Datganiad polisi cyflog Mawrth 2023
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cydnabod pwysigrwydd system gyflog briodol, dryloyw sy'n gyfartal i bawb, sy’n rhoi gwerth am arian, ac sy’ gwobrwyo staff yn deg am y gwaith y maen nhw'n ei gyflawni. Mae'r datganiad polisi hwn yn nodi sut mae CNC yn ymdrin â chyflogau a'r cydberthynas rhwng cyflog y cyflogai a thaliadau uwch-reolwyr.
Mae'r datganiad hwn wedi'i baratoi yn unol â'r egwyddorion yn y ddogfen ‘Tryloywder cydnabyddiaeth ariannol uwch-reolwyr yn y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru’ gan Lywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2015.
Fframwaith deddfwriaethol
Mae gan CNC y pŵer i benodi staff o dan Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012; ac mae'n cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaethau cyflogi perthnasol wrth bennu cyflogau a thaliadau ei staff.
Diffiniadau a'r cyfrifoldeb dros benderfyniadau cyflog
Mae'r Prif Swyddog Gweithredol yn gyfrifol am argymell y trefniadau cyflog priodol ar gyfer staff CNC i Lywodraeth Cymru a Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae'r staff yn gyflogeion o fewn bandiau 1–11, sy'n cynnwys graddau band staff cymorth, gweithredol, technegol, ac arwain a rheoli. Mae'r grŵp hwn felly yn cynnwys holl staff CNC, ac eithrio'r cyfarwyddwyr gweithredol a'r Prif Swyddog Gweithredol.
Mae’r Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol yn gyfrifol am sicrhau bod undebau llafur yn cymryd rhan lawn mewn trafodaethau cyflog, yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol, a thrwy gytundeb bargeinio ar y cyd.
Nid yw rolau uwch-reolwyr yn cael eu dirprwyo, ac felly mae eu trefniadau cyflog penodol yn cael eu gweithredu yn unol â'r canllawiau a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, o ganlyniad i argymhellion gan y Cadeirydd mewn perthynas â'r Prif Swyddog Gweithredol, a chan y Prif Swyddog Gweithredol mewn perthynas â'r cyfarwyddwyr gweithredol.
Mae Pwyllgor Pobl a Chyflogau CNC yn gyfrifol am ddyfarnu penderfyniadau ynghylch cyflogau uwch-reolwyr, rheoli perfformiad, potensial a dawn aelodau o staff uwch, a gwneud argymhellion i'r Bwrdd i’w cymeradwyo. Mae'r pwyllgor yn sicrhau bod cyflogau'n cael eu trin mewn modd teg a phriodol a'u bod yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Mae gan y Pwyllgor Pobl a Chyflogau rywfaint o hyblygrwydd i bennu a yw lefel perfformiad cyfarwyddwyr gweithredol yn ddigon da i gyfiawnhau symud i bwynt cyflog uwch. Cyfarwyddwr anweithredol sy’n cadeirio’r pwyllgor. Rhagor o wybodaeth am y pwyllgor, ei gylch gorchwyl a'i aelodaeth .
Mae argymhelliad y Pwyllgor Pobl a Chyflogau, o ran cyflog y Prif Swyddog Gweithredol, yn amodol ar ei gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru.
Telerau cyflogaeth ac amodau gwasanaeth
Mae CNC yn pennu telerau ac amodau gwasanaeth y mwyafrif llethol o gyflogeion, gan gynnwys cyflogau. O ganlyniad i gyflwyno ein cynllun Gwerthuso Swyddi yn 2018, mae rhai aelodau o staff wedi elwa ar ddiogelu cyflogau ac adlewyrchir hyn yn yr adran ‘Graddau, graddfeydd cyflog a nifer y gweithwyr yn CNC’ isod.
Trefniadau bargeinio ar y cyd
Mae CNC yn ymfalchïo yn ei berthynas bartner gref â chydweithwyr o'r undebau llafur ac yn gweithio'n agos gyda nhw ar faterion sy'n ymwneud â chyflogau. Mae'r trefniadau ar gyfer negodi ac ymgynghori ar gyflogau wedi'u nodi o fewn ein cytundeb partneriaeth.
Yn hanesyddol, mae dyfarniadau cyflog i staff wedi cael eu negodi ar gyfer cyfnod blynyddol rhwng 1 Gorffennaf a 30 Mehefin, ar sail flynyddol. Fodd bynnag, mae ein cydweithwyr yn yr Undebau Llafur wedi gofyn i newid y dyddiad hwn er mwyn adolygu dyfarniadau cyflog ym mis Ebrill bob blwyddyn, yn unol â chyrff eraill y sector cyhoeddus. Mae hyn yn cael ei gyflwyno mewn camau dros gyfnod o 2 flynedd, gyda’r flwyddyn gyntaf yn rhedeg rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 31 Mai 2022, a’r flwyddyn ganlynol rhwng 1 Mehefin 2022 a 31 Mawrth 2023.
Egwyddorion cyflog
Yn ogystal â threfniadau bargeinio ar y cyd, mae CNC yn mabwysiadu'r egwyddorion cyflog allweddol a ganlyn:
- Fforddiadwyedd a gwerth am arian – Mae cytundebau cyflog yn seiliedig ar fforddiadwyedd ac ar sicrhau'r defnydd gorau o arian cyhoeddus.
- Cyflog cyfartal – Mae'r trefniadau cyflog yn gynhwysol i'r holl staff, ni waeth beth yw eu hoedran, statws priodasol (gan gynnwys priodas gyfartal / o'r un rhyw) a phartneriaeth sifil, anabledd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, neu hunaniaeth o ran rhywedd. Mae Adroddiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn cael ei gyhoeddi yn flynyddol.
- Didwylledd a thryloywder – Mae manylion cyflogau a thaliadau llawn aelodau'r Bwrdd wedi'u cynnwys o fewn datgeliadau cyfrif blynyddol CNC. Yn ogystal â hyn, bydd cyflogau'r Prif Swyddog Gweithredol, a chyflogau ar lefel y cyfarwyddwyr gweithredol a lefel y cyfarwyddwyr yn cael eu crynhoi'n flynyddol ochr yn ochr â'r datganiad hwn.
- Cyflog cynyddrannol – Mae gan gyflogeion gyfle i ddringo i gynyddran uchaf eu graddfa cyflog ymhen uchafswm o bedair/pum mlynedd, gan ddibynnu ar eu gradd cyflog.
- Ffocws ar fynd i'r afael â chyflogau isel a chefnogi'r cyflog byw – Telir y cyflog byw i bob aelod o staff sy’n cael ei gyflogi’n uniongyrchol (a phrentisiaid ar gontractau hyfforddiant), fel y'i diffinnir gan y Living Wage Foundation. Mae CNC yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig.
Trefniadau cyflog
Dangosir cyfraddau bandiau cyflog presennol CNC yn yr adran ‘Graddau, graddfeydd cyflog a nifer y gweithwyr yn CNC’. Fel arfer, caiff aelodau newydd o staff a benodir eu recriwtio ar lefel isaf y band cyflog perthnasol. Mewn amgylchiadau eithriadol, er enghraifft pan fo tystiolaeth yn bodoli sy’n dangos bod recriwtio yn broblem neu fod cyflogai newydd â phrofiad sylweddol wedi bod ar gyflog uwch yn union cyn ymuno â CNC, gellir ei benodi ar gynyddran uwch o fewn y radd gyflog.
Bydd cyflogau'n cynyddu'n gynyddrannol bob blwyddyn hyd oni gyrhaeddir y gyfradd uchaf (fel arfer ymhen tair i bedair blynedd). Nid yw unigolion y gwerthusir eu bod yn tanberfformio yn gymwys i gynnydd cynyddrannol yn eu cyflog. Pan roddir dyrchafiad, bydd y cyflog cychwynnol ar waelod band cyflog y radd newydd. Gellir dod o hyd i nifer gyfredol a hanesyddol y staff ar bob gradd yn yr adran ‘Graddau, graddfeydd cyflog a nifer y gweithwyr yn CNC’ yn y drefn honno.
Mae’r polisi cyflogau ar gyfer staff ar y lefelau uchaf yn cael ei bennu gan ddefnyddio cynllun Gwerthuso Swyddi Uwch yr Uwch Wasanaeth Sifil ynghyd â chyfres o rolau meincnod yn y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru ac mewn sefydliadau cymaradwy wedi’u lleoli yn y DU. Mae unrhyw gynnydd mewn cyflogau yn ddibynnol ar asesiad perfformiad boddhaol gan y Prif Weithredwr ac ar gymedroli gan PaRC. Mae amrediad cyflogau’r Tîm Gweithredol a’r Prif Swyddog Gweithredol yn yr adran ‘Cyflogau uwch-reolwyr CNC’.
Taliadau chwyddo a thaliadau ychwanegol
Gan ddibynnu ar ofynion y busnes, gall cyflogeion fod yn gymwys i gael y taliadau ychwanegol canlynol a thaliadau chwyddo a thaliadau eraill yn ôl disgresiwn wrth gyflawni eu rôl. Mae'r rhain yn cynnwys lwfansau proffesiynol a gweithredol, ac ad-daliadau o gostau teithio a threuliau neu daliadau atodol ar sail y farchnad.
O bryd i’w gilydd, gall CNC ddewis cynnal ymarferion diswyddo er mwyn cefnogi newid sefydliadol. Mewn amgylchiadau o'r fath, bydd iawndal yn cael ei gynnig i gyflogeion ar sail y telerau sy'n gysylltiedig â'u cynllun pensiwn perthnasol (y mae dau ohonynt). Caiff pob gweithgarwch diswyddo ei gefnogi gan achos busnes sy'n cynnwys dadansoddiad cost a budd.
Cymharu cyflogau yn CNC
Y cyflog isaf o fewn CNC yw'r gyfradd gychwynnol o fewn ystod cyflog Gradd 1 (Cymorth Tîm) (£19,100 i £19,489). Mae CNC wedi’i achredu gan y Living Wage Foundation ac chaiff unrhyw gynnydd mewn cyflogau a roddir ym mis Tachwedd eu hôl-ddyddio i’r mis Gorffennaf blaenorol.
Y Prif Swyddog Gweithredol yw'r aelod o staff sy’n ennill y cyflog uchaf. Ceir cymariaethau cyflog sy'n ymwneud â'r aelod o staff ar y cyflog uchaf (y Prif Swyddog Gweithredol) a chyflog cyfartalog y cyfarwyddwyr gweithredol yn yr adran ‘Perthynoleddau cyflog o fewn CNC’.
Pecyn gwobrwyo a chydnabod ehangach
Yn ogystal â chyflogau cyflogeion, mae CNC yn cynnig ystod gynhwysfawr o fuddion ariannol ac anariannol yn y gweithle. Mae hyn yn cynnwys aelodaeth o gynllun pensiwn, mynediad at drefniadau aberthu cyflog, a chyfleoedd dysgu a datblygu, gan gynnwys datblygiad proffesiynol parhaus, a chynlluniau llesiant cyflogeion. Mae amrediad o drefniadau gweithio hyblyg ar gael hefyd i gefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Adolygu'r datganiad hwn
Bydd y datganiad hwn yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru bob blwyddyn neu pan fo newidiadau sylweddol yn digwydd. Mae'r ffigurau'n seiliedig ar drefniadau cyflog a oedd ar waith ar 31 Mawrth 2022.
Graddau, graddfeydd cyflog a nifer y gweithwyr yn CNC
Cyfoeth Naturiol Cymru / Graddfeydd cyflogau
Gradd |
Ystod cyflog |
Nifer y gweithwyr |
Cyflog cyfwerth ag amser llawn |
---|---|---|---|
Gradd 11 |
£67,537 - £72,627 |
26 |
25.24 |
Gradd 10 |
£60,751 - £65,840 |
1 |
1 |
Gradd 9 |
£54,011 – £58,961 |
75 |
74.04 |
Gradd 8 |
£47,408 - £52,359 |
150 |
146.12 |
Gradd 7 (44 awr) |
£48,351 - £54,223 |
1 |
1 |
Gradd 7 |
£41,150 - £46,147 |
343 |
331.21 |
Gradd 6 (44 awr) |
£43,836 - £47,947 |
30 |
30 |
Gradd 6 |
£37,308 - £40,806 |
581 |
552.99 |
Gradd 5 (44 awr) |
£38,629 - £42,569 |
19 |
18.48 |
Gradd 5 |
£32,876 - £36,229 |
601 |
577.42 |
Gradd 4 (44 awr) |
£33,374 - £37,703 |
9 |
9 |
Gradd 4 |
£28,403 - £32,088 |
342 |
332.53 |
Gradd 3 |
£25,326 - £28,077 |
119 |
114.34 |
Gradd 2 |
£21,655 - £24,408 |
96 |
87.91 |
Gradd 1 |
Unwyd â Gradd 2 fel rhan o'r dyfarniad cyflog |
0 |
0 |
Total: |
2393 |
2301.28 |
|
Cyfarwyddwyr a'r Prif Swyddog Gweithredol |
6 |
6 |
|
Secondeion yn |
11 |
11 |
|
Secondeion allan |
7 |
7 |
|
Prentisiaid (G1) |
0 |
0 |
|
Lleoliadau addusg uwch (G2) |
6 |
6 |
Mae'r ffigurau hyn yn seiliedig ar gyflogau gwirioneddol fel ag yr oeddent ar 31 March 2023.
Pan roddodd CNC y cynllun gwerthuso swyddi ar waith yn 2018, cafodd y staff y dewis i ‘optio allan’ o'r cynllun a chadw eu hen raddfa gyflog. Felly, mae'r staff a wnaeth optio allan wedi'u cynnwys ar eu hystodau cyflog presennol ac nid ar eu graddau cyflog a fu’n destun gwerthusiad swydd.
Nid yw'r ffigurau hyn yn cynnwys staff contract a staff asiantaeth.
Cyflogau uwch-reolwyr CNC
Nifer y staff |
Cyflog cyfwerth ag amser llawn |
---|---|
1 |
145-149 |
0 |
140-144 |
0 |
135-139 |
0 |
130-134 |
0 |
125-129 |
1 |
120-124 |
2 |
115-119 |
1 |
110-114 |
0 |
105-109 |
1 |
100-104 |
0 |
95-99 |
0 |
90-94 |
0 |
85-89 |
Gellir gweld datgeliadau ychwanegol ar gyfer aelodau’r Bwrdd yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon CNC.
Mae'r uchod yn cynnwys yr holl staff ar lefel y Prif Swyddog Gweithredol a lefel y cyfarwyddwyr gweithredol fel yr oeddent ar 31 March 2023. Roedd proses recriwtio yn mynd rhagddi ar gyfer dwy swydd ar y dyddiad hwn ac nid ydynt wedi'u cynnwys yn y ffigurau uchod.
Cymharu cyflogau yn CNC
Y cyflog isaf o fewn CNC yw'r gyfradd gychwynnol o fewn ystod cyflog y staff Cymorth Tîm (Gradd 1). Nid yw hyn yn cynnwys prentisiaid sydd wedi'u cyflogi ar gontractau hyfforddiant. Y Prif Swyddog Gweithredol sy'n ennill y tâl mwyaf ar hyn o bryd. Mae'r ffigurau isod yn seiliedig ar gyflogau fel ag yr oeddent ar 31 March 2023.
Cymarebau o’r lluosrifau o gyflog:
- 1 i 6.70 - y lluosrif rhwng cyflog blynyddol y gweithiwr ar y cyflog isaf a chyflog blynyddol y gweithiwr ar y cyflog mwyaf
- 1 i 5.32 - y lluosrif rhwng cyflog blynyddol y gweithiwr ar y cyflog isaf, a chyflog blynyddol cyfartalog aelod o’r Tîm Gweithredol
- 1 i 3.89 - y lluosrif rhwng y cyflog canolrifol yn CNC (ac eithrio’r Tîm Gweithredol) a chyflog y gweithiwr ar y cyflog mwyaf
- 1 i 3.1 - y lluosrif rhwng y cyflog canolrifol yn CNC (ac eithrio’r Tîm Gweithredol) a chyflog canolrif y cyfarwyddwr gweithredol
- 1 i 2.98 - y lluosrif rhwng y cyflog canolrifol yn CNC (ac eithrio’r Tîm Gweithredol) a chyflog cyfartalog y cyfarwyddwr gweithredol
- Y gweithiwr ar y cyflog uchaf –Band £145,000 i £149,000
- Cyflog canolrifol y gweithlu (ac eithrio’r Tîm Gweithredol) – £37,308
- Cyflog cyfartalog y gweithlu (ac eithrio’r Tîm Gweithredol) – £38,649
- Cyflog canolrifol y Tîm Gweithredol (heb ac eithrio’r Prif Swyddog Gweithredol) – £119,198
- Cyflog cyfartalog y Tîm Gweithredol (ac eithrio’r Prif Swyddog Gweithredol) – £115,362
Swyddi presennol oddi ar y gyflogres
Nifer y swyddi cyfredol fel ag yr oedd ar 31 Mawrth 2023: 99
- Mae 11 wedi bodoli am lai na blwyddyn ar adeg adrodd.
- Mae 18 wedi bodoli am lai na dwy flynedd ar adeg adrodd
- Mae 18 wedi bodoli am rhwng dwy a thair blynedd ar adeg adrodd
- Mae 23 am rhwng tair a phedair blynedd ar adeg adrodd
- Mae 30 wedi bodoli am fwy na phedair blynedd ar adeg adrodd
Mae’r manylion a ddangosir uchod ar gyfer gweithwyr a oedd yn ennill mwy na £245 y diwrnod mewn swyddi a oedd wedi para mwy na chwe mis ar 31 Mawrth 20232.
Mae’r rhan fwyaf o’r contractwyr yn cefnogi’r tîm TGCh i ddatblygu a thrawsnewid ein systemau TGCh.
Deiliaid swydd newydd oddi ar y gyflogres
Nifer y deiliaid swydd newydd, neu'r deiliaid swydd hynny a fu yn eu swydd ers chwe mis, rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023 (32), yr oedd y nodweddion isod yn perthyn i’r nifer a ganlyn:
0 – y nifer yr aseswyd eu bod yn dod o dan drefniadau IR35
21 – y nifer yr aseswyd nad ydynt yn dod o dan drefniadau IR35
0 – y nifer a gyflogir yn uniongyrchol ac sydd ar gyflogres CNC
9 – nifer y deiliaid swyddi a gafodd eu hailasesu at ddibenion cysondeb/sicrwydd yn ystod y flwyddyn.
0 – nifer y deiliaid swyddi a welodd newid i'w statws IR35 o ganlyniad i’r adolygiad cysondeb.
Trefniadau Aelodau'r Bwrdd
Categori |
CYFANSWM |
CYFANSWM |
---|---|---|
Nifer swyddi oddi ar y gyflogres aelodau’r Bwrdd yn ystod y flwyddyn ariannol. |
AMH. |
AMH. |
Nifer yr unigolion yr ystyrir y buont yn aelodau’r Bwrdd yn ystod y flwyddyn ariannol. Dylai'r ffigur hwn gynnwys deiliaid swydd sydd oddi ar y gyflogres ynghyd â deiliaid swyddi sydd arni |
12 |
2.4 |
Nifer yr unigolion a fu’n aelodau’r Bwrdd ar 31/03/2023.Dylai'r ffigur hwn gynnwys deiliaid swydd sydd oddi ar y gyflogres ynghyd â deiliaid swydd sydd arni |
12 |
2.4 |