd yn naturiol.

Drwy gydweithio’n agos ag CNC, mae’r Prosiect Pedair Afon LIFE yn gobeithio gweld poblogaethau mwy o’r molwsg hynafol a swil hwn yn afonydd Cymru.

FAm ragor o wybodaeth, ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru / Pedair Afon LIFE.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru