Datganiad polisi cyflog Mawrth 2024

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cydnabod pwysigrwydd system gyflog briodol a thryloyw sy'n gyfartal i bawb, sy’n rhoi gwerth am arian, ac sy’n gwobrwyo staff yn deg am y gwaith y maen nhw'n ei gyflawni.Mae'r datganiad polisi hwn yn nodi sut mae CNC yn ymdrin â chyflogau a'r cydberthynas rhwng cyflog y cyflogai a thaliadau uwch-reolwyr.

Mae’r datganiad hwn wedi’i baratoi yn unol â’r egwyddorion sydd wedi’u cynnwys yn Tryloywder tâl uwch reolwyr yn y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016 gan Lywodraeth Cymru.

Fframwaith deddfwriaethol

Mae gan CNC y pŵer i benodi staff o dan Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 ac mae’n cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth cyflogaeth berthnasol wrth bennu tâl a chyflogau ei staff.

Diffiniadau a'r cyfrifoldeb dros benderfyniadau cyflog

Mae’r Prif Weithredwr yn gyfrifol am argymell trefniadau cyflog priodol ar gyfer staff CNC i Lywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Mae staff yn weithwyr o fewn bandiau cyflog 1 hyd 11, ac yn cynnwys graddfeydd cyflog cymorth, gweithredol, technegol, rheoli ac arweinyddiaeth. Mae'r grŵp hwn felly yn cynnwys holl staff CNC, ac eithrio'r cyfarwyddwyr gweithredol a'r Prif Swyddog Gweithredol.

Mae’r Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol yn gyfrifol am sicrhau bod undebau llafur yn cymryd rhan lawn mewn trafodaethau cyflog, yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol, a thrwy gytundeb bargeinio ar y cyd.

Nid yw rolau uwch-reolwyr yn cael eu dirprwyo, ac felly mae eu trefniadau cyflog penodol yn cael eu gweithredu yn unol â'r canllawiau a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, o ganlyniad i argymhellion gan y cadeirydd mewn perthynas â'r Prif Swyddog Gweithredol, a chan y Prif Swyddog Gweithredol mewn perthynas â'r cyfarwyddwyr gweithredol.

Mae Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid CNC yn gyfrifol am benderfynu cyflog uwch-reolwyr a rheoli eu perfformiad, potensial a thalent a gwneud argymhellion i’r Bwrdd i’w cymeradwyo. Mae'r pwyllgor yn sicrhau bod cyflogau'n cael eu trin mewn modd teg a phriodol a'u bod yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.Mae gan y Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid rywfaint o hyblygrwydd i benderfynu a yw lefel perfformiad y cyfarwyddwyr gweithredol yn deilwng o godiad cyflog. Cyfarwyddwr anweithredol sy’n cadeirio’r pwyllgor. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y pwyllgor, ei gylch gorchwyl a'i aelodaeth yma.

Mae argymhelliad y pwyllgor, mewn perthynas â thâl y Prif Weithredwr, yn amodol ar gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru.

Telerau ac amodau gwasanaeth y gyflogaeth

Mae gan fwyafrif helaeth y gweithwyr delerau ac amodau gwasanaeth, gan gynnwys tâl, a bennir gan CNC. Yn dilyn cyflwyno ein cynllun gwerthuso swyddi yn 2018, mae rhai aelodau o staff wedi cael budd o warchod cyflog.

Trefniadau bargeinio ar y cyd

Mae CNC yn ymfalchïo yn ei berthynas bartner gref â chydweithwyr o'r undebau llafur ac yn gweithio'n agos gyda nhw ar faterion sy'n ymwneud â chyflogau.Mae'r trefniadau ar gyfer negodi ac ymgynghori ar gyflogau wedi'u nodi o fewn ein cytundeb partneriaeth.

Mae dyfarniadau cyflog i staff am gyfnod blynyddol o 1 Ebrill hyd 31 Mawrth.

Egwyddorion cyflog

Yn ogystal â threfniadau bargeinio ar y cyd, mae CNC yn mabwysiadu'r egwyddorion cyflog allweddol a ganlyn:

  • Fforddiadwyedd a gwerth am arian – Mae cytundebau cyflog yn seiliedig ar fforddiadwyedd a sicrhau'r defnydd gorau o arian cyhoeddus.
  • Cyflog cyfartal – Mae'r trefniadau cyflog yn gynhwysol i'r holl staff, waeth beth yw eu hoedran, statws priodasol (gan gynnwys priodas gyfartal / o'r un rhyw) a phartneriaeth sifil, anabledd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, neu hunaniaeth o ran rhywedd. Caiff Adroddiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau ei gyhoeddi bob blwyddyn a gellir gweld hwn yma.
  • Didwylledd a thryloywder – Mae manylion cyflogau a thaliadau llawn aelodau'r Bwrdd wedi'u cynnwys o fewn datgeliadau cyfrif blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn ogystal â hyn, bydd cyflogau'r Prif Swyddog Gweithredol, a chyflogau ar lefel y cyfarwyddwyr gweithredol a lefel y cyfarwyddwyr, yn cael eu crynhoi'n flynyddol ochr yn ochr â'r datganiad hwn.
  • Cyflog cynyddrannol – Mae gan gyflogeion gyfle i ddringo i frig cynyddrannol eu graddfa gyflog o fewn uchafswm o bedair/pum mlynedd, yn dibynnu ar y raddfa.
  • Canolbwyntio ar fynd i'r afael â chyflogau isel a chefnogi'r cyflog byw – Telir y cyflog byw i bob aelod o staff sy’n cael ei gyflogi’n uniongyrchol (a phrentisiaid ar gontractau hyfforddiant), fel y'i diffinnir gan y Living Wage Foundation.Mae CNC yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig.

Trefniadau cyflog

Dangosir cyfraddau band cyflog cyfredol Cyfoeth Naturiol Cymru yn Atodiad 1.Fel arfer, caiff aelodau newydd o staff a benodir eu recriwtio ar lefel isaf y band cyflog perthnasol.Mewn amgylchiadau eithriadol, er

enghraifft pan fo tystiolaeth yn bodoli sy’n dangos bod recriwtio yn broblem neu fod cyflogai newydd â phrofiad sylweddol wedi bod ar gyflog uwch yn union cyn ymuno ag CNC, gellir penodi gweithwyr newydd ar gynyddran uwch o fewn y radd gyflog. Bydd cyflogau'n cynyddu'n gynyddrannol bob blwyddyn hyd oni chyrhaeddir y gyfradd uchaf (fel arfer ymhen tair i bedair blynedd).Nid yw unigolion y gwerthusir eu bod yn tanberfformio yn gymwys i gynnydd cynyddrannol yn eu cyflog.Pan roddir dyrchafiad, bydd y cyflog cychwynnol ar waelod band cyflog y radd newydd.Mae niferoedd y staff presennol ar bob gradd i’w gweld yn Atodiad 1.

Mae’r polisi cyflogau ar gyfer y staff uchaf yn cael ei osod gan ddefnyddio cynllun gwerthuso swyddi’r uwch wasanaeth sifil ar gyfer swyddi uwch a chyfres o rolau wedi’u meincnodi yng ngwasanaeth cyhoeddus Cymru, a thrwy gymhariaeth â sefydliadau cyffelyb sydd wedi’u lleoli yn y DU.Mae unrhyw gynnydd mewn tâl yn amodol ar asesiad perfformiad boddhaol gan y Prif Weithredwr a safoni gan y Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid. Dangosir ystod cyflogau’r Tîm Gweithredol a'r Prif Swyddog Gweithredol yn Atodiad 2.

Taliadau chwyddo a thaliadau ychwanegol

Gan ddibynnu ar ofynion y busnes, gall cyflogeion fod yn gymwys i gael y taliadau ychwanegol canlynol a thaliadau chwyddo a thaliadau eraill yn ôl disgresiwn wrth gyflawni eu rôl.Mae'r rhain yn cynnwys lwfansau proffesiynol a gweithredol, ac ad-daliadau o gostau teithio a threuliau neu daliadau atodol ar sail y farchnad.

O bryd i’w gilydd, gall CNC ddewis cynnal ymarferion diswyddo er mwyn cefnogi newid sefydliadol.Mewn amgylchiadau o'r fath, bydd digollediad yn cael ei gynnig i gyflogeion ar sail y telerau sy'n gysylltiedig â'u cynllun pensiwn perthnasol (y mae dau ohonynt).Caiff pob gweithgarwch diswyddo ei gefnogi gan achos busnes sy'n cynnwys dadansoddiad cost a budd.

Cymharu cyflogau o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru

Y cyflog isaf o fewn CNC yw’r gyfradd gychwynnol o fewn amrediad cyflog Gradd 1 (cymorth tîm) o fis Ionawr 2024 (£24,665 i £25,628). Y cyflog cychwynnol gwreiddiol rhwng Ebrill 2023 a Rhagfyr 2023 (yn gynwysedig) oedd £24,242, y cafwyd gwared arno o Ionawr 2024. Mae CNC wedi’i achredu gan y Living Wage Foundation ac mae unrhyw gynnydd mewn cyflogau a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd yn cael ei ôl-ddyddio i’r mis Mai blaenorol. Y Prif Weithredwr yw'r aelod o staff sy’n ennill y cyflog uchaf.Darperir cymariaethau rhwng cyflogau sy'n ymwneud â'r aelod staff â'r cyflog uchaf (y Prif Weithredwr) a chyflog cyfartalog y cyfarwyddwyr gweithredol yn Atodiad 3.

Pecyn gwobrwyo a chydnabod ehangach

Yn ogystal â chyflogau cyflogeion, mae CNC yn cynnig ystod gynhwysfawr o fuddion ariannol ac anariannol yn y gweithle.Mae hyn yn cynnwys aelodaeth o gynllun pensiwn, mynediad at drefniadau aberthu cyflog, cyfleoedd dysgu a datblygu, gan gynnwys datblygiad proffesiynol parhaus, a chynlluniau llesiant cyflogeion.Mae ystod o drefniadau gweithio hyblyg hefyd ar gael i gefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Adolygu'r datganiad hwn

Mae'r datganiad hwn i'w gyhoeddi ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.Bydd yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru bob blwyddyn neu pan fydd newidiadau sylweddol yn digwydd.Mae'r ffigurau'n seiliedig ar drefniadau cyflog a oedd ar waith ar 31 Mawrth 2024.

Atodiad 1: Graddau, graddfeydd cyflog a chyfrif pennau Cyfoeth Naturiol Cymru

Gradd Amrediad cyflog Nifer y gweithwyr Cyfwerth ag amser llawn
Gradd 11 £70,914 – £76,259 26 25.24
Gradd 10 £63,788 – £69,132 1 1.00
Gradd 9 £56,711 – £61,909 74 73.13
Gradd 8 £49,779 – £54,977 171 165.31
Gradd 7 (44 awr) £50,768 – £56,934 1 1.00
Gradd 7 £43,207 – £48,454 366 352.15
Gradd 6 (44 awr) £46,028 – £50,344 29 29.00
Gradd 6 £39,173 – £42,846 597 566.90
Gradd 5 (44 awr) £40,561 – £44,697 17 16.48
Gradd 5 £34,520 – £38,040 619 592.53
Gradd 4 (44 awr) £36,418 – £39,588 9 9.00
Gradd 4 £30,994 – £33,692 351 341.16
Gradd 3 £27,554 – £29,481 112 107.52
Gradd 2 £24,665 – £25,628 84 78.05
Gradd 1 £24,665 – £25,628 5 3.50
Cyfanswm: - 2,462 2,361.97

 

Heb eu cynnwys yn y ffigyrau uchod

Gradd Nifer y gweithwyr Cyfwerth ag amser llawn
Cyfarwyddwyr a'r Prif Weithredwr 6 6
Secondeion i mewn 8 7
Secondeion allan 6 5.39
Prentisiaid 6 6
Lleoliadau addysg uwch 22 22

 

Mae’r ffigurau hyn yn seiliedig ar gyflogau gwirioneddol fel ag yr oeddent ar 31 Mawrth 2024. Pan gafodd y cynllun gwerthuso swyddi ei roi ar waith, cafodd y staff y dewis i ‘optio allan’ o’r cynllun a chadw eu hen raddfa gyflog. Felly, mae'r staff a wnaeth optio allan wedi'u cynnwys ar eu hystodau cyflog presennol ac nid ar eu graddau cyflog a fu’n destun gwerthusiad swydd.

Nid yw'r ffigurau hyn yn cynnwys staff contract a staff asiantaeth.

Atodiad 2: Cyflogau uwch-reolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru

Nifer y staff Cyflog cyfwerth ag amser llawn (£000)
1 150-154
0 145-149
0 140-144
0 135-139
0 130-134
0 125-129
1 120-124
2 115-119
1 110-114
0 105-109
1 100-104
0 150-154
0 145-149

 

Mae’r uchod yn cynnwys yr holl staff ar lefel y Prif Weithredwr a’r cyfarwyddwyr gweithredol fel ag yr oeddent ar 31 Mawrth 2024.

Atodiad 3: Cymharu cyflogau o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru

Y cyflog isaf o fewn CNC yw'r gyfradd gychwynnol o fewn ystod cyflog y staff Cymorth Tîm (Gradd 2).Nid yw hyn yn cynnwys prentisiaid sydd wedi'u cyflogi ar gontractau hyfforddiant.Y Prif Swyddog Gweithredol sy'n ennill y tâl mwyaf ar hyn o bryd.Mae’r ffigurau isod yn seiliedig ar gyflogau cyfwerth ag amser llawn fel ag yr oeddent ar 31 Mawrth 2024.

 

Lluosrif cyflog Cymhareb (cyfradd safonol)

Cymhare - Isel i uchel (Prif Swyddog Gweithredol)

Y lluosrif rhwng cyflog blynyddol y cyflogai a delir lleiaf a mwyaf fel cymhareb

1 i 6.18

Cymhareb - Isel i uchel (Tîm Gweithredol)

Y lluosrif rhwng cyflog blynyddol y cyflogai a delir lleiaf ac aelod cyffredinol o'r Tîm Gweithredol fel cymhareb

1 i 5.1

Cymhareb canolrif i uchel (Prif Swyddog Gweithredol)

Y lluosrif rhwng y cyflog canolrifol yn Cyfoeth Naturiol Cymru (ac eithrio'r Tîm Gweithredol) a'r sawl sy'n cael ei dalu uchaf fel cymhareb

1 i 3.8

Cymhareb canolrif i uchel (Cyfarwyddwr gweithredol)

Y lluosrif rhwng y cyflog canolrifol yn Cyfoeth Naturiol Cymru (ac eithrio'r Tîm Gweithredol) a chyflog cyfartalog y cyfarwyddwyr gweithredol fel cymhareb

1 i 3.1

Cymhareb gyfartalog i gymhareb gyfartalog (cyfarwyddwr gweithredol)

Y lluosrif rhwng y cyflog cyfartalog yn Cyfoeth Naturiol Cymru (ac eithrio'r Tîm Gweithredol) a chyflog cyfartalog y cyfarwyddwyr gweithredol fel cymhareb

1 i 3.1

 

Y gweithiwr ar y cyflog uchaf – Band £140,000 i £145,000

Cyflog canolrifol y gweithlu (heb gynnwys y Tîm Gweithredol) – £40,397

Cyflog cyfartalog y gweithlu (heb gynnwys y Tîm Gweithredol) – £40,991

Cyflog canolrifol y Tîm Gweithredol (heb gynnwys y Prif Swyddog Gweithredol) – £121,130

Cyflog cyfartalog y Tîm Gweithredol (heb gynnwys y Prif Swyddog Gweithredol) – £125,158

Mae’r berthynas rhwng tâl y cyfarwyddwyr sy’n cael y tâl uchaf a’r chwartelau isaf, canolrifol ac uchaf i’w gweld isod:

2022-23

Cymhareb /Cyflogau chwartel 25ain canradd Canolrif 75fed canradd
Cymhareb cyflog (:1) 3.7 3.3 2.9
Quartile Remuneration £32,876 £37,308 £42,569

 

2023-24

Cymhareb /Cyflogau chwartel 25ain canradd Canolrif 75fed canradd
Cymhareb cyflog (:1) 3.7 3.2 2.9
Cyflogau chwartel £35,686 £40,397 £44,940

 

Yn 2023-24 a 2022-23, ni chafodd unrhyw gyflogeion gyflog a oedd yn uwch na’r cyfarwyddwr ar y cyflog uchaf.

Bellach mae'n ofynnol i gyrff adrodd nodi'r newid canrannol mewn cyflog o'r flwyddyn ariannol flaenorol ar gyfer y cyfarwyddwr sy'n cael y cyflog uchaf a'r newid canrannol cyfartalog o'r flwyddyn ariannol flaenorol mewn perthynas â gweithwyr yr endid yn ei gyfanrwydd.

 

Blwyddyn Newid canrannol mewn cyflog – y cyfarwyddwr sy'n cael y cyflog uchaf Newid canrannol cyfartalog mewn cyflog – gweithwyr yn eu cyfanrwydd
2023-24 5.00% 9.64%
2022-23 3.65% 3.82%

 

Dyfarniad cyflog CNC ar gyfer 2023-24 oedd 5% ar gyfer yr holl staff o Radd 1 i Radd 11.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf