Cyfarfod y Bwrdd 17 Gorffennaf 2024
Mae croeso i aelodau'r cyhoedd sy'n dymuno ymuno arsylwi ar y sesiwn gyhoeddus drwy Dimau ac yna cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb rhyngweithiol gyda'r Bwrdd ar ôl i'r eitemau ffurfiol orffen. Cofiwch y gall amseru agenda newid ar y diwrnod ac felly i sicrhau bod cwestiynau'n cael eu clywed, cyflwynwch y rhain ymlaen llaw erbyn dydd Llun am 5pm i Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Byddwch yn ymwybodol y gall yr amseroedd ar yr agenda newid ar ddiwrnod y cyfarfod, felly cyflwynwch unrhyw gwestiynau ymlaen llaw at sylw Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i sicrhau eu bod yn cael eu clywed.
Rydym ni’n cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd: Wrth ymuno â’r cyfarfod, cliciwch ar y tri dot (‘Mwy’) ger eicon y camera, sgroliwch drwy’r rhestr i glicio ar ‘Cyfieithu ar y Pryd’ a dewiswch naill ai ‘Iaith wreiddiol’ i glywed y Gymraeg neu ‘’Saesneg’ i glywed cyfieithiad o’r Gymraeg.
Amser y cyfarfod: 14:00 – 16:30
Agenda
Amser | Eitem |
---|---|
14:00 (5 munud) |
Eitem 1. Dechrau’r cyfarfod
Noddwr a chyflwynydd: Yr Athro Steve Ormerod (Dirprwy Gadeirydd) Crynodeb: NODI unrhyw ddatganiadau o fuddiant |
14:05 (5 munud) |
Eitem 2. Adolygu’r cofnodion a chofnod y camau gweithredu
2A. Adolygu cofnodion y cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ar 23 Mai 2B. Adolygu cofnod y camau gweithredu cyhoeddus Noddwr a chyflwynydd: Yr Athro Steve Ormerod (Dirprwy Gadeirydd) Crynodeb: CYMERADWYO cofnodion y cyfarfod blaenorol a chofnod y camau gweithredu |
14:10 (5 munud) |
Eitem 3. Diweddariad gan y Cadeirydd
Noddwr a chyflwynydd: Yr Athro Steve Ormerod (Dirprwy Gadeirydd) Crynodeb: NODI diweddariad y Cadeirydd i’r Bwrdd |
14:15 (15 munud) |
Eitem 4. Adroddiad gan y Prif Weithredwr
Noddwr a chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr Crynodeb: NODI y sefyllfa bresennol, a diweddaru’r Bwrdd ar weithgareddau allweddol Cyfeirnod y Papur: 24-07-B10 |
14:30 (20 munud) |
Eitem 5. Diweddaru adroddiadau pwyllgorau a fforymau
Noddwyr a chyflwynwyr: Cadeiryddion pwyllgorau
Cyfeirnod y Papur: 24-07-B11
Cyfeirnod y Papur: 24-07-B12
Cyfeirnod y Papur: 24-07-B13
Cyfeirnod y Papur: 24-07-B14
Crynodeb: NODI y diweddariadau gan bwyllgorau’r Bwrdd a fforymau CNC, y tu fewn a’r tu allan, a’r cyfarfodydd a gynhaliwyd |
14:50 (15 munud) |
Eitem 6. Adroddiad Perfformiad Cyllid
Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Cyflwynydd:Rob Bell, Pennaeth Cyllid Crynodeb: CYMERADWYO y sefyllfa ariannol ddiweddaraf Cyfeirnod y Papur: 24-07-B15 |
15:05 (20 munud) |
Eitem 7. Dangosfwrdd perfformiad y cynllun busnes ac adroddiad diwedd blwyddyn perfformiad mewnol 2023-2024
Noddwr a chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr Yn bresennol: Sarah Williams, Pennaeth Strategaeth Gorfforaethol a Swyddog Rheoli Portffolios; Sue Ginley, Prif Gynghorydd Arbenigol, Cynllunio Corfforaethol a Pherfformiad Crynodeb: CYMERADWYO dangosfwrdd perfformiad y cynllun busnes ac adroddiad diwedd blwyddyn perfformiad mewnol 2023-2024 Cyfeirnod y papur: 24-07-B16 |
15:25 (15 munud) |
Egwyl |
15:40 (10 munud) |
Eitem 8. Adroddiad blynyddol llesiant, iechyd a diogelwch 2023-2024
Noddwr a chyflwynydd: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol Crynodeb: CYMERADWYO adroddiad blynyddol llesiant, iechyd a diogelwch 2023-2024 Cyfeirnod y papur: 24-07-B17 |
15:50 (5 munud) |
Eitem 9. Unrhyw fater arall |
15:55 |
Diwedd y cyfarfod |
15:55 (20 munud) |
Holi ac ateb cyhoeddus |
16:15 |
Diwedd y cyfarfod cyhoeddus |